Sgiliau Astudio: Gwella eich ysgrifennu
Gwnewch apwyntiad i weld un o'n tîm o Gynghorwyr Astudio a myfyrwyr sydd wedi'u hyfforddi fel mentoriaid ysgrifennu.
Mae apwyntiadau'n para hyd at 50 munud ac maent yn rhoi cyfle i chi drafod aseiniadau rydych wrthi'n gweithio arnynt, a hefyd rai rydych eisoes wedi cael sylwadau arnynt. Mae croeso i chi drafod eich gwaith ysgrifennu gyda ni yn ystod unrhyw gam tuag at gwblhau aseiniad, boed yn drafod eich syniadau cychwynnol ar y dasg a bennwyd i chi, neu drafod drafft rhannol neu orffenedig o'ch gwaith. Ni fyddwn yn cywiro neu olygu eich gwaith i chi, ond gallwn eich helpu i ganfod ffyrdd o'i wella a datblygu strategaethau a fydd yn eich galluogi i ddod yn well ysgrifennwr.
I drefnu apwyntiad:
E-bostiwch: studyskills@bangor.ac.uk, neu llenwch ein ffurflen archebu lle ar-lein yn http://studyskills.bangor.ac.uk/writing-appointment-form.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018