Cynllun tiwtor personol
Bydd eich Adran/ Ysgol yn dynodi Tiwtor Personol ichi yn ystod yr Wythnos Groeso. Os na fydd hyn yn digwydd, am unrhyw reswm, gofynnwch i’r Uwch Diwtor neu i rywun yn swyddfa eich Ysgol am enw a chyfeiriad e-bost eich Tiwtor.
Beth yw tiwtor personol?
Mae gan bob myfyriwr diwtor personol a all roi cyngor a chymorth ar faterion personol ac academaidd, fel ei gilydd. Mae'n bwysig iawn ichi gadw cysylltiad rheolaidd â'ch tiwtor personol.
Pryd bynnag y bo modd, bydd gennych yr un tiwtor trwy gydol eich cwrs. Fodd bynnag, mae gennych chi a'ch tiwtor gyfle i newid y trefniant hwn os yw hyn yn briodol (gellir trafod y mater hwn â'ch Uwch Diwtor adrannol neu gyda Steph Barbaresi, Canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr).
Mae'n bosib y byddwch yn teimlo yr hoffech drafod rhai materion personol â rhywun. Teimlwch yn rhydd i siarad â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg; bydd eich tiwtor yn gwneud ei (g)orau i gynorthwyo. Os oes angen, gellir eich cyfeirio at aelod arall o'r staff, neu at wasanaethau eraill, am gefnogaeth neu gyfarwyddyd.
Beth arall y dylech ei drafod â'ch tiwtor personol?
Bydd eich tiwtor personol yn rhoi atborth ichi ar eich cynnydd academaidd. Byddwch yn cael tri chyfarfod â'ch tiwtor yn ystod y flwyddyn academaidd at y diben hwn. Y gofyn isaf yw'r tri chyfarfod hyn, ac mae'n hanfodol eich bod yn mynd i bob un ohonynt.
Cofiwch fod y rhain wedi'u trefnu nid yn unig fel y gall eich adran arolygu eich cynnydd, ond hefyd er eich budd chi. Bydd atborth rheolaidd yn eich cynorthwyo i fanteisio i'r eithaf ar eich cwrs ac i wireddu eich posibiliadau.
Os na ellwch ddod i gyfarfod, am unrhyw reswm, rhaid ichi gymryd y cyfrifoldeb o ad-drefnu'r cyfarfod eich hun.
Beth yw datganiad y cytunir arno?
Mae datganiad y cytunir arno yn adroddiad ffeithiol ar eich cynnydd a lofnodir gennych chi a'ch tiwtor pan fyddwch chi'ch dau wedi cytuno arno. Os na chytunwch ynglyn â'r ffeithiau, gellir cofnodi hynny hefyd. Gellir nodi eich cynnydd cyffredinol hyd yn hyn, yn ogystal ag unrhyw broblem arbennig neu amgylchiadau personol a fo, yn ôl eich tyb chi, wedi effeithio ar eich cynnydd academaidd yn ystod y flwyddyn.
Ar y datganiad y cytunir arno, mae gennych gyfle i ddatgan a ydych yn dymuno i'ch Bwrdd Arholi gael gwybod am amgylchiadau arbennig i'w hystyried yn ei gyfarfod ar arholiadau.
Peidiwch ag anghofio mai'r gofyn lleiaf yw'r tri chyfarfod hyn, ac y gellwch weld eich tiwtor personol ar unrhyw adeg arall am gyngor a chefnogaeth.