Cyllid Myfyrwyr
Cyngor ariannol i fyfyrwyr israddedig
Tra byddwch yn y brifysgol fe fydd gennych ddwy brif gost:
- Eich ffioedd dysgu
- Eich costau byw
Mae cymorth ar gael at y ddwy gost. Mae gweinyddiaeth Cymorth Myfyrwyr wedi ei datganoli yn y DU, felly mae’r cymorth sydd ar gael yn amrywio yn ôl yr ardal yn y DU rydych yn byw ynddi a pryd ddechreuodd eich cwrs.
Am ragor o wybodaeth ynglyn ar gyllid sydd ar gael i myyfrwyr, ewch i’r dudalen am Myfyrwyr newydd sy’n bwriadu cychwyn yn 2020/21
Budd-daliadau Lles
Os ydych yn hawlio budd-daliadau cyn cychwyn yn y Brifysgol, gallai’r ffaith eich bod yn fyfyriwr effeithio arnynt. Mae’n hynod bwysig felly eich bod yn gofyn am gyngor cyn cychwyn yn y Brifysgol.
Am gyngor cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich budd-daliadau, neu â’r Uned Cymorth Ariannol (yng Ngwasanaethau Myfyrwyr).
Myfyrwyr Rhan-amser
Efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth ariannol os ydych yn dilyn cwrs sy’n para am o leiaf un flwyddyn academaidd ac sy’n cyfateb i 50% neu fwy o gwrs llawn-amser.
Bydd eich hawl yn dibynnu ar eich cartref trethadwy. Bydd faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich incwm.
Am rhagor o wybodaeth am gyllid ewch i’r dudalen we yma.
Uned Cymorth Ariannol
Dylai eich amser yn y Brifysgol fod yn bleserus ac yn werth chweil, ac mae Prifysgol Bangor yn anelu i roi ichi wybodaeth a chefnogaeth a fydd yn eich galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eich profiad yn y Brifysgol. Mae’n arbennig o bwysig nad yw pryderon ariannol diangen yn amharu ar eich amser yma.
Mae'r Uned Cymorth Ariannol yn rhan o dîm Cefnogi Myfyrwyr a gall ein saff profiadol ddarparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd o gyllid myfyrwyr gan gynnwys:
- Cyllid israddedig ar gyfer cyrsiau llawn amser a rhan amser
- Cyllid ôl-raddedig
- Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Prifysgol
- Cronfa Caledi a Grantiau Argyfwng
- Cyllidebu
Ffôn: 01248 383566/383637
E-bost neu, cliciwch yma i ymweld â gwefan yr Uned Cymorth Ariannol.