Cyngor a Chefnogaeth i fyfyrwyr hŷn
Canolfan Gwasanaethau Myfywyr
Mae gan y Brifysgol Gynghorwr Myfyrwyr Hŷn sy’n gallu cynnig cymorth ar amryw o faterion,
Cewch arweiniad am gyllid, tai, iechyd, yn cynnwys Gwahaniaethau Dysgu Penodol, megis dyslecsia a dyspracsia, anabledd a iechyd meddwl trwy ein Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr sy’n hollol gyfrinachol ac am ddim. Cewch fwy o wybodaeth ar wefan y Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr.
Tiwtor Personol
Dynodir tiwtor personol i bob myfyriwr israddedig. Yn ogystal â mynd at eich Tiwtor am gyngor a chymorth ynglyn â materion academaidd, gellwch ddewis mynd ato/ati fel cyswllt cyntaf o ran materion mwy personol neu faterion yn ymwneud â lles, ers y bydd hi’n bosib y bydd rhaid iddo/hi eich cyfeirio at wasanaethau eraill am fwy o gymorth a chyfarwyddyd.
Gwananaethau Cefnogaeth Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb y Myfyrwyr yma i gynrychioli pob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ac maent yn gwneud hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r pum Swyddog Sabothol yn gweithio i sicrhau bod eich amser ym Mangor mor ddifyr a gwerthfawr â phosib.
Mae’r cynllun Cynrychiolwyr Cwrs yn cael ei gydlynu gan yr Undeb ac felly hefyd yr holl glybiau chwaraeon a chymdeithasau – sydd yn agored i fyfyrwyr yn rhad ac am ddim. Mae’r Undeb hefyd yn rhedeg nifer o ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn a bydd digonedd o gyfleoedd i chi gymryd rhan. Mae yna hefyd Seneddwr Myfyrwyr Aeddfed sy’ n aelod o Senedd Undeb y Myfyrwyr er mwyn gwneud yn siwr bod anghenion myfyrwyr aeddfed yn cael eu cynrychioli’n llawn. Mae’r holl fanylion cyswllt ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Canolfannau Cefnogaeth Astudio
Mae dwy Ganolfan Gefnogaeth (y naill ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau a’r llall yn Adeilad Deiniol/Llyfrgell Wyddoniaeth) yn darparu amrywiaeth o gyfarpar arbenigol i fyfyrwyr, e.e. boglynnydd Braille, cyfrifiaduron a weithredir â llais, Cyfrifiaduron Personol sydd â meddalwedd arbenigol ar gyfer myfyrwyr dyslecsig a myfyrwyr sydd â nam ar y golwg. Ceir hefyd ddewis o feddalwedd gynorthwyol ar draws rhwydwaith cyfrifiadurol y Brifysgol, megis SuperNova, Inspiration a Texthelp.
Ffôn: 01248 382425
Gwasanaethau Iechyd Myfyrwyr
Mae’n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru â Meddyg Teulu. Mae gan y Brifysgol gontract â meddygfa leol i roi gwasanaethau arbennig i fyfyrwyr. Ar hyn o bryd, Canolfan Meddygol Bodnant yn Rhodfa Menai, Bangor Uchaf, sydd â’r contract hwn.
Apwyntiadau: 01248 364492 (rhwng 8.00am a 6.30pm ar ddyddiau’r wythnos).
Am fwy o fanylion a rhestr o feddygon teulu lleol eraill, cyfeiriwch at eich Arweinlyfr Myfyrwyr.
Cyngor a Chefnogaeth Bellach
Tiwtoriaid Cynghori
Mae rhai o aelodau staff yn gweithredu fel tiwtoriaid cynghori. Maent yn barod i wrando ar fyfyrwyr a all fod â phroblemau -- academaidd neu bersonol -- ac mae’r gwasanaeth yn gwbl gyfrinachol. Am fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at yr Arweinlyfr Myfyrwyr fyddwch wedi ei dderbyn cyn cyrraedd yma.
Uwch Warden a Warden Myfyrwyr mewn Neuaddau
Mae gan Uwch Wardeiniaid mewn Neuaddau swyddogaeth ddeublyg, o ran lles a disgyblaeth. Cânt gymorth gan Fyfyrwyr- Wardeiniaid wrth roi cefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr sy’n preswylio mewn Neuaddau.
Gall myfyrwyr ofyn am gyngor neu gefnogaeth gan unrhyw Fyfyriwr-Warden ar unrhyw adeg. Cewch fanylion am sut i gysylltu â staff y Neuaddau yn Llawlyfr y Neuadd berthnasol.
Gwasanaeth Caplaniaeth
Cewch fanylion llawn am wasanaethau caplaniaeth a darpariaethau ffydd yn yr Arweinlyfr Myfyrwyr.