Amdanom Ni
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio wedi’i staffio gan dîm proffesiynol a chyfeillgar ac wedi’i lleoli Adeilad y Celfyddydau a Neuadd Rathbone. Rydym yn anelu at gynorthwyo myfyrwyr yn ystod y broses o bontio i Brifysgol a symud ymlaen trwyddi, gan godi ymwybyddiaeth ynglŷn â disgwyliadau academaidd a chan helpu myfyrwyr i ddatblygu’r strategaethau a’r prosesau a fydd yn gymorth iddynt fanteisio i’r eithaf ar eu hastudiaethau. Gan weithio ochr yn ochr â staff academaidd o fewn Ysgolion y Brifysgol, mae’r Ganolfan yn cynnal y broses o gadarnhau datblygu dysgu o fewn y cwricwlwm, ac yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Amcanion:
- Darparu’r diweddaraf, o ran adnoddau a hefyd cysylltiadau â darparwyr eraill o wybodaeth am faterion yng nghyswllt astudiaeth academaidd mewn AU yn y DU
- I gynnig digwyddiadau dysgu traws-ddisgyblaethol yn seiliedig ar waith grw^p sydd wedi’u cynllunio i wella dealltwriaeth myfyrwyr o ddisgwyliadau academaidd ac arferion astudio generig
- I ddatblygu digwyddiadau dysgu pwnc-benodol yn seiliedig ar waith grw^p (seminarau, gweithdai, a neu darlithoedd) mewn cydweithrediad ag Ysgolion academaidd er mwyn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o’r disgwyliadau ac arferion o fewn eu disgyblaeth eu hunain
- Rhoi cymorth 1–2-1 wedi’i anelu at anghenion myfyrwyr unigol
- Datblygu cyfleoedd ar gyfer dysgu gyda chymorth cyd-fyfyrwyr, gan gydnabod yr effaith y gall myfyrwyr ei chael ar ddysg eu cyd-fyfyrwyr, ac fel ffordd o wneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy
- Cefnogi’r staff academaidd wrth iddynt ddatblygu cydrannau sgiliau astudio/ ymarfer academaidd o fewn rhaglenni gradd
- Gweithio ar y cyd â myfyrwyr a staff i sicrhau bod ein gwasanaeth yn ateb anghenion corff amrywiol o fyfyrwyr o ran datblygu dysgu
Cysylltwch â Ni
Canolfan Sgiliau Astudio
Derbynfa Sgiliau a Chyflogadwyedd
Ail Llawr
Neuadd Rathbone
Ffordd y Coleg
Prifysgol Bangor
LL57 2DG
E-bost: sgiliauastudio@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 382689
Staff
Julian Brasington Pennaeth y Ganolfan Sgiliau Astudio E-bost: julian.brasington@bangor.ac.uk Tel: 01248 38 2693 |
|
Leila Griffiths Cynghorydd Astudio E-bost: l.griffiths@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 38 2712 |
Ralitsa Kantcheva Cynghorydd Astudio E-mail: r.kantcheva@bangor.ac.uk Tel: 01248 38 8015 |
Caryl Pritchard Cynorthwyydd Gweinyddol |
Derek Holland Tiwtor Galw-heibio mathemateg ac ystadegau E-bost: d.holland@bangor.ac.uk |
Mentoriaid ysgrifennu i gyfoedion – Bangor
Jenny Amphaeris | Shannon Lock |
Eoin Murry | Esmé Molloy |
Awen Edwards | Grace Neary |
Kate Stuart | Ffion Nelmes |
Veronica Diveica | Lynne Stumpe |
Amelia Smith | Ceris Jones |
Ein Lleoliad