Cydweithio gydag Ysgolion Academaidd
Mae Sgiliau Astudio yn gweithio i ledaenu arferion gorau o ran datblygu dysgu yn yr ysgolion academaidd a datblygu gweithgareddau sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm trwy gydweithio â’r ysgolion. Dyma rai enghreifftiau cynrychioliadol o’n gwaith:
- Datblygu modiwl Safbwyntiau Proffesiynol i israddedigion blwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Peirianneg Electroneg;
- Cydweithio yn cynllunio a darparu modiwl Technoleg a Sgiliau Dysgu ar gyfer yr Ysgol Gwyddorau Meddygol;
- Sefydlu seminarau sgiliau astudio ym modiwl craidd cyfrwng Cymraeg yr Ysgol Cerddoriaeth, Astudio Cerddoriaeth;
- Gweithdai ar strwythur traethodau hir a darllen beirniadol ar gyfer myfyrwyr Gwyddorau Cymdeithas blwyddyn olaf;
- Datblygu dull cyfunol o ymdrin â llên-ladrad ar gyfer Ysgol y Gyfraith;
- Gweithdy ysgrifennu crynodebau ar gyfer myfyrwyr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol;
- Hyfforddiant ar gyfer e-gyfeillion Ysgol Busnes Bangor.
Mae ein gwaith gydag ysgolion yn seiliedig ar nodi anghenion, cyd-gynllunio, ac os yn bosib, cyd-ddysgu a gellir ei ddisgrifio orau fel model cynllunio, adeiladu a gwasanaethu. I ddechrau, bydd aelodau o’r tîm yn cwrdd â staff academaidd i ystyried meysydd gwaith y gellid eu datblygu, ac i archwilio’r gefnogaeth sydd ar gael mewn rhaglenni gradd neilltuol. Yn y cyfnod hwn byddwn yn casglu gwybodaeth am y cwricwlwm, asesiadau ac arweiniad cysylltiedig, ac yn casglu samplau cynrychioliadol o waith myfyrwyr a deunydd darllen sy’n gysylltiedig â modiwlau neu raglenni gradd penodol. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu deunydd a dulliau darparu sydd wedi’u teilwra nid yn unig i ofynion disgyblaethau penodol, ond i feysydd astudio penodol.
Astudiaethau achos
Mae’r astudiaethau achos canlynol yn rhoi syniad o natur ein gwaith: