Astudiaeth Ôl-raddedig
Mae’r adnoddau hyn yn rhan o gasgliad a grëwyd ar gyfer Rhaglen Sgiliau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd hefyd ar gael ar y Porth Adnoddau:
1 - Llwyddo gyda’ch astudiaethau ôl-raddedig
Mae’r adnodd hwn wedi’i anelu at y sawl sy’n newydd i astudiaethau ôl-raddedig ac mae’n canolbwyntio ar ddysgu gweithredol, cyfeirnodi a datblygu sgiliau ymchwilio, meddwl, darllen ac ysgrifennu beirniadol.
2 - Diffinio eich pwnc
Mae’r adnodd hwn yn mynd i’r afael â dau gwestiwn, wrth i ni weithio drwy’r broses o gynhyrchu cwestiwn ymchwil yn seiliedig ar eich pwnc dewisol chi: A yw bwriad eich ymchwil yn gyraeddadwy, a beth yw’r rhesymau dros ddilyn y trywydd hwnnw?
- 2.1 Diffinio eich pwnc
- 2.2 Y cwestiwn ymchwil
- 2.3 Canfod problemau
3 - Cynllunio eich ymchwil
Mae’r cyflwyniad hwn yn edrych ar y syniad o ‘archwiliad ymchwil’ fel modd o nodi’r camau y bydd angen i chi eu cymryd i reoli eich ymchwil er mwyn ei gwblhau yn llwyddiannus.
4 - Adolygu’r llenyddiaeth
Yn y cyflwyniad hwn rydym yn edrych ar bwrpas adolygiadau o lenyddiaeth gan edrych hefyd ar ffyrdd o roi trefn a strwythur i’ch adolygiad chi. Byddwn yn ystyried technegau darllen gweithredol a ffyrdd o gymryd safle neu safbwynt awdurdodol tuag at y llenyddiaeth, er mwyn sicrhau ysgrifennu a meddwl beirniadol.
5 - Ysgrifennu crynodebau (abstracts)
Yn y cyflwyniad hwn byddwn yn archwilio beth mae’n ei olygu i ysgrifennu crynodeb (abstract) effeithiol, a thrwy gymharu a dadansoddi crynodebau o wahanol ddisgyblaethau gallwn ddod i gasgliadau ynghylch nodweddion craidd ar gyfer eich crynodeb chi.
6 - Ysgrifennu rhagarweiniadau
Mae’r cyflwyniad hwn yn edrych ar swyddogaeth rhagarweiniadau a’r hyn a wnâi awduron wrth gyflwyno’u gwaith i ddarllenwyr.