Myfyrwyr Dysgu o Bell
Gall myfyrwyr sy’n astudio o bell gael mynediad at apwyntiadau ysgrifennu a sgiliau astudio, ac apwyntiadau mathemateg drwy Skype for Business. Bydd angen i chi ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Bangor i gael mynediad i Skype for Business.
Mae ein gweithdai sgiliau astudio generig ar gael fel recordiadau rhyngweithiol. Mae gennym gasgliad cynyddol o’r rhain ar ein safle Blackboard.
