Canolfan Sgiliau Astudio
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn darparu amrywiaeth o gymorth sydd wedi'i deilwra'n unigol, wedi'i seilio ar waith grŵp ac ar gael i chi ei gyrchu eich hunan sydd wedi'i gynllunio i'ch galluogi chi i wneud y gorau o'ch astudiaethau academaidd.
Mae apwyntiadau ysgrifennu ac apwyntiadau sgiliau astudio ar gael drwy MS Teams 9-5, Llun – Gwener. Mae croeso i chi drefnu apwyntiad hyd at 50 munud o hyd i drafod eich gwaith ysgrifenedig, eich dulliau o ymdrin ag ysgrifennu academaidd, neu astudio yn gyffredinol.
Hefyd mae apwyntiadau mathemateg ac ystadegau rhwng ugain a deugain munud o hyd ar gael drwy Teams . Rhoddir cymorth gyda chyfrifiadau sylfaenol, ymarferion, taflenni tiwtorialau, cyn bapurau arholiad, pecynnau ystadegol (Excel ac SPSS) yn ogystal â chyfrifiadau safeMediate.
Cynhelir ein rhaglen weithdai Sgiliau Astudio o fis Medi tan fis Rhagfyr. Mae’r gyfres yn mynd i’r afael â meysydd amrywiol sy’n ymwneud ag astudio ac ysgrifennu academaidd, gan gynnwys paratoi at arholiadau. Bydd yr holl weithdai yn cael eu cynnal yn ddigidol trwy Blackboard Collaborate. Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim ac mae modd archebu eich lle ar-lein.
Ceir adnoddau sgiliau astudio am ddim ar ein gwefan. Maent yn ymdrin ag agweddau pwysig o astudio ar lefel academaidd, gan gynnwys sut i reoli amser, defnydd effeithiol o ffynonellau, adolygu ar gyfer arholiadau, cymryd nodiadau, golygu a llawer mwy.
Oriau Agored
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio ar agor o 9yb tan 5yp, dydd Llun tan ddydd Gwener.
Rhywbeth i feddwl amdano...
Rhowch eich barn i ni
Cefnogaeth Sgiliau Astudio
Mae cefnogaeth Sgiliau Astudio ar gael i fyfyrwyr Bangor, Wrecsam a myfyrwyr Dysgu o Bell.