Gwneud apwyntiad
I drefnu apwyntiad, llenwch y ffurflen archebu ar-lein.
Cymorth Mathemateg ac Ystadegau
Mae Sgiliau Astudio yn cynnig apwyntiadau unigol i’ch helpu i weithio trwy broblemau mathemateg ac ystadegau. Fel rheol, rydym yn cefnogi myfyrwyr yn y meysydd cyffredin canlynol: cyfrifiadau sylfaenol; dealltwriaeth sylfaenol o ystadegau; pecynnau ystadegol (SPSS ac Excel); cyfrifiadau yn safeMedicate; ymarferion; taflenni tiwtorial; cyn-bapurau arholiad.
Cynhelir yr apwyntiadau dros MS Teams ddydd Mawrth, dydd Mercher, a dydd Iau yn ystod wythnosau dysgu, ac ar ddydd Mawrth yn ystod wythnosau nad ydynt yn rhai dysgu. Rydym yn cynnig dewis o apwyntiadau 20 munud a 40 munud; os ydych chi’n archebu am y tro cyntaf, cynigir apwyntiad 20 munud i chi i ddechrau. I drefnu apwyntiad, llenwch y ffurflen archebu ar-lein.