Adnoddau Mathemateg ac Ystadegau
Os oes angen i chi ddefnyddio Microsoft Excel i wneud dadansoddiad ystadegol, fe gewch chi gyngor defnyddiol ar ein gwe-dudalen Ei Gael yn Iawn.
Mathcentre
Mae mathscentre yn darparu mwy na 1,000 o adnoddau, yn cynnwys: arweiniadau at hunan-astudiaeth; profion ac ymarferion diagnostig; taflenni ar ffeithiau a fformiwlâu; tiwtorialau ar fideo, a deunydd i’r lawrlwytho ar gyfer ffonau symudol ac iPodau. Mae’r wefan yn deillio o gydweithrediad rhwng nifer o brifysgolion yn y DU, a gellwch bori trwy’r deunyddiau yn ôl cwrs neu bwnc, neu chwilio yn ôl termau allweddol. >
Mathtutor
Chwaer-wefan i mathcentre yw mathtutor, ac mae’n darparu amrywiaeth o diwtorialau, profion ac ymarferion sydd ar gael i bawb, ac yn eich galluogi i weithio trwy broblemau ar eich cyflymder eich hun. Mae’r adnoddau ar y wefan wedi’u trefnu o dan saith pennawd pynciol: rhifyddeg; algebra; swyddogaethau a graffiau, a dilyniannau a chyfresi; geometreg a fectorau; trigonometreg; gwahaniaethu, ac integreiddio.
Gwella'ch rhifedd
Llyfryn pdf y gellwch ei lawrlwytho, ac sy’n anelu at loywi gwybodaeth am ddegolion, cyfartaleddau, canrannau, cymarebau a brasamcanion. Mathcentre sy’n cynhyrchu’r llyfryn.
Logarithmau
Cewch arweiniad gwych at logarithmau yn Atodiad A i bapur gan Thomas Schneider. Ewch yn union i’r atodiad ar ddiwedd y pdf.
statstutor
Mae
statstutor yn cynnig tiwtorialau fideo, profion, cwisiau, fideos ar astudiaethau achos ac arweiniadau hunan-gymorth am ddim ar bynciau ystadegol. Datblygwyd y wefan gan staff o Brifysgolion Loughborough a Coventry, gan gydweithredu â Rhwydwaith Sigma a’r Gymdeithas Ystadegol Frenhinol.
STEPS
Mae STEPS yn darparu modiwlau y gellwch eu lawrlwytho ar ystadegaeth sy’n seiliedig ar broblemau sy’n codi ym meysydd Bioleg, Busnes, Daearyddiaeth a Seicoleg. Datblygwyd y wefan gan gonsortiwm o saith o brifysgolion yn y DU, ac mae’n ymdrin â: dulliau graffigol; amrywioldeb; samplo; cyfyngau hyder; profi damcaniaethau; cynlluniau arbrofol; atchweliad; data arwahanol, a modelau ystadegol syml. Mae’r wefan hefyd yn gartref i restr ar-lein o dermau ystadegol.
statisticslectures.com
Mae Statistics Lectures yn gasgliad o ddarlithoedd 5-munud ar ffurf testun a fideo, ar agweddau allweddol ar ystadegau. Mae’r wefan wedi’i threfnu o gwmpas pedair uned (ystadegau disgrifiadol, tebygolrwydd, cydberthyniad ac atchweliad, ac ystadegaeth gasgliadol), ac mae ganddi fideos ar sut i ddefnyddio SPSS. Mae cyfrifianellau ar gyfer profion cyffredin hefyd ar gael ar y wefan.