Microsoft Office – Ei Gael yn Iawn
Mae Prifysgol Bangor yn defnyddio Microsoft Office ar draws ei systemau ac wrth addysgu. Fel rhan o’ch astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor, bydd eich darlithwyr yn disgwyl i chi ddefnyddio nifer o raglenni Microsoft Office – Outlook, Word, PowerPoint, Excel ac eraill. Os nad ydych erioed wedi defnyddio’r rhaglenni hyn cynt, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau ymhellach, defnyddiwch y canllawiau canlynol.
Microsoft Office Outlook
Outlook yw’r rhaglen a ddefnyddir i gadw eich e-byst Prifysgol Bangor. Bydd yr holl ohebiaeth swyddogol gan y Brifysgol, eich darlithwyr a staff eraill yn cael eu hanfon i’r cyfeiriad e-bost hwn. Darllenwch eich negeseuon e-bost yn gyson. Yn ychwanegol at hynny, bydd nifer o apwyntiadau a wnewch gydag aelodau’r brifysgol yn cael eu hychwanegu at eich Calendr Outlook. Mae’n arfer da defnyddio’r Calendr nid yn unig i drefnu cyfarfodydd ond hefyd i reoli eich amser astudio. Nodwedd ddefnyddiol arall cysylltiedig yw ‘Outlook Tasks’. Gellwch dorri’ch aseiniadau yn is-dasgau ac ychwanegu negeseuon atgoffa awtomatig i sicrhau eich bod chi’n cwblhau’r is-dasgau mewn pryd, ac na fyddwch byth yn colli’r dyddiad cau. Mae gan Outlook lawer o nodweddion defnyddiol eraill a gallwch ddysgu mwy am y rhain yn:
Outlook for Windows Training
E-lyfr: Outlook2016 Tips & Tricks
Os mai Mac yw eich dyfais bersonol, neu os oes gennych fersiwn 2013 o Outlook, bydd y canllawiau hyn yn fwy defnyddiol i chi:
Outlook for Mac Training Outlook 2013 Training
Microsoft Office Word
Rhaglen golygu testun yw Word, ac mae’n un o’r rhaglenni mwyaf cyffredin wrth gyflwyno gwaith ysgrifenedig. Yn Word, gellwch hefyd ychwanegu tablau a ffigurau fel rhan o’ch testun, yn ogystal â defnyddio templedi parod i gychwyn eich ysgrifennu. Yn ychwanegol at hynny pan fyddwch chi’n gweithio fel grŵp ar adroddiad, gellwch ddefnyddio’r nodwedd Olrhain Newidiadau (Track Changes) i sicrhau eich bod chi’n gwybod pwy sydd wedi ysgrifennu pob rhan o’r ddogfen. Ceir yr adran Cyfeiriadau (References) hefyd a all eich helpu i ddyfynnu’n gywir yr holl ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddir yn eich testun. Mae llawer mwy o nodweddion yn Word y gallech eu canfod yn ddefnyddiol yn ystod eich astudiaethau. I ddysgu mwy am y rhain, ewch i ganolfan cymorth Word (Word help center).
Os mai Mac yw eich dyfais bersonol, neu os oes gennych fersiwn 2013 o Word, bydd y canllawiau hyn yn fwy defnyddiol i chi:
Word for Mac Training
Word 2013 Training
Microsoft Office PowerPoint
Rhaglen Microsoft Office arall a ddefnyddir yn helaeth yw PowerPoint. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ei ddefnyddio i greu cyflwyniadau llafar a phosteri. Gellwch chi ddechrau eich project trwy weithio gyda thempledi parod ac addasu’r rhain wrth i chi ddatblygu eich syniadau a’r cynnwys a ddewisir. Gellwch hefyd wneud y cynnwys a gyflwynwyd yn ddeinamig trwy ychwanegu animeiddiadau a thrawsnewidiadau i’ch sleidiau. Yn yr un modd â Word, yn PowerPoint, gellwch chi gydweithio ar gyflwyniad trwy ddefnyddio’r nodwedd sylwadau. Mae llawer mwy o nodweddion eraill yn PowerPoint y gallech eu canfod yn ddefnyddiol yn ystod eich astudiaethau. I ddysgu mwy am y rhain, ewch i ganolfan cymorth PowerPoint (PowerPoint help center).
Os mai Mac yw eich dyfais bersonol, neu os oes gennych fersiwn 2013 o PowerPoint, bydd y canllawiau hyn yn fwy defnyddiol i chi:
PowerPoint for Mac Training
PowerPoint 2013 Training
Microsoft Office Excel
Disgwylir i lawer o fyfyrwyr hefyd ddefnyddio Microsoft Office Excel fel rhan o’u hastudiaethau. Gofynnir i rai myfyrwyr ddefnyddio Excel fel ffordd gyflym o greu tablau ac o bosib i greu graffiau a siartiau. Bydd gofyn i fyfyrwyr eraill ddefnyddio fformiwlâu a nodweddion mwy datblygedig cysylltiedig y rhaglen hon. Gan ddibynnu ar ba gamau y mae angen i chi eu cyflawni wrth ddefnyddio Excel, gellwch ddysgu mwy am y rhain trwy edrych ar Excel Training.
Os mai Mac yw eich dyfais bersonol, neu os oes gennych fersiwn 2013 o Excel, bydd y canllawiau hyn yn fwy defnyddiol i chi:
Excel for Mac Training
Excel 2013 Training
Os oes rhaid ichi ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office eraill yn ystod eich astudiaethau, gellwch gael gwybod mwy am y rhain trwy fynd i Ganolfan Hyfforddi Microsoft Office.
Ffynonellau:
Mae’r holl wybodaeth yn dod o https://support.office.com. Mae’r holl ddelweddau yn rhydd o hawlfraint ac fe’i cafwyd o https://commons.wikimedia.org.