Cyfeirio myfyrwyr
Gellir cyfeirio myfyrwyr i gael cyngor unigol am ysgrifennu, sgiliau astudio, mathemateg ac ystadegau trwy ein rhaglen diwtorial un i un. Mae staff y rhaglen yn cynnwys cynghorwyr astudio, tiwtor mathemateg a mentoriaid ysgrifennu i gyfoedion. Sylwch, nid ydym yn prawf ddarllen na chywiro gwaith ysgrifennu myfyrwyr ac nid ydym yn awgrymu pobl a all brawf ddarllen y gwaith.
I gyfeirio myfyriwr llenwch ein ffurflen gyfeirio ar-lein. Unwaith bydd myfyriwr wedi ei gyfeirio byddwn wedyn yn cysylltu â nhw i drefnu apwyntiad. Fel rheol caiff apwyntiadau eu trefnu a’u mynychu o fewn saith diwrnod ar ôl cyfeirio. Os bydd y myfyriwr yn dod i’r apwyntiad, byddwn yn gofyn am eu caniatâd i anfon neges atoch i ddweud eu bod wedi bod yn bresennol. Os na fyddwch wedi clywed dim byd gennym o fewn tair wythnos, byddai’n well i chi gysylltu â’r myfyriwr.