Grwpiau Astudio Sgiliau Astudio
Nid yw astudio am radd byth yn hawdd ac fe all arwain at deimladau o unigrwydd ac at ddiffyg cymhelliant. I’n helpu ac i feithrin rhyw ymdeimlad o gymuned, mae Sgiliau Astudio yn cynnal grwpiau astudio ar-lein. Mae’r grwpiau’n cael eu hwyluso gan eich cyd-fyfyrwyr sy’n Fentor Ysgrifennu yn y tîm.
Byddwch yn rhan o gymuned astudio er mwyn trafod heriau astudio, gosod nodau, rhannu syniadau, a neilltuo amser er mwyn gwneud cynnydd tuag at eich nodau.
Sut mae’r grwpiau’n gweithio?
Mae’r grwpiau’n dechrau gyda thrafodaeth a thrwy osod nodau unigol. Yna bydd cyfuniad o weithio ar dasgau penodol a thrafod syniadau gyda gweddill eich grŵp sydd yn gyfle i godi ysbryd eich gilydd. Eich tasgau eich hunain fydd y rhai y byddwch yn gweithio arnynt – boed hynny yn ysgrifennu aseiniad, llunio amserlen astudio, darllen, ysgrifennu nodiadau darlith, neu fyrdd o bethau eraill.
Fel arfer, bydd y cyfarfodydd yn dilyn y patrwm hwn:
- 20 munud o gyflwyniadau cychwynnol, trafodaeth a gosod nodau
- 20 munud o weithio ar dasg benodol (diffodd y meicroffon a’r camera)
- 10 munud o drafod (os oes angen bydd hwylusydd y grŵp ar gael unrhyw adeg)
- 20 munud o weithio ar dasg benodol (diffodd y meicroffon a’r camera)
- 20 munud o drafod / cynllunio i gloi
Mae’r grwpiau’n agored i fyfyrwyr ar bob lefel astudio ar draws pob disgyblaeth academaidd.
Ble a phryd mae’r grwpiau’n cwrdd?
Bydd y grwpiau’n cwrdd bob pythefnos dros Microsoft Teams, a bydd pob cyfarfod yn para 90 munud.
Bydd y cyfarfod nesaf yn yr wythnos fydd yn dechrau ar 17 Hydref 2022.