Canllawiau defnyddiol eraill:
Cwis Llên-ladrad
Osgoi llên-ladrad
Nod y canllaw yma yw eich helpu i ddeall llên-ladrad yng nghyd-destun gwaith academaidd. Mae’r canllaw’n awgrymu ffyrdd o osgoi llên-ladrad.
Beth yw llên-ladrad?
Ym mhob agwedd ar astudiaethau ac ymchwil academaidd, mae’n anochel bod syniadau pobl yn datblygu ac yn ymestyn syniadau ysgrifenwyr ac ymchwilwyr eraill – mae’n rhan hollol dderbyniol a hanfodol o’r broses academaidd. Yn ôl y geiriaduron, ystyr llên-ladrad yw cymryd syniadau, gwaith ysgrifenedig neu ddyfeisiadau pobl eraill a’u defnyddio nhw fel eich rhai chi. Mewn cyd-destun academaidd, mae llên-ladrad yn awgrymu bwriad ar ran yr ysgrifennwr neu’r ymchwilydd i ddefnyddio gwaith, syniadau neu eiriau rhywun arall a chymryd arno mai ei waith, ei syniadau neu ei eiriau ef ei hun ydyn nhw.
Felly mae llên-ladrad bwriadol yn fath o dwyllo academaidd. Mae barn y brifysgol ar hyn yn hollol bendant: bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn mynd ati’n fwriadol i gopïo neu sy’n euog o lên-ladrata gwaith rhywun arall, yn cael ei gosbi’n llym. Mae rheoliadau’r Brifysgol ynglŷn ag anonestrwydd academaidd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau i Fyfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig. Ac mae llawlyfrau mwyafrif yr adrannau’n cynnwys disgrifiad o bolisi’r Brifysgol ar anonestrwydd academaidd.
Ond mae mynd ati’n fwriadol i gyflawni llên-ladrad (hynny yw, i dwyllo), yn llawer llai cyffredin na’r math o lên-ladrad sy’n digwydd yn sgil camddealltwriaeth neu hyd yn oed diofalwch neu flerwch. Mae’r mathau yma o lên-ladrad esgeulus yn gallu digwydd:
- os byddwch chi’n methu cydnabod yn llawn y gwahanol ffynonellau o wybodaeth a syniadau y byddwch chi’n eu defnyddio yn eich gwaith;
- os byddwch chi’n cynnwys union eiriau rhywun arall yn eich gwaith ysgrifenedig, gan gymryd arnoch mai eich geiriau chi ydyn nhw;
- os byddwch chi’n rhestru syniadau neu ffeithiau a gawsoch chi o waith pobl eraill, heb gyflwyno’ch safbwynt eich hun.
Mae llawer o fyfyrwyr, yn enwedig rhai sydd yn nyddiau cynnar eu cyrsiau, yn ansicr sut mae defnyddio gwaith pobl eraill mewn ffordd nad yw’n cyfrif fel llên-ladrad. Cafodd y canllaw yma’i ysgrifennu i’ch helpu i osgoi llên-ladrad ac i godi safon eich gwaith ysgrifenedig.
Rhowch gyfeirnodau llawn, a chofiwch gydnabod gwaith pobl eraill
Un o’r camau pwysicaf yn y broses o ddysgu sut mae osgoi llên-ladrad yw deall sut mae defnyddio gwaith pobl eraill, a sut mae cydnabod eich dyled iddyn nhw.
Wrth ddarllen a gwneud gwaith ymchwil ar gyfer unrhyw ddarn ysgrifenedig neu gyflwyniad, gofalwch eich bod yn cofnodi’n llawn yn eich nodiadau neu ar unrhyw lungopïau, y manylion llawn ar gyfer pob un o’ch ffynonellau. Drwy wneud hyn, byddwch chi wedi cofnodi’r holl wybodaeth y byddwch chi ei hangen i gydnabod y gwahanol ffynonellau’n gywir pan fyddwch chi’n defnyddio’r deunydd yn eich gwaith eich hun.
Wrth ysgrifennu union eiriau awdur, a hyd yn oed geiriau darlithydd, dangoswch yn glir yn eich nodiadau mai dyfyniadau ydyn nhw. Cynhwyswch rif y dudalen ac unrhyw fanylion eraill (fel dyfyniadau o ffynonellau ar y We, a rhestri trafod a chronfeydd o ddata a gwybodaeth ar-lein). Drwy wneud hyn, byddwch chi’n gallu edrych rywbryd eto ar eich nodiadau a gwahaniaethu rhwng eich geiriau chi a dyfyniadau o waith un o’ch ffynonellau. Mae cynnwys brawddeg briodol neu ddyfynnu geiriau arbenigwr yn y maes yn gallu bod yn effeithiol iawn mewn traethawd o unrhyw faint. Ond rhaid i chi gynnwys cyfeirnodau llawn a dangos yn glir nad eich geiriau chi ydyn nhw.
Dyfyniad yw’r paragraff sy’n dilyn o strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg uwch yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r dyfyniad yn cynnwys y cyfeirnod llawn, ac mae wedi’i gynnwys yma fel ffynhonnell ar gyfer traethawd ar wella mynediad i addysg uwch yng Nghymru.
Disgwyliwn weld mwy o amlygrwydd a ffyrdd gwahanol o gael mynediad at addysg uwch, gan gynnwys drwy gyfrwng llwybrau dilyniant systematig o ddysgu ôl-16 a’r gweithle. Yr ydym yn awyddus i weld llawer mwy o bobl yng Nghymru yn manteisio ar addysg uwch a dod i feddu ar sgiliau lefel uwch. I lawer, bydd eu profiad hwy o ddysgu ar lefel uwch yn fyrrach, yn fwy amserol ac yn fwy cydnaws â’u bywydau a’u bywoliaethau. (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2009 t.4).
Llywodraeth Cynulliad Cymru: Er Mwyn Ein Dyfodol, Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn yr Unfed Ganrif Ar Hugain, Tachwedd 2009, t.4.
Mae’r paragraff nesaf yn dod o draethawd ffug a gyflwynodd myfyriwr A, ac mae’n amlwg bod y myfyriwr yn euog o lên-ladrad. Er bod y geiriau wedi cael eu newid fymryn, mae’n amlwg eu bod yn dod o’r strategaeth. At ei gilydd, nid geiriau’r myfyriwr ydyn nhw, ac nid oes unrhyw gyfeiriad at y ffynhonnell.
A
Mae’n bwysig iawn i ni weld mwy o amlygrwydd a ffyrdd gwahanol o gael mynediad at addysg uwch, ac mae’r llwybrau dilyniant systematig o ddysgu ôl-16 a’r gweithle yn bwysig hefyd. Dylen ni weld llawer mwy o bobl yn manteisio ar addysg uwch ac yn dysgu sgiliau newydd ar lefel uwch.
Efallai nad oedd myfyriwr A wedi mynd ati’n fwriadol i gyflawni llên-ladrad. Efallai mai mater syml yw hwn o ysgrifennu nodiadau gwael a pheidio â gwahaniaethu rhwng ei eiriau ei hun a rhai y mae wedi’u darllen. Er hynny, byddai’r brifysgol yn cymryd y fath lên-ladrad o ddifrif. Yn y paragraff nesaf, nid yw myfyriwr B yn euog o lên-ladrad.
B
Gwelwyd newidiadau mawr yn y gyfundrefn addysg uwch ym Mhrydain yn ystod degawd olaf yr ugeinfed ganrif, ac mae llawer mwy o bobl ifanc y wlad wedi gallu mynd ymlaen i astudio mewn coleg neu brifysgol, o gymharu â chenhedlaeth eu rhieni. Strategaeth gyntaf Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer addysg uwch oedd y ddogfen Ymgeisio’n Uwch, sef ei strategaeth ar gyfer datblygu’r sector addysg uwch yng Nghymru hyd at 2010, a oedd yn rhoi cryn bwyslais ar wella mynediad. Tua diwedd y cyfnod hwnnw (yn 2009), comisiynodd Llywodraeth y Cynulliad yr Athro Merfyn Jones i wneud arolwg o’r sector addysg uwch yng Nghymru, ac arweiniodd ei adroddiad at lunio ail strategaeth y Llywodraeth ar gyfer y sector sef Er Mwyn Ein Dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2009. Rhoddodd y Strategaeth bwyslais cadarn ar wella ‘... mynediad at addysg uwch, gan gynnwys drwy gyfrwng llwybrau dilyniant systematig o ddysgu ôl-16 a’r gweithle.’ Ond nid yw’r strategaeth yn sôn yn unig am y ffurfiau traddodiadol ar addysg uwch, sef coleg neu brifysgol. Mae’n crybwyll hefyd y gallai rhai pobl ddilyn llwybrau eraill sy’n gweddu’n well i’w gallu a’u gwahanol ffyrdd o fyw, sef llwybrau sy’n ‘fyrrach, yn fwy amserol ac yn fwy cydnaws â’u bywydau a’u bywoliaethau.’ (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009, t.4).
Dewisodd myfyriwr B gynnwys dyfyniadau fel ffordd o danlinellu ei bwyntiau. Ond mae’r myfyriwr yma wedi cynnwys cyfeirnod llawn y ddogfen, ac mae’r geiriau mewn dyfynodau fel rhan o frawddegau mae’r myfyriwr ei hun wedi’u hysgrifennu. Mae’n debyg yr aiff myfyriwr B yn ei flaen i drafod y gwahanol lwybrau y gall pob ifanc eu dilyn i gael mynediad at addysg uwch, gan roi ei farn ar bob un.
Defnyddio’ch geiriau eich hun a datblygu eich arddull ysgrifennu
Mae llawer o fyfyrwyr yn cael trafferth datblygu eu harddull ysgrifennu eu hunain, yn enwedig wrth ddechrau ysgrifennu. Pan fyddwch chi’n darllen ac yn ymchwilio i bwnc cyn ysgrifennu rhywbeth, ceisiwch ysgrifennu’r testun yn eich geiriau eich hun yn eich nodiadau, fel ffordd o’i grynhoi. Cynhwyswch eich syniadau a’ch sylwadau eich hun hefyd. Wrth i chi ymarfer a datblygu eich arddull eich hun, bydd eich hyder yn eich gallu i gyfleu eich syniadau yn eich ffordd eich hun, yn cynyddu.
Os ydych chi’n ddihyder yn eich gallu i’ch mynegi eich hun (yn Gymraeg neu yn Saesneg) mewn iaith rugl a chywir, mae’n hawdd cael eich temtio i ‘fenthyca’ brawddeg neu hyd yn oed baragraff mae ysgrifennwr arall wedi’u hysgrifennu’n dda. Ond cofiwch mai llên-ladrad yw hwn! Mae’n well gan ddarlithwyr gael darn o waith yn eich arddull chi, hyd yn oed os nad yw’n arddull berffaith, na darllen tudalennau o destun mae ysgrifennwr arall wedi’i ysgrifennu’n berffaith.
Trefnwch eich gwaith yn eich ffordd eich hun
Mae’n debyg mai cam cyntaf y broses o ymchwilio i bwnc cyn ysgrifennu darn arno yw ysgrifennu nodiadau sy’n aralleirio barn a syniadau awduron y dogfennau rydych chi’n eu darllen. Ond os ydych chi wedi ysgrifennu rhesi o frawddegau ac ymadroddion sy’n aralleirio geiriau’r gwahanol ysgrifenwyr, efallai y byddwch chi’n rhoi’r argraff eich bod yn euog o lên-ladrad hyd yn oed os ydych chi’n cydnabod eich ffynonellau. Yn yr un ffordd, byddai dilyn yr union drefn mae’r awdur yn ei defnyddio i gyfleu ei syniadau a’i resymeg yn eich gwneud yn agored i gael eich cyhuddo o lên-ladrad. Mae’n debyg mai’r math yma o lên-ladrad yw’r un mwyaf cyffredin yng ngwaith myfyrwyr israddedig.
Enghreifftiau
Mae dwy ‘ran’ arall o draethodau ffug yn tanlinellu’r pwynt yma. Yn yr enghraifft nesaf, y pwnc dan sylw yn y traethawd yw gwerth y gwahanol ffyrdd o asesu. Mae myfyriwr C wedi darllen nifer o lyfrau ar y pwnc, ac mae’n dyfynnu rhai o’r rhain wrth drafod arholiadau yn y darn sy’n dilyn. Ffynonellau ffug sydd wedi’u henwi yn yr enghraifft yma, felly nid oes cyfeirnodau llawn ar eu cyfer.
C
Roedd arbrawf a wnaeth Smith (1997) yn dangos bod myfyrwyr yn gwneud yn well mewn arholiadau sy’n cyfrannu at eu marc terfynol, nag yn yr arholiadau sy’n fater syml o basio a symud ymlaen at y cam nesaf. Roedd y canlyniad yma’n dangos bod cymhelliad yn ffactor pwysig yn y broses o wella perfformiad myfyrwyr mewn arholiadau. Mae Prys (1995) yn credu y dylai myfyrwyr ateb y cwestiynau o hen bapurau arholiad er mwyn codi eu hyder, ond mae Jones (1998) yn credu y gallai hyn annog myfyrwyr i adolygu’r pynciau sy’n codi’n rheolaidd yn unig. Mae cwestiynau sy’n gofyn am ateb ar ffurf traethawd yn well na rhai sy’n gofyn am atebion byr, am eu bod yn rhoi prawf ar allu’r myfyriwr i feddwl yn greadigol, yn hytrach na’i gof yn unig (Mathias, 1997)
Ar y cyfan, rhes o ffeithiau, syniadau a barn pobl eraill yw gwaith myfyriwr C. Prin yw’r dystiolaeth o’i gyfraniad ei hun at y pwnc. Mae’n rhoi’r argraff ei fod yn cyfleu barn pobl eraill, heb fynd ati o gwbl i ddadansoddi eu dadleuon neu eu tystiolaeth yn feirniadol. Er bod myfyriwr C yn cynnwys cyfeirnodau, yr effaith yw bod rhestru syniadau ei ffynonellau fel hyn yn cyfrif fel llên-ladrad. Er nad yw’r math yma o lên-ladrad yn ddymunol o gwbl, nid yw’n dwyllo academaidd bwriadol gan nad yw’n honni mai ei syniadau ei hun yw’r rhain. Ond ni fyddai myfyriwr C yn cael marc da iawn am ei draethawd. Dewch i ni droi’n awr at ran o draethawd ffug myfyriwr Ch:
Ch
Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar effeithiolrwydd arholiadau fel techneg asesu wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cymhelliad fel rhywbeth sy’n ysgogi myfyrwyr (er enghraifft, Prys, 1995; Smith, 1997; Jones, 1998). Mae Prys a Jones yn anghytuno ar y cwestiwn a yw defnyddio hen bapurau’n gallu bod yn ddefnyddiol neu beidio, ond byddwn i’n cytuno â barn Prys nad yw myfyrwyr yn gallu cynllunio strategaeth adolygu effeithiol heb o leiaf gael enghreifftiau pendant o’r math o gwestiynau sy’n debygol o godi. Ond yr hyn sy’n bwysig yw nid yn unig y ffordd mae’r arholiadau’n cael eu defnyddio, ond hefyd fformat yr arholiadau eu hunain. Roedd Mathias (1997) yn dadlau yn erbyn cwestiynau sy’n gofyn am atebion byr. Roedd yn eu gweld fel ffordd o roi prawf ar gof myfyrwyr, nid ar eu gallu i feddwl yn greadigol. Wrth feirniadu’r math yma o arholiad, mae Mathias wedi methu cydnabod ei bod hi’n bwysig rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu dewis helaethach o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig na’r rhai sy’n cael eu datblygu wrth ysgrifennu traethodau. Byddai’r gallu i ysgrifennu’n gryno ac yn effeithiol yn sgìl werthfawr iawn i rywun sy’n mynd ymlaen i fyd gwaith. Ond mae traethodau hir yn fath o dasg ysgrifennu na fyddai rhywun yn ei defnyddio’n aml mewn swydd.
Mae myfyriwr Ch wedi defnyddio’r un ffynonellau. Ond mae wedi eu dadansoddi mewn ffordd llawer mwy soffistigedig, ac wedi cynnig ei syniadau a’i farn ei hun wrth ymhelaethu ar waith y ffynonellau. Mae cyfraniad personol at y drafodaeth yn amlwg yn y darn yma. Mae’n siŵr y byddai myfyriwr Ch wedi cael marc llawer uwch na myfyriwr C.
Peidiwch ag ofni rhoi eich barn eich hun
Mae llawer o fyfyrwyr yn amharod i roi eu barn, yn arbennig os yw’r farn honno’n mynd yn groes i farn ‘arbenigwyr’. Nid yw gwaith sydd wedi’i gyhoeddi a’i argraffu mewn llyfrau a chylchgronau gwybodus yn rhwym o fod yn gywir, nac yn gweithredu fel ‘y gair olaf’ ar y mater. Yn y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithas yn arbennig, mae llawer o’r gwaith ysgrifennu academaidd wedi’i seilio ar farn awdurdodol yn hytrach na ffeithiau nad oes modd eu gwadu. Peidiwch ag ofni rhoi eich barn ar bwnc neu fater. Yr hyn sy’n bwysig yw bod eich barn wedi’i seilio ar wybodaeth, eich bod yn ei chyfleu’n glir a’ch bod wedi ystyried y ffeithiau perthnasol a barn pobl sydd yn arbenigo ar y maes.
Efallai ei bod yn fwy anodd i fyfyrwyr gwyddoniaeth gael syniadau newydd neu gyfrannu mewn ffordd wreiddiol at eu pwnc, yn enwedig yn ystod blynyddoedd cynnar eu haddysg. Ond gallwch ddangos yn eich gwaith ysgrifennu eich bod yn gwybod am yr holl wybodaeth berthnasol, a’ch bod yn deall yr egwyddorion gwyddonol sy’n sail i’r arbrofion rydych yn sôn amdanyn nhw neu’r adroddiadau rydych chi’n eu hysgrifennu. Pan fyddwch chi’n gwneud arbrawf, mae’n debyg nad eich dulliau eich hun y byddwch chi’n eu dilyn ac efallai y bydd gofyn i chi gydnabod ffynhonnell y fethodoleg rydych chi’n ei dilyn. Ar y llaw arall, chi sy’n berchen ar ganlyniadau eich arbrawf. A gallwch chi gyfrannu yn y ffordd rydych chi’n eu dadansoddi a’u dehongli.
Mathau eraill o lên-ladrad
Peidiwch ag anghofio nad mater syml o’r ffordd rydych chi’n defnyddio testun yw llên-ladrad. Rhaid i chi feddwl hefyd am y ffordd rydych chi’n defnyddio darluniau, mapiau a thablau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cyfeirnodau yng nghapsiynau pob un, ac yn cydnabod unrhyw ddeunyddiau neu syniadau y byddwch yn eu cymryd o ffynonellau eraill. Efallai fod mân newidiadau i’r ddelwedd neu aralleirio neu ail-ddarlunio rhywbeth yn ddigonol i’ch rhwystro rhag torri rheolau hawlfraint, ond nid i osgoi cael eich cyhuddo o lên-ladrad. Cofiwch hefyd fod rhaid i chi fynd ati i osgoi llên-ladrad mewn cyflwyniadau llafar drwy gydnabod yr awduron rydych chi’n eu dyfynnu, naill ai ar lafar yn ystod eich sgwrs neu ar y sleidiau y byddwch chi’n eu paratoi.
Cyflwyno ‘cyfieithiad’ fel eich gwaith eich hun
Mae achosion wedi bod yn y brifysgol lle mae myfyrwyr wedi cymryd darnau o destun Saesneg o lyfr neu gyhoeddiad arall, ac wedi cyfieithu’r testun air am air a’i gyflwyno mewn traethawd neu aseiniad fel eu gwaith eu hunain. Mae gwneud hyn yn fath o dwyllo a byddai’n cyfrif fel ‘arfer annheg’ neu lên-ladrad. Fe allech chi gael eich cosbi. Cofiwch fod eich tiwtoriaid yn gyfarwydd â’ch arddull ysgrifennu ar ôl darllen eich gwaith ar hyd y blynyddoedd y buoch chi’n astudio yn y brifysgol. Byddan nhw’n gwybod yn syth os byddwch chi’n ceisio cyfieithu gwaith pobl eraill, boed yn baragraff, yn dudalen neu’n erthygl gyfan.
Nid yw cyfieithu geiriau rhywun i iaith arall yn golygu mai chi yw awdur y geiriau a’r syniadau hynny. Waeth ym mha iaith mae rhywun yn cyfleu’r geiriau a’r syniadau, eiddo awdur y darn gwreiddiol ydyn nhw o hyd.
Rhagor o wybodaeth
Mae Cod Ymarfer y Brifysgol ar gael ar y dudalen we yma. Efallai y byddwch chi’n awyddus hefyd i ddysgu sut mae defnyddio Turnitin i wirio’ch gwaith i weld a oes gwaith arall yn cyfateb iddo
Os ydych chi’n dal yn ansicr a yw rhywbeth yn cyfrif fel llên-ladrad neu beidio, gallwch chi holi eich darlithydd neu diwtor personol. Dylai’r llawlyfr mae’ch adran wedi’i greu i fyfyrwyr, roi rhagor o ganllawiau i chi.