Beth yw darllen yn feirniadol?
Mae darllen yn feirniadol yn gam cyntaf pwysig yn y broses o ysgrifennu’n feirniadol. Mae’r canllaw astudio yma’n egluro pam bod darllen yn feirniadol yn bwysig. Mae hefyd yn awgrymu sut y gallwch chi ddod yn ddarllenwr mwy beirniadol. Efallai bydd y Canllawiau Astudio yma o help i chi:
Beth yw darllen yn feirniadol?
Os byddwch chi’n darllen yn feirniadol, byddwch chi’n:
- archwilio’r dystiolaeth neu’r dadleuon mae’r awdur yn eu cyflwyno;
- asesu unrhyw beth sydd wedi dylanwadu ar y dystiolaeth neu’r dadleuon;
- asesu’r pethau sy’n cyfyngu ar ddyluniad neu bwyslais yr astudiaeth;
- archwilio’r ffordd mae’r awdur wedi dehongli;
- a phenderfynu i ba raddau rydych chi’n fodlon derbyn dadleuon, safbwynt neu gasgliadau’r awdur.
Pam bod angen i ni fod yn feirniadol wrth ddarllen?
Er mor wrthrychol, dechnegol neu wyddonol yw’r pwnc dan sylw, bydd yr awduron wedi gwneud nifer o benderfyniadau yn ystod y broses ymchwilio ac ysgrifennu. Mae pob un o’r penderfyniadau yma’n codi’r posibilrwydd o archwilio, trafod a herio. Ni ddylai’r penderfyniadau gael eu derbyn yn ddi-gwestiwn.
Mae gofyn i chi fod yn barod i gamu i’r ddadl academaidd ac i bwyso a mesur i ba raddau rydych chi’n fodlon derbyn y pethau rydych chi’n eu darllen.
Man cychwyn ymarferol yn y broses, felly, yw peidio â meddwl mai ffaith yw’r hyn rydych chi’n ei ddarllen. Meddyliwch amdano fel dadl yr ysgrifennwr. Gan dderbyn y man cychwyn yma, byddwch chi’n barod i fynd ati i ddarllen yn feirniadol.
Nid peth cwbl negyddol yw darllen yn feirniadol
Wrth ddarllen yn feirniadol, nid dod o hyd i ddiffygion yw’r nod. Y nod yw asesu pa mor gadarn yw’r dystiolaeth a’r ddadl. Mae tynnu sylw at wendidau mewn astudiaethau neu erthyglau’n ddefnyddiol. Ond mae casglu bod astudiaeth neu erthygl yn cyflwyno tystiolaeth gadarn iawn ar sail dadleuon rhesymol, yr un mor ddefnyddiol.
Tystiolaeth
Yn ôl y math o ysgrifennu dan sylw a’r maes academaidd y mae’n perthyn iddo, bydd disgwyl i chi archwilio gwahanol fathau o dystiolaeth.
Ym mhen technegol a gwyddonol y sbectrwm, efallai bydd y dystiolaeth berthnasol yn cynnwys gwybodaeth am bethau fel mesuriadau, amseru, offer, rheolaeth dros ffactorau allanol, a gofal wrth ddilyn y drefn safonol. Bydd canllawiau penodol ar gael ynglŷn â’r pethau i chwilio amdanyn nhw yn eich maes arbenigol chi.
Ym mhen arall y sbectrwm mae’r math o ysgrifennu lle mae digon o gyfle i rywun ddehongli’n bersonol, er enghraifft:
- dadansoddi profiadau unigolion o ofal iechyd;
- cyfieithu testun o iaith dramor;
- neu adnabod a dadansoddi’r gwahanol themâu mewn nofel.
Yn yr achosion yma, gall y dystiolaeth gynnwys eitemau fel rhannau o gyfweliadau, darnau o destun, a diagramau’n dangos y berthynas bosib rhwng y gwahanol themâu.
Mae natur y dystiolaeth sydd ar gael yn y naill ben o’r sbectrwm a’r llall yn wahanol. Ond yn y ddau achos mae angen i chi chwilio am y sail resymegol dros ddewis a dehongli’r dystiolaeth a oedd ar gael, a’r sail resymegol dros ffurfio’r ddadl.
Ymestyn y diffiniad o dystiolaeth
Mae’r canllaw yma’n diffinio tystiolaeth mewn ffordd gynhwysfawr. Yn ôl y diffiniad eang yma, mae popeth y byddwch chi’n ei ddarllen yn gallu bod yn dystiolaeth, nid dim ond y data rydych chi wedi’u casglu a’u cyflwyno. Mae’r diffiniad yn cynnwys:
- yr adroddiad ar y cyd-destun lle y cafodd y data eu casglu neu eu creu;
- y broses o ddewis y dull o gasglu a dethol y data;
- y trywydd archwilio wrth ddadansoddi’r data: hynny yw, y penderfyniadau a gafodd eu gwneud a’r camau yn y broses ddadansoddi;
- y sail resymegol dros wneud y dehongliadau a dod i’r casgliadau;
- holi pa mor berthnasol yw’r ideoleg, y persbectif damcaniaethol neu’r athroniaeth sy’n sail i’r ddadl, a’r ffordd maen nhw’n cael eu defnyddio.
Cysylltu tystiolaeth â dadl
Ni all tystiolaeth, ar ei phen ei hun, gyfrannu at ddadl academaidd. Yr hyn sy’n caniatáu i’r dystiolaeth gyfrannu at y ddadl yw’r broses o’i dehongli a’i chyflwyno.
Mae’r term ‘dadl’ yn y cyd-destun yma’n golygu’r ffordd resymegol a gofalus mae sail yr ymholiad wedi cael ei chreu, a rôl y canlyniadau yn y byd academaidd. Bydd yn egluro er enghraifft:
- rhesymau’r awduron dros feddwl bod eu gwaith yn werth ei wneud;
- eu rhesymau dros ei wneud yn y ffordd arbennig honno;
- eu rhesymau dros feddwl mai eu data neu eu deunydd nhw oedd y rhai mwyaf priodol;
- y cyswllt rhwng eu casgliadau a chyd-destun ehangach yr ymchwiliad.
Hyd yn oed yn y pynciau mwyaf technegol a gwyddonol, bydd cyflwyno dadl bob amser yn golygu cynnwys elfennau y mae’n bosib eu harchwilio a’u cwestiynu. Er enghraifft, gallech chi ofyn:
- Pam wnaeth yr ysgrifennwr ddewis y pwnc arbennig yma i’w astudio yn y lle cyntaf?
- Pam wnaeth yr ysgrifennwr ddewis defnyddio’r fethodoleg a’r dull yma, a gwneud y gwaith yn y ffordd honno?
- Pam wnaeth yr ysgrifennwr ddewis y broses dadansoddi arbennig yma?
Ysgrifennu nodiadau
Pan fyddwch chi’n darllen, mae’n syniad i chi gofnodi mewn tabl y wybodaeth rydych chi’n gwybod y byddwch ei hangen yn nes ymlaen. Yn ogystal â’r manylion arferol ar gyfer y llyfryddiaeth, gallwch chi ddyfeisio eich rhestr eich hun o’r wybodaeth rydych chi’n awyddus i’w chasglu wrth gychwyn darllen. Mae rhai awgrymiadau yn y tabl sy’n dilyn.
Wrth ddefnyddio tablau fel hyn, cofiwch am y ddau bwynt pwysig yma:
- rhaid i chi greu eich rhestr eich hun o’r wybodaeth i’w chasglu o bob ffynhonnell. Seiliwch eich rhestr ar y pethau y bydd angen i chi sôn amdanyn nhw;
- a bod yn realistig, byddai’n well peidio â cheisio casglu’r wybodaeth yma o bob un o’ch ffynonellau. Canolbwyntiwch ar y ffynonellau rydych chi wedi dewis cyfeirio atyn nhw yn eich adroddiad neu’ch aseiniad. Fel arall, byddai’r broses o ddarllen y dogfennau cefndir yn mynd yn un araf iawn a gallech chi gasglu llwyth o ddeunydd na fyddwch chi’n ei ddefnyddio byth.
Y manylion disgrifiadol y gallech eu cofnodi am eich ffynonellau
Y cyd-destun | Y math o ddata |
Maint y sampl | Dulliau defnyddio theorïau |
Proffil y sampl | Yr offer |
Y gwaith dilynol | Arddull ysgrifennu |
Yr ystadegau a ddefnyddiwyd | Y mesuriadau |
Y dulliau | Ffynonellau o ragfarn |
Y cwestiynau a gododd | Y cyfyngiadau |
Y prif ddadleuon | Y gynulleidfa darged |
Rhai cwestiynau dehongli i’w gofyn ynglŷn â’ch ffynonellau
Wrth ddarllen yn feirniadol, efallai y byddwch chi’n awyddus i feddwl am y cwestiynau canlynol. Gan fod disgwyl i chi gofnodi eich rhesymau dros ddewis eich atebion, bydd angen i chi eu pwyso a’u mesur yn ofalus. Cymysgedd o gwestiynau o fyd y celfyddydau a’r byd gwyddonol sydd yn y rhestr, gan fod rhywfaint o orgyffwrdd weithiau.
- Pa mor dda y cafodd y themâu a’r dadleuon eu datblygu?
- Oedd y persbectif damcaniaethol mae’r awdur wedi’i ddefnyddio wedi arwain at unrhyw duedd bosib?
- Ydy’r ffordd mae’r awdur wedi dehongli’r canlyniadau wedi’ch argyhoeddi chi?
- A yw’r ddadl yn cadarnhau’r casgliadau’n bendant?
- Pa mor briodol yw’r cymariaethau mae’r awdur wedi’u defnyddio?
- Oedd yr ymatebion posib neu’r categorïau neu’r technegau mesur wedi effeithio ar y data a gafodd eu casglu?
- A yw’r testun yn rhoi digon o sylw i’r ystyriaethau moesegol?
Os ewch chi ati mewn ffordd feirniadol i ddarllen ac i ysgrifennu nodiadau, gallai arbed llawer o amser yn nes ymlaen. Pan fyddwch chi’n barod i ysgrifennu’ch aseiniad neu’ch traethawd hir, bydd disgwyl i chi sôn am ddilysrwydd y gwaith ysgrifennu rydych chi’n cyfeirio ato. Felly, os ydych chi wedi cadw cofnod trefnus o ganlyniadau eich darllen beirniadol, byddwch chi’n gallu cyfeirio ato’n hawdd. Os nad oes gennych chi gofnod, byddwch chi’n gwastraffu llawer o amser yn ailddarllen deunydd, ac yn ail-adolygu’r dystiolaeth sydd ynddo.
Canllawiau defnyddiol o ffynonellau eraill
Mae nifer o ffynonellau’n cynnig canllawiau ynglŷn â sgiliau darllen yn feirniadol. Mae rhai mewn llyfrau ar sgiliau astudio cyffredinol, ac mae rhai eraill i’w cael ar y rhyngrwyd. Mae pennod 12 o’r ‘Study Skills Handbook’ gan Stella Cottrell (2008) yn arbennig o ddefnyddiol. Mae’r cwestiynau sy’n dilyn wedi’u seilio ar ddeunydd o’r bennod honno:
- A yw’r gwaith yn cymryd bod cysylltiad pendant yn cael ei greu pan, efallai, nad oes un?
- A yw’r awdur yn dod i gasgliadau cyffredinol ar sail un neu ddwy enghraifft yn unig?
- A yw’r awdur yn cymharu mewn ffordd amhriodol?
- Oes esboniadau posib eraill heblaw am un yr awdur?
- Oes unrhyw ragdybiaethau cudd y mae angen eu herio?
- A yw’r awdur yn cyflwyno digon o dystiolaeth i ganiatáu i’r darllenwyr ddod i’w casgliadau eu hunain?
- A yw’r ffordd o resymu’n gwneud synnwyr?
Trowch at y wefan yma i gael rhagor o ganllawiau:
University of Toronto: Advice on academic writing
Mae nifer o adrannau defnyddiol ar y wefan sy’n delio ag arddulliau ysgrifennu academaidd.