Beth yw ysgrifennu’n feirniadol?
Mae adborth tiwtoriaid ar waith ysgrifennu myfyrwyr yn aml yn sôn bod angen iddyn nhw drin a thrafod eu deunydd yn fwy beirniadol. Mae tiwtoriaid yn dweud pethau fel hyn: ‘rhy ddisgrifiadol’, neu ‘dim digon o ddadansoddi beirniadol’. Mae’r canllaw astudio yma’n awgrymu sut mae gwneud mwy o ddadansoddi beirniadol yn eich gwaith ysgrifennu. Efallai bydd y canllawiau astudio yma o help i chi hefyd.
- Beth yw darllen yn feirniadol
- Defnyddio paragraffau
- Golygu fel crefft
Prif nodweddion y broses o ysgrifennu’n feirniadol yw:
- gwrthod yn bendant ac yn hyderus â derbyn casgliadau ysgrifenwyr eraill heb bwyso a mesur eu dadleuon a’r dystiolaeth maen nhw’n ei chynnig;
- esbonio mewn ffordd gytbwys pam gallwn ni dderbyn casgliadau ysgrifenwyr eraill neu pam bod angen i ni fod yn amheus ohonyn nhw;
- cyflwyno’ch tystiolaeth a’ch dadl eich hun yn glir, gan arwain at eich casgliad;
- a chydnabod cyfyngiadau’ch tystiolaeth, eich dadl a’ch casgliadau eich hun.
Beth yw ysgrifennu’n ddisgrifiadol?
Un o brif nodweddion ysgrifennu’n ddisgrifiadol yw eich bod yn disgrifio rhywbeth, ond heb fynd y tu hwnt i’r disgrifiad hwnnw. Mae angen rhywfaint o ysgrifennu disgrifiadol i sefydlu, er enghraifft:
- cyd-destun yr ymchwil;
- disgrifiad cyffredinol o waith llenyddol, neu o waith celf;
- y rhestr o’r mesuriadau a wnaethoch chi;
- amseru’r ymchwil;
- disgrifiad o fanylion bywgraffyddol o ffigwr allweddol yn y maes;
- neu grynodeb byr o’r hanes sy’n arwain at ddigwyddiad neu benderfyniad.
Y gwahaniaeth rhwng ysgrifennu’n ddisgrifiadol ac ysgrifennu’n feirniadol
Pan fyddwch chi’n ysgrifennu’n ddisgrifiadol nid datblygu dadl ydych chi. Dim ond gosod y cefndir sy’n sail i’r ddadl ydych chi. Rydych chi’n portreadu’r sefyllfa fel y mae, heb ddadansoddi neu drafod.
Mae ysgrifennu’n ddisgrifiadol yn gymharol hawdd. Mae’n beryglus hefyd, oherwydd gallwch gael eich temtio i ddefnyddio llawer o eiriau o’r cyfanswm geiriau drwy ddisgrifio’n unig.
Mae disgrifiad, ar ei ben ei hun, yn fater o gyflwyno gwybodaeth. Nid yw’n trawsnewid gwybodaeth. Rydych chi’n disgrifio syniadau heb eu datblygu mewn unrhyw ffordd. Felly ychydig iawn o farciau byddech chi’n eu cael am aseiniad sy’n llawn o ysgrifennu disgrifiadol.
Wrth ysgrifennu’n feirniadol, rydych chi’n cymryd rhan yn y ddadl academaidd. Mae hyn yn dasg fwy heriol a pheryglus. Mae angen i chi bwyso a mesur tystiolaeth a dadleuon pobl eraill, a chynnig eich rhai eich hun. Bydd angen i chi:
- feddwl am ansawdd y dystiolaeth a’r ddadl rydych chi wedi’u darllen;
- pennu’r prif agweddau cadarnaol a negyddol y gallwch sôn amdanyn nhw;
- asesu pa mor ddefnyddiol a pherthnasol ydy’r agweddau yma i’r ddadl rydych chi’n rhan ohoni yn eich aseiniad;
- canfod y ffordd orau o wau’r agweddau yma i’r ddadl rydych chi’n ei datblygu.
Mae’n amlwg bod angen llawer mwy o allu i ysgrifennu’n feirniadol nag sydd ei angen i ysgrifennu’n ddisgrifiadol. Dyma pam mae ysgrifennu beirniadol yn ennill marciau uwch.
Dod o hyd i’ch llais academaidd
Pan fyddwch chi’n mynd ati i ysgrifennu’n feirniadol, byddwch chi’n datblygu’ch llais academaidd eich hun yn eich maes. Mae Wellington et al. (2005 t.84) yn awgrymu rhai ffyrdd o wahaniaethu rhwng y llais academaidd a’r llais an-academaidd. Maen nhw’n awgrymu y bydd y llais academaidd yn cynnwys:
- “healthy scepticism … but not cynicism;
- confidence … but not ‘cockiness’ or arrogance;
- judgement which is critical … but not dismissive;
- opinions … without being opinionated;
- careful evaluation of published work … not serial shooting at random targets;
- being ‘fair’: assessing fairly the strengths and weaknesses of other people’s ideas and writing … without prejudice; and
- making judgements on the basis of considerable thought and all the available evidence … as opposed to assertions without reason.”
Wellington J., Bathmaker A., Hunt C., McCulloch G. and Sikes P. (2005). Succeeding with your doctorate. London: Sage.
Ceisiwch ddod i’r arfer o ysgrifennu’n feirniadol drwy wneud yn siŵr eich bod yn darllen yn feirniadol. A chynhwyswch elfen o ddadansoddi a phwyso a mesur yn eich gwaith ysgrifennu.
Defnyddio rhesi hir o ddyfyniadau
Mae’n bosib i chi gael eich temtio i gynnwys llawer o ddyfyniadau i ategu’ch dadl. Efallai’ch bod chi’n teimlo bod cynnwys llawer o ddyfyniadau’n gwneud eich dadl yn gadarnach. Ond mae’n bwysig cofio bod angen i chi hefyd ddehongli’r dyfyniadau i’r darllenwr, egluro pa mor berthnasol a dilys ydyn nhw, a dangos sut maen nhw’n cysylltu â’r dystiolaeth arall sydd ar gael.
Defnyddio paragraffau’n ddoeth
Mae’n bosib defnyddio paragraffau mewn nifer o wahanol ffyrdd i wella’ch ysgrifennu beirniadol. Gallwch ddefnyddio paragraffau i gadw ysgrifennu disgrifiadol a dadansoddiadau beirniadol ar wahân. Dechreuwch baragraff newydd pan fyddwch chi’n symud o ddisgrifiad at ysgrifennu beirniadol, neu o ddarn beirniadol yn ôl at ddisgrifiad. Mae gwneud hyn yn gallu bod yn ffordd o:
- bwysleisio i’r darllenwr eich bod yn disgrifio rhywbeth ac yn dadansoddi’n feirniadol fel ei gilydd, drwy gadw’r ddau beth ar wahân ar y papur;
- a’ch gorfodi i wneud yr ysgrifennu beirniadol angenrheidiol, yn enwedig os ydych yn gweld bod eich paragraffau disgrifiadol bob amser yn hirach na’r paragraffau dadansoddol, beirniadol.
Mae dechrau paragraff newydd yn gallu gweithredu fel saib mewn dadl hirach, a rhoi cyfle i’ch darllenwyr wneud yn siŵr eu bod yn dilyn eich rhesymu. Os bydd y paragraffau’n rhy hir efallai eich bod yn disgwyl i’ch darllenwyr gadw gormod o wybodaeth yn eu meddyliau ar y tro. Efallai bydd rhaid iddyn nhw ailddarllen y deunydd er mwyn deall y pwynt rydych chi’n ei egluro.
Gallwch chi hefyd ddefnyddio paragraffau i’ch gorfodi’ch hun i ysgrifennu’n feirniadol ochr yn ochr ag ysgrifennu disgrifiadol neu restru cyfeirnodau. Meddyliwch am bob paragraff bron fel traethawd byr ynddo’i hun. Ym mhob paragraff byddech chi’n:
- cyflwyno’r pwynt rydych chi’n bwriadu ei esbonio;
- egluro’r pwynt, gyda thystiolaeth i’w ategu;
- myfyrio’n feirniadol ar y pwynt.
Os yw’n werth ei gynnwys, mae’n werth dweud pam
Rhaid cynnwys rhywfaint o ysgrifennu disgrifiadol mewn traethawd, aseiniad neu draethawd hir, yn enwedig yn y paragraffau cyntaf. Wedi hynny, y perygl yw bod gormod o ysgrifennu disgrifiadol yn defnyddio geiriau gwerthfawr o’r cyfanswm geiriau, ac ni fydd digon o le ar ôl i ysgrifennu’n feirniadol, sef y math o ysgrifennu sy’n ennill y marciau uchaf.
Byddai’n werth i chi fynd i’r arfer o wneud yn siŵr eich bod yn egluro unrhyw dystiolaeth rydych chi’n ei disgrifio. Dywedwch wedyn ym mha ffordd mae’r dystiolaeth yn berthnasol i’ch dadl. Byddai’r rhesymeg sy’n sail i’ch eglurhad yn cyfrannu at yr elfen feirniadol yn eich gwaith ysgrifennu.
Mewn brawddeg neu ddwy, felly, gallech chi ddisgrifio’r dystiolaeth a chynnwys y cyfeirnodau perthnasol. Ond nid yw hyn yn ddigon. Mae gofyn esbonio yn y brawddegau nesaf sut mae’r dystiolaeth yma’n cyfrannu at eich dadl. Efallai fod gwneud hyn yn teimlo braidd fel ailadrodd yr un wybodaeth neu fel esbonio rhywbeth amlwg. Ond eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr eich bod yn esbonio wrth y darllenwr pa mor berthnasol yw’r dystiolaeth. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y darllenwr yn dilyn yr un rhesymeg â chi neu’n gallu gweld pa mor berthnasol yw’r dyfyniad neu’r data rydych chi wedi’u disgrifio.
Trywydd dadl
Hyd yma mae’r canllaw astudio yma wedi canolbwyntio ar y manylion y byddwch chi’n eu hysgrifennu. Yr elfen bwysig arall yn y broses o ysgrifennu’n feirniadol yw strwythur cyffredinol eich gwaith. Er mwyn bod mor effeithiol â phosib, rhaid i chi ddangos bod eich dadl yn dilyn trywydd wrth iddi symud ymlaen o’r cyflwyniad i’r casgliad.
Yn yr un ffordd ag y gwnaethoch chi ddefnyddio paragraffau i gyflwyno cynnwys eich ysgrifennu beirniadol, mae gofyn i chi feddwl am drefn y paragraffau hynny fel rhan o batrwm cyffredinol y gwaith. Y nod yw arwain eich darllenwyr yn ofalus ar hyd trywydd eich dadl, hyd at gasgliad sydd â sylfaen gadarn iddo.
Enghraifft o ysgrifennu beirniadol effeithiol
Mae’r testun yn y ddau baragraff nesaf yn enghraifft o ysgrifennu beirniadol da.
Mae’r awdur yn cyfeirio at y dystiolaeth sydd ar gael, ond mae’n mynd ati hefyd i werthuso dilysrwydd y dystiolaeth gan asesu ym mha ffordd y gallai gyfrannu at y ddadl.
Mae nifer o anawsterau methodolegol sylfaenol yn codi wrth werthuso pa mor effeithiol yw’r triniaethau yn y maes hwn. Arweiniodd hyn at gryn anghytuno mewn adroddiadau ymchwil sy’n trafod canlyniadau triniaeth ar gyfer y grŵp hwn o droseddwyr (Marshall, 1997). Yn gyntaf, er nad oes unrhyw amheuaeth mai prif fesur llwyddiant y driniaeth yw gostyngiad yn y gyfradd aildroseddu, (Marshall et al., 1999), nid yw’r data ar ail-gollfarnau, ar eu pen eu hunain, yn rhoi darlun cwbl realistig o wir lefel aildroseddu’r grŵp hwn. Mae’n gwbl amlwg bod anghysondeb rhwng y cyfraddau aildroseddu a’r rhai ar gyfer ail-gollfarnau. Mae cyfraddau ail-gollfarnau’n gosod nifer y troseddau’n rhy isel (Grubin, 1999). Yn wir, efallai nad yw’r heddlu’n cael gwybod am gyfran uchel o’r troseddau, neu efallai nad yw’r troseddwr yn cael ei ddyfarnu’n euog mewn llys o’r drosedd (Abel et al., 1987).
Gallwch weld yn y darn yma sut mae’r awdur yn ystyried y dystiolaeth sydd ar gael. Ond mae hefyd yn pwyso a mesur y pethau sy’n cyfyngu ar y dystiolaeth, cyn ffurfio ei gasgliadau.
Rhestr wirio ar gyfer adolygiad bras o’ch gwaith ysgrifennu
Mae’n syniad da i chi edrych yn feirniadol ar eich gwaith ysgrifennu eich hun cyn ei gyflwyno i’w asesu. Dyma’r math o gwestiynau y byddai’n werth i chi eu gofyn:
Beth yw’r cydbwysedd rhwng ysgrifennu disgrifiadol ac ysgrifennu beirniadol?
Er bod angen rhywfaint o ysgrifennu disgrifiadol i roi eich dadansoddiad yn ei gyd-destun, prif nodwedd ysgrifennu academaidd yw ei elfen feirniadol. Un ffordd ddefnyddiol o fesur y cydbwysedd yn eich gwaith ysgrifennu eich hun yw defnyddio pennau ysgrifennu mewn dau liw gwahanol i nodi ar ymyl y dudalen a yw’r llinellau’n ddisgrifiadol neu’n feirniadol. Bydd y cydbwysedd yn newid o’r naill adran i’r llall, ond gwnewch yn siŵr bod digon o’r lliw sy’n dangos yr ysgrifennu beirniadol.
Pam bod angen i’r darllenwr gael ei ddarbwyllo gan yr hyn rwy’n ei ysgrifennu?
Efallai’ch bod chi’n gofyn, ‘Pam dylwn i gredu’r hyn dw i newydd ei ddarllen?’. Cofiwch y bydd darllenwyr eich gwaith yn gofyn yr un cwestiwn amdano. Efallai, o ddarllen dros eich gwaith yn feirniadol, byddwch yn gweld bylchau yn eich rhesymeg y gallwch eu llenwi, neu wallau y gallwch eu cywiro, cyn cyflwyno’r gwaith i bobl eraill ei asesu a’i feirniadu.
A yw fy nghasgliad yn dilyn yn naturiol o’r dadansoddiad a’r ddadl, ac a ydyn nhw’n sail dda i fy nghasgliad?
Ewch dros y casgliadau rydych wedi’u ffurfio. Chwiliwch wedyn am y dystiolaeth rydych chi wedi’i rhoi fel sail i’ch casgliadau, a’i gwirio. Mae’n ffordd dda o wneud yn siŵr nad ydych wedi anghofio cynnwys darn pwysig iawn o dystiolaeth. Gall hefyd fod yn ffordd o wneud yn siŵr bod diwedd eich gwaith, yn enwedig y casgliadau, yn gwneud synnwyr. Ni ddylai’ch casgliadau beri syndod i’r darllenydd, na’i ddrysu am fod diffyg rhesymeg glir.
Ydw i wedi cynnwys gosodiadau sydd heb sail gadarn?
Weithiau mae’n hawdd gwneud gosodiad cyffredinol, ysgubol. Efallai fod y math yma o osodiad yn dderbyniol mewn sgwrs, ond nid yw’n dderbyniol mewn ysgrifennu academaidd. Mae tair prif ffordd o ddelio â’r math yma o osodiad:
- cyflwyno’r dystiolaeth sy’n ategu neu’n cadarnhau’r gosodiad
- ailysgrifennu’r gosodiad mewn ffordd fwy gofalus, er enghraifft: ‘mae’n bosib dadlau...’, neu ‘mae hyn yn awgrymu...’
- dileu’r gosodiad