Rhoi cyflwyniad effeithiol
Mae gofyn i gyflwynydd effeithiol fod yn hyblyg, yn frwdfrydig ac yn llawn egni. Bydd y canllaw yma’n eich helpu i droi’ch cyflwyniad ysgrifenedig yn berfformiad cyhoeddus sy’n cyffroi’r dychymyg.
Canllawiau defnyddiol eraill:
Cyflwyniad fel perfformiad
Mae rhoi cyflwyniad yn golygu cael pobl yn edrych arnoch chi. Mae cynulleidfa’n gwrando ar eich syniadau, ond mae’n ymateb hefyd i’r ffordd rydych chi’n defnyddio’ch llais a’ch corff. I wneud argraff, mae angen mwy na chyflwyniad sydd wedi’i ysgrifennu’n dda arnoch chi. Bydd gofyn i chi ei gyflwyno hefyd mewn ffordd fywiog, hyblyg a diddorol. Rydyn ni’n cynnig llawer o syniadau yma i'ch helpu i wneud eich arddull gyflwyno'n fwy egnïol.
I ddechrau, dychmygwch eich bod yn eistedd yn y gynulleidfa’n gwrando ar eich cyflwyniad. Beth sy’n debyg o:
- gydio yn eich sylw?
- ysgogi’ch dychymyg?
- ennyn eich hyder?
- a’ch helpu i ddeall?
Meddyliwch yn awr am ffyrdd o wneud y pethau yma..
Chwe cham yn y broses o ddod yn gyflwynydd effeithiol
1. Ewch ati i ymarfer
Os ydych chi’n gyfarwydd iawn â’ch deunydd, byddwch chi’n fwy parod i ennyn ffydd a hyder eich cynulleidfa. Peidiwch â bodloni ar ddarllen dros eich deunydd yn unig. Os gallwch chi, sefwch mewn ystafell i gyflwyno’ch deunydd i’r waliau. Dyma’r ffordd i gynefino â chlywed eich llais eich hun yn llenwi’r ystafell. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r geiriau a’r ymadroddion sydd yn eich cyflwyniad. Rhowch gynnig ar godi neu ostwng eich llais, gan asesu pa mor dda ydych chi’n clywed eich llais eich hun. Yn fwy na dim, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â phrif thema eich dadl a’r ffordd mae ei gwahanol elfennau’n plethu i’w gilydd. Bydd gwneud hyn yn eich helpu i gadw at yr amcanion rydych chi wedi’u dewis ac i osgoi gadael i unrhyw beth dynnu’ch sylw yn ystod y cyflwyniad.
Darllen neu ddysgu?
A ddylech chi ddarllen eich cyflwyniad yn uchel gan ddilyn nodiadau manwl, neu ei gyflwyno’n gyfan gwbl o’ch cof? Chwiliwch am ffordd o gyfuno’r ddau ddull yma. Mae'r naill a'r llall yn gallu achosi problemau.
Darllen
Wrth ddarllen, mae perygl eich bod yn canolbwyntio gormod ar eich nodiadau ac yn colli’r cysylltiad â’ch cynulleidfa. Mae darllen yn gallu gwneud eich llais yn undonog a sugno'r egni a'r brwdfrydedd o'ch cyflwyniad. Mae cyfarch eich cynulleidfa’n uniongyrchol yn ennyn eu diddordeb llawer mwy.
Dysgu
Mae dysgu’r cyflwyniad yn iawn tan fyddwch chi’n colli’r ffordd. Er enghraifft, os bydd aelod o’r gynulleidfa’n gofyn cwestiwn neu os bydd bwlb yn eich taflunydd dros ysgwydd yn chwythu. Dylech chi bob amser fod â rhywfaint o nodiadau er mwyn eich rhwystro rhag mynd ar goll. Ar ben hynny, mae gor-ddysgu'ch nodiadau'n gallu arwain at golli'r synnwyr o egni a brwdfrydedd. Ceisiwch gynnwys elfen o gyflwyno digymell ond hyderus.
Chwiliwch am ffordd o ysgrifennu nodiadau sy’n ategu eich arddull gyflwyno. Y ffordd fwyaf cyffredin o ysgrifennu nodiadau yw defnyddio cardiau mynegai. Mae’n bosib darllen y cardiau’n rhwydd. Defnyddiwch nhw wrth symud drwy eich cyflwyniad, fel ffordd o'ch atgoffa o’r pwynt nesaf. Ysgrifennwch un prif syniad yn unig ar un cerdyn, gan gynnwys y manylion sy’n ategu’r syniad. Er mwyn cadw’ch cardiau yn eu trefn, defnyddiwch dag neu ddarn o linyn i’w clymu at ei gilydd.
2. Byddwch yn bendant
Mae gofyn i gyflwynydd effeithiol fod yn bendant, ond heb fod yn ymosodol. Mae dau beth pwysig i’w cofio.
Osgo
Mae’n bwysig eich bod bob amser yn edrych yn hyderus. Mae gwahanol fathau o osgo’n cyfleu gwahanol hwyliau. Byddai osgo ffurfiol, unionsyth a llonydd y cyfleu naws wahanol iawn i osgo anffurfiol a bywiog. Cofiwch gyfateb eich ymddygiad corfforol i’r amcanion sy’n sail i’ch cyflwyniad. P’un a ydych chi’n awyddus i fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol, ewch ati’n bendant i ddewis eich arddull gorfforol a pheidiwch â’i newid.
Urddas
Byddwch yn ddigon hyderus i lenwi’r lle sydd ar gael o flaen eich cynulleidfa. Peidiwch ag ymddiheuro am fod yno (er bod disgwyl i chi fod yn foneddigaidd os oes rhaid, er enghraifft, os yw’r sesiwn yn rhedeg yn hwyr neu os bydd y meicroffon yn stopio gweithio). Dylech chi hefyd osgoi ymddiheuriadau corfforol lle’r ydych chi’n cuddio'r tu ôl i ddesg neu fwrdd darllen. Rhaid i chi deimlo’n hyderus bod y gynulleidfa’n awyddus i wrando, a bod gennych chi rywbeth diddorol i’w ddweud wrthyn nhw. Peidiwch â bod ofn aros i’ch cynulleidfa setlo cyn i chi ddechrau siarad. Os nad ydyn nhw’n setlo, teimlwch yn rhydd i ofyn am ddistawrwydd.
3. Ffurfiwch gysylltiad â’ch cynulleidfa
Un o’r prif heriau mae’r cyflwynydd yn eu hwynebu yw creu cysylltiad â’i gynulleidfa. (Mae cyflwynydd gwael yn rhoi'r argraff ei fod yn siarad ag ystafell wag.) Mae creu cysylltiad yn helpu i gynnal diddordeb y gynulleidfa ac yn annog yr aelodau i gredu bod gennych chi ddiddordeb go iawn mewn siarad â nhw. Ymhlith y ffyrdd y gallwch chi greu cysylltiad â’ch cynulleidfa, mae:
- cyswllt llygaid;
- ystumiau;
- cyswllt llafar;
- eich ffordd o ddefnyddio iaith.
Cyswllt llygaid
Mae cyswllt llygaid yn rhan arferol o’r broses gyfathrebu, ac mae cynulleidfa’n gallu teimlo’n anghyfforddus heb y cyswllt hwnnw. Mae edrych i fyw llygaid yr unigolion rydych chi’n siarad â nhw’n gallu eu helpu i deimlo’n rhan o’r cyflwyniad ac i deimlo eich bod yn cyfleu eich amcanion i unigolion. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych i fyw llygaid pob un o aelodau cynulleidfa fach, ac i bob rhan o gynulleidfa fawr. Cofiwch symud eich sylw i bob rhan o’r ystafell, heb roi’r argraff eich bod yn nerfus ond er mwyn helpu i gynnwys cymaint o bobl â phosib yn eich sgwrs.
Awgrym defnyddiol: os na allwch chi greu cyswllt llygaid mewn grŵp mawr, peidiwch ag edrych ar y llawr neu’r nenfwd (am fod gwneud hynny'n cyfleu diflastod neu anfoesgarwch). Rhowch gynnig ar edrych ar dalcen rhywun. Bydd hyn yn teimlo fel cyswllt llygaid i’r bobl o’i amgylch, hyd yn oed os na fydd yr unigolyn ei hun yn teimlo hynny.
Ystumiau
Wrth sgwrsio o ddydd i ddydd, mae pobl yn defnyddio’u breichiau a’u dwylo i ychwanegu pwyslais neu i’w helpu i ddisgrifio digwyddiadau. Bydd cyflwynwyr yn edrych yn eithaf lletchwith os byddan nhw’n cadw eu dwylo yn eu pocedi neu’n eu dal yn sownd wrth eu hochrau. Defnyddiwch ystumiau i groesawu’ch cynulleidfa, i ychwanegu pwyslais at eich prif bwyntiau neu i ddangos eich bod wedi cyrraedd diwedd rhywbeth. Ceisiwch ddefnyddio ystumiau sy’n symud i ffwrdd o’ch corff, ac yn estyn allan at eich cynulleidfa. Mae gwneud hyn yn helpu i chwalu unrhyw bethau sy’n rhannu’r gynulleidfa a’r cyflwynydd. Gwnewch yn siŵr bod eich ystumiau’n rhai pendant sydd dan reolaeth. Byddai symudiadau rhy fywiog yn rhoi argraff o nerfusrwydd a diffyg canolbwyntio. Peidiwch â gadael i unrhyw ystumiau dynnu sylw’ch cynulleidfa oddi ar gynnwys eich cyflwyniad. Dylech chi fynd ati’n gyson i chwilio am ffyrdd o’u helpu i wrando a deall.
Cyswllt llafar
Siaradwch ag aelodau’ch cynulleidfa i ddangos eich bod yn eu cydnabod. Holwch ar ddechrau eich sgwrs a ydy pawb yn gallu’ch gweld a’ch clywed, ac a yw’r goleuadau a lefel y sain ar yr offer clyweledol yn foddhaol. Yn ystod eich cyflwyniad, gofynnwch gwestiynau rhethregol y gallwch chi eu hateb (er enghraifft, “Sut ydyn ni’n gwybod bod hyn yn wir?” neu “A beth y mae hyn yn ei brofi?”). Rhowch gyfle ar ddiwedd eich sgwrs i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau neu i ofyn i chi wneud y manylion yn gliriach. Byddai gwneud hyn yn eu hannog i deimlo bod eich deunydd yn perthyn iddyn nhw.
Mae defnyddio cwestiynau'n dechneg bwysig. Maen nhw’n golygu bod gofyn i’ch cynulleidfa feddwl mewn ffordd fwy bywiog, yn hytrach na mater syml o eistedd a gwrando arnoch chi. Cynhwyswch eich cynulleidfa drwy ofyn cwestiynau clir a phendant.
Iaith
Mae’n arbennig o bwysig eich bod yn defnyddio iaith i greu ac i gynnal perthynas â’ch cynulleidfa. Rhowch gynnig ar ddefnyddio iaith sy’n cynnwys eich cynulleidfa. Er enghraifft, mae gofyn cwestiynau fel “Beth mae hyn yn ei ddysgu i ni?” neu “Ym mha ffordd ddaethom ni at y casgliad hwn?” yn cynnwys eich cynulleidfa mewn proses o archwilio neu drafod. Pan fyddwch chi’n edrych ar gyfarpar gweledol, cyflwynwch nhw drwy ddweud “Os trown ni at y sleid yma, gallwn ni weld...” neu “Mae’r sleid yma’n dangos i ni fod...”. Defnyddiwch iaith sy’n groesawgar ac yn cynnwys pawb drwy gydol eich cyflwyniad.
4. Defnyddiwch eich llais
Mae’ch llais yn arf hyblyg a grymus iawn. Gallwch chi ei ddefnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd drwy:
- godi neu ostwng lefel eich llais;
- siarad yn gynt neu’n arafach;
- codi neu ostwng traw eich llais.
Codi neu ostwng lefel eich llais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad yn ddigon uchel i bob aelod o’ch cynulleidfa eich clywed yn iawn. Mae siarad yn rhy uchel neu’n rhy isel yn gallu gwneud dilyn eich cyflwyniad yn anodd. Gwrandewch ar bobl yn siarad mewn sgwrs naturiol. Maen nhw’n tueddu i godi neu ostwng lefel eu lleisiau i ychwanegu pwyslais. Er enghraifft, efallai eu bod nhw’n codi eu llais wrth roi cyfarwyddiadau ond yn siarad yn dawel wrth ymddiheuro. I wneud eich cyflwyniad yn fwy egnïol, manteisiwch ar y mathau canlynol o amrywiaethau.
- gallwch chi gynnwys cynulleidfa drwy sibrwd mewn ffordd gynllwyngar;
- mae ebychiad mewn llais uchel yn gallu tynnu eu sylw a'u gorfodi i wrando;
- neu defnyddiwch ychydig eiliadau o ddistawrwydd i greu effaith ddramatig neu i dynnu sylw unigolion sydd ddim yn gwrando neu sy’n sibrwd â rhai o’u cyd-aelodau.
Cyflymdra
Gwnewch yn siŵr bod cyflymdra eich cyflwyniad yn hawdd ei ddilyn. Os byddwch chi’n siarad yn rhy gyflym neu’n rhy araf, bydd eich cynulleidfa’n cael trafferth dilyn eich sgwrs. I wneud eich cyflwyniad yn fwy bywiog, rhowch gynnig ar newid y cyflymdra. Efallai y byddai siarad ychydig yn gynt yn cyfleu brwdfrydedd. Ac efallai fod siarad yn arafach yn ychwanegu pwyslais neu rybudd.
Codi neu ostwng traw eich llais
Mae traw eich llais yn amrywio hefyd wrth sgwrsio o ddydd i ddydd, ac mae’n bwysig eich bod yn manteisio ar hyn wrth roi cyflwyniad. Er enghraifft, bydd traw eich llais yn codi wrth i chi ofyn cwestiwn, ac yn gostwng pan fyddwch chi’n awyddus i swnio’n llawdrwm.
Arbrofwch gyda lefel, cyflymdra a thraw eich llais wrth i chi ymarfer eich cyflwyniad. Chwiliwch am wahanol ffyrdd o ddweud yr un frawddeg. Archwiliwch y gwahanol ffyrdd o ychwanegu pwyslais at eich prif bwyntiau. Ceisiwch gyfleu brwdfrydedd ac egni drwy ddefnyddio’ch llais mewn ffyrdd gwahanol.
5. Anadlwch
Cofiwch anadlu’n gyson ac yn ddwfn. Os ydych chi’n poeni am roi’r cyflwyniad, byddwch chi'n anadlu'n gynt heb dynnu aer i waelod eich ysgyfaint. Bydd gwneud hynny’n effeithio ar ansawdd eich llais ac ar eich gallu i siarad yn glir am gyfnodau hir. Ceisiwch anadlu’n ddwfn am ychydig cyn dechrau ar eich cyflwyniad. Gwnewch ymdrech i anadlu’n arafach ac i dynnu mwy o aer i’ch ysgyfaint gyda phob anadl. Yn ystod eich cyflwyniad, oedwch am ychydig ar ôl pob cwestiwn neu ar ddiwedd y gwahanol adrannau er mwyn cadw patrwm eich anadlu’n gyfforddus. Peidiwch ag ofni arafu eich cyflwyniad os ydych chi’n cael trafferth anadlu.
6. Yfwch ddiodydd
Mae’n syniad da i chi gadw diod wrth law er mwyn torri’ch syched os ydych chi’n gorfod siarad am amser. Ond peidiwch â llowcian dŵr oer iawn cyn mynd yn eich blaen. Bydd dŵr oer yn culhau eich llwnc ac yn effeithio ar ansawdd eich llais. Yfwch gwpanaid gweddol gynnes (nid un twym iawn) o de i ymlacio’ch llwnc ac i esmwytho’ch llais.
Ac yn olaf ... gair ynglŷn â hiwmor
Defnyddiwch hiwmor os ydych chi’n berffaith siŵr y bydd yn gweithio. Mae gofyn rhywun hyderus a thawel eu meddwl i ddefnyddio hiwmor yn llwyddiannus. O'i ddefnyddio'n wael, bydd yn gwneud i chi ymddangos yn fwy lletchwith a phryderus. Dim ond os ydych chi’n gwbl hyderus ynglŷn â’i ddefnyddio a’i fod yn addas i'r sefyllfa y dylech chi ddefnyddio hiwmor.
Byddwch yn feirniadol wrth arsylwi pobl eraill, a gwnewch eich rhestr eich hun o’r pethau i’w gwneud a’r rhai i beidio â’u gwneud.
Casgliad
Meddyliwch yn gyson am eich arddull eich hun gan ddefnyddio pob un o'r awgrymiadau yn y canllaw yma, neu eu cyfuno mewn gwahanol ffyrdd i greu gwahanol effeithiau. Yn bennaf oll, cofiwch ddau brif bwynt:
- peidiwch â cheisio bod yn rhywun arall heblaw chi eich hunan – hyd yn oed yn y sefyllfa fwyaf ffurfiol, cofiwch mai chi ydych chi. Ni fyddwch chi’n gwneud argraff ar unrhyw un drwy geisio perfformio fel actor clasurol neu fel comedïwr;
- dylech chi osgoi unrhyw fath o ymddygiad a allai ymddangos yn annymunol i’ch cynulleidfa (er enghraifft, chwarae gyda beiro neu symud eich pwysau o’r naill droed i’r llall). Wrth siarad a gwneud unrhyw beth corfforol, byddwch yn glir ac yn bendant.
Mae’r daflen nesaf yn y gyfres yma (Defnyddio cyfarpar gweledol) yn edrych ar y gwahanol ddelweddau gweledol y gallwch eu defnyddio i wneud eich cyflwyniad yn fwy effeithiol.