Cynllunio a gwneud project ymchwil
Mae’r canllaw yma’n rhoi sylw i’r dasg o gynllunio a gwneud project ymchwil bach, fel un sy'n sail i draethawd hir ar lefel gradd neu radd feistr. Nod y canllaw yma yw eich helpu i osod cyfeiriad clir yn gynnar yn y project, ac i’ch cynorthwyo i drefnu, cynllunio a monitro’ch project.
Mae un arall o’r canllawiau Ysgrifennu traethodau yn canolbwyntio ar y broses o baratoi’r adroddiad ysgrifenedig neu’r traethawd hir.
Rhagor o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yma.
Beth yw traethawd hir?
Mae traethawd hir yn fath arbennig o dasg academaidd. Bydd gofyn fel arfer i chi ddewis eich topig eich hun, cynllunio a rhoi ar waith project yn ymchwilio i'r topig hwnnw, ac ysgrifennu disgrifiad o'ch camau gweithredu a'ch darganfyddiadau. Ymhlith y camau pwysig yn y broses o greu’r traethawd hir mae:
- dewis topig;
- llunio cwestiwn ymchwil;
- cynllunio’r ymchwil yn effeithiol;
- bod yn drefnus wrth wneud eich ymchwil;
- ac ysgrifennu am yr ymchwil.
Dewis topig
Tra bo rhai myfyrwyr eisoes wedi gosod cwestiwn ymchwil clir wrth ddechrau ar eu project, mae gan lawer o fyfyrwyr eraill amryw o syniadau ond dim cwestiwn ymchwil penodol. O gofio am y pwysau i ddechrau arni’n weddol o gyflym, mae'n hawdd mynd i boeni a hyd yn oed i banig. Ond nid yw’r sefyllfa’n un anghyffredin o gwbl. Mae sawl ffordd ymlaen:
- Siaradwch â phobl eraill: pa dopigau mae’r myfyrwyr eraill yn eu hystyried? Ydyn nhw’n swnio’n ddiddorol? Peidiwch ag aros tan y byddwch chi wedi llunio’ch cwestiwn ymchwil llawn cyn trafod eich syniadau â phobl eraill. Fe allai eu sylwadau a’u cwestiynau eich helpu i wella’ch pwyslais.
- Edrychwch ar waith ysgrifenedig arall: treuliwch ychydig o amser yn y llyfrgell yn edrych yn fras ar deitlau’r papurau ymchwil a gyhoeddwyd yn eich maes yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Darllenwch grynodebau’r rhai sy’n swnio’n fwyaf diddorol.
- Edrychwch drwy draethodau hir y cyn-fyfyrwyr yn eich adran: efallai bydd y topigau’n eich ysbrydoli, ac efallai fod awgrymiadau defnyddiol ynddyn nhw ar gyfer gwaith ymchwil pellach.
- Meddyliwch am eich diddordebau eich hun: pa dopig oedd wedi ennyn eich diddordeb? Oes elfen ynddo a fyddai’n bosib ei datblygu fel sail i broject ymchwil?
- Oes topig cysylltiedig o ddiddordeb i chi ac sydd heb gael sylw yn y maes llafur? A fyddai’r topig hwnnw’n plethu i’r theorïau neu i’r fethodoleg rydych chi wedi bod yn eu hastudio?
- Byddwch yn arbennig o feirniadol: ydych chi wedi bod yn amau unrhyw agwedd ar eich cwrs hyd yn hyn, neu oes elfen a fyddai’n elwa ar ei hastudio’n fwy manwl?
- Darllenwch am dopig diddorol a gofynnwch yn gyson y cwestiwn ‘Pam?’. Efallai bydd gwneud hynny’n codi cwestiwn ymchwil y gallech chi roi sylw iddo.
Cofiwch fod astudiaeth ymchwil yn gallu:
- ailadrodd astudiaeth flaenorol mewn sefyllfa wahanol;
- archwilio maes sydd heb gael ei ymchwilio’n drwyadl hyd yn hyn;
- ychwanegu at waith astudiaeth flaenorol;
- pwyso a mesur y wybodaeth sydd wedi casglu hyd yn hyn mewn maes penodol;
- datblygu methodoleg neu ddull, neu roi prawf ar un;
- rhoi sylw i gwestiwn ymchwil ar ei ben ei hun neu fel rhan o raglen ehangach o waith;
- neu gymhwyso syniad damcaniaethol i broblem yn y byd go iawn
Nid yw’r rhestr yn gyflawn o bell ffordd. Dylech chi hefyd holi pa fathau o astudiaethau ymchwil y byddai’n well gan eich adran eu gweld.
Ewch at aelod o’r staff academaidd i drafod y topig rydych chi’n ei ystyried. Dewiswch aelod a allai fod yn addas i oruchwylio'r project. Cyn belled ag y bo’r aelod o’r staff yn teimlo’n ddigon hyderus yn y maes i oruchwylio’ch project, a chyn belled â’i fod yn perthyn yn ddigon agos i bwnc eich gradd, mae staff academaidd yn ddigon parod i dderbyn awgrymiadau.
Dylech chi feddwl yn realistig am oblygiadau ymarferol eich dewis, yn nhermau:
- y gofynion o ran amser;
- faint o deithio sydd angen ei wneud;
- y cyfarpar neu’r ystafelloedd sydd ar gael i chi eu defnyddio;
- pa mor hwylus yw gallu mynd at y bobl sydd o ddiddordeb;
- a’r costau posib.
Er enghraifft, os byddwch chi’n dewis gwneud project ar fwyngloddio glo yn ne-ddwyrain Cymru efallai bydd rhaid i chi ymweld â Swyddfa Cofnodion Pontypridd neu gyfweld â glowyr o’r ardal. A oes gennych yr awydd a'r gallu i wneud hynny? Os nad yw’r agweddau ymarferol ar eich syniadau ymchwil yn realistig, bydd gofyn i chi ystyried a ydych chi’n barod i addasu eich project, neu i ddewis topig arall.
Llunio cwestiwn ymchwil
Ar ôl i’ch adran dderbyn eich topig, mae angen i chi ddechrau’r broses o’i ddatblygu a’i wella er mwyn ei droi’n rhywbeth sydd â digon o bwyslais i fod yn sail i’ch project. Rhowch gynnig ar ei ddisgrifio fel problem ymchwil sy’n disgrifio:
- y mater y byddwch chi’n ymchwilio iddo;
- eich dadl neu thesis (hynny yw, yr hyn rydych chi’n awyddus i’w brofi, ei wrthbrofi neu ei archwilio);
- a therfynau’ch ymchwil (hynny yw, y pethau na fyddwch chi’n ymchwilio iddyn nhw).
Mae’n bwysig eich bod yn gosod problem ymchwil ar ddechrau’ch project, neu’n agos at y dechrau. Dyma un o’r technegau pwysicaf sydd ar gael i chi, er mwyn sicrhau bod eich project yn datblygu yn y cyfeiriad cywir. Dylech chi ddechrau pob un o’ch tasgau drwy gyfeirio’n ôl at eich problem ymchwil a holi “a fydd gwneud hyn yn fy helpu i roi sylw i’r broblem dan sylw?"
Dylech chi fod yn barod i adolygu’ch problem ymchwil wrth i chi ddysgu mwy am eich topig. Efallai, er enghraifft, y gallwch chi weld nad yw’r data roeddech chi’n gobeithio’u dadansoddi ar gael. Neu fe allech chi ddod ar draws darn newydd o wybodaeth neu gysyniad newydd wrth chwilio yn y dogfennau, sy’n gwneud i chi ailfeddwl am sail eich problem ymchwil. Dylech chi fynd at eich goruchwyliwr bob tro cyn newid eich cynlluniau’n sylweddol. Esboniwch wrtho pam rydych chi’n teimlo bod angen eu newid.
Y broblem ymchwil | Sylwadau |
---|---|
‘Cludiant cyhoeddus yng Nghymru’ | Mae’r topig yn disgrifio maes eich ymchwil ond nid yw’n llunio problem ymchwil. Mae’n rhy gyffredinol. Nid oes amser gennych i astudio pob agwedd ar y topig, felly dylech chi ganolbwyntio ar un agwedd sy’n ennyn eich diddordeb. |
‘Archwilio dylanwad cysylltiadau cludiant cyhoeddus ar ddatblygiadau o dai newydd yng Nghymru’ | Mae hon yn well problem ymchwil am ei bod yn sefydlu dadl (efallai fod bodolaeth cludiant cyhoeddus yn dylanwadu i ryw raddau ar ddatblygiadau o dai newydd). Ond mae’n dal yn ddigon cyffredinol a byddai mwy o bwyslais yn ei gwella. |
‘Ymchwilio i’r berthynas rhwng cysylltiadau cludiant cyhoeddus a datblygiadau o dai newydd mewn rhannau o orllewin Cymru: cymhariaeth o’r cynlluniau lleol a datblygiadau adeiladu er 1990’ | Mae’r broblem yma’n well o lawer. Mae’n gosod terfyn y project. Byddwch chi’n ymchwilio i bwnc cymhleth (cludiant cyhoeddus yng Nghymru), ond byddwch chi’n canolbwyntio ar un agwedd yn unig arno (ei ddylanwad posib ar ddatblygiadau o dai newydd). Byddwch chi’n gwneud y pwnc eang yma’n haws ei reoli drwy ganolbwyntio ar gyfnod penodol (o 1990 ymlaen), ac yn cyfyngu ar eich ffynonellau. |
Cynllunio’r ymchwil yn effeithiol
Ysgrifennu cynnig ymchwil
Mae’r cynnig ar gyfer y gwaith ymchwil yn ddisgrifiad mwy manwl o’r project rydych chi’n bwriadu ei wneud. Mae rhai adrannau’n disgwyl i chi gyflwyno cynnig ymchwil fel rhan o’r broses o asesu eich traethawd hir. Ond mae’n werth creu un hyd yn oed os nad yw’n un o ofynion ffurfiol eich cwrs. Dylai fod yn ffordd o ddatblygu: (1) y gwaith meddwl rydych chi wedi’i wneud wrth ddiffinio'ch problem ymchwil, (2) y trafodaethau a gawsoch chi gyda’ch goruchwyliwr, a (3) y gwaith darllen rydych chi wedi’i wneud hyd yn hyn ynglŷn â’r topig. Bydd cynnig cynhwysfawr yn eich gorfodi i feddwl am yr union bethau rydych chi’n bwriadu eu gwneud, a bydd o help wrth i chi ddechrau ysgrifennu am y project.
Gallech chi roi cynnig ar amlinellu’ch project dan y penawdau dilynol (Booth, Williams a Colomb, 2003. The craft of research. Chicago: Gwasg Prifysgol Chicago.):
Y topig: | bydd y project hwn yn astudio... |
Y cwestiwn neu'r broblem | dod i wybod... |
Yr arwyddocâd: | er mwyn casglu mwy o wybodaeth am... |
Yr adnoddau sylfaenol: | y prif ddata fydd... |
Y ffynonellau eilaidd: | daw’r data ychwanegol o... |
Y dulliau: | dilynir y camau canlynol wrth wneud y gwaith ymchwil... |
Y cyfiawnhad: | y dull hwn yw’r un mwyaf addas am fod... |
Y cyfyngiadau: | efallai nad yw’r fethodoleg hon yn fy helpu i esbonio rhai materion. Efallai fod y rhain yn cynnwys... |
Efallai y gwelwch chi ei bod hi’n anodd rhoi manylion dan rai o’r penawdau yma ar ddechrau’ch project. Ond gallwch chi ddefnyddio’r bylchau i’ch helpu i ddewis camau cyntaf y gwaith. Er enghraifft, os ydych chi’n ansicr ynglŷn â chyfyngiadau eich methodoleg, dylech chi siarad â’ch goruchwyliwr a darllen mwy o ddeunydd am y fethodoleg honno, cyn dechrau arni.
Creu cynllun ymchwil
Project estynedig yw traethawd hir sy’n gofyn i chi reoli’ch amser a mynd ati i wneud amryw o wahanol dasgau. Mae rhaglenni rhai cyrsiau'n gosod y traethawd hir ar y diwedd, tra bo rhai eraill yn disgwyl iddo redeg ochr yn ochr â’r modiwlau eraill. Pa un bynnag yw patrwm eich cwrs chi, rhaid i chi greu cynllun sy’n eich helpu i neilltuo digon o amser i bob un o’r tasgau mae disgwyl i chi eu cyflawni.
Mae’n werth i chi gyfrif faint o wythnosau sydd gennych cyn bod disgwyl i chi gyflwyno’r traethawd cyflawn. Ewch ati i greu siart ar gyfer yr wythnosau hynny. Tynnwch linell drwy’r wythnosau pan fyddwch chi’n methu gweithio, a nodwch y prif ymrwymiadau eraill sydd gennych a fydd yn galw am sylw yn ystod y cyfnod. Yna rhowch y tasgau ymchwilio yn yr adegau sydd heb eu llenwi.
Ionawr
Nadolig | Ysgrifennu cynnig ymchwil | Adolygiad o’r llenyddiaeth | Cwblhau’r adolygiad o’r llenyddiaeth a gwneud astudiaeth beilot | Casglu’r prif ddata |
Chwefror
Cwblhau casglu data | Dadansoddi’r data | Dadansoddi’r data | Ysgrifennu cynllun y traethawd hir, a dechrau ar y drafft cyntaf |
Mawrth
Cwblhau’r drafft cyntaf | Trafod y drafft gyda'r goruchwyliwr | Yr ail ddrafft | Y trydydd drafft | Prawfddarllen a gwirio |
Mae’n bwysig iawn eich bod yn realistig ynglŷn â’r amser sy’n ofynnol i bob un o’r tasgau. Mae canolbwyntio’n ofalus ar y dechrau ac yna wrth gynllunio pob un o’r camau’n gallu arbed oriau o amser yn nes ymlaen. Rhestrwch yr adnoddau y byddwch chi eu hangen ym mhob cam. Er enghraifft, efallai fod angen treulio amser yn gweithio yn y llyfrgell neu ar eich pen eich hun. Neu efallai fod angen defnyddio cyfarpar neu ystafell a bod gofyn eu neilltuo ymlaen llaw.
Gohirio ac oedi
Mae rhai pobl yn gweld eu bod nhw'n rhy barod o lawer i ohirio ac oedi. Mae hon yn broblem gyffredin, a’r ffordd orau o’i thaclo mae’n debyg yw bod yn barod i'w hadnabod a delio â hi os yw'n dechrau codi’i phen. Mae amryw byd o bethau’n gwneud i bobl ohirio ac oedi, er enghraifft:
- rheoli eu hamser yn wael
- gadael i faint y dasg eu digalonni
- gadael i feddyliau negyddol eu llethu
- diffyg cymhelliad
- mynnu ar berffeithrwydd
- cael trafferth canolbwyntio
- angen teimlo dan bwysau
- problemau personol
Bydd adnabod arwyddion gohirio ac oedi’n fuan yn rhoi’r cyfle gorau i chi gwtogi cymaint â phosib ar unrhyw effeithiau negyddol. Cyn gynted ag y byddwch chi’n amau eich bod yn gohirio neu’n oedi, mae’n werth edrych eto ar eich disgwyliadau. Gofalwch nad ydych chi’n gosod rhai afrealistig. Dyna pam mae cynllunio mor hanfodol.
Cynllunio realistig
I wella’ch gobeithion o orffen mewn pryd ac i osgoi gohirio ac oedi, mae angen i chi:
- osod dyddiad cychwyn realistig;
- neilltuo amser i gynllunio ac i adolygu’ch cynllun;
- ceisio asesu a fydd gofyn neilltuo amser penodol i gwblhau unrhyw ran o’ch ymchwil;
- neilltuo amser ar gyfer unrhyw deithio mae gofyn i chi ei wneud fel rhan o’ch ymchwil;
- cynnwys pethau eraill (heblaw am eich traethawd) mae’n rhaid i chi eu gwneud yn ystod y cyfnod dan sylw;
- pennu amcanion clir a hawdd eu cyrraedd i bob wythnos;
- canolbwyntio ar un peth ar y tro;
- gadael amser ar gyfer y gwaith golygu a chywiro;
- rhoi gwobr i chi’ch hun ar ôl cyflawni’r amcanion rydych chi wedi’u gosod yn eich amserlen;
- ac os byddwch chi ar ei hôl hi, treulio amser yn diwygio’ch cynllun.
Dylai’ch cynllun ymchwil gynnwys gwybodaeth hefyd am y cyfarpar y byddwch ei angen i gwblhau’ch project. Cynhwyswch hefyd unrhyw gostau teithio neu dreuliau eraill sy’n debygol o ddod yn sgil gwneud eich gwaith ymchwil. Dylech chi feddwl hefyd a ydych chi’n ddibynnol ar unrhyw un arall i gwblhau’ch project. Ceisiwch feddwl beth fyddech chi’n ei wneud pe baen nhw'n methu'ch helpu.
Ar ôl creu eich cynllun, mae’n werth ei ddangos i rywun arall. Byddai’n ddelfrydol pe baech chi’n cael cyfle i’w ddangos i aelod o’r staff academaidd neu ddod â’r cynllun i sesiwn galw heibio mewn sgiliau astudio. Ond efallai byddai trafod eich cynllun gyda ffrind yn eich helpu i adnabod unrhyw beth rydych chi wedi’i anghofio neu unrhyw fan lle'r ydych chi wedi bod yn afrealistig wrth gynllunio.
Bod yn drefnus wrth wneud eich ymchwil
Rôl y goruchwyliwr
Er bod ysgrifennu traethawd hir yn gyfle i chi weithio ar eich pen eich hun, bydd aelod o'r staff academaidd fel arfer yn gweithredu fel eich goruchwyliwr. Pwrpas y goruchwylwyr yw eich helpu i ffurfio’ch syniadau ac i’ch cynghori sut mae mynd ati i wneud yr ymchwil sy’n sail i’ch traethawd hir. Nid eu pwrpas yw eich addysgu ynglŷn â’r topig rydych chi wedi dewis ymchwilio iddo: eich project chi yw hwn. Er hynny, mae’ch goruchwyliwr yn un o’r adnoddau y gallwch chi fanteisio arnyn nhw wrth wneud eich ymchwil.
Mae staff academaidd yn bobl brysur. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar help eich goruchwyliwr, bydd angen i chi fod yn drefnus a derbyn cyfrifoldeb dros y berthynas. Nid gwaith eich goruchwyliwr yw eich atgoffa i gwblhau'ch traethawd hir, nac i ddweud wrthych chi sut mae rheoli gwahanol gamau’r project. Er mwyn gofalu eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich goruchwyliwr, mae angen i chi:
- gytuno ar amserlen o gyfarfodydd ar ddechrau’ch project, a chadw ati;
- gwneud yn siŵr bod pwyslais i bob cyfarfod, er enghraifft, “gosod problem ymchwil”, “dadansoddi’r data”;
- cyn pob cyfarfod anfonwch at eich goruchwyliwr unrhyw wybodaeth a allai fod yn sail i drafod eich camau ymlaen. Gallai’r wybodaeth fod yn gynllun ymchwil, yn ganlyniadau cynnar eich gwaith casglu data, neu’n benodau drafft. Cofiwch nad oes angen i’r drafft fod yn berffaith – gallai fod yn rhestr o bwyntiau bwled neu’n fap meddwl ac ati;
- cyrraedd bob cyfarfod yn brydlon! Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod eich goruchwyliwr yn rhydd i’ch gweld chi ar unrhyw adeg;
- ar ddiwedd pob sesiwn oruchwylio, cytuno ar gamau gweithredu y gallwch chi ganolbwyntio arnyn nhw erbyn y cyfarfod nesaf;
- a chofio cadw cofnod o’r penderfyniadau yn y sesiynau goruchwylio. Gofynnwch i’ch goruchwyliwr a yw’n cytuno â nhw. Er enghraifft, anfonwch grynodeb drwy e-bost a sicrhau bod y ddau ohonoch yn fodlon arno.
Os nad ydych chi’n fodlon ar y ffordd mae’ch goruchwyliwr yn eich goruchwylio, esboniwch wrtho eich rhesymau dros deimlo fel hyn. Ac ewch at eich tiwtor personol i drafod y sefyllfa.
Mynd ati i wneud adolygiad o’r llenyddiaeth
Bydd gofyn i chi allu dangos sail resymegol eich ymchwil p’un a yw rhywun arall wedi rhoi topig eich traethawd hir i chi neu eich bod chi wedi datblygu’ch syniadau eich hun. Rhaid i chi ddisgrifio sut mae’ch gwaith yn perthyn i gyd-destun ehangach y gwaith ymchwil yn eich maes. I’ch helpu i wneud hyn, bydd angen i chi wneud adolygiad o’r llenyddiaeth. Adolygiad yw hwn o’r deunydd sydd wedi cael ei gyhoeddi’n barod, naill ai ar ffurf copi caled neu ffurf electronig, ac a allai fod yn berthnasol i’ch project ymchwil. Ymhlith y technegau sydd ar gael i’ch helpu mae:
- peiriannau chwilio ar y rhyngrwyd, yn enwedig y rhai sy’n cynnig nodweddion chwilio uwch (cyfeiriwch at Google a Google Scholar);
- Catalog Llyfrau Prifysgol Bangor (trowch at /library/index.php.cy);
- y cyfnodolion electronig sydd ar gael drwy’r llyfrgell (trowch at http://whel-primo.hosted.exlibrisgroup.com/primo_library/libweb/action/search.do?vid=44WHELF_BANG_VU2&mode=Basic&tab=tab3&dscnt=0&dstmp=1504775402698&vid=44WHELF_BANG_VU2&backFromPreferences=true)
- y llyfryddiaethau mewn unrhyw brif destun ynglŷn â’ch topig.
Mae’n werth i chi drefnu apwyntiad i weld y llyfrgellydd sy’n arbenigo ar eich pwnc. Dylai llyfrgellydd gwybodaeth allu eich cynghori ynglŷn â chwilio am ddogfennau, a dweud sut mae rheoli’r wybodaeth rydych chi’n dod o hyd iddi.
Mae’n debyg y byddwch chi’n dod o hyd i fwy o gyfeirnodau nag y gallwch chi eu darllen. Defnyddiwch y teitlau a’r crynodebau i benderfynu a yw’r ddogfen yn werth ei darllen yn fanwl. Dewiswch yn ddoeth drwy ganolbwyntio ar y cyfeirnodau:
- mae’ch goruchwyliwr yn eu hargymell;
- sy’n cynnwys nifer fawr o eiriau allweddol sy’n arbennig o berthnasol;
- mae nifer o ddarnau eraill o waith yn eu crybwyll;
- ac sydd wedi’u cyhoeddi yn ystod y pum mlynedd diwethaf, oni bai eu bod nhw’n brif destunau yn eich maes.
Cyn gynted ag y byddwch chi’n dechrau darllen, gofalwch eich bod yn cadw'r hyn rydych chi’n chwilio amdano yn eich meddwl wrth ddarllen pob erthygl neu lyfr. Dylai’ch nodiadau eich helpu i ysgrifennu eich adolygiad o’r llenyddiaeth heb i chi orfod troi’n ôl at y llyfrau rydych chi wedi’u darllen. Cyfeiriwch at y canllawiau Ysgrifennu Nodiadau Effeithiol, Cyfeirnodau a Llyfryddiaethau , and Osgoi Llên-ladradi gael mwy o help ynglŷn ag ysgrifennu nodiadau.
Casglu data
Yn achos y rhan fwyaf o brojectau ymchwil, mae’r cam casglu data’n teimlo fel y rhan bwysicaf. Ond dylech chi osgoi neidio’n syth at y cam yma. Arhoswch tan fyddwch chi wedi diffinio’n ddigon da eich problem ymchwil, a hyd, lled a therfynau eich ymchwil. Os byddwch chi’n mynd ati’n frysiog, efallai y byddwch chi’n casglu data di-werth a diangen.
Meddyliwch sut byddwch chi’n cadw'ch data, ac yn eu galw’n ôl yn nes ymlaen. Dylech chi greu system sy’n caniatáu i chi:
- gofnodi data’n gywir wrth i chi eu casglu;
- galw’r data’n ôl eto’n gyflym ac yn effeithlon;
- dadansoddi a chymharu’r data rydych chi’n eu casglu;
- a chreu ffyrdd addas o’u cyflwyno (er enghraifft, mewn tablau a graffiau) yn eich traethawd hir.
Mae nifer o systemau effeithiol ar gael ar gyfer casglu data a’u galw’n ôl. Yn eu plith mae mynegai cardiau a llyfrau ysgrifennu sydd wedi’u croesgyfeirio, technegau electronig fel taenlenni, cronfeydd data a meddalwedd creu llyfryddiaethau, ac offer sy’n benodol i faes arbennig. Dylech chi drafod eich dulliau o gadw'ch data gyda'ch goruchwyliwr, eich llyfrgellydd gwybodaeth neu gynghorwr astudio mewn sesiwn galw heibio mewn sgiliau astudio.
Mae’n debyg y byddwch chi’n meddwl am lawer o syniadau eraill wrth i chi wneud eich gwaith ymchwil. Mae’n werth cofnodi’r syniadau yma mewn mynegai cardiau, llyfr nodiadau pwrpasol neu ffeil electronig. Byddwch chi’n gallu cyfeirio’n ôl at eich ‘stôr o syniadau’ pan fyddwch chi’n dechrau ar y gwaith ysgrifennu. Efallai bydd y syniadau eu hunain yn ddefnyddiol, ond efallai hefyd eu bod nhw’n gofnod defnyddiol o’r ffordd y datblygodd eich meddyliau yn ystod y broses ymchwil. Cofiwch ysgrifennu label, dyddiad a chyfeirnod ar bob un o'ch cofnodion wrth i chi fynd yn eich blaen.
Astudiaethau peilot
Mae astudiaeth beilot yn golygu casglu data rhagarweiniol, gan ddefnyddio’r dulliau rydych chi wedi’u cynllunio ond gyda sampl fach iawn. Nod yr astudiaeth beilot yw rhoi cynnig ar eich dulliau, ac adnabod unrhyw fanylion y bydd angen rhoi sylw iddyn nhw cyn dechrau ar y broses o gasglu’r prif ddata. Er enghraifft, gallech chi ofyn i grŵp bach o bobl lenwi eich holiadur, gwneud un arbrawf neu ddadansoddi un nofel neu ddogfen.
Wrth wneud eich astudiaeth beilot, byddwch yn ofalus nad ydych chi’n darllen gormod i mewn i’ch canlyniadau (er eu bod nhw’n gallu bod yn ddigon diddorol weithiau). Gwir werth eich astudiaeth beilot yw rhoi gwybodaeth i chi am eich dulliau.
- Oedd y gwaith yn haws neu’n anoddach na’r disgwyl?
- Oedd y gwaith wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl?
- Oedd y sawl oedd yn cymryd rhan, y cemegau a’r prosesau wedi ymddwyn yn ôl y disgwyl?
- Beth oedd effaith yr astudiaeth arnoch chi fel ymchwilydd?
Treuliwch amser yn myfyrio ar oblygiadau posib eich astudiaeth beilot ar eich project ymchwil. Newidiwch eich cynllun os oes angen. Hyd yn oed os nad ydych chi'n cael amser neu gyfle i wneud astudiaeth beilot ffurfiol, dylech chi geisio myfyrio ar eich dulliau ar ôl i chi ddechrau creu peth data.
Delio â phroblemau
Cyn gynted ag y byddwch chi wedi dechrau creu data, efallai y byddwch chi’n gweld nad yw’r project ymchwil yn datblygu yn ôl y disgwyl. Peidiwch â mynd i boeni pan fydd problemau’n codi. Oherwydd ei natur, mae gwaith ymchwil yn anwadal. Ewch ati i ddadansoddi’r sefyllfa. Meddyliwch am y broblem a’r ffordd y cododd. A fyddai cymryd rhai camau’n ôl yn ei datrys? Neu a yw’n broblem fwy sylfaenol na hynny? Os felly, ceisiwch amcangyfrif pa mor arwyddocaol yw'r broblem i'r dasg o ateb eich cwestiwn ymchwil. Ceisiwch asesu sut gallwch chi ddatrys y sefyllfa. Nid newid y teitl yw’r ateb fel arfer, ond efallai y byddai rhyw fath o newid yn ddefnyddiol.
Os yw’r broblem yn ddyrys iawn, dylech chi drefnu i gwrdd â’ch goruchwyliwr cyn gynted â phosib. Rhowch ddadansoddiad manwl i’ch goruchwyliwr, a byddwch yn barod i dderbyn ei argymhellion. Mae’n debyg bod eich goruchwyliwr wedi dod ar draws problem debyg o’r blaen, a bydd ei gyngor yn werthfawr. Peidiwch byth â cheisio anwybyddu problem na gobeithio y bydd yn diflannu ohoni ei hun. A pheidiwch â meddwl eich bod chi’n methu fel ymchwilydd drwy fynd i ofyn am help.
Yn olaf, mae’n werth cofio y bydd pob problem y byddwch chi’n dod ar ei thraws ac yn llwyddo i’w datrys, yn wybodaeth ddefnyddiol efallai wrth ysgrifennu am eich gwaith ymchwil. Felly, wrth fynd ati i ysgrifennu am eich gwaith, peidiwch â chael eich temtio i osgoi neu anwybyddu unrhyw broblemau a gododd. Yn lle hynny, tynnwch sylw atyn nhw a dangoswch i'r arholwyr sut y gwnaethoch chi eu goresgyn.
Ysgrifennu am yr ymchwil
Wrth i chi wneud eich gwaith ymchwil, mae’n debyg y byddwch chi’n sylweddoli bod y topig rydych chi wedi’i ddewis yn fwy cymhleth nag yr oeddech chi'n disgwyl wrth ddiffinio eich cwestiwn ymchwil yn y lle cyntaf. Mae’r ymchwil yn dal yn ddilys er eich bod chi wedi sylweddoli bod y broblem yn fwy dyrys a chymhleth na'r disgwyl. Un o'r sgiliau hanfodol i ymchwilydd yw diffinio terfynau'r ymchwil yn glir, a chadw atyn nhw. Efallai bydd angen i chi gyfeirio at faterion ehangach, at faes neu ddogfennau perthnasol neu at fethodoleg arall. Ond peidiwch â threulio gormod o amser yn ymchwilio i feysydd sy’n berthnasol ac yn berthynol, ond yn gwbl ar wahân.
Efallai fod dechrau ar y gwaith ysgrifennu’n codi braw arnoch. Ond rhaid i chi ofalu fod digon o amser gennych, nid yn unig i ysgrifennu am eich ymchwil ond hefyd i adolygu’r gwaith yn feirniadol ac i dreulio amser yn ei olygu a’i wella. Dylai’r awgrymiadau canlynol eich helpu i symud ymlaen o’r gwaith ymchwil i’r gwaith ysgrifennu:
- Mae gofyn i chi bennu amser penodol yn eich cynllun ymchwil pan fyddwch chi’n stopio ymchwilio ac yn dechrau ysgrifennu. Dylech chi anelu at gadw at y cynllun yma oni bai fod rheswm pendant iawn pam bod angen i’ch gwaith ymchwil barhau.
- Cymerwch seibiant o’ch project. Ar ôl dod yn ôl, edrychwch yn bwyllog ar yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni’n barod, a gofynnwch y cwestiwn: ‘Oes angen i mi wneud mwy o waith ymchwil?’
- Siaradwch â’ch goruchwyliwr i’w holi am eich gwaith. Gofynnwch a oes angen i chi gasglu mwy o ddata.
Cofiwch na allwch chi gyflawni’r cyfan yn eich traethawd hir. Bydd cynnwys adran ar ddiwedd eich traethawd yn trafod ‘Gwaith pellach’ yn dangos eich bod yn meddwl am oblygiadau eich gwaith i’r gymuned academaidd.
Mae un arall o’r canllawiau astudio cysylltiedig, sef Ysgrifennu traethawd hir, yn canolbwyntio ar y broses o ysgrifennu am eich gwaith a’ch project ymchwil.
I grynhoi
- Meddyliwch yn ofalus am eich topig a gwnewch yn siŵr bod ei bwyslais yn ddigon cadarn.
- Ysgrifennwch gynnig manwl ar gyfer eich ymchwil i’ch helpu i ragweld y problemau y byddwch chi’n delio â nhw.
- Treuliwch amser yn cynllunio, a chadwch at eich cynllun.
- Gweithiwch yn agos gyda’ch goruchwyliwr a dangoswch barch i’w gyngor a’i barodrwydd i roi o’i amser.
- Byddwch yn drefnus ac ysgrifennwch nodiadau manwl wrth wneud eich adolygiad o’r llenyddiaeth ac wrth gasglu data.
- Penderfynwch ym mha gam yn union y byddwch chi’n stopio casglu data.
- Ewch ymlaen mewn ffordd bendant i’r cam o ysgrifennu am eich gwaith ymchwil.
- Neilltuwch ddigon o amser i adolygu a golygu eich gwaith ysgrifennu.
- Cofiwch na allwch chi gyflawni’r cyfan yn eich traethawd hir, ond byddwch chi’n gallu pwyso a mesur eich gwaith yn feirniadol a chynnig syniadau ar gyfer gwaith ymchwil pellach a pherthnasol.