Golygu fel crefft
Dan sylw yn y Canllaw Astudio yma mae’r broses o olygu dogfen estynedig fel traethawd hir. Canllaw defnyddiol arall:
Cyflwyniad
Pan fyddwch chi’n dechrau ar y dasg o ysgrifennu darn o waith, mae’n debyg y byddwch chi’n gwybod bod disgwyl i chi gyrraedd amryw o dargedau a safonau. Dyma rai ohonyn nhw:
- y terfyn geiriau sydd wedi cael ei bennu;
- lefel yr ysgrifennu academaidd sy’n ofynnol;
- yr angen i gyflwyno’r deunydd yn ôl trefn glir a rhesymegol;
- y safonau uchel sy’n ofynnol o ran sillafu, gramadeg a chynnwys cyfeirnodau.
Er hynny, os byddwch chi’n mynd i boeni gormod ar y dechrau ynglŷn â’r safon sy’n ofynnol, efallai y byddwch chi’n teimlo’n amharod i ddechrau ysgrifennu o gwbl.
Dyna pam mae’n gallu bod yn ddefnyddiol gwahanu’r broses o ‘ysgrifennu’ a’r broses o ‘olygu’. Mae Brookes a Marshall (2004, t.213) yn awgrymu mai ysgrifennu rhywbeth amherffaith, a’i olygu wedyn, yw’r drefn orau fel arfer. Mae’n well na gwastraffu amser yn ceisio creu rhywbeth perffaith ar y cynnig cyntaf. Mae’r tabl sy’n dilyn yn disgrifio sut mae ysgrifennu’n gallu bod yn broses gymharol rydd sy’n datblygu ohoni i hun. Ond mae golygu, ar y llaw arall, yn ffordd o fireinio a rhoi sylw beirniadol er mwyn sicrhau bod eich gwaith ysgrifennu’n cyrraedd y safon sy’n ofynnol.
Efallai fod ysgrifennu’n cynnwys | Efallai fod golygu’n cynnwys |
---|---|
creu | beirniadu |
cynnwys | ychwanegu a thynnu allan |
cyflwyno | gwella |
cofnodi | adolygu |
teimlo’n rhan o’r broses | teimlo’n weddol wrthrychol |
cynhyrchu rhywbeth amrwd mewn ffordd gyflym | creu cynnyrch mwy perffaith yn y diwedd |
gwneud llanastr | tacluso wedyn |
Beth yw golygu?
Mae’r canllaw astudio yma’n defnyddio’r term ‘golygu’ fel ffordd o gyfeirio at y dasg ddeallusol gyffredinol o godi safon academaidd darn o waith ysgrifenedig. Mae’n golygu defnyddio proses o feirniadu ac adolygu dro ar ôl tro. Mae’r canllaw hefyd yn defnyddio’r term ‘prawfddarllen’ (neu ‘darllen proflenni’) wrth sôn am y dasg fwy manwl o wirio elfennau fel sillafu, gramadeg a’r rhifau ar y tudalennau. Mae fel arfer yn well gadael y prawfddarllen manwl tan y cam olaf un o’r broses olygu.
Dyma rai agweddau ar eich gwaith ysgrifennu y gallwch eu beirniadu yn ystod y broses olygu:
- patrwm rhesymegol a chydbwysedd cyffredinol eich gwaith;
- p’un a ydych chi wedi cadw at eich teitl, eich cwestiwn ymchwil neu’ch cynlluniau;
- y cysylltiadau rhwng y gwahanol rannau o’r cynnwys;
- p’un a yw’r cynnwys a’r penawdau’n briodol neu beidio;
- p’un a ydych chi wedi datblygu’r ddadl mewn ffordd gydlynol neu beidio;
- y ffordd rydych chi wedi defnyddio’r llais gweithredol a goddefol, ac amser gorffennol a phresennol y ferf;
- p’un a ydych chi’n esbonio pethau’n glir;
- hyd y brawddegau, a pheidio â defnyddio geiriau diangen.
Bydd eich arholwyr yn gallu gweld yn glir a ydych chi wedi rhoi sylw manwl i’r broses olygu. Ni fyddan nhw’n gwerthfawrogi gorfod darllen gwaith sy’n amlwg heb gael ei olygu’n drwyadl. Os mai prif ymateb y sawl sy’n darllen eich gwaith yw cael ei siomi nad yw’r darn wedi’i olygu’n ofalus, mae’n annhebyg iawn y bydd y cynnwys yn creu argraff dda arno.
Mae’n llawer gwell i chi chwilio am ffyrdd o wella’ch gwaith, a gwneud y gwelliannau eich hun, yn hytrach na gadael i’r arholwr ddod o hyd iddyn nhw.
Teimladau cadarnhaol a negyddol ynglŷn â golygu
Mae myfyrwyr yn teimlo nifer o wahanol emosiynau wrth ddechrau ar y dasg o olygu eu traethodau hir. I rai, mae’r gwaith yn gallu bod yn brofiad negyddol ar ôl y broses weddol greadigol a chadarnhaol o ysgrifennu yn y lle cyntaf:
- Efallai fod ysgrifennu’r traethawd wedi bod yn ymdrech fawr yn barod, ac mae’n amhosib bron meddwl am ffyrdd o’i wella er eich bod chi’n barod i gyfaddef fod lle i’w wella.
- Efallai fod gofyn i chi leihau cyfanswm y geiriau o 30%, sy’n dipyn o dasg. Mae’n anodd meddwl sut mae gwneud hyn heb golli rhannau hanfodol o’r cynnwys.
- Efallai eich bod chi wedi syrffedu ar edrych ar eich gwaith. Efallai fod meddwl am ei astudio’n fanwl eto wrth olygu’n gwneud i chi deimlo fel rhedeg ymaith.
Bydd myfyrwyr eraill yn teimlo bod golygu’n fwy cadarnhaol nac ysgrifennu, am eu bod nhw’n gwybod mai yn y cam yma y byddan nhw’n codi safon eu gwaith. Dyma rai agweddau cadarnhaol ar y broses olygu:
- Os ydych chi’n meddwl am olygu’ch gwaith, mae’n rhaid eich bod eisoes wedi ysgrifennu darn digon sylweddol o waith.
- Mae golygu’n tueddu i fod yn dasg adeiladol iawn. Bydd pob un o’r newidiadau defnyddiol rydych chi’n eu gwneud yn siŵr o helpu i godi safon eich traethawd hir.
- Mae’r broses o feirniadu a gwella’ch gwaith ysgrifennu’n tueddu i fod yn haws na’r dasg o’i greu yn y lle cyntaf.
- Mae gwneud gwelliannau sylweddol wrth olygu’n gallu bod yn broses gymharol gyflym.
Gweithio mewn lle arall
Un ffordd o wahanu’r ddwy broses o ysgrifennu a golygu yw eu gwneud nhw mewn gwahanol lefydd. Argraffwch gopi caled o’ch gwaith fel eich bod yn gallu gwneud y gwaith golygu arno ymhell o’ch cyfrifiadur neu’ch desg. Beth am wneud y gwaith ar y trên neu ar fws? Neu mewn caffi neu ar fainc yn y parc. Neu yn unrhyw le arall heblaw am eich man gweithio arferol.
Mae gweithio ar gopi caled o’ch gwaith yn gallu teimlo fel eich bod yn adolygu gwaith ysgrifennu rhywun arall. Mae’n gallu bod yn ffordd ddefnyddiol o’ch cadw’ch hun ar wahân oddi wrth rannau penodol o’ch gwaith: “Until a manuscript is in print, not a word you have written is sacrosanct.” (Wolcott 2001, t.112).
Mae rhai pobl yn dewis gwneud y gwaith golygu ar eu cyfrifiaduron. Ond mae’n dal yn bwysig eich bod yn argraffu copi ohono ar ryw adeg yn ystod y broses olygu gan mai dyma’r unig adeg y byddwch chi’n gweld “the density of the ink, the sharpness of the printing … Fonts, size of type, headings, spaces and blocks of text all may look different when you are holding a piece of paper in your hands rather than staring at a screen” (Brookes a Marshall 2004, t.219).
Cofnodi eich beirniadaeth
Pan fyddwch chi’n gwneud y gwaith golygu i ffwrdd o’ch cyfrifiadur, mae’n bwysig eich bod yn ysgrifennu nodiadau llawn ar unrhyw welliannau sy’n dod i’ch meddwl. Efallai eu bod nhw’n amlwg ar y pryd, ond byddwch chi’n siŵr o fod wedi anghofio’r geiriau perffaith a ddaeth i’ch meddwl pan fyddwch chi’n mynd ati’n nes ymlaen i wneud y newidiadau. Neu byddwch chi’n methu darllen y nodiadau bras y gwnaethoch chi eu sgriblo ar ymyl y dudalen. Felly, cofnodwch eich diwygiadau’n glir iawn, fel y gallwch eu dilyn yn hawdd wrth wneud y newidiadau ar eich cyfrifiadur.
Cynllun golygu cyffredinol
I’r broses olygu fod yn effeithiol, bydd gofyn i chi ddarllen drwy’r gwaith nifer o weithiau a chreu cyfres o fersiynau drafft. Mae un enghraifft o gynllun golygu yn y tabl sy’n dilyn.
Gallwch chi gael eich temtio i weithio fesul paragraff, gan geisio perffeithio pob un cyn troi’ch sylw at yr un nesaf. Ond nid yw hon yn ffordd effeithiol nac effeithlon o olygu dogfen fawr. Mae sawl un o’r prosesau dan sylw (fel cynnal thema resymegol drwy’r darn ac adnabod y mannau lle’r ydych chi’n ailadrodd rhywbeth) yn gofyn i chi edrych ar y darn cyfan mewn ffordd fwy cyffredinol. Mae’n golygu adolygu fesul pennod neu hyd yn oed ar lefel y traethawd cyfan, ac nid fesul brawddeg neu baragraff.
Drafft | Amcanion | Technegau |
---|---|---|
1 | Golygu o safbwynt cywirdeb academaidd |
|
2 | Cwtogi ar wybodaeth amherthnasol | Chwiliwch am y mannau lle’r ydych chi’n ailadrodd neu’n esbonio’n ddiangen, ac unrhyw ddeunydd sy’n ddiddorol ond yn amherthnasol. Tynnwch unrhyw eiriau diangen. |
3 | Golygu o safbwynt cysondeb | Gwiriwch eich bod yn gyson o ran cywair, arddull ac amser y berfau. |
4 | Dangoswch yr arwyddion a’r cysylltiadau | Disgrifiwch wrth y darllenydd yr hyn a ddylai ddisgwyl, a rhowch grynodeb o’r hyn y mae newydd ei ddarllen. Dyma’r ffordd i helpu’ch darllenydd i adnabod y fframwaith mae’ch gwaith ymchwil yn perthyn iddo. |
5 | Prawfddarllen | Gwiriwch eich gwaith o safbwynt sillafu a gramadeg, a’r rhifau ar y tudalennau. |
Drafft 1: Golygu o safbwynt cywirdeb academaidd
Dyma hanfod darn ysgrifenedig academaidd. Ar hwn y dylech chi fod yn pwysleisio wrth olygu, a’r dasg yma fydd yn cymryd y rhan fwyaf o’ch amser. Mae cylchgronau academaidd yn cyhoeddi’r meini prawf maen nhw’n eu defnyddio i bwyso a mesur erthyglau, ac mae’n syniad i chi seilio’ch gwaith golygu arnyn nhw. Efallai fod eich adran yn cynnig cyfarwyddiadau manwl hefyd. Mae disgrifiad yn yr adran yma o dair agwedd ar ‘olygu o safbwynt cywirdeb academaidd’, a dylai’r tair eich helpu i fynd ati i olygu mewn ffordd gadarn.
Yn gyntaf, efallai y byddai’n syniad i chi ofyn dau gwestiwn sydd, ar yr olwg gyntaf, yn edrych yn ddigon syml:
- ‘Beth oeddwn i’n ceisio’i wneud ac a wnes i lwyddo?’
- ‘Beth ydw i’n ceisio’i ddweud ac a ydw i’n llwyddo?’
Mae dwy ran i’r ddau gwestiwn. Mae’r rhan gyntaf o’r ddau’n holi am y pethau’r ydych chi’n ceisio’u gwneud, a’r ail yn gofyn i chi ystyried a oeddech chi wedi llwyddo i’w gwneud nhw. Mae’r ddwy ran o’r naill gwestiwn a’r llall yr un mor bwysig â’i gilydd.
Beth oeddwn i’n ceisio’i wneud ac a wnes i lwyddo?
Efallai nad oes angen i chi brofi eich bod wedi gwneud popeth roeddech chi’n bwriadu ei wneud, ond mae angen i chi ddisgrifio’ch bwriad gwreiddiol yn glir. A rhaid i chi hefyd ddangos eich bod yn deall y cysylltiad rhwng eich cynlluniau gwreiddiol a’r gwaith ymchwil a wnaethoch chi, ac esbonio unrhyw anghysondeb. Drwy roi sylw manwl a thrwyadl i’r cwestiwn yma, byddwch chi’n gorfod meddwl am:
- sail resymegol eich gwaith ymchwil;
- y dulliau y gwnaethoch chi eu dewis a’r ffordd y gwnaethoch chi eu rhoi ar waith;
- a ffordd o edrych yn feirniadol ar y canlyniadau.
Beth ydw i’n ceisio’i ddweud ac a ydw i’n llwyddo?
Pan fyddwch chi’n canolbwyntio’n ofalus ac yn fanwl ar eich gwaith ymchwil, mae’n hawdd credu eich bod wedi esbonio popeth heb sylweddoli eich bod wedi methu esbonio rhai o’i elfennau pwysig a sylfaenol. Er ei bod hi, felly, yn bwysig eich bod yn gofyn y cwestiwn ‘Beth ydw i’n ceisio’i ddweud?’, mae’r un mor bwysig eich bod yn gofyn ‘Ydw i’n llwyddo?’. Rhaid i chi fod yn feirniadol iawn wrth ddarllen drwy eich gwaith er mwyn gwirio a ydych chi’n disgrifio’n gwbl glir yr hyn rydych chi’n ceisio’i ddweud. Dyma’r ffordd i beidio â gadael unrhyw fylchau y bydd rhaid i’r darllenydd eu llenwi.
Yn ail, mae angen i chi ofalu bod eich syniadau wedi’u seilio ar broses resymegol a chlir, a bod eich tystiolaeth yn gadarn. Mae gofyn i chi wirio eich bod wedi trefnu’r adrannau fel eu bod yn cyfleu eich rhesymu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Ceisiwch gamu’n ôl o’r gwaith ysgrifennu manwl a chreu braslun syml a rhesymegol a allai fod yn sail i’ch traethawd. Un ffordd effeithiol iawn o wneud hyn yw ei esbonio’n uchel wrth ffrind neu drwy recordio’ch hun yn esbonio yn y ffordd fwyaf rhesymegol a chlir:
- eich rheswm cyffredinol dros wneud y gwaith ymchwil;
- sut yr aethoch chi ati;
- a beth oedd eich casgliadau?
Os bydd eich ffrind yn ysgrifennu nodiadau neu os byddwch chi’n recordio’r esboniad ar dâp, gallwch chi eu defnyddio i greu braslun a fframwaith cadarn i’ch gwaith. Darllenwch drwy’r hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu hyd yn hyn, ac ewch ati i greu braslun ohono. Drwy gymharu’r ddau fraslun byddwch chi’n gallu gweld y mannau:
- lle y gallai’r drefn ddrysu rhywun;
- lle’r ydych chi wedi ysgrifennu gormod neu heb ysgrifennu digon;
- lle mae angen adrannau newydd;
- a lle y gallwch chi newid trefn yr adrannau eraill.
Yn drydydd, mae gofyn i chi roi sylw i gwestiwn tragwyddol y darllenydd, sef “Pam dylwn i gredu hwn?”. Yn ddelfrydol, byddwch chi’n gallu rhoi’ch hun yn rôl y person lletchwith i ddarllen eich gwaith eich hun. Y nod yw gofalu bod unrhyw honiadau rydych chi’n eu gwneud yn cael eu hategu neu eu tynnu oddi yno. Os gallwch chi ddarllen eich gwaith eich hun gan herio a gofyn cwestiynau anodd, byddwch chi’n fwy parod i weld y mannau lle mae angen mwy o dystiolaeth yn sail i’ch gosodiadau a’ch dehongliadau.
Drafft 2: Symleiddio a chwtogi ar wybodaeth a geiriau amherthnasol
Efallai fod rhannau o’ch gwaith yn wir, yn ddiddorol ac wedi’u hysgrifennu’n dda ond, os nad ydyn nhw wir yn berthnasol i brif ‘thema’ eich gwaith, mae’n well eu tynnu oddi yno. Efallai eich bod wedi treulio amser yn disgrifio un agwedd ar gyd-destun, theori, ymarfer neu brofiad, ond daw’n amlwg i chi wedyn nad yw’n berthnasol iawn i’ch prif ddadl neu’ch astudiaeth ymchwil. Waeth pa mor hoff ydych chi o’r darn hwnnw o’ch gwaith, rhaid i chi fod yn ddidrugaredd a’i ddileu.
Mae gweithredu fel hyn yn arfer dda ym mhob math o waith academaidd. Ond mae’n arbennig o ddefnyddiol pan mae angen i chi gwtogi ar nifer eich geiriau. Ar y cychwyn, mae’n well peidio â phoeni gormod am y terfyn geiriau. Ond pan fyddwch chi wrthi’n golygu eich gwaith wedyn, byddwch chi’n gweld llawer o enghreifftiau o eiriau, ymadroddion, paragraffau a hyd yn oed adrannau cyfan sy’n ddiangen. Tynnwch nhw er mwyn gwneud eich gwaith yn fwy perthnasol a’i gadw’n llifo mewn ffordd resymegol. Os byddwch chi’n poeni am golli deunydd a allai fod yn ddefnyddiol yn nes ymlaen, cadwch y testun mewn ffeil wrth gefn yn hytrach na’i ddileu’n llwyr.
Gallwch chi hefyd gwtogi ar nifer y geiriau drwy gadw’r iaith yn glir a syml.
Y fersiwn hir | Y fersiwn fyr |
---|---|
ar sail reolaidd | yn rheolaidd |
os oes posibilrwydd gwneud hynny o gwbl | os yw hynny’n bosibl |
mae’n hanfodol eich bod | rhaid i chi |
mae’n hanfodol eich bod | rhaid i chi |
cymryd rhywbeth i ystyriaeth | ystyried rhywbeth |
yn ystod y cyfnod yr oedd | tra’r oedd |
gwneud ymchwiliad i | ymchwilio i |
ganddo’r gallu i | yn gallu |
ar ddau dro gwahanol | ddwywaith |
sy’n dwyn yr enw | ei enw yw |
gwneud penderfyniad | penderfynu |
oherwydd bod | am fod |
rhad ac am ddim | am ddim |
Defnyddiwch Gymraeg sy’n naturiol ac yn hyderus. Defnyddiwch iaith bob-dydd a siaradwch yn uniongyrchol â’r darllenydd. Dilynwch y tair prif egwyddor sy’n dilyn:
- brawddegau byr
- berfau gweithredol
- osgoi defnyddio Saesneg yn y Gymraeg.
Brawddegau byr: Os byddwch chi’n cadw hyd eich brawddegau’n gymharol fyr (dim mwy na 25 gair yn y rhan fwyaf o’r brawddegau), byddwch chi’n gwneud eich gwaith ysgrifenedig yn fwy bywiog ac yn haws ei ddarllen a’i ddeall. Wrth ddarllen brawddegau hir, mae perygl weithiau fod rhaid i’r darllenydd fynd yn ôl i’r dechrau o hyd i wirio’r ystyr. Cadwch at yr egwyddor ‘un frawddeg : un syniad’.
Berfau gweithredol: Un ffordd dda o gadw’ch dogfennau Cymraeg yn fywiog, yn uniongyrchol ac yn hawdd eu deall yw defnyddio berfau gweithredol yn lle rhai goddefol. Mewn brawddeg oddefol, mae rhywun yn ‘dioddef’ y weithred, ond mae darn sy’n llawn o ferfau goddefol yn gallu bod yn ffurfiol, yn stiff ac yn anodd ei ddeall. Er enghraifft, byddai’r frawddeg oddefol:
Yn 2004, dechreuwyd 500 o brojectau ailgylchu newydd gan Gyngor Hyfrydle.
yn troi’n frawddeg weithredol drwy ysgrifennu:
Dechreuodd Cyngor Hyfrydle 500 o brojectau ailgylchu newydd yn 2004.
Mae’r ystyr yn gliriach yn yr ail frawddeg (yr un weithredol), ac mae’r frawddeg yn fwy cryno (10 gair yn lle 11 yn y frawddeg oddefol).
Dyma enghreifftiau eraill:
- Penderfynodd yr Asiantaeth roi’r projectau ar waith (nid Cafodd y penderfyniad ei wneud gan yr Asiantaeth i roi’r projectau ar waith)
- Agorodd y ffermwr ei dir i’r cyhoedd (nid Cafodd y tir ei agor i’r cyhoedd gan y ffermwr)
- Gofynnodd y Cyngor i’r bobl ailgylchu (nid Cafodd y bobl gais gan y Cyngor i ailgylchu)
Mae cwestiwn arall yn codi wrth ystyried y frawddeg olaf yn y rhestr, sef p’un a yw’n dderbyniol neu beidio i fyfyrwyr ddefnyddio person cyntaf y ferf, yn hytrach na’r trydydd person a berfau amhersonol yn ôl y patrwm traddodiadol. Hynny yw, a yw’n dderbyniol i fyfyriwr ysgrifennu ‘Penderfynais ddilyn y drefn...’ yn lle’r ffurf amhersonol ‘Penderfynwyd...’? Yr unig ateb yw holi staff eich adran, ac efallai fod modd i chi ofyn am farn yr arholwr a fydd yn marcio’ch traethawd hir. Efallai mai un patrwm derbyniol yw defnyddio’r trydydd person a’r amser amhersonol (Astudiodd, Gwelsant, Penderfynwyd, Agorwyd, ac ati) fel arfer, ond y person cyntaf mewn achosion lle’r ydych chi’n esbonio penderfyniad:
‘... gan fod y tywydd yn oerach na’r disgwyl, penderfynais ganolbwyntio ar gasglu data yn ystod yr oriau cyn ac ar ôl hanner dydd.’
Yn hyn o beth, mae arddull gwaith ysgrifenedig yn newid ac yn dod yn llai ffurfiol, yn enwedig mewn rhai meysydd academaidd. Mae’n bwysig, felly, eich bod yn holi am yr arferion sy’n dderbyniol yn eich maes penodol chi.
Osgoi defnyddio Saesneg yn y Gymraeg: Un o’r pethau sy’n gwneud dogfennau Cymraeg yn anodd eu deall yw ‘ysgrifennu Saesneg yn y Gymraeg’. Ystyr hyn yw bod rhywun yn defnyddio ymadroddion a threfn y Saesneg wrth ysgrifennu yn y Gymraeg. Dylanwad y Saesneg fel un o brif ieithoedd y byd sy’n gwneud i hyn ddigwydd, wrth i ni ‘gyfieithu’ yn uniongyrchol o’r Saesneg. Er enghraifft:
- yn lle sôn am ‘nifer cynyddol o amgylcheddau’ (an increasing number of environments), defnyddiwch ‘mwy a mwy o amgylcheddau’;
- yn lle ysgrifennu ‘cymryd rhywbeth i ystyriaeth’ (take something into consideration), defnyddiwch ‘ystyried rhywbeth’.
Ceisiwch gofio hyn wrth i chi ysgrifennu. Defnyddiwch eiriau, ymadroddion a threfn naturiol y Gymraeg.
(Addasiad yw’r canllawiau uchod o’r llyfryn Ysgrifennu’n glir: Canllawiau i bobl sy’n ysgrifennu dogfennau cyhoeddus yn eu gwaith. Mae’r llyfryn ar gael i’w lwytho i lawr o wefan Canolfan Bedwyr sef CanolfanBedwyr_Ysgrifennu_n_Glir.pdf, ac mae’n cynnig rhagor o arweiniad ynglŷn ag ysgrifennu mewn Cymraeg naturiol a chlir.)
Drafft 3: Golygu o safbwynt cysondeb
Mae traethawd hir yn ddogfen swmpus sy’n cael ei hysgrifennu dros gyfnod hir. Oherwydd hyn, mae problemau bron yn siŵr o godi o safbwynt cysondeb. Y mathau o elfennau i’w gwirio o safbwynt cysondeb yw:
- defnyddio trydydd person y ferf (yn hytrach na’r person cyntaf) yn gyson, heblaw am y mannau lle’r ydych chi wedi penderfynu defnyddio llais gwahanol;
- defnyddio amser y ferf yn gyson mewn un adran drwyddi draw, oni bai fod rheswm penodol dros newid;
- defnyddio penawdau ac is-benawdau’n gyson, a gofalu bod fformat y cyfan yn gyson;
- cadw hyd y gwahanol adrannau’n weddol gyson (nid o reidrwydd yn gyfartal);
- defnyddio pwyntiau bwled neu rifau rhestri’n gyson;
- cadw arddull yr holl gyfeirnodau’n gyson;
- cadw labeli a dull rhifo’r gwahanol atodiadau, y tablau, y diagramau, y ffigurau, y ffotograffau a’r eitemau eraill i gyd yn gyson.
Drafft 4: Dangoswch yr arwyddion a’r cysylltiadau
Mewn dogfen faith fel traethawd hir, mae dangos y gwahanol gysylltiadau’n arbennig o bwysig. Rydych chi’n cyflwyno llawer iawn o wybodaeth, ac mae’n annhebygol iawn y bydd y darllenydd yn gallu darllen y traethawd cyfan i gyd gyda’i gilydd. Mae’n werth i chi helpu’r darllenydd i greu a chadw darlun clir o’r gwaith ymchwil rydych chi’n ei ddisgrifio.
Dyma’r math o arwyddion i’w rhoi:
Yn y bennod yma, bydd disgrifiad manwl o’r dull. Mae disgrifiad o’r lleoliad lle y cafodd y data eu casglu’n dod ar ddechrau’r bennod. Yn dilyn wedyn mae disgrifiad o’r broses o recriwtio pobl ar gyfer yr astudiaeth. Bydd disgrifiad o holl elfennau’r arbrawf yn dilyn yn eu tro, gyda golwg ar brofiad pob unigolyn a gymerodd ran er mwyn darlunio pob un. Mae copïau o’r llythyrau, y taflenni gwybodaeth â’r ffurflenni rhoi caniatâd a ddefnyddiwyd yn Atodiad Ch. A daw’r bennod i ben gyda disgrifiad o...
Mae gosod arwyddion fel hyn yn ddefnyddiol yng nghyflwyniad eich traethawd ac ar ddechrau pob un o’r penodau. Mae’n ffordd o helpu’r sawl sy’n ei ddarllen i baratoi fframwaith yn ei feddwl ar gyfer yr holl ddeunydd y bydd yn ei ddarllen. Mae’n lleihau’r perygl o weld eich darllenydd yn gofyn i’w hun tybed pam rydych chi wedi methu â chynnwys rhywbeth, gan ddod ar ei draws o’r diwedd mewn lle annisgwyl. Mae hefyd yn ffordd o helpu’ch darllenydd i adnabod llif resymegol eich gwaith.
Mae dangos cysylltiadau’n ffordd o arwain y darllenydd drwy’r gwahanol adrannau neu’r paragraffau, gan dynnu sylw at fframwaith rhesymegol eich gwaith. Mae creu a chynnwys cysylltiadau perthnasol yn ffordd ddefnyddiol o roi prawf ar fframwaith rhesymegol eich gwaith. Os byddwch chi’n gweld mai mater gweddol syml yw cynnwys y cysylltiadau, mae’n debyg eich bod wedi trefnu’ch gwaith mewn ffordd resymegol a chydlynol. Os byddwch chi’n cael trafferth wrth wneud y cysylltiadau, efallai fod lle i chi ailfeddwl am y drefn.
Dyma’r math o gysylltiadau i’w cynnwys:
- Yn y bennod flaenorol, fe ddisgrifiais ... Yn y bennod hon, byddaf yn ...
- Y ddadl a oedd dan sylw yn yr adran ddiwethaf yw’r brif ddadl mae ymchwilwyr yn y maes yn ei defnyddio. Bydd yr adrannau nesaf yn disgrifio tair dadl arall y gellid eu defnyddio i’w hymestyn.
- Dyma’r cefndir o safbwynt y cyrff a oedd yn darparu gwasanaethau. Bydd yr adran nesaf yn archwilio’r cefndir o safbwynt y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau.
Mae pob un o’r cysylltiadau yma’n edrych yn ôl ac ymlaen fel ei gilydd. Maen nhw felly’n adolygu’r hyn sydd newydd gael ei ddweud, ac yn cyflwyno’r hyn sydd dan sylw nesaf. Fe allai rhywun ofni bod defnyddio’r math yma o gysylltiadau’n golygu gwastraffu geiriau. Ond, yn eironig ddigon, mae defnyddio’r math yma o eiriau ‘ychwanegol’ yn ffordd o ddefnyddio dull effeithiol iawn o osod eich cynnwys mewn fframwaith syml a chadarn iawn.
Golygu er mwyn cynyddu nifer y geiriau
Wrth olygu eich gwaith, efallai y byddwch chi’n teimlo bod rhai o’r adrannau’n rhy gryno ac arwynebol ac efallai fod lle i chi feddwl am eu hymestyn. Dyma rai o’r technegau y gallwch eu defnyddio:
- datblygu syniad sy’n ymddangos ar hyn o bryd mewn un frawddeg, ac ysgrifennu paragraff cyfan amdano;
- cynnwys mwy o sylwadau yn hytrach na disgrifiadau;
- bod yn fwy hael wrth osod arwyddion a chreu cysylltiadau a chrynodebau;
- gofyn y cwestiynau ‘os felly, pam?’ a ‘pam dylwn i gredu hyn?’, yna cynnig y sail resymegol ychwanegol sy’n ofynnol;
- meddwl mwy am oblygiadau eich gwaith ymchwil i’r theorïau, yr arferion yn y maes, neu’r ymchwil;
- meddwl mwy am y ffyrdd y gallech chi fod wedi gwneud y gwaith ymchwil yn well.
Mae’n hynod o bwysig bod y geiriau rydych chi’n eu hychwanegu’n codi safon academaidd eich traethawd, heb fod yn fater syml o lenwi lle gwag. Mae bod â lle i gynyddu nifer y geiriau’n gyfle ardderchog a chymharol brin i chi ddarllen eich gwaith o safbwynt yr arholwr. Ac i ychwanegu esboniadau lle’r ydych chi’n teimlo bod angen rhai.
Blino ar y gwaith golygu
Efallai y bydd adeg yn dod pan fyddwch chi’n teimlo eich bod wedi colli’r gallu i ddarllen eich gwaith yn feirniadol. Mae’n bwysig iawn eich bod yn cydnabod hyn. Nid oes fawr ddim pwrpas gwthio’ch hun i olygu’r gwaith os ydych chi wedi colli’r gallu i wneud hynny’n feirniadol. Pan fydd hyn yn digwydd, rhowch y traethawd o’r neilltu am rai dyddiau cyn dod yn ôl ato. Mae’n well o lawer gwneud y gwaith golygu mewn cyfres o gyfnodau byr, dwys ac effeithiol, na gwthio’ch hun i’w wneud i gyd gyda’i gilydd.
Drafft 5: Darllen proflenni
Darllen y proflenni (neu brawfddarllen) yw’r cam olaf yn y broses olygu. Mae gofyn ei wneud yn drefnus ac yn drwyadl, gan ei bod hi’n hawdd methu manylion sydd angen eu newid. Dyma bump o awgrymiadau a allai weithredu fel sail i’ch strategaeth wrth ddarllen proflenni.
- Ewch ati gan weithio o gam i gam. Canolbwyntiwch ar bob un o’r problemau posib yn eu tro, yn hytrach na cheisio adnabod y cyfan ar unwaith.
- Gwnewch eich gwaith darllen proflenni’n berthnasol i’ch gwaith ysgrifennu. Edrychwch ar waith ysgrifennu sydd eisoes wedi cael ei farcio, a rhestrwch y gwallau rydych chi’n tueddu i’w gwneud. Defnyddiwch y rhestr fel sail i’ch strategaeth darllen proflenni.
- Dyma rai enghreifftiau o’r problemau cyffredin:
- methu atalnodi’n gywir
- ailadrodd geiriau
- gwallau sillafu
- bwlch rhy fawr rhwng geiriau
- atalnodau ar goll neu yn y lle anghywir
- newid anaddas yn amser y ferf
- drysu’r ffurfiau unigol a lluosog
- peidio â chroesgyfeirio’r tudalennau’n gywir
- gadael cyfeirnod yn y rhestr ar ôl ei dynnu o’r testun.
- Gwiriwch fformat y cyfeirnodau. Rhaid i’r fformat fod yn addas, yn gywir ac yn gyson.
- Ac yn olaf, gwiriwch y tablau, y ffigurau, y diagramau, rhifau’r tudalennau, y rhestr gynnwys a’r atodiadau. A gwiriwch fod y cyfeirnodau’n cyfateb i’r rhai yn y testun.
Cyfeirnodau
- Barrass R. (1978) Scientists must write. Chapman a Hall: Llundain.
- Brookes I. a Marshall D. (2004) Good writing guide. Chambers: Caeredin.
- Wolcott H. (2001) Writing up qualitative research. Ail rifyn. Sage: Thousand Oaks.
Canllawiau
Yn ogystal ag unrhyw ganllawiau sydd ar gael yn eich adran, mae’n werth edrych ar y wefan yma:
- The Writing Centre. Prifysgol Gogledd Carolina yn Chapel Hill ar http://writingcenter.unc.edu/
Mae’r deunydd ar wefannau’n gallu newid neu gael ei ddileu, felly mae’n werth chwilio am ganllawiau newydd a pherthnasol.