Esbonio termau traethodau
Er mwyn gallu ysgrifennu traethawd da, rhaid i chi fod yn deall y cwestiwn yn y lle cyntaf. Rhaid i chi ddeall beth yn union mae’n rhaid i chi ei wneud. Drwy edrych ar y cwestiwn yn fanwl, byddwch chi’n gallu adnabod y testun dan sylw a’r geiriau pwysig sy’n cynnig cyfarwyddiadau i chi ynglŷn ag ateb y cwestiwn. Deall ystyr y geiriau pwysig yma yw’r cam hanfodol cyntaf yn y broses o ysgrifennu’ch traethawd.
Mae’r rhestr termau yma’n diffinio rhai o’r geiriau mwyaf cyffredin y gallwch chi ddod ar eu traws mewn cwestiynau traethodau. Cofiwch mai bwriad y diffiniadau yma yw rhoi arweiniad cyffredinol i chi, nid arweiniad manwl. Peidiwch â’u cymryd fel esgus i beidio â darllen pob cwestiwn yn ofalus. Os na fyddwch chi’n darllen y cwestiwn yn ofalus, mae perygl i chi golli pwyslais eich traethawd ac ysgrifennu un sy’n amherthnasol.
Defnyddiwch y rhestr termau yma ar y cyd â’r canllaw astudio: Ysgrifennu traethodau.
Term | Diffiniad |
---|---|
Adolygu / Adolygwch |
Mae’r gair ‘adolygu’ yn golygu ymchwilio’n drwyadl i bwnc. Wrth wneud y fath ‘adolygiad’, dylech chi fod yn feirniadol a pheidio â disgrifio’r pwnc yn unig. |
Amlinellu / Amlinellwch | Os oes gofyn i chi ‘amlinellu’ rhywbeth, disgrifiwch y prif bwyntiau gan roi pwyslais ar y strwythurau cyffredinol a’r berthynas rhyngddyn nhw. Peidiwch â manylu gormod. |
Archwilio / Archwiliwch | Mae’r term ‘archwilio’ yn golygu edrych ar rywbeth yn fanwl iawn a disgrifio’r prif ffeithiau a’r agweddau pwysig ar bwnc. Dylech chi bwyso a mesur yn feirniadol a cheisio esbonio pam mai’r ffeithiau a’r agweddau hynny yw’r rhai pwysicaf yn eich barn chi. Esboniwch hefyd y gwahanol ffyrdd o’u deall a’u dehongli. Wrth archwilio, mae gofyn i chi gwestiynu a meddwl am wahanol safbwyntiau. Lle bynnag y gallwch chi, dewch â safbwyntiau gwahanol at ei gilydd drwy gyflwyno llinell derfynol i’ch dadl. |
Asesu / Aseswch | Wrth ‘asesu’, mae gofyn i chi bwyso a mesur i ba raddau mae rhywbeth yn wir. Dylech chi geisio darbwyllo’ch darllenwr bod eich dadl yn gywir drwy ddyfynnu gwaith ymchwil sy’n berthnasol. Ond cofiwch dynnu sylw hefyd at unrhyw wendidau yn y gwaith, ac at ddadleuon sy’n rhoi safbwynt arall. Dylech chi gloi eich traethawd drwy nodi’n glir i ba raddau rydych chi’n cytuno â’r datganiad gwreiddiol. |
Crynhoi / Crynhowch | Mae ‘crynhoi’ rhywbeth yn golygu ysgrifennu fersiwn gryno ohono, gan roi sylw i’r prif ffeithiau a pheidio â chynnwys unrhyw wybodaeth sy’n llai pwysig. Wrth ateb y math yma o gwestiwn, byddai enghreifftiau byr neu gyffredinol yn ddigon. |
Cyferbynnu / Cyferbynnwch | Mae’r term ‘cyferbynnu’ yn debyg i’r term ‘cymharu’ ond mae’n golygu canolbwyntio ar y pethau sy’n gwneud dau neu fwy o bethau’n wahanol, neu’r hyn sy’n eu gosod ar wahân. Nodwch unrhyw wahaniaethau mawr. |
Cyfiawnhau / Cyfiawnhewch | Mae cyfiawnhau rhywbeth yn golygu cyflwyno tystiolaeth i ategu neu i danlinellu eich syniadau a’ch safbwyntiau. Er mwyn cyflwyno dadl gytbwys, rhowch sylw i safbwyntiau sy’n mynd yn groes i’ch rhai chi cyn cyfleu eich casgliad. |
Cymharu / Cymharwch | Wrth gymharu dau beth neu fwy, disgrifiwch y nodweddion sy'n eu gwneud yn debyg a’r rhai sy’n eu gwneud yn wahanol. Dywedwch a yw unrhyw rai o’r nodweddion yma’n bwysicach na’r lleill? Bydd amryw o gwestiynau traethodau’n gofyn i chi ‘gymharu’ a ‘chyferbynnu’ rhywbeth. |
Dadansoddi / Dadansoddwch | Mae ‘dadansoddi’ rhywbeth yn golygu ei rannu’n ddarnau. Edrychwch ar bob rhan yn fanwl gan ddisgrifio’r dadleuon a’r dystiolaeth o blaid ac yn erbyn pob un. Rhowch sylw hefyd i’r berthynas rhwng y gwahanol rannau. |
Dangos / Dangoswch sut mae | Mae nifer o gwestiynau traethodau’n gofyn i chi ‘ddangos sut mae’ rhywbeth wedi cael ei achosi. Mae gofyn i chi gyflwyno mewn trefn resymegol y camau yn y broses a disgrifio’r ffactorau sydd wedi cyfuno i’w achosi. Cyfeiriwch at y dystiolaeth berthnasol. |
Dehongli / Dehonglwch | Mae’r term ‘dehongli’ yn gyfle i chi ddangos eich bod yn deall cwestiwn neu bwnc. Efallai fod gofyn i chi ddehongli’r ffordd mae awdur neilltuol wedi defnyddio terminoleg arbennig. Neu efallai fod disgwyl i chi ddehongli darganfyddiadau gwaith ymchwil. Wrth ddehongli darganfyddiadau gwaith ymchwil, tynnwch sylw at unrhyw batrymau arwyddocaol neu’r berthynas rhwng dau beth sydd wedi achosi rhywbeth. |
Diffinio / Diffiniwch | Mae’r term ‘diffinio’ yn golygu esbonio ystyr rhywbeth yn fanwl gywir. Tynnwch sylw at unrhyw broblemau sy’n codi yn sgil y diffiniad ac at y gwahanol ffyrdd o’i ddehongli. |
Disgrifio / Disgrifiwch | Mae cwestiwn sy’n gofyn i chi ddisgrifio rhywbeth yn disgwyl i chi ddweud sut a pham mae rhywbeth yn digwydd. Efallai fod gofyn i chi roi disgrifiad manwl ohono hefyd. |
Egluro / Eglurwch | Mater yw hwn o wneud rhywbeth yn gliriach, a’i wneud yn symlach hefyd weithiau. Fe allai olygu, er enghraifft, esbonio proses neu theori gymhleth mewn geiriau symlach, neu esbonio’r berthynas rhwng dau beth gwahanol. |
Esbonio / Esboniwch | Term arall yw ‘esbonio’ sy’n gofyn i chi wneud pwnc yn gliriach drwy ddisgrifio’n fanwl sut mae’n digwydd, a pham. Efallai fod gofyn i chi ddisgrifio beth mae defnyddio’r term mewn cyd-destun arbennig yn ei olygu. Neu esbonio sut mae rhywbeth yn gweithio. Wrth ysgrifennu esboniad, defnyddiwch iaith glir i ddisgrifio gweithdrefn, digwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau sydd fel arall yn gymhleth. Diffiniwch y prif dermau os oes angen, a dyfynnwch o waith ymchwil perthnasol i gadarnhau eich esboniadau. Efallai fod gofyn hefyd i chi gynnwys enghreifftiau ac ystadegau i atgyfnerthu’ch esboniadau. |
Gwerthuso / Gwerthuswch (yn feirniadol) | Meddyliwch am y term ‘gwerthuso’ fel mater o bwyso a mesur rhywbeth. Bydd llawer o gwestiynau traethodau’n gofyn i chi ‘werthuso’n feirniadol’ hefyd. Mae gwneud hyn yn golygu esbonio i ba raddau mae gosodiad neu ddarganfyddiad mewn darn o waith ymchwil yn wir, ac esbonio i ba raddau rydych chi’n cytuno â’r gosodiad neu’r darganfyddiad. Edrychwch ar amryw o wahanol ffynonellau er mwyn casglu tystiolaeth sy’n ategu dadl, a thystiolaeth sy’n gwrth-ddweud y ddadl. Ffurfiwch eich casgliad terfynol eich hun, gan seilio’ch penderfyniad ar y ffactorau rydych chi’n eu gweld fel y rhai pwysicaf. Cofiwch gyfiawnhau eich dewis. |
I ba raddau... | Mae’r geiriau yma’n gofyn am yr un math o ateb â’r cwestiwn ‘Pa mor bell...’. Wrth gyflwyno’ch ateb i gwestiwn o’r fath, mae gofyn eich bod yn asesu’r dystiolaeth yn drwyadl. Rhowch sylw i esboniadau eraill os oes rhai ar gael. |
Manylu / Manylwch | Mae’r term ‘manylu’ yn gofyn i chi fod yn fwy manwl a chynnig mwy o wybodaeth am rywbeth. |
Nodi / Nodwch | Mae gwneud hyn yn golygu penderfynu ar y pwyntiau allweddol i’w trin a’u trafod, a gallu rhestru goblygiadau pob un. |
Rhowch sylwadau ar... | Mae gwneud hyn yn golygu didoli prif bwyntiau’r pwnc dan sylw, a chyfleu eich barn. Bydd disgwyl i chi atgyfnerthu eich safbwynt drwy ddefnyddio rhesymeg a chyfeirio at dystiolaeth berthnasol. Cofiwch gyfeirio at unrhyw ddogfennau rydych wedi’u darllen y tu hwnt i’r pwnc dan sylw. |
Trafod / Trafodwch | Mater yw hwn o drafod yn ysgrifenedig. Byddwch chi’n defnyddio’ch gallu i resymu ac yn cynnig tystiolaeth rydych chi wedi’i dewis yn ofalus fel sail i’r achos o blaid ac yn erbyn y ddadl dan sylw. Efallai hefyd y byddwch chi’n tynnu sylw at fanteision ac anfanteision rhyw gyd-destun penodol. Cofiwch ffurfio casgliad ar y diwedd. |
Ystyried / Ystyriwch | Os bydd cwestiwn traethawd yn gofyn i chi ‘ystyried’, bydd disgwyl i chi roi eich barn ar rywbeth. Rhowch dystiolaeth addas o ffynonellau allanol neu o’ch profiad personol fel sail i’ch sylwadau. Cynhwyswch unrhyw safbwyntiau sy’n groes i’ch safbwynt eich hun, a disgrifiwch y berthynas rhyngddyn nhw â’ch barn wreiddiol eich hun. |
Cyfeiriadau
Education Enhancement, U. of E., Instruction words for essays: definitions. Essay Writing, Interactive resource. Ar gael yma: http://ismedia.exeter.ac.uk/flash/ee/skills/Essay Writing/data/downloads/instruction
Johnson, R., (1996) Essay instruction terms. Cyrchwyd 22/02/08. http://www.mantex.co.uk/samples/inst.htm
Canterbury Christ Church University, 2017a. ACADEMIC LEARNING DEVELOPMENT GUIDANCE NOTES 13 COMMON ESSAY QUESTION TERMS 1. Ar gael yma: https://www.canterbury.ac.uk/students/docs/study-skills/resource-5-Common-Essay-Question-Terms.pdf [Cyrchwyd Tachwedd , 2018].
Canterbury Christ Church University, 2017b. ACADEMIC LEARNING DEVELOPMENT GUIDANCE NOTES 14 COMMON ESSAY QUESTION TERMS 2. Ar gael yma: https://www.canterbury.ac.uk/students/docs/study-skills/resource-6-Common-Essay-Question-Terms.pdf[Cyrchwyd Tachwedd , 2018].
University College London, 2016. Instruction Terms (Essay Writing). Study Skills. Ar gael yma: https://www.ucl.ac.uk/transition/study-skills-resources/Instruction_Terms__Essay_Writing_.pdf [Cyrchwyd Medi 4, 2017].