Projectau grŵp llwyddiannus
Cafodd y canllaw astudio yma’i ysgrifennu i fyfyrwyr sy’n gwneud projectau grŵp fel rhan o’u cwrs. Bydd yn eich helpu i reoli eich gweithgareddau grŵp yn effeithiol, gan wella’i berfformiad a gwneud y gorau o asesiadau grŵp.
Canllawiau defnyddiol eraill:
Gwaith grŵp yn y brifysgol
Bydd disgwyl i chi weithio gyda myfyrwyr eraill yn eithaf aml, fel rhan o’ch cwrs. Mae tiwtorialau a seminarau’n dibynnu ar drafodaethau grŵp, tra bod projectau grŵp yn golygu gweld myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gwblhau darn o waith i’w asesu. Mae’r canllaw yma’n canolbwyntio’n bennaf ar brojectau grŵp sy’n golygu gwneud gweithgareddau fel:
- gwneud gwaith ymchwil ac ysgrifennu adroddiad amdano;
- dyfeisio arbrawf a'i gofnodi’n ysgrifenedig;
- dilyn briff dylunio i ddylunio cynnyrch neu wasanaeth newydd.
Mae projectau grŵp yn aml yn golygu cyflawni tasg sylweddol dros gyfnod hir. Efallai bydd gofyn i chi reoli’ch gwaith eich hun yn annibynnol ar eich staff addysgu. Ac efallai bydd canlyniadau gwaith eich grŵp (adroddiad, poster neu gyflwyniad) yn cael ei asesu mewn nifer o wahanol ffyrdd. Bydd y canllaw yma’n cynnig cyngor ar ddulliau asesu’n nes ymlaen.
Manteision gwaith grŵp
Waeth beth yw patrwm y gwaith grŵp ar eich cwrs, mae cael cyfle i weithio gyda phobl eraill yn hytrach na gweithio ar eich pen eich hun, yn gallu bod yn fanteisiol iawn. Ymhlith y manteision mae.
- Gwella perfformiad a’ch gwneud yn fwy cynhyrchiol: mae grwpiau sy’n gweithio’n dda gyda’i gilydd yn gallu cyflawni llawer mwy nag unigolion yn gweithio ar eu pennau eu hunain. Mae dewis gwell o wahanol sgiliau ar gael i wneud gweithgareddau ymarferol. Ac mae trafod a rhannu syniadau’n gallu bod yn ffordd allweddol o’ch helpu i ddeall maes pwnc penodol.
- Datblygu sgiliau: bydd bod yn aelod o dîm yn eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau rhyngbersonol fel siarad a gwrando. Mae’n ffordd o ddatblygu sgiliau gwaith tîm fel y gallu i arwain a’r gallu i weithio gyda phobl eraill ac i’w hysgogi. Bydd rhai o’r sgiliau yma’n ddefnyddiol drwy gydol eich gyrfa academaidd, ac mae cyflogwyr yn cydnabod gwerth pob un.
- Dysgu mwy amdanoch eich hun: bydd cydweithio â phobl eraill yn gyfle i chi adnabod eich cryfderau a’ch gwendidau eich hun. Er enghraifft, efallai eich bod yn arweinydd da ond yn llai parod i wrando. Neu efallai fod ‘y syniad mawr’ yn dod i’ch meddwl yn rhwydd, ond rydych chi’n cael trafferth ei roi ar waith. Bydd cyfle i ddysgu mwy amdanoch eich hun yn eich helpu i ddysgu’n well. A bydd yn hynod o werthfawr pan ddaw’r adeg pan fyddwch chi’n ysgrifennu eich CV neu’n llenwi ffurflenni cais am swydd.
Er mwyn manteisio i’r eithaf, bydd gofyn i chi reoli'ch gwaith grŵp yn effeithiol.
Y camau mewn gwaith grŵp
Er mwyn gwarantu canlyniad llwyddiannus i’ch gwaith grŵp, byddai’n ddefnyddiol i chi rannu’ch gweithgareddau’n gyfres o gamau:
- ymgyfarwyddo;
- cynllunio a pharatoi;
- rhoi ar waith;
- cwblhau.
Drwy reoli pob un o’r camau yma’n ofalus byddwch chi’n gwella perfformiad eich grŵp yn arw.
Y cam cyntaf – Ymgyfarwyddo
Dyma’r cam lle mae gwahanol aelodau’r grŵp yn dod i adnabod ei gilydd ac yn dechrau dod i ddeall y dasg mae disgwyl iddyn nhw ei chyflawni. Bydd mynd ati yn ystod y cam yma i drafod diddordebau a sgiliau pob unigolyn yn hynod o werthfawr ac yn helpu i greu synnwyr o gymeriad y grŵp (gan gynnwys ei gryfderau a’i wendidau).
Gwnewch yn siŵr bod pob unigolyn yn deall yr hyn mae gofyn iddo ei gyflawni. Meddyliwch am:
- y cynnyrch: hynny yw, adroddiad, cyflwyniad llafar neu boster
pa ganllawiau sydd wedi cael eu gosod gan eich adran i arwain y gwaith yma? - yr amserlen: hynny yw, dyddiad y cyflwyniad terfynol neu ddyddiad cyflwyno’r gwaith
what things need to be done before you hand in your work?
how much time should you spend on the group project in relation to your other commitments? - yr asesiad: hynny yw, y ffordd y bydd eich gweithgareddau neu’ch cynnyrch yn cael eu marcio
ydych chi’n gwybod y meini prawf asesu?
a fyddwch chi’n cael eich asesu fel grŵp neu fel unigolion?
Os yw’ch grŵp yn awyddus i gael esboniad o unrhyw rai o'r materion yma, yna ewch at diwtor eich cwrs.
Yr ail gam – Cynllunio a pharatoi
Dyma’r cam pan ddylai’ch grŵp gynllunio’r union dasgau sydd i’w cyflawni, y ffordd y dylai'r tasgau gael eu cyflawni, a phwy sydd i gyflawni pob un. Rhowch sylw arbennig i’r pethau yma:
- cytunwch ar wahanol elfennau’r dasg (er enghraifft, efallai fod creu poster yn golygu elfennau fel gwneud gwaith ymchwil cefndirol, ysgrifennu testun, creu cynllun, graffiau a delweddau cyffredinol, a dod â’r cyfan at ei gilydd yn y pen draw);
- cytunwch ar y ffordd orau o gyflawni’r tasgau yma drwy ofyn i aelodau’r grŵp fod yn gyfrifol am y gwahanol elfennau. Gwnewch yn siŵr bod pawb yn cael rolau tebyg sy’n cymryd tua’r un faint o amser;
- gwnewch y gorau o’r gwahanol fathau o arbenigedd sydd gan aelodau’r grŵp drwy rannu’r tasgau yn ôl eu gwahanol sgiliaus;
- ewch ati i greu cynllun gweithredu sy’n rhestru’r holl dasgau mae gofyn eu gwneud ac erbyn pa ddyddiad, hyd at y dyddiad cwblhau terfynol.
Y trydydd cam – Rhoi ar waith
Tra bod aelodau’r grŵp yn gwneud eu gwahanol dasgau, bydd gofyn i’r grŵp gadw synnwyr o’i bwrpas mewn cof. Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol, yn arbennig pan mae gweithgareddau’r grŵp yn digwydd dros gyfnod hir o amser. Dyma rai awgrymiadau i hwyluso cyfathrebu.
- Yn nyddiau cynnar y project, dylai'r naill aelod o’r grŵp a’r llall rannu eu cyfeiriadau, eu rhifau ffôn a’u cyfeiriadau e-bost.
- Os yw hynny’n bosibl, ewch ati i greu rhestr ddosbarthu e-bost fel bod aelodau’r grŵp yn gallu cyfathrebu â’i gilydd yn gyflym pan mae problemau’n codi.
- Dylech chi gynnal cyfarfodydd rheolaidd o’r grŵp cyfan i wirio sut ydych chi’n dod yn eich blaen ac i adolygu’r cynlluniau gweithredu. Ysgrifennwch nodiadau yn y cyfarfodydd yma er mwyn helpu i gofnodi trafodaethau cymhleth.
Y pedwerydd cam – Cwblhau
Cam olaf eich project yw’r un anoddaf yn aml, ac efallai fod gofyn ffordd wahanol o’i reoli. Bydd yn hanfodol i chi roi sylw gofalus i'r manylion, gan roi’r wedd derfynol ar yr holl dasgau ac adolygu’r project cyfan yn hytrach na’r elfen roeddech chi’n gweithio arni. Mae’n bwysig bod y grŵp yn dod yn ôl at ei gilydd yn ystod y cam yma i gytuno ar gynllun gweithredu newydd ar gyfer y tasgau olaf un.
Datrys problemau
Mae grwpiau’n gallu mynd i drafferthion ar brydiau, ac mae’n werth cadw rhai o’r problemau (a’r atebion addas) mewn cof o’r cychwyn cyntaf. Mae rhai o’r anawsterau mwyaf cyffredin yn y rhestr sy’n dilyn.
- Rhannu’r gwaith mewn ffordd annheg, neu sefyllfa lle mae rhai o aelodau'r grŵp yn gwneud mwy o waith na’r lleill: mae’r fath sefyllfa’n gallu arwain at ddrwgdeimlad os yw un aelod yn teimlo ei fod yn gwneud y cyfan o’r gwaith caled neu os yw’r grŵp yn teimlo nad yw un neu ddau o’r aelodau’n tynnu eu pwysau. Defnyddiwch eich cyfarfodydd i wirio bod pawb yn fodlon ar eu llwyth gwaith. Trafodwch unrhyw broblemau’n agored, gan ofalu bod y grŵp cyfan yn rhoi sylw iddyn nhw heb roi pwysau ar unigolion.
- Gwrthdaro rhwng y gwahanol aelodau o’r grŵp: mae amryw o bethau’n gallu achosi gwrthdaro. Efallai fod dau aelod yn cystadlu i arwain y grŵp, neu fod pobl yn methu cytuno ar y camau ymlaen. Peidiwch ag ofni trefnu bod dau neu fwy o’r aelodau’n cymryd tro i arwain y grŵp, neu chwilio am ffyrdd eraill o gymodi os yw barn yr aelodau’n wahanol. Dylai’ch camau gweithredu fel grŵp fod yn hyblyg ac yn ddemocrataidd, nid yn anhyblyg dan ofal un arweinydd penderfynol.
- • Mynd ati fel grŵp cyfan i gyflawni tasgau amhoblogaidd: mae ceisio gweithredu fel grŵp i wneud rhai tasgau fel ysgrifennu drafftiau cyntaf dogfennau neu i chwilio’n fanwl am ryw wybodaeth, yn arbennig o anodd. Cofiwch am y pethau sy’n cyfyngu ar allu grŵp i weithredu. Peidiwch ag ofni dirprwyo cyfrifoldebau a thasgau i unigolion.
Os byddwch chi’n teimlo bod y problemau’n drech na’r grŵp, ewch bob tro i ymgynghori â thiwtor eich cwrs. Mae llais annibynnol yn aml yn gallu tawelu’r dyfroedd a helpu’ch grŵp i droi ati unwaith eto.
Gwneud y gorau o’r broses asesu
Mae’n bosib asesu gwaith grŵp mewn nifer o wahanol ffyrdd. Y ffordd fwyaf cyffredin yw gofyn i’r grwpiau greu un darn o waith i’w asesu (sy’n gallu bod yn gyflwyniad llafar neu’n adroddiad ysgrifenedig). Ar ben hynny, efallai fod gofyn i aelodau’r grŵp gyflwyno adroddiad personol ar eu gwaith (sy’n gallu bod yn adroddiad arall neu’n ddyddiadur gwaith). Ffordd arall o asesu gwaith grŵp yw cynnal ‘viva’ lle mae grwpiau bach yn cael eu cyfweld gyda’i gilydd er mwyn trafod eu gwaith, neu sefyllfa sy’n golygu bod aelodau’r grŵp yn cael eu cyfweld yn unigol er mwyn trafod eu cyfraniadau.
Cynllunio cyflwyniadau llafar effeithiol
Os byddwch chi’n rhoi cyflwyniad fel grŵp, gwnewch yn siŵr eich bod wedi’i ysgrifennu fel grŵp ac wedi ymarfer ei gyflwyno. Rhannwch y baich siarad yn hytrach na gofyn i un aelod o’r grŵp wneud y cyfan o’r gwaith (oni bai fod gormod o bobl yn eich grŵp ac nad oes digon o amser i bawb gael cyfle i siarad). Dewiswch fannau cyfleus i symud at y siaradwr nesaf. Defnyddiwch y gwahanol leisiau i osod patrwm eich cyflwyniad (er enghraifft, gallai un aelod gyflwyno'r cyflwyniad, ail aelod y brif drafodaeth, a thrydydd y casgliadau). Yn olaf, defnyddiwch osodiadau cysylltu effeithiol i gyhoeddi eich bod yn symud at y siaradwr nesaf, er enghraifft:
Rydyn ni wedi edrych hyd yma ar y dulliau y gwnaethon ni eu defnyddio yn ystod y broses ddylunio. Rwy’n mynd i ofyn i Meinir sôn yn awr am nodweddion y cynnyrch terfynol.Ysgrifennu adroddiad grŵp
Mae ysgrifennu adroddiad grŵp yn gallu bod yn ddigon heriol. Os byddwch chi’n gofyn i wahanol aelodau o’r grŵp ddrafftio’r gwahanol benodau neu adrannau, bydd gofyn i chi ddewis rhywun i fod yn gyfrifol am ddod â’r gwahanol ddarnau at ei gilydd ar y diwedd. Mae gwaith golygu manwl yn hanfodol yn y cam olaf yma er mwyn gofalu bod y ddogfen derfynol yn gyson ac yn rhesymegol. Ymhlith y pethau pwysig i fod yn wyliadwrus yn eu cylch mae:
- ystyried a yw'r awduron wedi defnyddio'r un arddull ysgrifennu (amser, llais a pherson y berfau)?
- a yw’r naill adran yn arwain mewn ffordd resymegol at yr un sy'n ei dilyn?
- a yw’r awduron wedi bod yn gyson wrth ddefnyddio cyfeirnodau, unedau, byrfoddau a rhifau?
Bydd gofyn i chi sicrhau eich bod wedi gadael digon o amser ar gyfer y cam terfynol yma.
Paratoi ar gyfer eich viva
Os oes disgwyl i chi drafod perfformiad eich grŵp mewn viva, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod at eich gilydd i gynllunio ar ei gyfer yn yr un ffordd ag yr oeddech chi'n cynllunio'r gwaith arall. Bydd hwn yn gyfle i chi roi sylw i broblemau fel rhannu cyfrifoldebau, rheoli amser a chwblhau tasgau. Defnyddiwch eich nodiadau o’ch cyfarfodydd grŵp i bwyso a mesur perfformiad eich grŵp. Tynnwch sylw at yr agweddau negyddol yn ogystal â’r rhai cadarnhaol (nid oes unrhyw grŵp bob amser heb ei fai a heb ei broblemau). Cofiwch siarad am berfformiad eich grŵp fel grŵp, yn hytrach na thrafod perfformiad gwahanol aelodau’r grŵp.
I grynhoi
Bydd y sgiliau y byddwch chi’n eu casglu ar ôl llwyddo i reoli gwaith grŵp yn ddefnyddiol iawn yn eich gyrfa academaidd ac ym myd gwaith. Mae’n hanfodol eich bod yn rheoli eich gwaith grŵp yn effeithiol, gan gynllunio’r gwahanol gamau ym mhob un o’i weithgareddau. Mae'n werth manteisio ar y cyfle i drafod sut bydd eich grŵp yn cydweithio er mwyn helpu i greu tîm sy’n gweithredu mewn ffordd adeiladol. Bydd y strategaethau cynllunio, cyfathrebu a datrys problemau a oedd dan sylw yn y canllaw yma’n helpu eich grŵp i weithio mewn ffordd gynhyrchiol i gwblhau ei dasg.