Gwella’ch sgiliau darllen
Bydd gwella’ch sgiliau darllen yn eich helpu i ddarllen yn gynt, ac yn eich galluogi i ddarllen mewn ffordd bendant ac i ddewis a dethol. Byddwch hefyd yn gallu deall llawer mwy a chanolbwyntio’n well. Mae’r canllaw yma’n dangos sut gallwch chi fod yn fwy effeithiol ac effeithlon wrth ddarllen, drwy ddefnyddio llawer o wahanol sgiliau darllen.
Efallai bydd y canllaw yma’n ddefnyddiol i chi:
Darllen ar gyfer astudio
Rydych chi eisoes yn defnyddio gwahanol ddulliau darllen yn eich bywydau bob-dydd. Wrth ddarllen nofel, efallai byddwch yn dewis darllen yn fanwl a chanolbwyntio ar bob un o’r geiriau mewn dilyniant, o’r dechrau i’r diwedd. Os mai cylchgrawn rydych chi’n ei ddarllen, efallai byddwch chi’n bodio drwy’r tudalennau i weld pa erthyglau sy’n apelio atoch. Pan fyddwch chi’n chwilio am enw penodol yn y llyfr ffôn byddwch chi’n anwybyddu pob enw arall ac yn canolbwyntio’n llwyr ar ddod o hyd i’r enw hwnnw. Mae’n bosib defnyddio’r sgiliau darllen bob-dydd yma gyda’ch gwaith coleg.
I wella’ch sgiliau darllen mae angen i chi:
- osod nod glir wrth ddarllen;
- dewis y testunau cywir;
- defnyddio’r dull cywir o ddarllen;
- defnyddio technegau ysgrifennu nodiadau.
Y nod wrth ddarllen
Mae gosod nod glir wrth ddarllen yn gallu gwneud y broses yn fwy effeithlon. Ni fydd popeth sydd mewn print yn ddefnyddiol. Defnyddiwch eich nod ddarllen i ddewis gwybodaeth a blaenoriaethu yn ôl y dasg sydd o’ch blaen.
Mae nod ddarllen yn gallu bod:
- yn bwnc traethawd neu seminar;
- yn grynodeb o adroddiad;
- yn faes pwnc rydych wedi’i ddewis;
- yn gyfres o gwestiynau am bwnc penodol.
Defnyddiwch eich nod ddarllen i’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth sy’n berthnasol i’r dasg dan sylw.
Dewis testun
Bydd angen i chi asesu’r testun i weld a oes gwybodaeth ynddo sy’n berthnasol i’ch nod ddarllen arbennig chi.
- Gwiriwch y dyddiad cyhoeddi. A yw’r wybodaeth yn ddiweddar?
- Darllenwch ddisgrifiad y cyhoeddwr ar y cefn neu ar y tu mewn i gael darlun cyffredinol o’r cynnwys.
- Gwiriwch y dudalen gynnwys i chwilio am y penodau perthnasol.
- Chwiliwch am y rhannau o’r mynegai sy’n sôn am eich pwnc.
Os nad yw’r testun yn ymddangos yn berthnasol, gallwch ei anwybyddu.
Unwaith byddwch chi wedi dewis testun gallwch chi ddefnyddio technegau fel sganio a sgimio i’ch helpu i ddod o hyd i’r rhannau i’w darllen yn fwy manwl.
Sganio
Mae sganio’n dechneg y byddech yn ei defnyddio, efallai, wrth ddarllen y llyfr ffôn. Rydych yn bwrw golwg cyflym dros ran o’r testun i ddod o hyd i eiriau neu ymadroddion penodol sy’n berthnasol i’r dasg dan sylw. Gallwch chi sganio:
- cyflwyniad neu ragair y testun;
- paragraff cyntaf neu olaf y bennod;
- pennod olaf y testun neu’r bennod sy’n crynhoi’r cyfan;
- mynegai’r llyfr.
Sgimio
Sgimio yw’r broses o ddarllen yn gyflym er mwyn deall y testun yn fras. Gadewch i’ch llygaid neidio dros frawddegau neu ymadroddion manwl. Canolbwyntiwch ar adnabod y prif bwyntiau neu’r pwyntiau canolog. Defnyddiwch y dechneg yma:
- i gael cipolwg ar ran o’r testun cyn ei darllen yn fanwl;
- i’ch atgoffa’ch hun o ran o’r testun ar ôl ei darllen yn fanwl.
Darllen manwl ac ysgrifennu nodiadau
Cyn gynted ag y byddwch chi wedi dewis y wybodaeth ddefnyddiol, gallwch ddechrau darllen yn fanwl. Mae technegau ysgrifennu nodiadau’n gallu’ch helpu i ddarllen. Defnyddiwch y canlynol:
- tanlinellu ac amlygu testun i ddewis y geiriau a’r ymadroddion pwysicaf. Gwnewch hyn yn eich copi personol o’r testun neu ar lungopïau – peidiwch ag ysgrifennu ar destunau rydych wedi eu cymryd ar fenthyg;
- geiriau allweddol i gofnodi’r prif benawdau wrth ddarllen. Defnyddiwch un neu ddau o eiriau allweddol i bob prif bwynt. Gallwch ddefnyddio geiriau allweddol pan nad ydych eisiau ysgrifennu ar y testun;
- cwestiynau i’ch annog i ddarllen yn weithredol. Cofnodwch eich cwestiynau wrth ddarllen. Gallwch eu defnyddio hefyd i’ch atgoffa wrth wneud gwaith dilynol;
- crynodebau i wneud yn siŵr eich bod yn deall yr hyn rydych wedi’i ddarllen. Oedwch ar ôl darllen rhan o’r testun, ac ysgrifennwch y cynnwys yn eich geiriau eich hun. Sgimiwch dros y testun i wneud yn siŵr bod eich crynodeb yn gywir, gan lenwi unrhyw fylchau mawr.
Mae’r technegau yma’n eich annog i ddarllen y testun mewn ffordd weithredol, a byddan nhw’n gofnod defnyddiol o’r hyn rydych wedi’i ddarllen. Ceisiwch osgoi darllen darnau hir o destun yn oddefol (heb roi’ch sylw llawn arno) – nid yw’n ffordd effeithiol o ddefnyddio’ch amser. Defnyddiwch dechneg ysgrifennu nodiadau bob amser fel eich bod yn gallu canolbwyntio’n well a deall mwy.
Cyflymu’r darllen
Mae gwella sgiliau darllen yn bwysicach na darllen yn gynt. Bydd canolbwyntio wrth ddarllen a gallu dewis a dethol yn eich helpu i leihau’r amser rydych yn ei dreulio’n darllen. Yn ogystal â defnyddio dewis helaeth o wahanol sgiliau darllen, bydd y technegau canlynol yn eich helpu i ddarllen yn gynt.
Rydyn ni’n darllen, ar gyfartaledd, tua 240-300 gair y munud. Mae llygad y darllenwr cyfartalog yn gallu oedi ar bob gair unigol, ac mae’n gallu gweld ac adnabod 4 neu 5 gair ar y tro yn hawdd.
Os ydych chi’n awyddus i ddarllen yn gynt, y gyfrinach yw cynyddu nifer y geiriau rydych chi’n eu gweld ar y tro, nid cyflymu symudiad eich llygaid ar draws y dudalen. Ffordd syml o ddatblygu’r gallu i ddarllen mwy nag un gair ar y tro yw dilyn y canllaw yma:
- rhannwch un dudalen ar ei hyd, yn dair rhes;
- gwnewch ddwy linell i lawr y dudalen;
- gan ddefnyddio pen neu bensil fel pwyntydd, darllenwch bob llinell o’r testun gan adael i’ch llygad syrthio dim ond yng nghanol pob un o’r tair adran, wrth i’ch pwyntydd ddangos pob un yn ei thro.
Dod i ddarllen yn gynt
- Peidiwch â phoeni am geisio darllen yn gyflym . Canolbwyntiwch ar ddarllen y llinell mewn tri cham (4 neu 5 gair ar y tro) yn unig.
- Pan fydd hyn yn teimlo’n fwy naturiol, ceisiwch ymarfer y dechneg heb y llinellau.
- Yn nes ymlaen, ceisiwch ddarllen y llinell mewn dau gam yn lle tri.
- Cyn gynted ag y byddwch yn cynefino â darllen mwy o eiriau ar y tro, byddwch chi’n sylwi hefyd eich bod yn darllen yn gynt.
Crynodeb
- Ewch ati i ddarllen mewn ffordd bendant. Gosodwch eich nod wrth ddarllen.
- Edrychwch yn fras drwy’r testun cyn treulio amser yn ei ddarllen yn fanwl.
- Sganiwch a sgimiwch i ddewis y testun i’w ddarllen yn fanylach.
- Sganiwch a sgimiwch ar ôl darllen yn fanwl i wneud yn siŵr eich bod wedi deall.
- Defnyddiwch ddull o ysgrifennu nodiadau wrth ddarllen yn fanwl. Bydd yn eich helpu i ganolbwyntio a deall, a bydd yn gweithredu fel cofnod o’ch darllen.
- Mae gosod nod glir wrth ddarllen a defnyddio dewis da o sgiliau darllen yn bwysicach na dysgu darllen yn gynt.
- I’ch helpu i ddarllen yn gynt, peidiwch â gorfodi’ch llygaid i symud yn gynt ar draws y dudalen. Hyfforddwch eich llygaid i adnabod mwy o eiriau ar y tro.