Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Gwneud y gorau o’ch darlithoedd

Bydd y canllaw yma’n dangos sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar eich darlithoedd drwy ddefnyddio sgiliau gwrando gweithredol a thechnegau ar gyfer ysgrifennu nodiadau effeithiol. Bydd y sgiliau yma’n eich helpu i greu nodiadau clir a defnyddiol a fydd yn help i chi ym mhob agwedd ar eich astudiaethau.

Pwrpas darlithoedd

LMae darlithoedd yn cael eu defnyddio’n bennaf i roi:

  • darlun cyffredinol o bwnc – bydd disgwyl i chi ddod o hyd i’r manylion;
  • gwybodaeth fanwl am bwnc – bydd disgwyl i chi lenwi’r bylchau o ran cefndir.

Mae darlithoedd yn adnodd gwerthfawr. Maen nhw’n gallu crynhoi safbwynt nifer o ymchwilwyr a gwerslyfrau, neu gyflwyno gwybodaeth newydd neu wybodaeth sydd heb ei chyhoeddi.

Bydd y canllaw yma’n dangos sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar eich darlithoedd drwy ddilyn pedwar prif gam:

  • paratoi ar gyfer darlithoedd;
  • gwrando mewn darlithoedd;
  • ysgrifennu nodiadau;
  • gwneud gwaith dilynol ar ôl y darlithoedd.

Paratoi ar gyfer darlith

Dewch yn gyfarwydd â’ch cwrs

Ceisiwch ddod i wybod sut mae’ch darlithoedd yn perthyn i weddill y cwrs.

  • Ydy’r seminarau neu’r tiwtorialau’n eich paratoi ar gyfer y ddarlith neu ydyn nhw’n datblygu cynnwys y ddarlith?
  • Oes cyfleoedd i drafod y ddarlith a’i chynnwys yn eich seminarau?

Darllenwch lawlyfr y modiwl i gael mwy o wybodaeth, neu holwch eich tiwtor.

Darllen cyn mynd i’r ddarlith

Ydy’r darlithydd wedi awgrymu unrhyw ddogfennau i chi eu darllen cyn dod i’r ddarlith? Bydd darllen ymlaen llaw yn gwneud cynnwys y ddarlith yn fwy perthnasol, a bydd yn cynnig fframwaith i chi ddod i gasgliadau a chymharu safbwyntiau. Os yw’r ddarlith yn rhan o gyfres, dylech chi ailddarllen eich nodiadau ar y ddarlith flaenorol.

Gwrando mewn darlith

Dylai gwrando ar y ddarlith gael blaenoriaeth dros ysgrifennu nodiadau. Os byddwch chi’n gwrando’n effeithiol byddwch chi’n deall cynnwys y ddarlith yn well, a bydd hynny’n eich helpu i ysgrifennu nodiadau clir a defnyddiol a fydd yn gwneud synnwyr ar ôl y ddarlith.

Gwrando er mwyn adnabod y strwythur

Pan fyddwch chi’n gwrando ar ddarlith, ceisiwch ganolbwyntio ar strwythur neu batrwm y cynnwys. Weithiau mae’r darlithydd yn egluro’r strwythur ar y dechrau, naill ai ar ffurf rhes o benawdau neu fel crynodeb byr o’r cynnwys. Nodwch y strwythur ar bapur yn syth. Bydd hyn yn eich helpu i ddilyn y ddarlith, ac yn ffordd i chi ragweld pwyntiau neu gael hyd i’ch lle eto pe baech chi’n mynd ar goll.

Yn ystod y ddarlith, efallai bydd y darlithydd yn defnyddio arwyddion neu gliwiau llafar wrth osod strwythur y cynnwys, er enghraifft:

"I ddechrau, dw i’n mynd i drafod..."; "Fy mhwynt nesaf ydy ..."; "Yn olaf ...".

Mae’r arwyddion yma’n dangos pwynt newydd a gallwch ei gofnodi yn eich nodiadau. Arwyddion eraill posibl:

  • oedi i ddynodi pwynt neu bennawd newydd;
  • crynhoi’r hyn mae wedi’i ddweud cyn symud ymlaen.

Mae arwyddion ieithyddol eraill, sy’n llai amlwg efallai, yn ffordd o’ch helpu i strwythuro’ch nodiadau. Bydd angen i chi wrando’n astud i’w hadnabod. Dyma rai enghreifftiau:

"Ar y llaw arall ..."; "Mae ymchwilwyr eraill wedi awgrymu ... " ; "Dewch i ni droi ein golwg at ...".

Bydd y darlithydd yn defnyddio rhai geiriau ac ymadroddion i ddangos ei fod yn rhoi enghraifft i chi:

"un enghraifft o hyn yw ..."; "mae hyn i’w weld pan ..."; "gallwn ni weld tystiolaeth o hyn yn ...".

Bydd eich gallu i wrando’n gwella wrth i chi ddod yn fwy profiadol. Byddwch chi’n gallu adnabod yn well y mannau lle mae’r darlithydd yn gwyro o’r pwnc, neu’r enghreifftiau ychwanegol. A byddwch chi’n gallu pwysleisio’r rhain yn eich nodiadaus.

Ysgrifennu nodiadau

Peidiwch ag ysgrifennu nodiadau sy’n rhy fanwl. Bydd yn anodd mynd yn ôl wedyn a gweithio gyda thrawsgrifiad hynod o fanwl. Bydd y technegau sy’n dilyn yn eich helpu i ysgrifennu nodiadau defnyddiol sydd â strwythur.

Defnyddio strwythur yn eich nodiadau

  • Defnyddiwch benawdau i osod trefn ar eich gwybodaeth.
  • Rhowch bwyntiau newydd ar linell ar wahân neu rhifwch nhw.
  • Amlygwch enghreifftiau a thestun sy’n esbonio rhywbeth.
  • Cadwch bob enghraifft o wyro o’r pwnc a’r prif bwyntiau ar wahân.

Defnyddio’ch geiriau eich hun

Bydd ysgrifennu pob un o’r pwyntiau yn eich geiriau’ch hun yn eich helpu i ddeall a chofio cynnwys y ddarlith.

Cofiwch:

  • gopïo air am air y dyfyniadau neu’r enghreifftiau pwysig;
  • cadw’r dyfyniadau a’r enghreifftiau a’ch geiriau eich hun ar wahân;
  • cofnodi pwyntiau nad ydych chi’n eu deall yng ngeiriau’r darlithydd drwy ychwanegu marc cwestiwn i’ch atgoffa i fynd yn ôl atyn nhw yn nes ymlaen.

Defnyddio llai o eiriau

  • Ceisiwch gwtogi ar nifer y geiriau rydych chi’n eu defnyddio wrth ysgrifennu nodiadau. Ni fydd nodiadau manwl fawr o help i chi gofio ffeithiau a syniadau.
  • Defnyddiwch eiriau allweddol i gyfleu pwyntiau neu syniadau’n gryno.
  • Ychwanegwch fanylion cryno am unrhyw enghreifftiau neu dystiolaeth sy’n ategu’r pwynt.

Defnyddio talfyriadau

  • Defnyddiwch dalfyriadau safonol a thalfyriadau sy’n benodol i bwnc.
  • Crëwch eich talfyriadau eich hunan ar gyfer geiriau cyffredin, ond cofiwch fod yn gyson.
  • Peidiwch â defnyddio cymaint o dalfyrru nes bod eich nodiadau’n drawsgrifiad mewn llaw fer; daliwch ati i ddefnyddio’ch geiriau eich hunan.

Defnyddio’r lle gwag ar y dudalen

  • Ceisiwch ddangos strwythur yn eich nodiadau, er enghraifft rhowch bob pwynt ar linell newydd.
  • Gadewch fylchau i ychwanegu pethau neu i gywiro’r nodiadau’n nes ymlaen.
  • Gwnewch eich nodiadau’n haws eu darllen a’u hadolygu drwy ddefnyddio lle gwag i wahanu pwyntiau.

Defnyddio lliw a delweddau

  • Dosbarthwch y gwahanol bwyntiau dan benawdau o wahanol liwiau.
  • Amlygwch mewn lliw unrhyw bwyntiau rydych chi’n awyddus i’w cofio.
  • Defnyddiwch ddelweddau neu ddiagramau fel ffordd gyflym o ddisgrifio cysyniad neu syniad.

Efallai y byddwch am ystyried defnyddio dull diagramatig o greu nodiadau mewn darlithoedd.

Defnyddio taflenni

Mae darlithwyr yn dosbarthu taflenni fel ffordd o’ch helpu i ddilyn y ddarlith ac i dynnu’ch sylw at wybodaeth bwysig. Gallwch gael y budd gorau o’r taflenni yma drwy ychwanegu eich sylwadau eich hunan.

  • Amlygwch unrhyw eiriau allweddol.
  • Ychwanegwch liw i drefnu’r wybodaeth yn gategorïau.
  • Ychwanegwch nodiadau ar ymyl y papur.

Trefnu’ch nodiadau

  • Y system fwyaf ymarferol o gadw trefn ar eich nodiadau yw storio papur A4 mewn ffeil fodrwy gyda chardiau lliw’n rhannu’r gwahanol adrannau.
  • Dechreuwch bob darlith gyda phennawd clir, sef teitl y ddarlith, y dyddiad ac enw’r darlithydd.
  • Rhifwch y tudalennau’n glir fel ei bod hi’n haws eu trefnu’n nes ymlaen.

Gwaith dilynol

Peidiwch â bod ofn gofyn i’r darlithydd egluro rhywbeth, naill ai yn ystod y ddarlith neu ar ei hôl. Defnyddiwch seminarau a thiwtorialau i ofyn am eglurhad neu i drafod cynnwys y darlithoedd. Rhowch drefn ar eich nodiadau cyn gynted â phosib ar ôl y ddarlith. Gwnewch y defnydd gorau o’r broses o adolygu’ch nodiadau drwy wneud y canlynol:

  • amlygwch unrhyw bwyntiau sy’n ymddangos yn bwysig neu’n ganolog;
  • ychwanegwch unrhyw fanylion y gallwch eu cofio o’r ddarlith;
  • dangoswch unrhyw gysylltiad rhwng pwyntiau;
  • cywirwch unrhyw gamgymeriadau neu wallaus;
  • ychwanegwch gwestiynau i dynnu sylw at unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall neu y mae angen mwy o wybodaeth amdano.

Goresgyn problemau

Pwl o fethu canolbwyntio

Pan fyddwch chi’n defnyddio dull gweithredol o ysgrifennu nodiadau mae’ch meddwl yn llai tebygol o grwydro. Drwy ysgrifennu’r pwyntiau yn eich geiriau eich hun a defnyddio lle gwag, lliwiau a delweddau, bydd y broses o ysgrifennu nodiadau’n dod yn un prysur a diddorol. Os byddwch chi’n methu rhai pwyntiau am fod eich meddwl wedi crwydro, gadewch le yn eich nodiadau. Ewch dros y pwyntiau yma gyda’r darlithydd neu fyfyriwr arall yn nes ymlaen.

Bod ar ei hôl hi

Efallai byddwch chi’n teimlo bod y darlithydd yn cyflwyno’r wybodaeth yn rhy gyflym i chi allu ysgrifennu’r cyfan. Os byddwch chi’n methu rhywbeth, gadewch le ar y papur a chymharwch eich nodiadau â rhai myfyriwr arall. Mae darllen dogfennau cefndirol cyn dod i’r ddarlith yn ffordd o’ch helpu i ddilyn y cynnwys – ni fydd y wybodaeth yn gwbl newydd i chi.

Efallai y byddwch chi’n mynd ar goll weithiau oherwydd nad ydych chi’n deall y wybodaeth mae’r darlithydd yn ei chyflwyno. Mae hyn yn gallu digwydd yn achos ambell bwynt neu hyd yn oed yn achos rhan helaeth o’r ddarlith. Yn hytrach na rhoi’r gorau i ddilyn y ddarlith, ysgrifennwch gyfres o gwestiynau y gallwch geisio cael atebion iddyn nhw’n nes ymlaen.

Crynodeb

  • Byddwch yn barod - mae gofyn i chi ddod yn gyfarwydd â strwythur y cwrs, a darllen cyn mynd i’r ddarlith.
  • Byddwch yn drefnus - dewiswch system ar gyfer storio nodiadau ac ewch â gwahanol binnau ysgrifennu a phensiliau gyda chi i’r ddarlith.
  • Gwrandewch er mwyn adnabod y strwythur - chwiliwch am yr arwyddion sy’n eich helpu i ddilyn y ddarlith.
  • Byddwch yn gryno - ceisiwch ddefnyddio geiriau ac ymadroddion allweddol cymaint â phosib fel bod y pwyslais ar wrando a deall.
  • Cofiwch fod ysgrifennu nodiadau’n broses weithredol - ysgrifennwch grynodeb yn eich geiriau eich hun, a defnyddiwch le gwag, lliwiau, symbolau a delweddau.
  • Gadewch fylchau - os ydych chi’n methu pwynt peidiwch â mynd i banig a methu mwy. Gadewch le ar y papur a holwch un o’ch cyd-fyfyrwyr wedyn i gael esboniad o’r pwynt.
  • Ewch ati i adolygu’ch - nodiadau ar ôl y ddarlith, gan ychwanegu a chywiro wrth ddarllen.


Awdur gwreiddiol: Prifysgol Caerlyr

Hafan

Amdanom Ni

Gwasanaethau a Chyfleusterau

Gwasanaethau Digidol

  • Sgiliau Astudio
    • Trefnu Apwyntiad
    • Cymorth Mathemateg ac Ystadegau
    • Grwpiau Astudio
    • Gweithdai
    • Adnoddau Astudio
      • Astudiaeth Ôl-raddedig
      • Canllaw i Astudio yn y Brifysgol
      • Astudio ac arholiadau
        • Medrau adolygu a sefyll arholiadau
        • Straen arholiadau
        • Manteisio’r eithaf ar eich darlithoedd
        • Cymryd nodiadau
        • Trefnu eich amser
        • Osgoi llên-ladrad
        • Projectau grŵp llwyddiannus
      • Ysgrifennu academaidd
        • Eglurhad ar dermau traethodau
        • Cynllunio project ymchwil ar gyfer traethawd hir
        • Osgoi llên-ladrad
        • Cymryd nodiadau
        • Cyfeiriadau a llyfryddiaethau
        • Celfyddydau golygu
        • Beth yw ysgrifennu beirniadol?
        • Ysgrifennu traethawd hir
        • Ysgrifennu traethodau
          • Cyngor gan Ddarlithwyr
        • Ysgrifennu adroddiadau
        • Defnyddio Microsoft Office
        • Adnoddau Astudiaeth Ôl-raddedig
      • Mathemateg ac ystadegau
      • Cyflwyniadau
        • Rhoi cyflwyniad effeithiol
        • Cynllunio cyflwyniad effeithiol
        • Defnyddio cymhorthion gweledol
        • Defnyddio Microsoft PowerPoint
      • Darllen ac ymchwil
        • Beth yw darllen beirniadol?
        • Cymryd nodiadau
        • Gwella eich medrau darllen
        • Cyfeiriadau a llyfryddiaeth
      • Cyfeirnodi
    • Cyfeirio myfyrwyr
    • Cydweithio gydag ysgolion academaidd
    • Amdanom ni
    • Rhowch eich barn i ni
    • A–Y
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor