Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Dyma ganllawiau astudio cysylltiedig ym maes datblygu myfyrwyr:

  • Beth yw sgiliau beirniadol wrth ddarllen?
  • Beth yw sgiliau beirniadol wrth ysgrifennu?
  • Osgoi llên-ladrad

Ysgrifennu nodiadau

Ysgrifennu nodiadau: gweithgaredd academaidd sylfaenol

Mae ysgrifennu nodiadau’n un o brif weithgareddau’r broses o astudio mewn prifysgol. Fel myfyriwr, byddwch chi’n cymryd nodiadau pan fyddwch chi’n:

  • mynd i ddarlithoedd neu seminarau
  • darllen deunydd i hwyluso’r gwaith o ysgrifennu traethodau, adroddiadau, traethodau hir a thraethodau ymchwil.

Mae ysgrifennu nodiadau’n sylfaenol i’r gweithgareddau yma.

Ysgrifennu nodiadau: her enfawr!

Ond mae ysgrifennu nodiadau’n gallu bod yn her wirioneddol mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft:

  • os yw cynnwys y ddarlith yn ffeithiol ar y cyfan ac rydych chi’n awyddus i gofnodi’r holl ffeithiau ond mae’r darlithydd yn siarad yn gyflym iawn;
  • os ydych chi’n ysgrifennu nodiadau ar bentwr o waith darllen cefndirol, ond dydych chi ddim yn siŵr beth i’w wneud gyda’r holl nodiadau;
  • os ydych chi’n ysgrifennu llawer o nodiadau ar gyfer darn ysgrifenedig, ond yn poeni am osgoi llên-ladrad trwy ddamwain. Efallai eich bod wedi anghofio pa syniadau oedd yn perthyn i chi a pha rai a gawsoch chi o ffynonellau sy’n bod eisoes;
  • os ydych chi’n eich gweld eich hun yn araf yn darllen dogfennau academaidd. Efallai eich bod yn colli ystyr cyffredinol erthygl am eich bod yn treulio gormod o amser yn ysgrifennu nodiadau manwl wrth ddarllen drwyddi.

Y gwahaniaethau rhwng ysgrifennu nodiadau mewn darlith ac ysgrifennu nodiadau wrth ddarllen

Hyd yn oed os oes gennych set o sleidiau’r ddarlith o’ch blaen, mae gofyn o hyd i chi ysgrifennu eich nodiadau eich hun yn ystod y ddarlith. Efallai bydd y darlithydd yn ychwanegu sleidiau, ac mae’n siŵr o roi esboniadau ac enghreifftiau ychwanegol i’r rhai ar y sleidiau. Byddwch yn awyddus hefyd i gofnodi unrhyw syniadau neu gwestiynau a fydd yn codi yn eich meddwl yn ystod y ddarlith.

Y prif wahaniaeth rhwng gwneud nodiadau mewn darlith ac ysgrifennu nodiadau wrth ddarllen yw’r ffaith nad oes gan fyfyrwyr unrhyw reolaeth dros y broses mewn darlith. Mae darlithoedd yn digwydd mewn amser real ac mae hyn yn golygu:

…wrth wneud nodiadau mewn darlithoedd: …ond wrth wneud nodiadau wrth ddarllen:
nad ydych chi’n gallu stopio’r darlithydd neu bwyso’r botwm ‘saib’ a mynd yn ôl i ailchwarae a gwrando eto ar rywbeth nad ydych wedi’i ddeall mae’n hawdd stopio, a darllen y darn eto os bydd angen
os byddwch yn cofio’n am rywbeth rydych yn awyddus i ddarllen mwy amdano, rhaid i chi wneud nodyn bach a chofio dod yn ôl ato’n nes ymlaen os byddwch yn cofio am rywbeth rydych yn awyddus i ddarllen mwy amdano, efallai y gallwch wneud hyn yn syth
nad ydych yn gallu gofyn i’r darlithydd arafu os byddwch yn syrthio’n ôl wrth ysgrifennu nodiadau gallwch ddarllen ac ysgrifennu nodiadau ar y cyflymdra gorau i chi, er mwyn gwneud yn siŵr bod eich nodiadau’n gyflawn

Ffordd dda o werthfawrogi pwysigrwydd ysgrifennu nodiadau da yw gofyn y cwestiwn yma i chi’ch hun:

Pe baech chi’n ceisio ysgrifennu aseiniad neu draethawd hir heb wneud unrhyw ddarllen cefndirol nac ysgrifennu unrhyw nodiadau, beth tybed fyddai ar goll?

Treuliwch funud neu ddau’n ceisio ateb y cwestiwn. Ceisiwch restru o leiaf deg o elfennau a allai fod ar goll o’ch gwaith ysgrifennu pe na fyddech chi’n darllen unrhyw ddeunydd cefndirol nac yn ysgrifennu unrhyw nodiadau! Mae rhai atebion posib wedi’u rhestru yn nes ymlaen yn y canllaw astudio yma.

Ysgrifennu nodiadau wrth ddarllen

Cymryd risg

Allwch chi ddim osgoi cymryd risgiau wrth ysgrifennu nodiadau! Un o’r prif risgiau yw ysgrifennu nodiadau sy’n rhy fanwl neu’n rhy gryno. Mae gofyn i chi benderfynu ym mha safle y byddech chi’n eich gosod eich hun rhwng y ddau begwn yma.

Bod yn rhy gryno
Er mwyn peidio ag ysgrifennu pentwr o nodiadau na fyddwch chi’n eu defnyddio efallai, rydych chi’n penderfynu ysgrifennu cyn lleied ag y gallwch chi
Y risg
Rydych chi’n methu cofnodi gwybodaeth hanfodol, ac yn gorfod mynd yn ôl at y ffynhonnell a’i darllen eto
Bod yn rhy fanwl
Er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych chi’n methu unrhyw beth pwysig, rydych chi’n penderfynu cofnodi pob darn o wybodaeth a allai fod yn berthnasol
Y risg
Mae’r gwaith darllen yn cymryd gormod o amser ac rydych chi’n casglu llawer gormod o nodiadau. Allwch chi ddim penderfynu pa wybodaeth sydd fwyaf perthnasol ac rydych chi’n rhedeg allan o amser i ysgrifennu’r aseiniad

Rheoli’r risg trwy ddewis a dethol

Mae dewis a dethol yn allweddol i’r gwaith o ysgrifennu nodiadau llwyddiannus. Mae gofyn i chi ddewis a dethol ar ddwy brif lefel:

  • penderfynu ar y pethau i’w darllen a’r rhai i beidio â’u darllen
  • penderfynu ar y rhannau penodol y byddwch chi’n ysgrifennu nodiadau arnyn nhw

Penderfynu ar y pethau i’w darllen a’r rhai i beidio â’u darllen

Dyma wybodaeth a allai eich helpu i benderfynu:

  • blwyddyn cyhoeddi’r deunydd: pa mor gyfoes yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch pwnc penodol chi?
  • y dudalen gynnwys a’r mynegai: oes adrannau’n delio’n benodol â’ch maes chi?
  • y crynodeb, y cyflwyniad neu’r rhagair: dylai’r rhain eich helpu i benderfynu a fyddwch chi’n parhau i ddarllen neu beidio
  • dechrau a diwedd yr adrannau addawol: ydyn nhw’n awgrymu y dylech chi barhau i ddarllen?

Penderfynu ar y rhannau penodol y byddwch chi’n ysgrifennu nodiadau arnyn nhw

Mae Stella Cottrell (2008) yn gofyn ambell gwestiwn defnyddiol:

  • Do you really need this information? If so, which bits?
  • Will you really use it? When, and how?
  • Have you noted similar information already?
  • What questions do you want to answer with this information?”
Cottrell, S. (2008, p.122) 'The Study Skills Handbook' Trydydd argraffiad. Basingstoke: Palgrave Macmillan

Mae gan Mantex wefan sy’n cynnig adnoddau ym maes datblygu dysgu. Eu cyngor yw:

Some people take so many notes that they don’t know which to use when it’s time to do the writing. They feel that they are drowning in a sea of information.

This problem is usually caused by two common weaknesses in note-taking technique:
  • transcribing too much of the original
  • being unselective in the choice of topics
There are two possible solutions to this problem:
  • Select only those few words of the source material which will be of use. Avoid being descriptive. Think more, and write less. Be rigorously selective.
  • Keep the project topic or the essay question more clearly in mind. Take notes only on those issues which are directly relevant to the subject in question.
http://www.mantex.co.uk/how-to-take-notes/

Peidiwch â gadael i’r wybodaeth eich rheoli chi: dilynwch gynllun!

Cymharwch y broses o ysgrifennu nodiadau â mynd i archfarchnad i brynu bwyd ar gyfer parti. Os byddwch chi’n mynd i mewn i siop heb feddwl dim ac yn prynu popeth sy’n edrych yn flasus, mae’n debyg yr ewch chi adref yn holi’ch hun:

  • pam wnes i brynu cymaint o bwdinau a chacennau?
  • sut bydda i’n gallu defnyddio’r holl ffrwythau a’r llysiau, cyn iddyn nhw fynd yn ddrwg?
  • pam wnes i brynu cymaint o ddiodydd o bob math (er mai dim ond 20 o bobl sy’n dod i’r parti), ac anghofio cael mwy o goffi?
  • pam fy mod i newydd wastraffu cymaint o arian ar bethau diangen?
  • pryd ga i amser i fynd yn ôl i’r siop i brynu’r pethau rydw i wedi’u hanghofio?
  • byddai’n llawer gwell taswn i wedi gwneud rhestr cyn mynd i siopa!

Drwy drosglwyddo’r broses i’r ymarfer academaidd o ysgrifennu nodiadau, fe welwch chi pa mor aneffeithiol ac aneffeithlon yw’r dull yma o edrych ar destun heb feddwl dim, a dechrau ysgrifennu popeth sy’n edrych yn ddiddorol. Mae angen cynllun.

Mae’r tabl yma’n awgrymu ffyrdd o ddechrau ar eich cynllun. Mae’r tabl yn ffordd o gymharu’r syniad o siopa am fwyd ar gyfer parti â’r dasg o ddarllen ar gyfer aseiniad.

 
Prynu bwyd ar gyfer parti
Darllen ar gyfer aseiniad
I ddechrau, penderfynwch ar thema’r bwyd, fel y gallwch wneud rhestr o’r pethau y byddwch eu hangen. I ddechrau, edrychwch ar deitl eich aseiniad yn ofalus a beirniadol, er mwyn asesu beth sy’n angenrheidiol.
Gwnewch restr o’r gwahanol fathau o fwyd a diodydd mae angen i chi chwilio amdanyn nhw yn yr archfarchnad Gwnewch restr o’r mathau o wybodaeth, enghreifftiau, syniadau ac ati y byddwch yn chwilio amdanyn nhw wrth ddarllen.
Yn y siop, efallai bydd y bwydydd a’r diodydd gwych eraill sydd ar werth yn tynnu’ch sylw oddi ar eich rhestr. Cadwch eich sylw ar eich rhestr a byddwch yn ofalus! Mae’n hawdd gwastraffu arian ar ddiodydd atyniadol na fydd pobl yn eu hyfed. Efallai fod prynu rhai mathau o fwyd yn syniad da ond rydych chi’n gwybod nad oes digon o amser gennych i’w baratoi. Wrth ddechrau darllen, efallai bydd deunydd diddorol yn tynnu’ch sylw a byddwch chi’n awyddus i ysgrifennu nodiadau arno, ond nid yw’n berthnasol i’r dasg dan sylw. Cadwch eich sylw ar deitl eich aseiniad ac ar eich cynllun. Peidiwch â chael eich temtio gan ddeunydd sy’n ddiddorol ond yn amherthnasol..
Pan ddewch chi o hyd i fwyd sydd ar eich rhestr, ewch ati i asesu’r pris a safon y bwyd. Prynwch yr enghreifftiau gorau o’r bwyd. Ewch ati i asesu pa mor berthnasol yw’r erthyglau a’r llyfrau rydych wedi penderfynu eu darllen. Ysgrifennwch nodiadau ar y deunydd sy’n uniongyrchol berthnasol i’ch aseiniad.
Weithiau gallwch ddod o hyd i syniad sydd ddim ar eich rhestr, ond a fyddai’n berffaith ar gyfer eich parti. Ar bob cyfrif, prynwch o! Weithiau rydych chi’n dod o hyd i ddeunydd annisgwyl, ond a fyddai’n ffitio’n berffaith yn eich aseiniad. Ar bob cyfrif, ysgrifennwch nodiadau arno, ac adolygwch eich cynllun.
O gadw at y cynllun yma dylech chi arbed amser ac arian, a dylai’r parti fod yn ardderchog hefyd. O gadw at y cynllun yma dylech chi arbed amser ac ymdrech, a dylai symleiddio’r broses o ysgrifennu’r aseiniad.

Templedi ar gyfer ysgrifennu nodiadau

Gall defnyddio templed ar gyfer ysgrifennu nodiadau eich helpu i:

  • ysgrifennu nodiadau mewn fformat clir a hawdd ei ddarllen
  • cofio’r math o wybodaeth rydych chi’n awyddus i’w chofnodi o bob ffynhonnell
  • safoni’ch nodiadau fel ei bod hi’n haws dod o hyd i elfennau penodol pan fyddwch chi’n barod i’w defnyddio.

Ar ôl i chi benderfynu bod un o’ch ffynonellau’n mynd i fod yn ddefnyddiol ac rydych chi’n barod i ysgrifennu nodiadau arni, mae angen i chi gofnodi manylion y cyfeirnodau’n llawn. Ar ôl hynny mae nifer o wahanol benawdau gallwch eu defnyddio wrth ysgrifennu nodiadau. Dyma rai syniadau o’r mathau o benawdau y gallwch eu dewis a’u defnyddio.

prif bwrpas y testun awgrymiadau ar gyfer ymchwil pellach y broblem neu’r problemau a gododd cynnwys yr astudiaeth y dull(iau) a ddefnyddiwyd
astudiaeth achos ddefnyddiol enghraifft neu enghreifftiau defnyddiol y brif ddadl/ dadleuon deunydd defnyddiol i’w ddyfynnu syniad(au) posib i’w defnyddio
tystiolaeth i ategu’ch dadl perthnasedd arbennig i’ch aseiniad cyfyngiad(au) y prif ddarganfyddiad(au) y cyd-destun daearyddol / gwleidyddol
arddull ysgrifennu ac enghreifftiau y cyd-destun y theori / ddamcaniaeth ystadegau defnyddiol ffyrdd o gyfiawnhau’r ymchwil

Mae’r wefan yma’n rhoi amlinelliad o bum cynllun gwahanol ar gyfer systemau ysgrifennu nodiadau: http://sas.calpoly.edu/docs/asc/ssl/NoteTakingSystems.pdf

Efallai bydd un o’r systemau yma’n addas i chi. Os nad oes un yn addas, efallai y gallwch addasu un, neu gyfuno dwy neu dair i greu system bersonol sy’n gweithio i chi.

Gallwch hefyd ddyfeisio’ch templed eich hun. Defnyddiwch y math o benawdau sydd yn y tabl ac sy’n gweddu orau i’ch maes a’ch pwnc chi. O wneud hyn:

  • yn hytrach na darllen dogfennau heb feddwl dim a chael eich llethu, fe fyddwch yn gallu
  • cymryd rheolaeth cyn dechrau darllen y dogfennau
  • a dechrau ar y gwaith gyda’ch “rhestr siopa” yn barod.

Osgoi llên-ladrad

Llên-ladrad yw defnyddio geiriau neu syniadau rhywun arall gan honni mai eich gwaith eich hun ydy o. Mae Prifysgolion yn trin llên-ladrad fel trosedd ddifrifol, ac mae angen i chi fod yn ofalus iawn i’w osgoi.

Yn anffodus, mae’n ddigon hawdd i chi eich cael eich hun mewn perygl o ladrata gwaith rhywun arall, er nad ydych chi’n bwriadu gwneud hynny. Y ddau berygl mwyaf yn y broses o ysgrifennu nodiadau yw:

  • aralleirio’n rhy agos pan fyddwch chi’n ysgrifennu eich nodiadau cychwynnol;
  • a chopïo deunydd air am air, heb gofio defnyddio dyfynodau (“..”) o gwmpas yr adrannau penodol rydych wedi’u copïo.

Pan fyddwch chi’n dod o hyd i ddeunydd manwl sy’n berthnasol iawn i’ch gwaith, mae’n gallu bod yn syniad da i chi gopïo’r union eiriau, gan ddefnyddio dyfynodau a chofnodi rhif y dudalen. Wedyn, gallwch benderfynu sut mae defnyddio’r deunydd hwn pan fyddwch chi’n gweithio ar yr aseiniad. Gallwch ei roi fel dyfyniad uniongyrchol, neu ei ysgrifennu eto yn eich geiriau eich hun.

Ysgrifennu nodiadau mewn darlithoedd

Wrth geisio ysgrifennu nodiadau mewn darlithoedd rydych chi’n mynd i ddod ar draws y tair her yma:

  • nid oes gennych unrhyw reolaeth dros ba mor gyflym mae’r darlithydd yn siarad, ac efallai y byddwch chi’n brin o amser i ysgrifennu’r nodiadau
  • allwch chi ddim oedi ar ganol y ddarlith ac edrych dros rywbeth eto, fel sy’n bosib wrth ddarllen
  • efallai na fyddwch chi’n gallu dweud yn ystod y ddarlith ei hun pa rai o’i helfennau oedd y rhai pwysicaf i’w cofnodi.

Un ffordd o gadw mwy o reolaeth dros y sefyllfa yw dyfeisio ffyrdd o symleiddio eich system o ysgrifennu nodiadau.

Symleiddio’ch system o ysgrifennu nodiadau mewn darlithoedd

Mae sawl ffordd o wneud eich system o ysgrifennu nodiadau’n fwy effeithiol. Manteision hyn yw:

  • rydych yn gallu treulio llai o amser yn ysgrifennu, a mwy o amser yn gwrando a meddwl
  • bydd eich nodiadau’n haws eu darllen pan fyddwch chi’n edrych arnyn nhw ar ôl y ddarlith
  • bydd eich nodiadau’n cynnig rhywfaint o strwythur i chi pan fyddwch chi’n eu defnyddio wrth weithio ar aseiniad neu wrth adolygu.

Mae llawer o’r canllawiau ynglŷn ag ysgrifennu nodiadau mewn darlithoedd fel arfer yn rhoi rhyw fath o ddarlun delfrydol o’r hyn mae myfyrwyr yn gallu ei gyflawni mewn darlith. Ond daw’r awgrymiadau isod oddi wrth Stella Cottrell (2008, t.133) sydd fel arfer ac yn realistig ac ymarferol iawn.

Gallwch gyrchu'r fersiwn ar-lein ddiweddaraf o'r llyfr hwn (rhifyn 2019) trwy Catalog Llyfrgell Bangor.

“Before the lecture:

  • Get a feel for the subject. Read (or just flick through) a book on the subject of the lecture. Look for themes, issues, topics and headings. Look up any technical words you don’t understand.
  • Write down questions you want answered. Leave space to write the answers under each question either during or after the lecture.
  • Jot down your own opinion. Notice if it changes during the lecture.
  • Glance through your notes for the previous lecture, and look for links with the next lecture.”

Mae Cottrell yn awgrymu hefyd y dylech wneud y pethau yma ar ôl y ddarlith:

  • “Label and file your lecture notes and any handouts.
  • Read through your notes. Fill in details from your reading or research.
  • Discuss the lecture with others. Compare notes and fill in any gaps.”

Cottrell, S. (2008, p. 133) 'The Study Skills Handbook' Trydydd argraffiadn. Basingstoke: Palgrave Macmillan

Byddai’n wych pe baech yn gallu mabwysiadu un neu fwy o’r arferion gweithio yma! Ond, os ydych yn gweld na allwch ddefnyddio’r cyngor, peidiwch â meddwl eich bod yn fethiant. Bydd yr awgrymiadau sy’n dilyn yn help i chi ysgrifennu nodiadau mwy effeithlon ac effeithiol yn eich darlithoedd. Maen nhw’n canolbwyntio ar lwybrau byr ar gyfer cyflymu’r broses, fel y gallwch ddilyn a deall y darlithoedd a’u gadael wedi ysgrifennu nodiadau clir sy’n llawn gwybodaeth.

Llwybrau byr ar gyfer ysgrifennu nodiadau mewn darlithoedd

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych binnau ysgrifennu mewn lliwiau gwahanol. Gallwch eu defnyddio i danlinellu nodiadau am resymau penodol, er enghraifft, i ddynodi:
    • rhywbeth mae angen i chi wneud gwaith dilynol arno gan eich bod heb ei ddeall yn iawn
    • beirniadaeth bwysig
    • y prif esboniad
    • cyfeirnod mae’r darlithydd yn ei argymell
    • syniadau sy’n gysylltiedig â’r pwnc
  • Casglwch set o dalfyriadau er mwyn cyflymu’r broses o ysgrifennu nodiadau, er enghraifft:
    • ‘gallai’ a ‘byddai’ = gll/ bdd
    • to theori = Θ
    • tystiolaeth o blaid neu yn erbyn = tys+/tys-
    • cryfder/gwendid = Cr/Gw
  • Casglwch set o godau gan ddefnyddio symbolau fel * ☼ † ¦ » **. Rhowch eich ystyr eich hun i bob un. Y syniad yw defnyddio’r symbolau yma i gyfeirio at gysyniadau cyffredin yn eich maes, fel y gallwch nodi’r symbol yn syml iawn yn hytrach na’r gair neu’r frawddeg lawn. Mae rhestr ddefnyddiol o godau sy’n cael eu defnyddio’n aml (yn y Saesneg) yn Cottrell (2008, t.125).
  • Gadewch ddigon o le gwag o gwmpas eich nodiadau fel y bydd yn haws i chi eu darllen yn nes ymlaen. Gallwch chi hefyd ychwanegu mwy o wybodaeth a syniadau sy’n codi yn hwyrach yn y ddarlith.
  • Efallai bydd yn bosib i chi ragweld cynnwys/fformat cyffredinol y ddarlith. Os felly, gallech baratoi tabl o flaen llaw ar gyfer rhai o’ch nodiadau. Ynddo gallwch ychwanegu manylion yn ystod y ddarlith, er enghraifft: os ydych yn gwybod y bydd eich darlithydd yn rhestru enghreifftiau, astudiaethau achos neu arbrofion, ac yn cynnig sylwadau arnyn nhw, gallech greu’r tabl yma:
Enghraifft gan y darlithydd Rhesymeg y darlithydd Cryfderau a gwendidau
1.    
2.    
  • Defnyddiwch ddigon o benawdau ac is-benawdau a rhestri wedi’u rhifo, i roi strwythur i’ch nodiadau.
  • Defnyddiwch eiriau allweddol yn ymyl y dudalen i grynhoi pob un o’r adrannau.

Sylwadau i gloi

Yn sicr, mae ysgrifennu nodiadau’n gallu bod yn heriol. Mae’n well bod yn barod a chael strategaethau wrth gefn, na darllen rhywbeth neu fynd i ddarlith heb feddwl. Mae perygl y byddwch chi’n treulio’r holl amser yn teimlo ar goll neu wedi’ch llethu gan yr holl waith darllen.

Er mwyn gwneud y nodiadau gorau posib, mae angen i chi gynllunio eich dull eich hun o reoli’n well y broses o ysgrifennu nodiadau. Seiliwch eich dull ar syniadau pobl eraill i greu rhywbeth sy’n gweddu i’ch ffordd chi o weithio.

Mae ambell restr yn yr atodiadau sy’n dilyn a fydd yn eich helpu i reoli’ch dull o ysgrifennu nodiadau.

Atodiad A

Enghreifftiau o’r math o wybodaeth benodol y gallech fod yn awyddus i’w chasglu wrth ysgrifennu nodiadau

Dyma’r cwestiwn yr oedden ni’n ei ofyn ar dudalen 2 o’r canllaw astudio hwn:

Pe baech chi’n ceisio ysgrifennu aseiniad neu draethawd hir heb wneud unrhyw ddarllen cefndirol nac ysgrifennu unrhyw nodiadau, beth tybed fyddai ar goll?

Sut gwnaethoch chi ateb y cwestiwn yma? Dyma restr o atebion posibl:

  • gwybodaeth gefndirol gynhwysfawr
  • cyfiawnhad ar sail tystiolaeth dros wneud eich ymchwil
  • y cyd-destun, er enghraifft: cyd-destun cyfreithiol, cymdeithasol, daearyddol, hanesyddol, gwleidyddol, gwyddonol, ar sail ymarfer neu ymchwil ac ati
  • ystadegau a gafodd eu cyhoeddi
  • tystiolaeth i ategu’ch dadl
  • tystiolaeth i herio’ch dadl
  • enghreifftiau o anghytuno yn y maes
  • awgrymiadau pobl eraill ar gyfer ymchwil pellach
  • cyfeirnodau defnyddiol ar gyfer gwaith dilynol
  • pethau sy’n cyfyngu ar ddadleuon pobl eraill
  • y prif ddarganfyddiadau yng ngwaith ymchwil pobl eraill
  • cyfyngiadau dulliau ymchwilio blaenorol
  • gwendidau yn y ffordd mae pobl eraill wedi dehongli rhywbeth
  • astudiaethau achos defnyddiol
  • adolygiadau defnyddiol o ddogfennau
  • enghreifftiau o drosi theori’n realiti
  • cysylltiadau defnyddiol â gwaith ymarferol pobl eraill
  • pa mor effeithiol yw’r dulliau gwahanol a ddefnyddiwyd mewn mannau eraill
  • y ffyrdd mae pobl eraill wedi trin a thrafod materion moesegol
  • poblogaethau a samplau mae ymchwilwyr eraill yn y maes wedi’u defnyddio
  • y problemau mae pobl eraill wedi dod ar eu traws, a sut gwnaethon nhw ddelio â nhw

… ychwanegwch eich syniadau eich hun …

Drwy feddwl am yr union bethau rydych chi’n chwilio amdanyn nhw wrth ddarllen ac ysgrifennu nodiadau, byddwch chi’n gallu mynd drwy’r broses yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Atodiad B

Cofnodi’ch syniadau eich hun ynglŷn â’r hyn rydych yn ei ddarllen

Yn ogystal ag ysgrifennu nodiadau ar eiriau a gwaith pobl eraill, bydd gennych eich syniadau eich hun wrth ddarllen. Weithiau mae’r syniadau yma’n dod yn sydyn i’ch meddwl, ac yn diflannu’r un mor sydyn. Os nad ydych chi’n eu cofnodi ar yr union adeg y dôn nhw i’ch meddwl, efallai y byddwch chi’n eu colli.

Oherwydd hyn, byddai’n ddefnyddiol i chi greu lle yn eich templed ysgrifennu nodiadau lle gallwch gofnodi’ch ymateb a’ch syniadau wrth ddarllen.

Enghreifftiau o’r math o feddyliau a syniadau posib i’w cofnodi:

  • cwestiwn sy’n codi ynglŷn â rhywbeth yr ydych chi’n awyddus i’w ystyried
  • syniad ynglŷn â chysylltiad posib
  • ffordd wahanol o ddehongli rhywbeth i’r un rydych newydd ei darllen
  • enghraifft ychwanegol a ddaeth i’ch meddwl i egluro syniad
  • trefn ddefnyddiol y gallech ei dilyn i gynnwys rhyw ddeunydd ychwanegol yn eich dadl
  • cyfeirnod i wneud gwaith dilynol arno
  • syniad ar gyfer ymchwil pellach
  • rhai cyfyngiadau yr hoffech dynnu sylw atyn nhw
  • rhai cwestiynau sy’n dod i’ch meddwl wrth ddarllen
  • ystadegau arbennig y bydd angen i chi chwilio amdanyn nhw
  • syniad ynglŷn â sut mae strwythuro’ch gwaith ysgrifennu

… ychwanegwch eich syniadau eich hun …


Awdur gwreiddiol: Prifysgol Caerlyr

Hafan

Amdanom Ni

Gwasanaethau a Chyfleusterau

Gwasanaethau Digidol

  • Sgiliau Astudio
    • Trefnu Apwyntiad
    • Cymorth Mathemateg ac Ystadegau
    • Grwpiau Astudio
    • Gweithdai
    • Adnoddau Astudio
      • Astudiaeth Ôl-raddedig
      • Canllaw i Astudio yn y Brifysgol
      • Astudio ac arholiadau
        • Medrau adolygu a sefyll arholiadau
        • Straen arholiadau
        • Manteisio’r eithaf ar eich darlithoedd
        • Cymryd nodiadau
        • Trefnu eich amser
        • Osgoi llên-ladrad
        • Projectau grŵp llwyddiannus
      • Ysgrifennu academaidd
        • Eglurhad ar dermau traethodau
        • Cynllunio project ymchwil ar gyfer traethawd hir
        • Osgoi llên-ladrad
        • Cymryd nodiadau
        • Cyfeiriadau a llyfryddiaethau
        • Celfyddydau golygu
        • Beth yw ysgrifennu beirniadol?
        • Ysgrifennu traethawd hir
        • Ysgrifennu traethodau
          • Cyngor gan Ddarlithwyr
        • Ysgrifennu adroddiadau
        • Defnyddio Microsoft Office
        • Adnoddau Astudiaeth Ôl-raddedig
      • Mathemateg ac ystadegau
      • Cyflwyniadau
        • Rhoi cyflwyniad effeithiol
        • Cynllunio cyflwyniad effeithiol
        • Defnyddio cymhorthion gweledol
        • Defnyddio Microsoft PowerPoint
      • Darllen ac ymchwil
        • Beth yw darllen beirniadol?
        • Cymryd nodiadau
        • Gwella eich medrau darllen
        • Cyfeiriadau a llyfryddiaeth
      • Cyfeirnodi
    • Cyfeirio myfyrwyr
    • Cydweithio gydag ysgolion academaidd
    • Amdanom ni
    • Rhowch eich barn i ni
    • A–Y
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor