Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Medi 2020

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Gwybodaeth Covid-19

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Applicants
  • Current Students
  • Staff
  • Job Vacancies
  • Covid-19
My country:

Search

Close

Breadcrumb

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn
  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Trefnu eich amser

Mae’r canllaw yma’n cynnig strategaethau i’ch helpu i gynllunio’ch amser yn effeithiol, gan eich annog i fod mor gynhyrchiol â phosib a rheoli’ch gweithgareddau yn y ffordd orau bosib. Mae rheoli amser yn golygu creu, rhannu a dyrannu amser – hynny yw, mae’n broses weithredol.

Rhagor o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yma (trowch at becyn rhif 3).

Rhan 1: cynllunio amser

Mae cynllunio’n rhan hanfodol o fod yn drefnus. Mae’n golygu rhagweld pa dasgau sydd angen eu gwneud a neilltuo digon o amser i wneud pob un. Mae cynllunio llwyddiannus yn rhoi hyder a phwrpas i chi.

Pum cam yn y broses o gynllunio’n llwyddiannus

1. Edrych ymlaen

Y cam pwysig cyntaf yw pennu:

  • y tasgau mae angen i chi eu gwneud (er enghraifft gwaith cwrs, sesiynau dysgu, astudio ar eich pen eich hun);
  • erbyn pryd mae’n rhaid eu gwneud (er enghraifft dyddiad cyflwyno ar gyfer aseiniad);
  • faint o amser fydd ei angen arnoch i gyflawni pob un o’r tasgau (er enghraifft yr amser y byddwch chi’n ei dreulio mewn sesiynau dysgu neu’n ysgrifennu adroddiad labordy).

Darllenwch lawlyfr eich cwrs ac unrhyw wybodaeth arall sy’n gysylltiedig â’ch modiwlau i asesu’r gofynion o ran amser. Meddyliwch am yr holl wahanol weithgareddau astudio a cheisiwch greu darlun yn eich meddwl o’r berthynas rhwng pob un. Bydd y darlun hwn yn ddefnyddiol dros ben wrth i chi drefnu’ch amser.

2. Gwneud cynlluniau

Ar ôl asesu’r gofynion ar eich amser, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi eu rhoi ar gynllun neu galendr. Cynlluniwch bob semester ar y tro.

Mae nifer o fanteision o ddefnyddio siart wal ar gyfer gwneud hyn.

  • Gallwch weld y semester cyfan o’ch blaen.
  • Gallwch weld dyddiadau cyflwyno gwaith, a pha mor agos ydyn nhw i’w gilydd.
  • Gallwch sganio’r cynllun cyfan yn rhwydd i’ch atgoffa o’r holl wahanol weithgareddau.

Os ydych chi eisoes wedi rhestru’ch cynlluniau mewn calendr neu ddyddiadur, defnyddiwch nhw gan ddilyn yr un dull. Ceisiwch greu darlun yn eich meddwl o’r tymor sydd o’ch blaen – darlun y gallwch ei sganio’n sydyn, ei addasu a’i adolygu.

Cofiwch fod llenwi’r cynllun yn broses weithredol. Defnyddiwch liwiau a delweddau i wahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o weithgareddau. Er enghraifft, nodwch ddyddiadau cyflwyno mewn coch, a’r dyddiadau cychwyn mewn gwyrdd. Defnyddiwch ebychnodau (!) fel rhybudd neu farciau cwestiwn (?) i dynnu sylw at ymrwymiadau amhendant.

Adolygwch eich cynllun tymor hir yn gyson, gan asesu’ch cyflawniadau neu ychwanegu gwybodaeth yn ôl yr angen.

3. Rhannu amser yn gyfnodau byr

Er mwyn dechrau bod â mwy o reolaeth dros eich amser bydd angen i chi ei rannu’n gyfnodau byrrach haws eu trin. Rhowch gynnig ar ddilyn y strategaethau canlynol ar gyfer cynllunio pob diwrnod, wythnos ar y tro.

Cynllunio’r wythnos

Bydd eich amser astudio dros gyfnod o wythnos yn cael ei rannu’n ddau brif faes:

  • eich amser cyswllt neu sesiynau dysgu (darlithoedd, tiwtorialau, dosbarthiadau labordy);
  • eich gweithgareddau astudio preifat (gweithio ar brojectau, darllen ar gyfer traethawd).

Lluniwch amserlen wythnos o hyd sy’n dangos pob diwrnod a phob awr o’r diwrnod hwnnw. Llenwch eich sesiynau dysgu ar gyfer yr wythnos sydd o’ch blaen. Bydd hyn yn rhoi syniad clir i chi o’r adegau pan ydych chi’n rhydd i wneud gweithgareddau eraill, ac am ba gyfnod.

Y cam nesaf yw dechrau dyrannu’r amser ar gyfer eich gweithgareddau eraill. Peidiwch â cheisio cyflawni’ch holl ymrwymiadau astudio mewn ambell sesiwn hir. Gwnewch y defnydd gorau o’r holl amser sydd ar gael, drwy fod yn greadigol yn y ffordd rydych chi’n defnyddio amser. Er enghraifft:

  • defnyddiwch un min nos i gynllunio’ch traethawd;
  • defnyddiwch awr rhwng dwy ddarlith i ymweld â’r llyfrgell;
  • defnyddiwch daith deg munud o hyd mewn bws i adolygu nodiadau eich darlith.

Ceisiwch osod y tasgau iawn yn y cyfnodau cywir. Peidiwch â cheisio ysgrifennu cyflwyniad mewn hanner awr ar ddiwedd y dydd, os ydych chi’n gwybod y byddwch chi’n flinedig. Dewiswch gyfnod mwy addas i’r gweithgaredd yma, pan fydd gennych ddigon o egni i gwblhau’r dasg yn iawn. Yn lle ysgrifennu cyflwyniad, beth am wneud rhywbeth llai heriol fel rhoi trefn ar eich nodiadau?

Pan fyddwch chi’n cynllunio’ch wythnos, ceisiwch gadw cydbwysedd rhwng ymrwymiadau tymor hir a rhai tymor byr. Mae rheoli amser yn effeithiol yn golygu gwneud y dasg iawn ar yr adeg iawn.

Cynllunio diwrnod

Wrth i bob diwrnod newydd nesáu, ewch ati i adolygu’ch cynllun wythnos i wneud yn siŵr bod y tasgau diweddaraf ynddo. Rhestrwch y pethau sydd gennych i’w gwneud bob diwrnod os bydd hynny’n eich helpu i ganolbwyntio ar eich gweithgareddau.

  • Defnyddiwch eich cynllun diwrnod i’ch helpu i fod yn ddisgybledig wrth weithio.
  • Cadwch eich cynllun yn weithredol. Ticiwch y tasgau rydych wedi’u cwblhau, a chadwch lygad ar weithgareddau sydd heb eu gorffen.
  • Peidiwch â gorlwytho’ch cynllun diwrnod – ceisiwch wneud y tasgau realistig yn unig.

4. Gosod blaenoriaethau

Efallai y gwelwch fod angen rhoi sylw i fwy nag un dasg ar y tro mewn wythnos. Dyfeisiwch ffordd o roi trefn ar y gwahanol dasgau, yn ôl eu blaenoriaeth. Gallwch ddefnyddio graff blaenoriaethau (fel yr un sy’n dilyn) i’ch helpu i farnu a ddylai tasg gael blaenoriaeth ai peidio. Rhowch groes yn y graff ar gyfer pob tasg mae angen i chi ei chyflawni. Os mai yn y gornel uchaf ar y dde (pwysig/ar frys) mae’r dasg yn mynd, rhaid ei chyflawni ar unwaith. Os yw’n mynd yn y gornel isaf ar y chwith (llai o frys/pwysigrwydd), dylech ofyn ich’ch hun pam eich bod wedi meddwl gwneud y dasg yn y lle cyntaf!

5. Adolygu cynnydd

Mae’n bwysig eich bod yn adolygu’ch strategaeth gynllunio’n gyson, ac yn ei diweddaru os oes angen. (Mae person sy’n methu rheoli ei amser yn effeithiol yn caniatáu i’w holl flaenoriaethau lithro i gornel dde uchaf y graff pan mae popeth yn fater brys, a rhaid gwneud y cyfan erbyn ddoe!) Ceisiwch osgoi hyn drwy gynllunio ymlaen llaw, a rhagweld unrhyw broblemau neu drafferthion a allai godi.

Rhan 2: defnyddio amser

Pan fyddwch chi’n gweithio am gyfnod hir, mae’n bwysig dod o hyd i ffyrdd o ysgogi’ch meddwl a’ch syniadau. Mae’r awgrymiadau sy’n dilyn yn rhoi sylw i ffyrdd o gadw’ch meddwl yn effro a weithredol wrth astudio. Cofiwch bob amser i osgoi ymddygiad goddefol. Byddwch yn weithredol wrth weithio, a cheisiwch gyflawni’r nod a chyrraedd y targedau. Byddwch ar eich ennill yn y diwedd.

Dechrau arni

Dechreuwch sesiwn waith drwy wneud yn siŵr fod gennych chi ddigon o amser i gyflawni’r dasg. Rhannwch dasg sy’n rhy fawr yn dasgau llai. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall natur y dasg. Bydd gosod targedau clir y mae’n bosib eu cyrraedd yn gwella’ch cymhelliant yn sylweddol.

  • Gosodwch bwynt terfyn pendant - "Dw i’n gwybod bydda i wedi gorffen pan ..."
  • Gosodwch wobrau clir - "Pan fydda i wedi gorffen, fe wna i ..."

Os oes gennych rai tasgau astudio nad ydych yn eu mwynhau, ceisiwch eich gorfodi eich hun i’w gwneud ar ddechrau sesiwn waith. Drwy eu clirio o’r ffordd gallwch eich gwobrwyo eich hun drwy wneud gwaith mwy diddorol. Y peth pwysig yw osgoi rhoi’r tasgau yma ar ddiwedd eich rhestr o ‘bethau i’w gwneud’. Byddan nhw yno am byth!

Dal ati

Gwnewch yn siŵr eich bod yn amrywio’ch gwaith. Ceisiwch osgoi gwneud yr un math o waith am oriau maith; bydd eich ymennydd yn blino ac ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw beth cynhyrchiol. Torrwch unrhyw gyfnodau hir o weithgarwch drwy wirio’r hyn rydych wedi’i gyflawni ac adolygu’ch amcanion. Manteisiwch yn llawn ar doriadau naturiol; cymerwch seibiant pan fyddwch yn cyrraedd diwedd pennod neu’n cwblhau ymarfer. Defnyddiwch y cyfleoedd yma i’ch gwobrwyo eich hun ac ailgynnau’ch brwdfrydedd.

Os ydych chi’n methu’n lân â chanolbwyntio, stopiwch a meddyliwch eto am eich gweithgareddau. Efallai nad oeddech wedi gosod targedau clir na throi ati mewn ffordd weithredol. Peidiwch â brwydro ymlaen a chithau’n methu canolbwyntio. Anaml iawn y byddwch chi’n gallu gwneud unrhyw waith cynhyrchiol, a byddwch chi’n gwastraffu’ch egni.

Cymryd seibiant

Cofiwch gael egwyl os oes angen. Efallai byddwch angen egwyl pan nad ydych yn gallu canolbwyntio mwyach, neu pan ydych wedi bod yn syllu’n rhy hir ar sgrin y cyfrifiadur. Ond mae’n bwysig eich bod yn osgoi gadael i raglen ddiddorol ar y teledu neu sgwrs gyda ffrindiau dynnu’ch sylw. Cadwch eich meddwl ar eich gwaith. Mae hyn yn bwysig er mwyn i chi allu ailgydio yn y gwaith a chanolbwyntio arno mewn ffordd gynhyrchiol.

Gwybod pryd i stopio

Unwaith byddwch wedi cyflawni’ch tasgau, stopiwch. Ewch i’ch sesiwn waith nesaf gan wybod eich bod wedi cyflawni rhywbeth. Peidiwch â dechrau unrhyw waith os ydych chi’n gwybod na fyddwch yn gallu ei orffen, neu os ydych chi’n rhy flinedig i’w wneud yn iawn. Os oes gennych amser dros ben, gwobrwywch eich hunan drwy wneud rhywbeth diddorol nad yw’n hanfodol.

Cydnabod y pethau sy’n eich rhwystro

Mae llawer o bethau’n ein rhwystro rhag defnyddio amser yn effeithiol. Yn eu plith mae:

  • diffyg cymhelliant;
  • methu canolbwyntio’n iawn;
  • awyrgylch gweithio swnllyd.

Ceisiwch chwalu’ch rhwystrau personol drwy fod yn weithredol. Os ydych chi’n gwybod eich bod yn tueddu i anwybyddu gwaith anniddorol neu dasgau anodd, ewch ati i’w gwneud ar unwaith cyn eich gwobrwyo eich hun drwy wneud gwaith mwy cyffrous.

Crynodeb

Mae trefnu’ch amser yn broses bersonol. Bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd o fonitro a chynllunio gweithgareddau sy’n gweddu i chi. Os oes well gennych ddefnyddio rhestri ysgrifenedig, yna defnyddiwch nhw. Os oes well gennych ddilyn cynlluniau a diagramau wrth weithio, defnyddiwch y rheiny. Meddyliwch o hyd am eich dull chi o gynllunio. Defnyddiwch ddull sy’n gweithio i chi.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr hyn mae’n rhaid i chi ei wneud, ac erbyn pryd.
  • Defnyddiwch gynllun tymhorol i’ch helpu i fesur pa mor gynhyrchiol ydych chi dros gyfnod.
  • Defnyddiwch gynllun wythnosol i osod rhaglen glir ar gyfer yr wythnos o’ch blaen.
  • Defnyddiwch restr o ‘bethau i’w gwneud’ i’ch atgoffa am y tasgau sydd gennych i’w gwneud y diwrnod hwnnw.
  • Defnyddiwch amser yn effeithiol drwy osod amcanion clir a realistig, a chadw atyn nhw.


Awdur gwreiddiol: Prifysgol Caerlyr

Hafan

Amdanom Ni

Gwasanaethau a Chyfleusterau

Gwasanaethau Myfyrwyr

  • Canolfan Sgiliau Astudio
    • Trefnu Apwyntiad
    • Cymorth Mathemateg ac Ystadegau
    • Arweinwyr Cyfoed
      • Myfyrwyr newydd a darpar fyfyrwyr
      • Cyfarfod â’r Arweinwyr Cyfoed
      • Mwy o wybodaeth
      • Calendr Arweinwyr Cyfoed
      • Myfyrwyr presennol: eisiau bod yn Arweinydd Cyfoed?
      • Arweinwyr Cyfoed Ôl-radd
      • Newyddion Arweinwyr Cyfoed
      • Manylion Cyswllt
    • Grwpiau Astudio
    • Gweithdai
    • Adnoddau Astudio
      • Astudiaeth Ôl-raddedig
      • Canllaw i Astudio yn y Brifysgol
      • Astudio ac arholiadau
        • Manteisio’r eithaf ar eich darlithoedd
        • Cymryd nodiadau
        • Trefnu eich amser
        • Osgoi llên-ladrad
        • Medrau adolygu a sefyll arholiadau
        • Projectau grŵp llwyddiannus
        • Straen arholiadau
      • Ysgrifennu academaidd
        • Eglurhad ar dermau traethodau
        • Cynllunio project ymchwil ar gyfer traethawd hir
        • Osgoi llên-ladrad
        • Cymryd nodiadau
        • Cyfeiriadau a llyfryddiaethau
        • Celfyddydau golygu
        • Beth yw ysgrifennu beirniadol?
        • Ysgrifennu traethawd hir
        • Ysgrifennu traethodau
          • Cyngor gan Ddarlithwyr
        • Ysgrifennu adroddiadau
        • Defnyddio Microsoft Office
        • Adnoddau Astudiaeth Ôl-raddedig
      • Mathemateg ac ystadegau
      • Cyflwyniadau
        • Rhoi cyflwyniad effeithiol
        • Cynllunio cyflwyniad effeithiol
        • Defnyddio cymhorthion gweledol
        • Defnyddio Microsoft PowerPoint
      • Darllen ac ymchwil
        • Beth yw darllen beirniadol?
        • Cymryd nodiadau
        • Gwella eich medrau darllen
        • Cyfeiriadau a llyfryddiaeth
      • Cyfeirnodi
    • Dysgu o Bell
    • Grwpiau Ysgrifennu Ymchwil
    • Cyfeirio myfyrwyr
    • Cydweithio gydag ysgolion academaidd
    • Amdanom ni
    • Rhowch eich barn i ni
    • A–Y
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

marchnata@bangor.ac.uk

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor