Cynllunio cyflwyniad effeithiol
Bydd y canllaw astudio yma’n rhoi golwg i chi ar y broses o gynllunio cyflwyniad effeithiol. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd y berthynas rhwng y cyflwynydd a’r gynulleidfa, ac yn cynnig strategaethau pwysig i’ch helpu i wneud argraff ar eich gwrandawyr.
Canllawiau defnyddiol eraill:
Beth sy’n gwneud cyflwyniad yn effeithiol?
Mae cyflwyniad effeithiol yn gwneud y gorau o’r berthynas rhwng y cyflwynydd a’r gynulleidfa. Mae’n rhoi sylw llawn i anghenion y gynulleidfa gyda’r nod o ennyn eu diddordeb, eu helpu i ddeall, codi eu hyder a chyflawni amcanion y cyflwynydd.
Mae cynllunio gofalus yn gwbl hanfodol.
Saith cam yn y broses o gynllunio cyflwyniad
1. Paratoi
Mae amryw o ffactorau’n effeithio ar gynllun eich cyflwyniad. Bydd cyflwynydd deinamig yn cydnabod y ffactorau sy’n dilyn, ac yn rhoi sylw i bob un:
- yr amcanion;
- y gynulleidfa;
- y gynulleidfa;
- a’r cylch gwaith.
Yr amcanion
Pam ydych chi’n rhoi’r cyflwyniad? Cofiwch am y pethau rydych chi’n awyddus i’w cyflawni, ac am y pethau rydych chi’n gobeithio y bydd eich cynulleidfa’n eu dysgu. Pan fyddwch chi wedi penderfynu ar eich amcanion, rydych chi’n fwy parod i feddwl am natur a thôn eich cyflwyniad. Er enghraifft, efallai fod gofyn i chi gyflwyno dadl fwy cytbwys i grŵp o bobl mewn seminar. Ond efallai fod lle i chi fod yn fwy creadigol os ydych chi’n cyflwyno apêl ar ran elusen. Holwch eich hun:
- beth ydych chi’n awyddus i’ch cynulleidfa ddod i’w ddeall?
- pa gamau ydych chi’n awyddus i’ch cynulleidfa eu cymryd ar ôl eich cyflwyniad?
- beth yw’r ffordd orau o gynllunio’ch cyflwyniad i fodloni eich amcanion?
Y gynulleidfa
Bydd profiad, diddordebau a gwybodaeth pob aelod o’ch cynulleidfa’n wahanol. Bydd gofyn i gyflwynydd deinamig gydnabod yr amrywiaeth yma, a pharatoi ac ymateb mewn ffordd briodol. Holwch eich hun:
- faint fydd eich cynulleidfa’n ei wybod yn barod am y pwnc?
- sut gallwch chi gysylltu deunydd newydd â’r wybodaeth sydd ganddyn nhw’n barod?
- oes gofyn i chi eu darbwyllo i dderbyn rhyw safbwynt arbennig?
Efallai na fyddwch chi’n gallu ateb y cwestiynau yma yn achos pob aelod o’ch cynulleidfa. Ond dylech chi allu casglu digon o wybodaeth i sicrhau eich bod wedi gosod eich deunydd ar lefel sy’n cyfateb i’w hanghenion. Efallai y bydd hyn yn golygu osgoi defnyddio jargon technegol, neu efallai fod gofyn cynnig enghreifftiau ymarferol i esbonio cysyniadau haniaethol. Os na fyddwch chi’n rhoi sylw i anghenion eich cynulleidfa, fyddwch chi ddim yn ennyn eu diddordeb nac yn ysgogi eu dychymyg.
Y lleoliad
Ble byddwch chi’n rhoi’r cyflwyniad? Pa fath o ystafell fydd hi? Pa fath o awyrgylch fydd yn yr ystafell? Mae darlithfa fawr yn debyg o greu awyrgylch digon ffurfiol ond mae ystafell seminar yn gallu creu naws lai ffurfiol. Holwch eich hun:
- pa fath o awyrgylch ydw i’n awyddus i’w greu?
- ym mha ffordd allai trefn yr ystafell effeithio ar eich perthynas â’r gynulleidfa?
- allwch chi wneud unrhyw beth i newid trefn yr ystafell i’w gwneud yn fwy addas i’ch amcanion?
- pa gyfarpar clyweledol allwch chi eu defnyddio?
Y cylch gwaith
Mae’n eithaf sicr eich bod wedi cael cylch gwaith ar gyfer eich cyflwyniad, a bydd gofyn i chi gadw ato. Er enghraifft, efallai y cawsoch chi gais i gyflwyno papur mewn cynhadledd gan ddilyn arddull arbennig, neu efallai fod y cyflwyniad yn un o feini prawf asesu eich cwrs. Holwch eich hun:
- faint o amser sydd ar gael ar gyfer y cyflwyniad?
- oes disgwyl i chi gadw at fformat neu arddull arbennig?
- a gawsoch chi unrhyw ganllawiau ynglŷn â chynnwys eich cyflwyniad (hynny yw, teitl arbennig neu derfyn ar nifer y sleidiau neu dryloywderau y gallwch eu dangos)?
2. Dewis eich prif bwyntiau
Ar ôl i chi feddwl am gynllun eich cyflwyniad, byddwch chi’n gallu diffinio’ch prif bwyntiau. Ceisiwch beidio â gwneud mwy na thri phwynt mewn cyflwyniad deg munud o hyd. Cofiwch adael amser ar gyfer rhagarweiniad a chasgliad digonol. Mae’n anodd i gynulleidfa ddilyn dadl hynod o gymhleth heb lawer o help gan y cyflwynydd. Mae cyflwyniad deinamig yn rhoi gwybodaeth mewn ffordd resymegol sy’n golygu bod pob pwynt yn ychwanegu gwybodaeth at yr un o’i flaen. Ac nid yw’n neidio’n ddi-drefn o bwynt i bwynt. Holwch eich hun:
- beth yw’r prif bwyntiau yr ydw i’n awyddus i’w cyflwyno?
- ydw i wedi strwythuro’r pwyntiau yma mewn ffordd resymegol a chlir?
- ydy’r pwyntiau yma’n cyfleu eich amcanion eich hun, ac ydyn nhw’n rhoi sylw i anghenion eich cynulleidfa?
3. Dewis eich gwybodaeth gefndirol
Pwrpas y wybodaeth gefndirol yw helpu’ch cynulleidfa i ddeall a derbyn eich prif bwyntiau, ac i gytuno â nhw. Efallai mai ar ffurf data ffeithiol fydd y dystiolaeth yma, neu ar ffurf pwyntiau manwl neu esboniad o broses. Gallwch chi gyflwyno’r wybodaeth mewn ffordd greadigol drwy ddefnyddio diagramau, lluniau neu rannau o fideos. Meddyliwch am y cwestiynau yma:
- beth fydd yn gwneud eich dadl yn fwy clir (egluro termau cymhleth, atgoffa’ch cynulleidfa o unrhyw theorïau cefnogol)?
- beth fydd yn gwneud eich dadl yn fwy awdurdodol (cysylltu’r cyflwyniad â gwaith pobl eraill, dyfynnu geiriau arbenigwyr, cynnig tystiolaeth o’ch ymchwil eich hun)?
- beth fydd yn rhoi lliw i’ch dadl (dangos rhan o fideo neu sleid, defnyddio enghraifft ymarferol neu ffordd fywiog o gymharu)?
4. Defnyddio gosodiadau cysylltu
Y cam nesaf yw datblygu llif eich cyflwyniad. Gallwch chi wneud hyn drwy ddefnyddio gosodiadau cysylltu i ddangos yn glir sut mae’ch prif bwyntiau’n perthyn i’w gilydd. Ymhlith y gosodiadau cysylltu cyffredin mae:
- “Y cam nesaf yn ein project oedd ...”;
- “Un arall o’r pethau pwysig i’w hystyried oedd ...”;
- “Drwy ddilyn y ddadl yma rydyn ni’n gallu gweld rŵan ...”.
Mae gosodiadau cysylltu’n gweithredu fel arwydd i’r gynulleidfa. Maen nhw’n tynnu sylw at y pwynt neu’r cam nesaf yn eich cyflwyniad ac yn creu cyswllt rhyngddo â’ch syniadau blaenorol. Mae’r math yma o osodiadau’n gallu bod yn bwysig iawn mewn cyflwyniad hir, lle mae’n rhaid i hyd yn oed y cyflwynydd mwyaf effeithiol weithio’n galed i gadw diddordeb y gynulleidfa.
5. Cychwyn cadarn
Mae rhagarweiniad eich cyflwyniad yn bwysig tu hwnt. Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf â’r gynulleidfa ac mewn eiliad neu ddau gallwch chi ennyn neu golli eu diddordeb. Defnyddiwch eich rhagarweiniad i osod sylfaen glir ar gyfer y cyflwyniad sydd i ddod. Rhowch gynnig ar ddefnyddio’r strwythur canlynol:
- cyflwyno’ch hunan;
- dywedwch beth fyddwch chi’n ei drafod (y teitl neu’r maes);
- dywedwchsut byddwch chi’n trafod y testun (er enghraifft drwy gymharu canlyniadau profion neu adolygu dogfennau cefnogol);
- dywedwch beth ydych chi’n bwriadu ei gyflawni yn eich cyflwyniad (grŵp sydd wedi dysgu rhywbeth, trafodaeth fywiog);
- dywedwch beth ddylai’r gynulleidfa ei wneud (gwrando, gwneud nodiadau, darllen taflen wybodaeth, gofyn cwestiynau cyn, yn ystod neu ar ôl y cyflwyniad).
Oedwch am eiliad neu ddau er mwyn i’r wybodaeth honno dreiddio i feddyliau’r gynulleidfa, cyn symud ymlaen at eich prif bwynt cyntaf.
6. Datblygu’ch casgliad
Mae’ch casgliad yn gam pwysig arall yn eich cyflwyniad. Gallwch ddefnyddio’r casgliad i atgoffa’r gynulleidfa o’ch prif bwyntiau, i dynnu’r pwyntiau at ei gilydd ar ffurf casgliad cyffrous ac i adael argraff ym meddyliau’r gynulleidfa eich bod wedi rhoi cyflwyniad o safon. Byddai’r strwythur canlynol yn fath cadarn o gasgliad:
- adolygu eich teitl neu’r maes dan sylw “Yn y cyflwyniad yma roeddwn i’n awyddus i archwilio’r berthynas rhwng W ac Y.”;
- crynhoi eich prif bwyntiau “Rydym wedi trafod y pwyntiau canlynol…”;
- crynhoi’r broses rydych chi wedi’i harwain “Wrth edrych ar W fe welsom fod Y yn…”;
- rhoi casgliad sy’n amlwg yn deillio o’ch prif bwyntiau (rhaid bod y manylion yn eich cyflwyniad yn ategu hyn) “IMae’n amlwg nad oes posib cael perthynas wirioneddol rhwng W ac Y";
- cloi’r cyflwyniad drwy ddweud rhywbeth a fydd yn ysgogi’r gynulleidfa i feddwl (gall fod yn gwestiwn neu’n sylw beiddgar).
7. Adolygu’ch cyflwyniad
Ar ôl i chi ysgrifennu’ch cyflwyniad, gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu’r cynnwys ac yn darllen drosto. Holwch eich hun:
- a yw’r cyflwyniad yn cyflawni’ch amcanion?
- a oes strwythur rhesymegol iddo?
- a yw’r deunydd wedi’i osod ar lefel sy’n briodol i’ch cynulleidfa?
- a yw’r cyflwyniad yn rhy hir neu’n rhy fyr?