Cyfeirnodau a llyfryddiaethau
Pwrpas y canllaw byr yma yw eich helpu i ddeall pam y dylech chi gynnwys cyfeirnodau at y ffynonellau o wybodaeth rydych chi’n eu defnyddio fel sail i’ch gwaith ysgrifennu. Mae’n esbonio prif egwyddorion y broses o ddefnyddio cyfeirnodau cywir ar gyfer eich prif ffynonellau.
Canllawiau defnyddiol eraill:
Pam bod angen defnyddio cyfeirnodau?
Pan fyddwch chi’n ysgrifennu traethawd, adroddiad, traethawd hir neu unrhyw ddarn arall o waith academaidd, mae’n anochel y bydd eich meddyliau a’ch syniadau’n datblygu gwaith ysgrifenwyr, ymchwilwyr neu athrawon eraill. Mae’n hanfodol eich bod yn cydnabod y ffynonellau o unrhyw ddata, ymchwil a syniadau rydych yn eu defnyddio yn eich gwaith. Rhaid i chi gynnwys cyfeirnodau’r ffynonellau yma yn eich gwaith, a manylion llawn amdanyn nhw. Mae cynnwys y cyfeirnodau fel hyn yn caniatáu i’r darllenwr:
- wahaniaethu rhwng eich syniadau a’ch darganfyddiadau chi a’r rhai rydych chi wedi’u tynnu o waith pobl eraill;
- mynd ati i ddarllen yn fwy manwl y syniadau neu’r ffeithiau rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw.
Cyn dechrau ysgrifennu
Pan fyddwch chi’n darllen neu’n ymchwilio i rywbeth ar gyfer eich gwaith ysgrifennu, cynhwyswch yn eich nodiadau neu ar unrhyw lungopi, y manylion cyhoeddi llawn ar gyfer pob testun rydych chi’n ei ddarllen. Dylai’r manylion yma gynnwys:
- cyfenw(au) a llythyren (llythrennau) cyntaf enw'r awdur(on);
- dyddiad cyhoeddi’r ddogfen;
- teitl y testun;
- os yw’n bapur, teitl y cylchgrawn a rhif y gyfrol;
- os yw’n bennod o lyfr sydd wedi’i olygu, teitl y llyfr ac enw'r golygydd(ion), y cyhoeddwr a’r man cyhoeddi*;
- rhifau’r dudalen gyntaf a’r un olaf os mai erthygl o gylchgrawn sydd dan sylw, neu bennod o lyfr sydd wedi’i olygu.
Yn achos pwyntiau pwysig iawn neu rannau o’r testun rydych am eu cynnwys fel dyfyniad, cofiwch ysgrifennu union rif y dudalen yn eich nodiadau.
* Peidiwch â drysu rhwng cyhoeddwr y llyfr a’r cwmni argraffu. Mae enw’r cyhoeddwr i’w weld fel arfer ar brif dudalen deitl y llyfr, ac yn aml ar ei feingefn hefyd.
Yr adeg i ddefnyddio cyfeirnodau
Dylech chi gydnabod eich ffynhonnell bob tro y byddwch chi’n defnyddio pwynt, data neu fath arall o wybodaeth sy’n deillio’n bennaf o waith rhywun arall ac nid eich gwaith chi sydd dan sylw. Yn fras iawn, mae’n bur debyg y bydd eich cyflwyniad a’ch casgliad wedi’u seilio'n bennaf ar eich syniadau chi. Ond ym mhrif gorff eich adroddiad, eich traethawd neu’ch traethawd hir, gallech chi ddisgwyl bod yn tynnu gwybodaeth o waith pobl eraill. Dylech chi felly gydnabod eich dyled ym mhob un o brif adrannau neu baragraffau’ch gwaith. Edrychwch ar y ffordd mae’ch ffynonellau’n defnyddio cyfeirnodau yn eu gwaith eu hunain. Mae mwy o arweiniad hefyd yn y canllaw astudio Osgoi llên-ladrad.
Arddulliau ysgrifennu cyfeirnodau
Mae nifer o wahanol gonfensiynau’n cael eu defnyddio wrth ysgrifennu cyfeirnodau. Bydd gan bob adran ei hoff fformat, ac mae gan bob cylchgrawn neu olygydd llyfrau ei ‘reolau’ ei hun.
Pa bynnag system o ysgrifennu cyfeirnodau y byddwch yn ei defnyddio, gofalwch eich bod wedi:
- creu rhestr o gyfeirnodau, llyfryddiaeth, troednodiadau neu ôl-nodiadau sy’n rhoi manylion llawn am yr holl ffynonellau rydych chi wedi’u crybwyll yn eich testun;
- defnyddio atalnodi a dulliau fformatio (fel llythrennau italig, llythrennau mawr a phrint trwm) yn gyson yn eich rhestr o gyfeirnodau neu droednodiadau/ôl-nodiadau.
Darllen pellach
Mae’r cyhoeddiadau canlynol yn cynnig trafodaeth fanylach o’r gwahanol gonfensiynau wrth ysgrifennu cyfeirnodau:
- Berry, R. 2004: The Research Project: How to Write It. Llundain ac Efrog Newydd: Routledge.
- Gash, S. 1999: Effective Literature Searching for Students (ail argraffiad). Aldershot: Gower.
- Gibaldi, J. 2004: MLA Handbook for Writers of Research Papers (chweched argraffiad). Efrog Newydd: The Modern Language Association of America.
- Watson, G. 1987: Writing a Thesis: a Guide to Long Essays and Dissertations. Llundain: Longman.