Sgiliau adolygu ar gyfer arholiadau
Adolygu ar gyfer arholiadau sydd dan sylw yn y canllaw astudio yma. Mae llawer o’r syniadau sydd ynddo’n deillio o drafodaethau â myfyrwyr a ddaeth i diwtorialau astudio.
Mae adolygu’n broses bersonol, unigol
Mae’n debyg y bydd pob myfyriwr yn mynd ati yn ei ffordd ei hun i adolygu, a bod hon yn un o’r prosesau mwyaf unigol yn ei fywyd academaidd. Mae gan bob myfyriwr:
- ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth ei hun;
- ei ffordd ei hun o ymateb i straen y cyfnod adolygu ac arholiadau;
- ei hoff dechnegau adolygu;
- a’i gyd-destun seicolegol a’i fywyd ei hun, sy’n sylfaen i’r gwaith adolygu.
Er y gallwch chi gael syniadau ynglŷn â thechnegau adolygu o lyfrau a chan bobl eraill, mae angen i chi hefyd ddod i adnabod eich cryfderau a’ch gwendidau eich hun. Faint ydych chi’n ei wybod yn barod? Sut ydych chi’n adolygu? Pa ffactorau sydd fel arfer yn achosi problemau i chi wrth reoli’ch gwaith adolygu?
Efallai bydd y rhestr sy’n dilyn yn eich helpu i adnabod cyfuniadau o gyd-destunau lle y byddai’n well gennych chi adolygu.
- Bore cynnar – ganol bore
- Ganol bore – bore hwyr
- Prynhawn cynnar – ganol prynhawn
- Ganol prynhawn – prynhawn hwyr
- Gyda’r nos yn gynnar – gyda’r nos yn hwyrach
- Gyda’r nos yn hwyrach – gyda’r nos yn hwyr iawn
- Yn y llyfrgell
- Mewn caffi
- Yn ystod taith ar fws neu drên
- Gartref
- Yn yr awyr agored
- Yn eich adran
- Ar eich pen eich hunan mewn distawrwydd
- Ar eich pen eich hunan gyda cherddoriaeth yn chwarae yn y cefndir
- Gyda rhywun arall ond yn gweithio’n annibynnol
- Gyda rhywun arall ac yn gweithio gyda’ch gilydd
- Mewn tiwtorial adolygu
Efallai y byddai gwahanol gamau’r broses adolygu’n well mewn cyd-destunau gwahanol. I ddechrau, efallai y byddai’n well gennych weithio’n dawel ar eich pen eich hun, ganol bore, gartref. Yn ddiweddarach, efallai y byddai’n well gennych weithio ganol prynhawn, gyda rhywun arall, mewn caffi. Y peth pwysig yw cyfateb y math o adolygu rydych chi’n ei wneud i’r cyd-destun sy’n eich galluogi chi i weithio orau.
Rheoli’r broses
Mae’n hawdd teimlo bod pethau’n drech na chi. Efallai eich bod yn teimlo bod y dasg yn rhy fawr, ac na fyddwch chi’n llwyddo beth bynnag byddwch chi’n ei wneud. Mae’n bwysig gallu asesu hyd a lled y dasg, ond mae’n bwysig hefyd eich bod yn realistig o ran y gwaith y gallwch ei wneud yn yr amser sydd ar gael. Bydd y cyfnod adolygu ac arholiadau’n siŵr o achosi straen. Mae angen i chi fonitro’r straen, a gwneud iddo weithio er eich lles ac nid yn eich erbyn.
Y gyfrinach yw bod yn realistig. Bydd llai o amser rhydd gennych, ond dim ond am gyfnod. Ni fydd rhaid i chi wneud heb amser rhydd am byth.
Os ydych chi’n poeni’n gyffredinol am yr arholiadau, cymerwch 10 munud i restru’r union bethau sy’n eich poeni. Bydd gwneud hynny’n eich helpu i ddyfeisio rhai strategaethau i ddelio â’r pryderon arbennig hynny. Gallwch gymharu’r cysyniad o ‘adolygu’ â’r cysyniad o ‘hyfforddiant’ athletwyr. Yn gyntaf, darllenwch y rhestr sy’n dilyn fel y mae. Yna, ceisiwch ei darllen eto ond rhowch ‘myfyrwyr’ yn lle ‘athletwyr’; ‘adolygu’ yn lle ‘hyfforddiant’; ac ‘arholiadau’ yn lle ‘cystadlu’.
Athletwyr dan hyfforddiant
- Mae angen i athletwyr ystyried faint o hyfforddiant maen nhw’n ei wneud, a safon yr hyfforddiant.
- Mae cael digon o hyfforddiant yn hanfodol, ond mae cynllunio amser i wella’n bwysig hefyd. Heb amser i wella, byddai athletwyr yn gwthio’u hunain yn rhy bell a bydd eu perfformiad mewn cystadlaethau’n dirywio.
- Mae gofyn teilwra’r hyfforddiant yn ofalus i gyd-fynd â’r gofynion wrth gystadlu. Ni ddylai fod yn broses ddi-batrwm, ‘hap a siawns’, fydd yn llenwi amser ond na fydd yn golygu ennill cystadlaethau.
- Mae rhai agweddau ar berfformiad athletwyr yn gryfach nag agweddau eraill. Mae angen meithrin yr agweddau cadarn a gwneud yn fawr ohonyn nhw. Ond hefyd mae angen iddyn nhw weithio ar eu gwendidau er mwyn gwella’u perfformiad cyffredinol.
- Mae angen i athletwyr adnabod eu hunain yn dda a deall eu hymateb i hyfforddiant ac i’r broses wella. Dyma’r ffordd i berfformio ar eu gorau ar y diwrnod.
- Drwy gynllunio’r hyfforddiant yn gall, bydd modd trefnu sesiynau o safon yn agos i’r gystadleuaeth. Ond hefyd bydd cyfle i orffwys er mwyn bod ar eu gorau ar y diwrnod.
Safon yn rhagori ar gyfanswm
Mae’n bwysig canolbwyntio ar safon yr adolygu, yn hytrach nag adolygu’n ddi-dor am oriau maith. Mae hyn yn golygu ceisio sicrhau bod eich cyfnodau adolygu, waeth beth yw eu hyd, yn rhai:
- o safon;
- lle’r ydych chi’n canolbwyntio’n ddwys;
- ac yn defnyddio’r dull mwyaf priodol o adolygu.
Yn yr un ffordd ag y mae athletwyr yn cynnwys cyfnodau o orffwys a gwella yn eu sesiynau hyfforddi er mwyn i’w cyrff fanteisio i’r eithaf ar yr ymdrech, mae gofyn i fyfyrwyr gynnwys cyfnodau o seibiant yn eu hamserlen adolygu fel cyfle i’r ymennydd atgyfnerthu’r gwaith dysgu.
Gosodwch amser realistig a phendant i stopio pob sesiwn adolygu. Dylai hyn helpu i gynnal safon pob sesiwn adolygu. Dylai’r sesiwn fod yn ddigon byr i sicrhau eich bod yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar adolygu. Gallech chi:
- drefnu eich bod yn cau allan y pethau a allai dynnu’ch sylw yn ystod y cyfnod adolygu;
- gosod amcanion penodol ar gyfer y sesiwn hwnnw;
- a gwneud i’ch hun ganolbwyntio’n llwyr drwy gydol y cyfnod, gan wybod y gallwch chi gerdded oddi yno pan fydd y cyfnod ar ben.
Ffordd arall o ddefnyddio cyfnodau penodol byr i wneud gwaith adolygu o safon yw chwilio am gyfleoedd i gyfuno adolygu’n gynhyrchiol â gweithgareddau eraill. Er enghraifft:
- gallai taith ar fws neu drên fod yn gyfle da a phenodol i ymarfer yn eich meddwl sut mae esbonio pwnc;
- gallech chi gymryd un neu ddau o gwestiynau arholiad gyda chi wrth i chi fynd am dro neu allan i redeg.
Fe allech chi weld bod gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored yn arwain at ddau beth da, sef cadw’n heini, a rhyddhau’ch ymennydd i weld y pwnc dan sylw o safbwynt arall.
Mesur hyd a lled y dasg
Gorau po gyntaf y gallwch chi fesur hyd, lled a natur y dasg adolygu. Gwnewch restr drefnus o’r pethau mae angen i chi eu hadolygu, ac asesu pa mor drwyadl mae angen gwneud pob un. Mae hyn yn caniatáu i chi gasglu rhagor o wybodaeth neu ddeunyddiau i’ch helpu cyn dechrau o ddifrif ar y gwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod pa bethau mae disgwyl i chi eu hadolygu ac, yn bwysicach efallai, pa rai nad oes disgwyl i chi eu hadolygu.
Adolygu’n weithredol, nid yn oddefol
Mae adolygu gweithredol yn llawer mwy effeithiol nac adolygu goddefol. Mae adolygu goddefol yn gysylltiedig â gweithgareddau fel darllen nodiadau a chopïo deunyddiau. Mae adolygu gweithredol yn golygu defnyddio a threfnu deunyddiau.
- Dyma’r dechneg adolygu sylfaenol:
- ei leihau i rywbeth llai ar ffurf nodiadau;
- edrych drosto unwaith eto;
- ei leihau eto drwy greu rhestr o bwyntiau bwled efallai.
Gwaetha’r modd, a heb fynd ati’n ofalus, fe allai’r dechneg yma fynd yn ymarfer goddefol sy’n cymryd llawer o amser.
Tra bod y math hwn o weithgarwch yn sylfaen gwbl deg efallai i’ch gwaith adolygu, mae angen i chi wneud yn siŵr nad ydych chi’n treulio amser maith yn copïo deunyddiau mewn ffordd oddefol.
Gallwch chi gymharu dysgu gweithredol a goddefol â’r cysyniad o adnabod rhywbeth a’i alw i’ch cof. Mae’n llawer haws adnabod enw rhywun ar ôl ei glywed, na galw’r enw i’ch cof heb unrhyw gliwiau.
Yn yr un ffordd, mae’n llawer haws darllen drwy dudalen o’ch nodiadau, a meddwl, “Ydw, dw i’n gwybod hwn”, na rhoi’ch llaw dros y dudalen a siarad am y testun.
Geiriau sy’n gysylltiedig â dull gweithredol o adolygu
- trefnu
- dewis
- dehongli
- cysylltu
- archwilio
- defnyddio
- cyfrifo
- esbonio
- galw i gof
- categoreiddio
- addysgu
- ad-drefnu
- datblygu
- dadlau
- gwneud diagnosis
Ar wefan Prifysgol Caeredin mae adran ddefnyddiol iawn ar adolygu sy’n awgrymu rhai ffyrdd o wneud eich gwaith adolygu’n weithredol. Dyma gyfieithiad o ran o’r wefan:
“Mae adolygu’n weithredol yn awgrymu gwneud ymdrech go iawn i ddeall yr hyn rydych chi’n ei ddysgu, yn hytrach na mater syml o geisio dysgu’r gwaith ar eich cof. Hyd yn oed os oes gofyn i chi ddysgu llawer o ffeithiau ar gyfer eich arholiadau, rydych chi’n fwy tebygol o gadw gwybodaeth fanwl yn eich cof os ydych chi’n ei deall. Mae sawl ffordd o gyflawni hyn. Rhowch gynnig ar rai o’r awgrymiadau sy’n dilyn:
- Chwilio am themâu neu egwyddorion sy’n rhedeg drwy’r gwaith.
- Meddwl am y berthynas rhwng gwahanol bethau.
- Cysylltu’r hyn rydych chi’n ei ddysgu â sefyllfaoedd go iawn yn eich bywyd.
- Meddwl sut y gallai’r ateb i un broblem eich helpu i ateb rhai eraill.
- Trefnu deunyddiau yn ôl strwythur hierarchaidd.
- Creu diagram neu siart i gyfleu pwnc neu faes.
- Chwilio am y pethau sy’n debyg a’r rhai sy’n wahanol.
- Chwilio am bwyntiau o blaid ac yn erbyn dadl.
- Ceisio deall yn iawn sut mae fformwlâu’n gweithio.
- Mynd ati i bwyso a mesur yn feirniadol y pethau rydych chi’n eu dysgu.
- Trafod pynciau neu feysydd gyda ffrind.”
Amserlennu
Mae nifer o wahanol gamau i’r broses adolygu, ac mae’n debyg y byddwch chi’n awyddus i adolygu rhai elfennau o’r cwrs nifer o weithiau mewn ffyrdd ychydig yn wahanol. Pan fyddwch chi’n paratoi’ch amserlen adolygu dylech chi gynnwys sesiynau’n ailadrodd gwaith lle bynnag y gallwch chi. Efallai y bydd y tri chynllun sy’n dilyn yn ddefnyddiol i chi.
Cynllun A: Cynllun posibl ar gyfer cynllunio’r cyfnod adolygu cyfan

Cynllun B: Cynllun posibl ar gyfer cynllunio’r wythnos sydd ar ddod

Cynllun C: Cynllun posibl ar gyfer cynllunio’r diwrnod nesaf

Ar gynllun A gallwch:
- nodi amseroedd yr arholiadau;
- dangos yr amser pan na fyddwch chi ar gael, er enghraifft: o achos chwaraeon, cyngerdd ac ati.
- gweithio’n ôl o bob arholiad ac amserlennu sesiynau adolygu munud olaf a sesiynau ‘ailadrodd’ ar gyfer pob pwnc, yn agos at yr arholiad perthnasol.
- o fewn y cyfnod arholiadau mae’n debyg y byddwch chi’n gallu amserlennu sesiynau adolygu ar gyfer yr arholiadau ar ddiwedd y cyfnod, unwaith y bydd yr arholiadau cynharaf ar ben. Dylai hyn ryddhau amser yn gynnar yn y cyfnod.
Defnyddiwch gynlluniau B a C i reoli’r wythnosau a’r dyddiau’n fwy manwl. Eto, cofiwch fod yn realistig o ran faint o adolygu o safon y gallwch ei wneud ar y tro, cyn bod angen seibiant arnoch.
Fe allech chi ddechrau drwy adolygu un neu ddau o bynciau rydych chi’n eithaf hyderus yn eu cylch. Fe allai gwneud hyn eich atgoffa o’r lefel y mae angen i chi anelu ati yn y pynciau eraill. Fe allai hefyd wneud i chi deimlo eich bod wedi gwneud dechrau cadarn.
Asesu sut mae pethau’n mynd
Mae’n hanfodol eich bod yn asesu’n rheolaidd sut mae’r gwaith adolygu’n dod yn ei flaen. Newidiwch eich cynlluniau os oes angen. Os byddwch chi’n gweld bod yr adolygu’n cymryd mwy o amser na’r disgwyl, gallwch chi wneud sawl peth:
- ychwanegu mwy o sesiynau adolygu;
- newid eich arddull adolygu i fod yn fwy effeithlon;
- os oes wir raid i chi, dylech ddewis a dethol a lleihau’r hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud.
Drwy asesu’ch profiadau ar ddechrau’r cyfnod adolygu, dylai fod yn bosib addasu eich amserlen adolygu ar gyfer gweddill yr amser fel ei bod yn gweithio’n fwy effeithiol i chi.
Byddwch yn barod i wella’ch technegau adolygu
Efallai byddwch chi’n gweld bod angen addasu, ymestyn neu newid y technegau adolygu rydych chi wedi’u defnyddio’n llwyddiannus yn y gorffennol, er mwyn ymateb i heriau newydd. Edrychwch ar eich arferion adolygu’n feirniadol ac yn onest. Os nad ydyn nhw’n ddigon da ar gyfer y dasg o’ch blaen, chwiliwch am ffyrdd newydd o weithio. Efallai byddwch chi’n gweld y gallwch chi wella pethau’n sylweddol. Efallai byddwch chi hyd yn oed yn teimlo eich bod wedi creu mwy o amser.
Technegau cofio
Yn ogystal â darllen, deall ac ysgrifennu nodiadau, efallai y byddwch chi’n teimlo bod angen i chi ddefnyddio technegau cofio penodol i ddod â grwpiau o ffeithiau neu brosesau i’ch cof. Dyma’r amser i ddysgu am botensial mnemonigion (mnemonics). Techneg cofio yw mnemonig sy’n gweithio fel hyn: meddyliwch am rywbeth hawdd ei gofio sy’n eich ysgogi i gofio rhywbeth anoddach ei gofio. Un o’r mnemonigion mwyaf cyfarwydd yn y Saesneg yw Richard Of York Gave Battle In Vain – sef ffordd o helpu pobl i gofio lliwiau’r enfys (Red, Orange, Yellow, Green, Blue, Indigo a Violet), ac mae pawb sydd wedi cael gwersi piano wedi dysgu Every Good Boy Deserves Favour, sef enwau’r llinellau ar gleff y trebl. Enghraifft i’n helpu i gofio pa lythrennau sy’n treiglo yn y Gymraeg yw ‘TCP – Buy Good Disinfectant, Llinos mam Rhys’.
Mae gan rai disgyblaethau eu hoff dechnegau. Gallwch chi hefyd greu eich mnemonigion eich hun i’ch helpu i gofio rhestri o syniadau, cwestiynau, camau, dimensiynau ac ati. Gallech chi hefyd ddefnyddio mnemonig i wneud yn siŵr nad ydych chi’n methu cam pwysig mewn proses, neu’n anghofio agwedd ar broblem.
Ffordd debyg arall o gofio yw’r rhestr hynod ddefnyddiol o gwestiynau syml: Beth? Sut? Ble? Pryd? Pwy? Pam? Pa ots? Defnyddiwch y rhestr i ymarfer meddwl yn ochrol am bwnc neu faes. Gallai fod yn ddefnyddiol mewn arholiad i’ch helpu i feddwl am yr holl wahanol atebion posib i gwestiwn, neu am y gwahanol gynlluniau sy’n bosib ar gyfer traethawd.
Wrth geisio cofio llawer o ddeunydd, bydd angen i chi ddod o hyd i nifer o wahanol ddulliau sy’n gweithio i chi. Gallwch chi ddefnyddio cydgysylltiadau, diagramau, mapiau meddwl, naratifau, lliwiau, llefydd ac ati, i gysylltu cynnwys y cwrs â delweddau neu brofiadau hawdd eu cofio.
Rhoi prawf ar eich gwybodaeth
Wrth i chi adolygu gallwch chi greu rhestr o gwestiynau ar yr hyn rydych chi newydd ei adolygu. Pan ddewch chi’n ôl at y pwnc, dechreuwch drwy geisio ateb y cwestiynau. Bydd hyn yn tynnu sylw at y meysydd sy’n gofyn am fwy o waith adolygu manwl.
Mae bob amser yn syniad da i chi asesu faint rydych chi’n gallu ei gofio am bwnc cyn edrych eto ar eich nodiadau. Beth am wneud amser i geisio cofio gymaint â phosib cyn troi’n ôl at y nodiadau? Drwy feddwl yn galed am bwnc fel hyn, byddwch chi’n gallu adnabod yr elfennau roeddech chi wedi’u hanghofio. A byddwch chi’n barod i osod yr elfennau hynny’n gadarn yn eich cof.
Mae ‘mapiau meddwl’ neu ‘fapiau syniadau’ yn ffordd ddefnyddiol o asesu faint rydych chi’n ei gofio am bwnc. Ar ôl ysgrifennu popeth rydych chi’n ei gofio, ceisiwch ymestyn y map drwy ychwanegu mwy at bob cangen. Er enghraifft: cyswllt, syniad, cwestiwn, disgrifiad ychwanegol, cyfeirnodau, pwynt trafod neu gasgliad.
Esbonio
Ffordd arbennig o effeithiol o adolygu’n weithredol yw dysgu am bwnc, yna rhoi cynnig ar esbonio’r pwnc yn eich geiriau eich hun. Nid oes angen cynulleidfa arnoch mewn gwirionedd, dim ond chi’ch hunan. Wrth geisio esbonio pwnc byddwch chi’n gweld yn fuan iawn pa agweddau rydych chi’n eu deall a’u cofio’n dda, a pha rai mae angen i chi ymchwilio iddyn nhw a’u hadolygu’n fwy trwyadl. Byddwch yn barod i roi cynnig ar esbonio cyn troi at yr atebion.
Gwaith grŵp
Er bod adolygu’n rhywbeth mae rhywun yn ei wneud ar ei ben ei hun i raddau helaeth iawn, mae’n syndod faint gallwch chi elwa ar weithio gyda phobl eraill (mewn parau neu grwpiau mwy) mewn ambell sesiwn adolygu. Mae’n well gwneud peth o’r gwaith wyneb yn wyneb, ond gallwch chi ddefnyddio dulliau electronig o gyfathrebu i wneud rhai eraill. Dyma rai syniadau:
- adolygu ymlaen llaw’r pynciau sy’n wahanol i’w gilydd ond hefyd yn perthyn, yna’r naill a’r llall i roi sgwrs fer am eu pwnc, a phawb yn cael cyfle i ofyn cwestiynau;
- adolygu’r un pwnc a dod at eich gilydd i drafod eich gwaith ac i esbonio’r pethau nad ydych yn eu deall neu eu cofio;
- creu cwestiynau arholiad i’w hymarfer wrth adolygu, a’u rhoi mewn het yn llawn cwestiynau y gall pawb fynd iddi i ddewis cwestiynau;
- cyfnewid mnemonigion rydych wedi’u dyfeisio. Pan fyddwch chi’n gofyn i rywun arall esbonio rhywbeth nad ydych chi’n ei ddeall, byddwch chi’n elwa ar eu help;
- pan fydd rhywun arall yn gofyn am eich help, byddwch chi’n elwa ar orfod rhoi esboniad cynhwysfawr, clir a deallus.
Gweithio ar gwestiynau arholiad
Os bydd eich arholiad yn golygu delio â phroblem neu wneud cyfrifiadau, mae adolygu gweithredol yn hynod o bwysig. Adolygu goddefol fyddai darllen drwy gyfrifiad sydd wedi cael ei gwblhau neu’r ateb i broblem, a dweud wrthych chi’ch hunan, ‘Ydw, rwy’n gallu dilyn hwn’. Adolygu gweithredol fyddai gweithio drwy gwestiwn neu broblem newydd ar eich pen eich hun. Er enghraifft:
- mewn mathemateg, nid yw darllen drwy gyfrifiadau’n ddigon. Mae angen i chi fynd ati ar eich pen eich hun i ymarfer gwneud y cyfrifiadau;
- mewn meddygaeth, nid yw dysgu deunydd ar eich cof yn beirianyddol ym mhob pwnc yn ddigon. Mae angen i chi ymarfer gwneud y cysylltiadau ar draws y gwahanol bynciau;
- yn y gyfraith, nid yw darllen drwy achosion yn ddigon. Efallai y bydd angen i chi greu neu ddod o hyd i astudiaethau achos fel sail i’ch gwaith ymarfer;
- mewn seicoleg, nid yw darllen drwy enghreifftiau o’r gwahanol ffyrdd o ddefnyddio profion ystadegol yn ddigon. Mae angen i chi roi cynnig ar weithio drwy brofion.
Os oes gofyn ysgrifennu traethodau , fel atebion i gwestiynau arholiad, fyddwch chi ddim yn gwneud y defnydd gorau o’ch amser drwy ymarfer ysgrifennu traethodau llawn. Efallai ei bod hi’n werth gwneud hyn unwaith neu ddwy er mwyn cael syniad o’r amseru mewn arholiad. Ond efallai nad dyma’r ffordd fwyaf effeithlon neu effeithiol o ddefnyddio’ch amser yn y cyfnod adolygu.
Traethodau sgerbwd
Mae ymarfer gwneud cynlluniau traethodau , neu ‘draethodau sgerbwd’ yn llawer mwy defnyddiol nag ymarfer ysgrifennu traethodau llawn. Mae traethawd sgerbwd ychydig yn debyg i fap safle ar gyfer gwefan: bydd yn cynnwys prif benawdau’r strwythur ar gyfer eich traethawd, a’r is-benawdau cysylltiedig sef enghreifftiau, dadleuon a chyfeirnodau, ac ati. Ond ni fyddai cynnwys llawn y traethawd yno oni bai eich bod chi’n mynd ati i ysgrifennu traethawd llawn.
Rhowch ddeg munud i’ch hun i baratoi cynllun manwl ar gyfer eich traethawd, fel bod ysgrifennu’r traethawd wedyn yn fater eithaf rhwydd. Drwy greu’r cynllun, byddwch chi wedi ymarfer y rhan anodd sef cofio a dewis gwybodaeth a chreu’r strwythur gorau ar gyfer ei chyflwyno. A byddwch chi wedi treulio deg munud yn unig ar y dasg.
Cofiwch fod sawl ffordd bosib o ateb cwestiwn, ac mae angen i chi ddod o hyd i’r dull mwyaf effeithiol o’i ateb. Dylech chi ymarfer dod o hyd i’r pwyntiau mwyaf trawiadol, y wybodaeth fwyaf dylanwadol, yr enghreifftiau gorau a’r dystiolaeth fwyaf cadarn.
Pan fyddwch chi’n creu cynlluniau traethodau wrth ymarfer cwestiynau arholiad, byddai’n werth dilyn y pedwar cam yma:
- Tynnwch gymaint o wybodaeth â phosib o deitl y traethawd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y teitl yn iawn, a’ch bod yn rhoi sylw i’w holl elfennau.
- Rhestrwch yr holl syniadau perthnasol ar bapur, gan gynnwys cyfeirnodau, enghreifftiau, dadleuon, cwestiynau, cysylltiadau...
- Cysylltwch eich syniadau ag agweddau ar y teitl. Trefnwch nhw yn y drefn fwyaf cadarn.
- Defnyddiwch ddull systematig o fynd ati i feddwl yn galed am fwy o syniadau. Er enghraifft, drwy ychwanegu dimensiynau neu ofyn cwestiynau (Beth? Sut? Ble? Pryd? Pwy? Pam?) neu ba gwestiynau bynnag sy’n berthnasol i’ch pwnc.
Amseru yn yr arholiad
Mae’n ddefnyddiol cynllunio sut byddwch chi’n rhannu’ch amser yn yr arholiad. Nid yw hyn mor berthnasol mewn arholiad lle mae gofyn ysgrifennu atebion byr. Ond pan fydd angen i chi ysgrifennu traethodau, mae’n bwysig eich bod yn gwybod faint o amser sydd gennych i’w dreulio ar bob traethawd unigol.
Dyma enghraifft o gynllun amser ar gyfer arholiad sy’n para dwy awr o 13.00pm i 15.00pm, ac mae disgwyl i chi ysgrifennu tri thraethawd.
- 13.00-13.05 = setlo i lawr; darllen y cyfarwyddiadau; ysgrifennu’ch cynllun amser yn fras; dewis posib o’r traethodau i’w hysgrifennu.
- 13.05-13.45 = traethawd 1: 5 munud i gynllunio; 35 munud i ysgrifennu
- 13.45-14.25 = traethawd 2: 5 munud i gynllunio; 35 munud i ysgrifennu
- 14.25-15.00 = traethawd 3: 5 munud i gynllunio; 30 munud i ysgrifennu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud gystal ymdrech ym MHOB un o’ch atebion. At ei gilydd, mae’n llawer haws cael y 50% cyntaf o’r marciau ar gyfer pob cwestiwn na’r ail 50%. SEr enghraifft, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud ymdrech dda i ysgrifennu pob un o’r traethodau, yn hytrach na threulio gormod o amser ychwanegol yn ateb eich hoff gwestiynau. Mewn arholiad sy’n gofyn i chi ysgrifennu traethodau, gall fod yn ddefnyddiol dechrau drwy ateb y cwestiwn lle’r ydych chi’n hyderus fod gennych ddigon o ddeunydd i ysgrifennu’r traethawd. Gall hyn roi hyder i chi, a symbylu’ch meddwl. Mewn papur arholiad lle nad oes cyfle i ddewis y cwestiynau i’w hateb, y dull mwyaf cynhyrchiol efallai yw mynd drwy’r papur gan ateb y cwestiynau lle mae’ch gwybodaeth yn fwy cadarn. Bydd hyn yn ysgogi’ch meddwl, ac yn eich helpu i gofio gwybodaeth. O ganlyniad byddwch yn teimlo’n fwy parod i fynd yn ôl i’r dechrau a meddwl mwy am y cwestiynau sydd ar ôl.
Ar y llinell gychwyn
Pan fyddwch chi’n aros i fynd i mewn i’r arholiad, nid oes pwrpas o gwbl i chi edrych yn ôl dros y pethau nad ydych wedi’u hadolygu na’r pethau nad ydych wedi’u deall erioed. Ac nid oes pwrpas edrych ar bethau roeddech chi’n meddwl eich bod wedi’u dysgu, ond sydd efallai wedi diflannu o’ch cof erbyn hyn. Y cyfan y gallwch ddylanwadu arno’n awr yw’r dyfodol. Dyma’r safle rydych chi wedi’i chyrraedd a rhaid i chi wneud y gorau ohoni.
Ni all athletwyr ar ddechrau ras wneud dim am yr hyfforddiant maen nhw wedi’i fethu. Nid oes pwrpas poeni eu bod nhw’n llai parod nag yr oedden nhw’n gobeithio. Y cyfan y gallan nhw ddylanwadu arno erbyn hyn yw’r ras ar ôl i’r gwn danio i’w chychwyn. Mae angen iddyn nhw ganolbwyntio’n llwyr ar y ras sydd o’u blaen, a manteisio i’r eithaf ar yr hyfforddiant a gawsant.
Ar eich marciau....Ewch!
Dyma rai syniadau i’ch helpu yn yr arholiad:
- Dechreuwch drwy ddarllen cyfarwyddiadau’r papur arholiad yn ofalus iawn. Amlygwch neu tanlinellwch y cyfarwyddiadau pwysicaf.
- Nodwch (a gwiriwch) unrhyw gynllun amser rydych wedi’i baratoi, fel ei fod ar gael i chi gyfeirio ato ac i’ch rhwystro rhag treulio gormod (neu ddim digon) o amser ar un cwestiwn.
- Os oes disgwyl i chi ddewis tasgau neu draethodau, ceisiwch asesu potensial pob un cyn gwneud eich dewis.
- Mewn papur sy’n gofyn am draethodau’n unig, gall fod yn syniad i chi ddechrau gyda’r traethawd yr ydych chi’n hyderus y gallwch ei ysgrifennu’n dda. Gall hyn roi hyder i chi, a sefydlu patrwm cadarn o gynllunio ac ysgrifennu traethodau.
- Peidiwch â rhuthro i ddechrau ysgrifennu eich traethawd cyntaf. Cofiwch dreulio digon o amser ar y dechrau’n paratoi cynllun da ar gyfer eich traethawd.
- Hyd yn oed os ydych chi wedi ysgrifennu traethawd tebyg o’r blaen, ceisiwch wneud yr un yma’n fwy bywiog.
- Peidiwch â gwastraffu egni’n beirniadu cwestiwn. Efallai eich bod yn credu bod y cwestiwn yn amherthnasol, yn ddiflas neu wedi’i eirio’n wael, ond rhowch y teimladau hynny o’r neilltu. Darllenwch y cwestiwn eto rhag ofn eich bod wedi methu rhywbeth.
- Parchwch y cwestiwn. Treuliwch amser yn 'gwrando’ ar y cwestiwn cyn meddwl am yr ateb. Peidich â chymryd eich bod yn gwybod beth fydd y cwestiwn. Gall fod ychydig yn wahanol i’r hyn rydych yn ei ddisgwyl.
- Darllenwch bob rhan o’r cwestiwn cyn dechrau ateb. Drwy wneud hyn gallwch weld sut mae’r arholwr wedi rhannu’r wybodaeth rhwng y gwahanol rannau o’r cwestiwn. Gallwch deimlo’n dawel eich meddwl eich bod yn rhoi’r ymateb sydd ei angen ym mhob rhan.
- Os oes cwestiwn na allwch ei ateb, gadewch o. Ewch ymlaen at y cwestiynau eraill. Dewch yn ôl at y cwestiwn yma’n nes ymlaen, gan wneud eich gorau i’w ateb.