Defnyddio cyfarpar gweledo
Bydd y canllaw yma’n eich helpu i ddefnyddio cyfarpar gweledol i wneud eich cyflwyniadau llafar mor effeithiol â phosib. Dylai’ch cyfarpar gweledol fod yn glir ac yn gryno, ac ychwanegu at eich geiriau mewn ffordd sy’n ysgogi’r gynulleidfa.
Canllaw defnyddiol arall: Cynllunio cyflwyniad effeithiol.
Cyflwyniad
Mae defnyddio cyfarpar gweledol yn gallu bod yn dechneg bwerus iawn sy’n gwneud eich cyflwyniadau’n fwy effeithiol. Mae defnyddio gwahanol fformatau i gyflwyno geiriau a delweddau’n gallu ysgogi dychymyg eich cynulleidfa, ac ychwanegu llawer at eich geiriau.
Meddyliwch am ddefnyddio cyfarpar gweledol am y rhesymau hyn:
- fe allai fod yn ffordd o ddefnyddio llai o eiriau: peidiwch â disgrifio’ch canlyniadau – dangoswch nhw;
- fe allai effaith y cyfarpar fod yn fwy trawiadol na’ch geiriau: peidiwch â disgrifio delwedd – dangoswch hi.
Meddyliwch am ddefnyddio dewis o wahanol ddelweddau gweledol. Beth am ddefnyddio ffotograffau, tablau, diagramau, siartiau, lluniau, geiriau allweddol neu ddarnau o fideos? Byddwch yn greadigol ac ewch ati mewn ffordd fwriadol i ddewis y delweddau mwyaf effeithiol.
Meddyliwch am eich cyflwyniad nesaf. Sut gallwch chi ddangos eich deunydd yn weledol? Pa dechnegau a allai’ch helpu i gyflwyno'ch dadl neu’ch canlyniadau mewn ffordd fywiog? Ym mha ffordd allwch chi ychwanegu pwyslais at eich geiriau?
Pryd dylwn i ddefnyddio cyfarpar gweledol?
Gallwch chi ddefnyddio geiriau a delweddau drwy gydol eich cyflwyniad – o’r cyflwyniad i’r casgliad. Ond cofiwch beidio â defnyddio gormod yn y rhannau pwysicaf o’ch cyflwyniad. Mae gorddefnyddio cyfarpar gweledol yn gallu gwneud cyflwyniad yn anodd ei ddilyn.
Meddyliwch am ddefnyddio cyfarpar gweledol ar yr adegau yma:
- i gyflwyno teitl eich cyflwyniad;
- i ddiffinio termau neu unedau technegol;
- i ddangos strwythur eich cyflwyniad drwy restru eich prif bwyntiau;
- i gyfleu eich thema neu’ch themâu mewn un ddelwedd;
- i dynnu sylw at gwestiwn rydych chi’n bwriadu ei ateb yn ystod eich cyflwyniad.
Y prif bwyntiau
- defnyddiwch ddelwedd neu ymadrodd addas i dynnu sylw at bwyntiau newydd;
- dangoswch ddata clir i ategu gwybodaeth dechnegol;
- tynnwch sylw at ddilyniannau drwy gysylltu’r gwahanol bwyntiau;
- cynigiwch dystiolaeth o’ch gwaith ymchwil i ategu eich dadl.
Y casgliad
- rhestrwch grynodeb o’ch prif bwyntiau ar sleid;
- cyflwynwch eich casgliad mewn ymadrodd neu ddelwedd glir;
- dangoswch eich prif gyfeirnodau i roi cyfle i’ch cynulleidfa ddarllen mwy am eich pwnc.
Gwahanol fathau o gyfarpar gweledol
Mae llawer o wahanol fathau o gyfarpar gweledol. Bydd y cyngor sy’n dilyn yn eich helpu i wneud y defnydd gorau posib o’r rhai mwyaf cyffredin.
PowerPoint (neu feddalwedd debyg)
Mae’n debyg mai rhaglen PowerPoint Microsoft yw’r ffurf amlaf ei defnydd erbyn hyn o gyfarpar gweledol. Os byddwch chi’n ei defnyddio’n dda, bydd o help garw i chi yn eich cyflwyniad. Ond mae’n gallu difetha cyflwyniad rhywun sy’n ei defnyddio’n wael. Dyma’r prif egwyddorion:
Cofiwch... | Peidiwch â... |
---|---|
ddefnyddio ffont sy’n ddigon mawr (20pt o leiaf) | defnyddio ffont sy’n rhy fach i bobl ei ddarllen |
wneud y testun yn hawdd ei ddarllen | gwasgu gormod o destun ar bob un o’r sleidiau |
gadw’r cefndir yn syml | defnyddio delwedd gymhleth iawn fel cefndir |
ddefnyddio animeiddiadau pan maen nhw’n addas | gorddefnyddio animeiddiadau – maen nhw’n gallu tynnu sylw pobl |
wneud popeth yn weledol | defnyddio sleidiau di-rif sy’n rhestru pwyntiau bwled ac sy’n rhy debyg i’w gilydd |
Sleidiau/tryloywderau ar uwchdaflunydd
Mae sleidiau/tryloywderau’n cael eu dangos ar uwchdaflunydd (OHP), sef cyfarpar defnyddiol iawn sydd ar gael yn y rhan fwyaf o ddarlithfeydd ac ystafelloedd seminarau. Mae’r OHP yn dangos fersiwn fwy o’ch sleidiau ar sgrin neu wal, heb orfod diffodd y goleuadau. Gallwch chi greu’r sleidiau mewn un o dair ffordd:
- sleidiau rydych chi wedi’u paratoi o flaen llaw: gallwch chi ysgrifennu neu ddarlunio geiriau neu ddelweddau arnyn nhw, neu eu creu ar gyfrifiadur;
- sleidiau sy’n cael eu paratoi yn y fan a’r lle: gallwch chi ysgrifennu wrth siarad i ddarlunio’ch pwyntiau neu i gofnodi sylwadau'r gynulleidfa;
- cyfuniad o’r ddwy ffordd: ceisiwch ychwanegu at sleidiau parod yn ystod eich cyflwyniad fel ffordd o’u gwneud yn fwy bywiog neu i dynnu sylw at newid neu i ddarlunio’r berthynas fanwl rhwng gwahanol bethau.
Gofalwch fod y testun ar eich sleidiau’n ddigon mawr i bobl yng nghefn yr ystafell ei ddarllen. Un rheol ddefnyddiol yw defnyddio testun 18-pwynt wrth greu sleidiau testun ar gyfrifiadur. Byddai gwneud hyn yn eich rhwystro rhag rhoi gormod o wybodaeth ar bob sleid. Peidiwch â disgwyl i’ch cynulleidfa ddarllen gormod o destun neu edrych ar ddiagramau cymhleth iawn. Byddai hynny’n amharu ar eu gallu i wrando. Ceisiwch osgoi rhestri o eiriau amhendant a allai gamarwain eich cynulleidfa neu fethu â rhoi'r wybodaeth gywir.
Bwrdd gwyn neu fwrdd du
Mae byrddau gwyn neu fyrddau du'n gallu bod yn ffyrdd defnyddiol iawn o esbonio trefn syniadau neu batrymau, yn enwedig yn y gwyddorau. Defnyddiwch nhw i egluro’ch teitl neu i gofnodi’ch prif bwyntiau ar ddechrau’ch cyflwyniad. Bydd eu cofnodi fel hyn yn rhoi rhestr barod i chi a fydd yn eich helpu i ailadrodd y pwyntiau’n nes ymlaen. Yn hytrach na disgwyl i’r gynulleidfa ddilyn eich disgrifiad llafar o arbrawf neu broses, ysgrifennwch bob cam ar y bwrdd. Cynhwyswch unrhyw derminoleg gymhleth neu gyfeirnodau manwl i helpu’ch cynulleidfa i ysgrifennu nodiadau cywir. Ond ar ôl ysgrifennu unrhyw beth ar y bwrdd rhaid i chi ddewis naill ai ei adael yno neu ei rwbio allan. Mae gwneud y naill beth a’r llall yn gallu tynnu sylw eich cynulleidfa. Gwnewch yn siŵr bod eich cynulleidfa wedi ysgrifennu cyfeirnod cyn ei rwbio allan. Mae bod heb ddigon o amser i ysgrifennu rhywbeth yn gallu gwneud i’ch cynulleidfa deimlo’n rhwystredig iawn! Ceisiwch osgoi gadael hen wybodaeth am un o’r pwyntiau blaenorol yn eich cyflwyniad ar y bwrdd – fe allai ddrysu eich cynulleidfa. Os oes gofyn i chi ysgrifennu’n ‘fyw’, gwnewch yn siŵr fod eich cynulleidfa’n gallu darllen eich llawysgrifen.
Taflenni papur
Mae taflenni i’w dosbarthu’n arbennig o ddefnyddiol. Defnyddiwch daflen os yw’ch gwybodaeth yn rhy fanwl i’w rhoi ar sleid neu os ydych chi’n awyddus i roi cofnod llawn o’ch darganfyddiadau i’ch cynulleidfa. Meddyliwch a fyddai’n well dosbarthu eich taflenni ar ddechrau’r cyflwyniad, yn ystod y cyflwyniad neu ar y diwedd. Efallai fod eu dosbarthu’n rhy gynnar yn tueddu i dynnu sylw’r gynulleidfa. Ond mae eu rhoi’n rhy hwyr yn golygu bod eich cynulleidfa o bosib wedi ysgrifennu llawer o nodiadau’n ddiangen. Os byddwch chi’n eu dosbarthu yn ystod y cyflwyniad bydd eich cynulleidfa’n siŵr o’u darllen yn hytrach na gwrando. Un ffordd effeithiol o osgoi’r problemau yma yw dosbarthu taflenni anghyflawn ar adegau penodol yn ystod eich cyflwyniad. Gallwch chi wedyn dynnu sylw at y manylion coll ar lafar, ac annog eich cynulleidfa i lenwi’r bylchau.
Siart troi
Pad mawr o bapur ar stand yw siart troi. Mae’n ffordd ddefnyddiol a hyblyg o gofnodi gwybodaeth yn ystod eich cyflwyniad. Gallwch chi hefyd ddefnyddio tudalennau parod sy’n rhestru’r prif bwyntiau. Cofnodwch y wybodaeth wrth i chi fynd yn eich blaen, gan gadw un prif syniad i bob tudalen. Gallwch chi droi’n ôl at y tudalennau blaenorol i’ch helpu i ailadrodd eich prif bwyntiau. Defnyddiwch y broses o droi drosodd at y dudalen nesaf fel ffordd o symud at y pwynt nesaf. Cofiwch wneud eich llawysgrifen yn glir a hawdd ei darllen, a’ch diagramau mor syml â phosib.
Fideos (DVD neu VHS)
Mae chwarae fideos yn gyfle i chi ddangos gwybodaeth weledol gyffrous. Defnyddiwch fideos i gynnwys bywiogrwydd, lluniau a seiniau yn eich cyflwyniad. Gwnewch yn siŵr fod y ffilm rydych chi’n ei dangos yn uniongyrchol berthnasol i’ch cynnwys. Rhowch arweiniad i'ch cynulleidfa. Peidiwch â dangos unrhyw rannau diangen o’r ffilm.
Arteffactau neu bropiau
Mae defnyddio arteffactau neu bropiau wrth roi cyflwyniad yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn weithiau (meddyliwch am y ffordd mae’r stiwardiaid ar awyren yn dangos i chi sut mae defnyddio'r offer diogelwch). Os byddwch chi’n dod ag arteffact gyda chi, gwnewch yn siŵr fod pawb yn gallu ei weld. Byddwch yn barod i’w roi i aelodau grŵp bach ei basio o’r naill i’r llall, neu i symud i rannau eraill o ystafell fawr er mwyn i bawb ei weld yn iawn. Cofiwch fod gwneud hyn yn cymryd amser. Bydd aelodau’r gynulleidfa’n llai parod i wrando arnoch chi’n siarad os ydyn nhw’n brysur yn edrych ar yr arteffact. Cuddiwch eitemau mawr tan fyddwch chi’n barod i’w dangos. Fe allan nhw dynnu sylw eich cynulleidfa.
Dylunio cyfarpar gweledol
Wrth ddylunio cyfarpar gweledol, mae amryw o wahanol reolau i'w dilyn a bydd rhai o’r rhain yn berthnasol i wahanol fathau o gyfarpar. Dilynwch y cyfarwyddiadau cyffredinol yma i greu delweddau gweledol o safon:
- defnyddiwch un syniad syml i bob delwedd weledol;
- gwnewch y testun a’r diagramau’n glir ac yn hawdd eu darllen;
- peidiwch â rhoi gormod o wybodaeth ar y ddelwedd;
- cadwch eich delweddau’n gyson (defnyddiwch yr un ffont, teitlau, gosodiad ac ati i bob un);
- gwnewch yn siŵr eu bod yn ddelweddau o safon (gwiriwch eich sillafu a chwiliwch am unrhyw wallau eraill).
Cofiwch y dylai’r gynulleidfa allu deall delwedd weledol mewn eiliad neu ddau.
Ac yn olaf ... ewch ati i ymarfer!
Gwiriwch eich offer i wneud yn siŵr eu bod:
- yn gweithio;
- yn gyfarwydd (Sut mae cychwyn y sioe sleidiau? Sut mae newid y pad? A ddylech chi ddefnyddio pennau inc parhaol neu bennau gwrth-ddŵr?).
Does dim yn waeth na chyflwynydd sy’n cael trafferth defnyddio’r cyfarpar gweledol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ddigon cyfarwydd â’ch offer i beidio â chael eich llorio os bydd rhywbeth yn mynd o'i le. Os byddwch chi’n cyfateb eich cyfarpar gweledol yn hyderus i’ch cyflwyniad llafar, bydd hynny’n helpu i atgyfnerthu eich perfformiad cyfan.
I grynhoi
Defnyddiwch gyfarpar gweledol i gyfleu gwybodaeth gymhleth yn glir ac i wneud eich techneg gyflwyno’n fwy amrywiol. Gwnewch yn siŵr bod yr offer sy’n ofynnol i greu ac i ddangos cyfarpar gweledol, yn gyfarwydd. Byddwch yn greadigol wrth ddangos deunydd gweledol yn ystod eich cyflwyniadau, gan ddefnyddio gwahanol dechnegau a deunyddiau i wneud argraff.