Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ysgrifennu traethawd hir

Y dasg o ysgrifennu traethawd hir sydd dan sylw yn y Canllaw Astudio yma. Nod y canllaw yw eich helpu i deimlo'n ddigon hyderus i fynd ati i ysgrifennu traethawd hir, ac i'ch helpu i'w gwblhau'n llwyddiannus.

Efallai bydd y Canllawiau Astudio yma o help i chi:

  • Cynllunio a gwneud project ymchwil
  • Ysgrifennu traethodau
  • Cyfeirnodau a llyfryddiaethau

Cyflwyniad

Weithiau mae ysgrifennu’n cael ei weld fel gweithgaredd mae rhywun yn ei wneud ar ôl popeth arall:

“Mae’r gwaith ymchwil yn mynd yn dda felly mater syml fydd ysgrifennu amdano – gallaf ei adael am y tro”.

“Rwy’n gwybod nad ydw i’n ysgrifennu’n dda felly rwy’n gohirio’r dasg o hyd”.

“Rwy’n gwybod fy mod i’n ysgrifennu’n dda felly gallaf ei adael am y tro”.

“Rwy’n gwybod bod rhaid i mi roi trefn ar fy syniadau cyn dechrau ysgrifennu neu byddaf yn gwastraffu amser yn ail-ysgrifennu”.

Mae’r pedwar safbwynt yma’n wahanol i’w gilydd, ond gall y pedwar arwain at yr un problemau posib:

  • meddwl bod ail-ddrafftio’n arwydd o fethiant neu’n wastraff amser;
  • anwybyddu’r ffaith fod ysgrifennu ac ail-ysgrifennu’n helpu rhywun i ddysgu mwy am y pwnc, ac yn gwneud y dadleuon yn gliriach;
  • a pheidio â gadael digon o amser i olygu a phrawfddarllen y gwaith yn effeithiol am y tro olaf un.

Mae’n anochel y bydd y broses o orfod disgrifio’ch ymchwil yn fanwl, a hynny mewn geiriau ysgrifenedig gan ddilyn trefn resymegol, yn siŵr o dynnu sylw at y mannau lle mae gofyn i chi feddwl mwy. Gallai olygu hefyd eich bod yn gweld cysylltiadau, goblygiadau, sail resymegol a pherthnasedd newydd, a gallai arwain at syniadau newydd ar gyfer ymchwil pellach.

Mae Barras (1979, t.136) yn awgrymu y dylech chi feddwl am eich adroddiad fel rhan o’ch ymchwiliad, nid fel dyletswydd mae’n rhaid ei chyflawni ar ôl i chi orffen y gwaith. Mae'r Canllaw Astudio yma'n awgrymu bod ysgrifennu’n rhan annatod o’r broses ymchwil.

Mynd ati i ysgrifennu

Y newyddion da yw eich bod eisoes wedi dechrau ysgrifennu os ydych chi wedi ysgrifennu unrhyw un o’r pethau sy’n dilyn ynglŷn â’ch astudiaeth:

  • cynnig ar gyfer y gwaith ymchwil;
  • adolygiad o’r llenyddiaeth;
  • adroddiad ar unrhyw astudiaethau peilot a wnaethoch chi;
  • crynodeb ar gyfer cynhadledd;
  • adroddiadau i’ch goruchwylwyr;
  • dyddiadur sy’n gofnod o’r syniadau rydych chi’n eu cael;
  • neu nodiadau ar gyfer cyflwyniad rydych chi wedi’i roi.

Yn achos pob un o’r rhain, pwrpas eu hysgrifennu oedd cyfleu rhyw agwedd ar eich gwaith i chi’ch hun, i’ch goruchwylwyr neu i rywun arall. Wrth ysgrifennu eich traethawd hir, byddwch chi’n ychwanegu at rannau o'r hyn rydych chi wedi'i ysgrifennu'n barod i greu cofnod hirach, mwy cynhwysfawr.

Gwiriwch yr hyn sy’n ofynnol

Cyn mynd ati i ysgrifennu llawer o eiriau ar gyfer eich traethawd hir, bydd angen i chi roi sylw manwl i’r union ofynion o ran:

  • nifer uchaf ac isaf y geiriau (y terfyn geiriau); a rhaid holi hefyd a yw’r nifer yma’n cynnwys y geiriau yn y tablau, y crynodeb, y cyfeirnodau a’r atodiadau;
  • pa benodau y bydd disgwyl i chi eu cynnwys, ym mha drefn, a pha fath o ddeunydd sydd i fod ym mhob un;
  • y math o bethau mae disgwyl i chi eu cynnwys yn yr atodiadau yn hytrach na fel rhan o’r prif destun;
  • a’r cynllun neu’r canllawiau marcio.

Y strwythur

Wrth ysgrifennu traethodau hir yn y gwahanol ddisgyblaethau, mae rhai confensiynau y bydd gofyn i chi eu dilyn. Dylech chi wirio rheoliadau eich adran a’ch cwrs.

Dyma un strwythur sy’n cael ei ddefnyddio’n aml.

  • Tudalen deitl
  • Crynodeb
  • Diolchiadau
  • Tudalen gynnwys
  • Cyflwyniad
  • Y deunyddiau a’r dulliau neu Adolygiad o’r llenyddiaeth
  • Y canlyniadau neu’r Ffynonellau a’r dulliau
  • Y drafodaeth neu’r Darganfyddiadau
  • Casgliadau
  • Cyfeirnodau
  • Atodiadau

Mae pwrpas penodol i bob un o’r adrannau neu’r penodau

Y dudalen deitl

Mae’r teitl ei hun yn gyfle pwysig i chi ddweud wrth y darllenydd am natur eich gwaith ymchwil. Bydd angen i chi fod yn gryno ac yn benodol a disgrifio a chyfleu natur y gwaith rydych chi wedi’i wneud. Mae’n debyg y bydd eich disgyblaeth wedi pennu fformat arbennig ar gyfer y dudalen deitl, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un iawn.

Y crynodeb

Efallai mai hon fydd un o adrannau byrraf eich traethawd hir, ond mae’n werth i chi ei hysgrifennu’n ofalus ac yn dda. Mewn gwirionedd, crynodeb cryno’r o’r gwaith ymchwil cyfan yw hwn. Dylai’r crynodeb gyfleu’n union pam a sut y gwnaethoch chi'r gwaith, beth oedd y canlyniadau a beth yw’r goblygiadau. Tudalen o hyd yw’r crynodeb fel arfer, ac efallai fod rhaid i chi beidio ag ysgrifennu mwy na nifer penodol o eiriau. Dyma un o elfennau pwysicaf y traethawd, a bydd y Crynodeb yn gweithredu fel dogfen ynddi ei hun os bydd y traethawd hir yn cael ei gofrestru mewn unrhyw gronfa ddata. Oherwydd hynny, bydd yr arholwyr yn asesu eich Crynodeb fel rhan o’ch traethawd hir, a hefyd fel dogfen a allai fod yn annibynnol.

Efallai y byddai’n syniad i chi ysgrifennu’r Crynodeb ar y diwedd, pan fyddwch chi’n sicr beth yn union rydych chi’n ei grynhoi. Fel arall, fe allai fod yn ddefnyddiol ei ysgrifennu ar y dechrau fel ffordd o’ch helpu i adnabod prif thema eich gwaith ymchwil, a’i bwrpas a’i ddarganfyddiadau. Fe allai'r Crynodeb osod patrwm y traethawd hir cyfan.

Mae cadw at derfyn cadarn o ran nifer y geiriau a maint y traethawd, a gofalu ar yr un pryd eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol, yn gallu bod yn dipyn o her. Efallai y byddai’n syniad i chi ystyried sut mae pobl eraill wedi llwyddo i wneud hynny. Mae’n sicr mai tasg academaidd yw hi. Ond efallai nad yw crynodeb mor wahanol i’r esboniadau cryno o’ch gwaith ymchwil rydych chi wedi gorfod eu rhoi dros y blynyddoedd diwethaf i berthnasau a chymdogion. Mae angen i’r crynodeb fod yn gryno, yn hawdd ei ddarllen ac yn gynhwysfawr.

Diolchiadau

Dyma’ch cyfle i sôn am unigolion sydd wedi bod o help garw i chi. Byddai darllen diolchiadau (neu gydnabyddiaethau) mewn traethodau hir eraill yn eich maes yn rhoi syniad i chi o’r ffyrdd mae pobl wedi sôn am y gwahanol fathau o help a gawsant, ac wedi dangos eu gwerthfawrogiad.

Y cynnwys, a rhestri o’r ffigurau a’r tablau

Bydd y dudalen gynnwys yn cyfleu strwythur y traethawd hir. Bydd unrhyw adran sy’n llai neu’n fwy na’r adrannau eraill yn dod yn amlwg. Mae’n ffordd ddefnyddiol o wirio a oes angen cyfuno adrannau, neu greu adrannau neu is-adrannau newydd.

Y cyflwyniad

Er mai hwn yw’r darn cyntaf y bydd y darllenydd yn troi ato, mae’n aml yn werth ei ysgrifennu ar y diwedd. Erbyn hynny, byddwch chi'n hollol siŵr o’r hyn rydych chi'n ei gyflwyno. Mae dwy brif rôl i’r cyflwyniad:

  • • ymestyn y drafodaeth o’r deunydd rydych chi wedi’i grynhoi yn y crynodeb;
  • • a rhoi syniad i’r darllenydd ynglŷn â chynnwys y gweddill o’r traethawd hir.

Yr adolygiad o’r llenyddiaeth, neu gyd-destun yr astudiaeth

Pwrpas y bennod yma yw dangos eich bod chi’n gwybod ymhle mae’ch gwaith ymchwil chi’n perthyn yng nghyd-destun cyffredinol y gwaith ymchwil yn eich maes. I wneud hyn, bydd gofyn i chi:

  • ddisgrifio’r sefyllfa mae’r ymchwil yn eich maes wedi’i chyrraedd ar hyn o bryd;
  • ystyried a oes meysydd eraill sy'n perthyn yn agos y mae angen i chi eu crybwyll;
  • adnabod bwlch lle’r ydych chi’n dadlau bod angen gwneud mwy o ymchwil;
  • ac esbonio sut ydych chi’n bwriadu rhoi sylw i’r bwlch arbennig hwnnw yn yr ymchwil.

Byddai gwneud y pethau yma’n eich arwain yn naturiol efallai at ddisgrifiad clir o’r cwestiynau neu'r problemau dan sylw yn eich gwaith ymchwil.

Yn ogystal â chyd-destun y gwaith ymchwil, efallai fod gofyn i chi gyflwyno cyd-destunau perthnasol eraill, er enghraifft:

  • y cyd-destun damcaniaethol;
  • y cyd-destun methodolegol;
  • y cyd-destun ymarferol;
  • a’r cyd-destun gwleidyddol.

Mae’n gallu bod yn anodd penderfynu ym mha drefn i osod yr adrannau yn y bennod yma. Efallai fod eich rhesymau dros ddewis y gwaith ymchwil arbennig yma’n gymhleth, ac efallai fod llawer o resymau cysylltiedig dros fod angen y gwaith ymchwil. Mae’n werth treulio amser yn creu strwythur rhesymegol. Bydd y strwythur yn helpu i argyhoeddi’r arholwyr fod eich ymchwil yn berthnasol, a’ch bod chi’n deall pam. Bydd hefyd yn gweithredu fel fframwaith i chi ei ddilyn yn eich pennod ar y drafodaeth, pan fyddwch chi’n pwyso a mesur i ba raddau mae’ch ymchwil wedi llwyddo i gyrraedd ei nod.

Y bennod neu’r penodau’n disgrifio’r dulliau, y ffynonellau, y deunydd ac ati

Mae gofyn i chi ddisgrifio'n glir yn y penodau yma sut aethoch chi ati i wneud y gwaith ymchwil. Os gwnaethoch chi ddefnyddio offer, prosesau neu ddeunyddiau penodol, bydd gofyn i chi eu disgrifio’n fanwl ac yn glir. Rhaid i chi roi digon o fanylion i alluogi ymchwilydd arall i ailadrodd eich astudiaeth.

Y canlyniadau a’r darganfyddiadau

Bydd gofyn i chi holi pa fath o arddull gofnodi yw'r un orau yn eich maes. Er enghraifft, mae’n debyg y byddai traethawd hir ar bwnc gwyddonol yn cadw ar wahân y canlyniadau a’r drafodaeth o’r canlyniadau hynny. Ond efallai y bydd pennod gyffredinol dan y teitl ‘Darganfyddiadau’ mewn traethawd hir ar bwnc o’r gwyddorau cymdeithas, lle byddwch chi’n rhestru ac yn trafod y canlyniadau.

Efallai y bydd gofyn i chi benderfynu ar eich arddull gyflwyno, er enghraifft:

  • efallai y byddwch chi’n rhoi darlun cyffredinol o’r canlyniadau ar y dechrau, gyda'r manylion yn dilyn, neu efallai y byddwch chi'n mynd yn syth at fanylion y canlyniadau;
  • y drefn y byddwch chi’n cyflwyno’r canlyniadau manwl;
  • a’r cydbwysedd o ran lle a nifer y geiriau ar gyfer yr holl wahanol ganlyniadau rydych chi wedi'u casglu.

Y drafodaeth

Yn yr adran yma, byddwch chi’n pwyso a mesur eich gwaith ymchwil, ac yn ei roi yn ei gyd-destun ehangach. Gallwch chi gyfeirio’n ôl at sail resymegol eich gwaith ymchwil y gwnaethoch chi ei disgrifio yn yr adolygiad o’r llenyddiaeth. Trafodwch sut mae’ch gwaith chi wedi ychwanegu at y cyd-destun. Mae’n bwysig i chi ddangos eich bod yn cydnabod ffiniau eich ymchwil, a sut y gallai’r ffiniau hynny wneud eich darganfyddiadau’n fwy neu’n llai dilys neu ddefnyddiol. Gan dderbyn y ffiniau rydych chi wedi’u cydnabod, gallwch chi sôn am oblygiadau eich darganfyddiadau yn nhermau theorïau, ymchwil ac arferion.

Y casgliadau

Mae’r bennod yma’n tueddu i fod yn llawer byrrach na’r Drafodaeth. Ond nid yw'n fater syml o 'grynhoi' eich ymchwil. Mae gofyn i chi gyflwyno’r ‘casgliadau’ sy’n deillio o’r prif bwyntiau a gododd, a disgrifio’r hyn maen nhw’n ei olygu i’ch maes.

Y cyfeirnodau

Mae angen strwythur pendant iawn yn yr adran yma. Dylai gynnwys pob un o’ch cyfeirnodau, a chadw at yr arddull sy’n ofynnol. Wrth i chi olygu ac ailysgrifennu eich traethawd hir, mae’n debyg y byddwch chi’n ychwanegu ac yn dileu cyfeirnodau. Mae’n bwysig eich bod yn gwirio eich bod chi mewn gwirionedd wedi cyfeirio yng nghorff eich traethawd at bob un o’r cyfeirnodau yn eich rhestr. Ac, yn yr un ffordd, eich bod wedi rhoi’r manylion llawn yn eich rhestr o’r cyfeirnodau am yr holl gyfeirnodau rydych chi wedi eu gwneud yn y testun.

Yr atodiadau

Ewch ati i wirio a yw’r atodiadau wedi’u cynnwys neu beidio yn y terfyn geiriau ar gyfer eich traethawd. Y math o eitemau sy’n cael eu rhoi mewn atodiadau yw’r rhai y byddai darllenydd yn awyddus i’w gweld, ond bydden nhw’n cymryd gormod o le yn y traethawd ei hun ac yn amharu ar y llif. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyfeirio at yr Atodiadau yn ôl y galw yng nghorff eich traethawd.

Dylunio’ch strwythur manwl

Os yw strwythur eich traethawd yn dda ac mae’n rhesymegol ac yn hawdd ei ddilyn a’i ddeall, mae’n debyg y bydd eich arholwyr yn mwynhau ei ddarllen. Byddan nhw’n gallu gwrando ar eich dadleuon heb orfod creu cysylltiadau sy’n tynnu eu sylw.

Yr unig ffordd y gallwch chi ysgrifennu dadl sy’n gyson drwyddi draw yw drwy greu rhyw fath o gynllun neu fap o’r hyn sydd gennych i'w ddweud. Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol meddwl am y cwestiwn neu bwnc y gwaith ymchwil fel llinyn cadarn sy’n rhedeg drwy’r traethawd cyfan. Mae’r llinyn yn tynnu holl elfennau’r astudiaeth at ei gilydd, ac yn gwneud ysgrifennu amdani’n broses gydlynol.

Ond nid yw’r cam ymlaen o wneud y gwaith ymchwil at ysgrifennu cofnod cynhwysfawr amdano’n siŵr o fod yn un hawdd. Efallai fod yr holl wybodaeth yn eich pen, ond rydych chi’n cael trafferth meddwl am y drefn fwyaf defnyddiol o’i hysgrifennu. Byddai’n syniad i chi rannu’r dasg yn elfennau llai, haws eu cyflawni. Fe allai'r broses o greu eich cynllun ysgrifennu ddilyn y patrwm yma.

  1. Gallech chi ddechrau drwy greu rhestr lawn ddi-strwythur o’r holl elfennau a’r syniadau rydych angen eu cynnwys. Byddai'r rhestr yn cynnwys pethau fel teitlau’r penodau, nodiadau am y dadansoddiad, syniadau ar gyfer delweddau a graffeg a syniadau ar gyfer gwaith ymchwil pellach. Dewis arall yw dechrau arni yng ngham 2.
  2. Rhestrwch deitlau’r prif benodau, yn y drefn y byddan nhw’n ymddangos.
  3. Dan bob un o’r penawdau, rhestrwch gyfres o is-benawdau pwysig. Efallai y bydd angen rhannu’r bennod ar yr adolygiad o’r llenyddiaeth yn adolygiad o sawl gwahanol ran o'r llenyddiaeth. Os felly, bydd angen is-bennawd i bob un, a bydd angen crynhoi’r holl ddarganfyddiadau ar ddiwedd y bennod.
  4. Dan bob un o’r is-benawdau, rhestrwch y prif gynnwys mae angen ei gynnwys. Os oes angen, rhowch is-benawdau dan yr is-benawdau. Os mai'ch cam cyntaf oedd creu rhestr hir ddi-strwythur o’r cynnwys, gallwch chi ei hymgorffori yn y strwythur sy’n datblygu drwy osod pwyntiau bwled dan y gwahanol benawdau. Mae angen i chi ofalu bod popeth rydych chi’n awyddus i’w gynnwys wedi cael lle yn y strwythur.
  5. Gallwch chi gynnwys syniadau, cyfeirnodau, dyfynodau, esboniadau a chasgliadau wrth iddyn nhw ddod i’ch meddwl, gan wneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio unrhyw beth.
  6. Gwiriwch eich bod yn cadw cydbwysedd rhwng y gwahanol adrannau, ac ym mhob un. Gwnewch yn siŵr bod y strwythur yn caniatáu disgrifiadau rhesymegol hawdd eu deall o'ch astudiaeth ymchwil.
  7. Cyn dechrau cynnwys y manylion, gofynnwch am ymateb pobl eraill.

Cynnwys y manylion

Efallai ei bod hi’n syniad i chi anghofio am y terfyn geiriau am y tro. Canolbwyntiwch ar gofnodi'r cyfan mewn dogfen. Fe gewch chi gyfle yn nes ymlaen i ychwanegu a dileu geiriau yn ôl yr angen.

Ysgrifennu wrth i chi fynd yn eich blaen

Mae’n eithaf tebygol (ac yn syniad da!) y byddwch chi’n dechrau ysgrifennu cyn gorffen eich gwaith ymchwil. Efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno pennawd neu fwy i gael eu hasesu yn ystod y cyfnod ymchwilio. Gallwch chi ddefnyddio’r broses dan sylw yn y paragraffau blaenorol i ysgrifennu unrhyw un o’r penodau. Rhaid i chi fod yn barod i asesu ac adolygu’ch gwaith eich hun dro ar ôl tro. Efallai y bydd angen i chi adolygu hyd yn oed y penodau cyntaf mae eich arholwr wedi’u hasesu a’u derbyn. Nid arwydd o fethiant yw gorfod gwneud hyn. Mae’n arwydd cadarnhaol eich bod yn casglu profiad a sgiliau.

Datblygu dadl

Un o’r agweddau pwysicaf ar eich traethawd hir fydd eich gallu i gyfiawnhau eich rhesymau:

  • dros ddewis ymchwilio i’r pwnc arbennig yma;
  • dros ddewis y ffordd yma o’i ymchwilio;
  • dros feddwl bod y dull yma o ddadansoddi’n briodol; and
  • a dros feddwl bod eich gwaith dehongli a’ch casgliadau’n rhesymol.

Byddwch chi’n cyfeirio at waith pobl eraill wrth gyfiawnhau eich dewisiadau. Efallai bydd hyn yn golygu asesu’n fanwl gwaith arweinwyr cydnabyddedig y maes. Er ei bod hi’n bwysig eich bod yn dangos parch wrth drafod syniadau a gwaith ymchwil pobl eraill, mae disgwyl i chi herio'n uniongyrchol a hyd yn oed anghytuno'n agored â nhw.

Yn ei lyfr (1989) ar ysgrifennu ym myd y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithas, awgrymodd Taylor nifer o wahanol ffyrdd sy’n dderbyniol yn academaidd o fynd ati i herio gwaith a gyhoeddwyd.

  • • Cytuno â safbwynt rhywun, caniatáu neu gadarnhau’r safbwynt, neu amddiffyn eich safbwynt eich hun.
  • • Cynnig safbwynt newydd.
  • • Cydnabod bod rhinweddau i safbwynt ond bod angen ymestyn rhai agweddau pwysig arno.
  • • Ail-ffurfio safbwynt rhywun neu ddisgrifiad ohono, fel bod y fersiwn newydd yn gweithredu fel gwell esboniad.
  • • Gwrthod safbwynt neu waith person arall ar y sail ei fod yn annigonol, yn amherthnasol, yn ddigyswllt neu drwy ddefnyddio meini prawf perthnasol eraill.
  • • Gwrthod, gwrthbrofi neu wrth-ddweud dadl rhywun arall ar sail nifer o resymau cadarn.
  • • Chwilio am dir cyffredin rhwng dwy sefyllfa a allai ymddangos yn wahanol i’w gilydd, drwy arddel rhyw egwyddor ‘uwch’ neu ‘ddwysach’.
  • • Datblygu safbwynt sy’n bod yn barod, efallai drwy ei ddefnyddio ar setiau mwy o ddata neu setiau mwy cymhleth, neu drwy gymhwyso theori i gyd-destun newydd.

(Addasiad a chyfieithiad o Taylor 1989, t.67)

Mae’n bwysig eich bod yn dadlau mewn ffordd bendant. Ond mae’n annhebyg y byddwch chi'n cael cyfle mewn traethawd hir i setlo hen ddadl academaidd yn hollol bendant. Dylech chi fod yn onest ynglŷn ag unrhyw fylchau yn eich ymchwil, a gofalu nad ydych chi’n gor-ddweud eich darganfyddiadau. Ceisiwch fod yn ddiymhongar ond yn realistig wrth osod eich gwaith ymchwil eich hun yn ei gyd-destun ehangach.

Gwella’r strwythur a’r cynnwys

Ar ôl i chi orffen drafftio’r traethawd hir, bydd yn haws i chi adnabod y mannau lle y gallwch ei wella. I wneud y traethawd yn haws ei ddarllen, gallwch chi osod arwyddion clir ar ddechrau pob un o'r penodau. Ysgrifennwch gysylltiadau rhwng yr adrannau i ddangos sut mae’r naill adran yn perthyn i’r llall. Techneg arall sy’n gwella arddull rhywun sy’n ysgrifennu dogfen academaidd yw gofalu y gallwch chi gyfiawnhau eich rhesymau dros gynnwys y naill baragraff a’r llall.

Efallai y byddwch chi’n dewis darllen eich drafft o safbwynt eich arholwr. Fe allai hynny olygu creu rhestr o gwestiynau i chi eu hateb, a darllen wedyn drwy eich traethawd gan ysgrifennu sylwadau, awgrymiadau, beirniadaethau a syniadau ar ymylon y tudalennau. Os oes gennych ganllaw marcio, defnyddiwch y canllaw i’ch helpu i asesu a allwch chi wella unrhyw agwedd ar eich traethawd.

Wrth wneud y pethau yma, meddyliwch a oes angen i chi gynyddu neu leihau nifer y geiriau yn eich traethawd er mwyn i chi gyrraedd eich targed. Wrth ddarllen, gallwch chi dynnu llinell drwy unrhyw ddeunydd sydd efallai’n ddiangen. Tynnwch sylw at y pwyntiau y gallech chi eu datblygu. Bydd dilyn yr holl gamau yma’n rhoi sylfaen gadarn i chi ddrafftio fersiwn well o’ch traethawd.

Gwybod pryd i stopio

Yn yr un ffordd ag y mae dechrau ysgrifennu’n gallu bod yn anodd, mae hefyd yn gallu bod yn anodd gwybod pryd i stopio. Efallai y byddwch chi’n mynd i deimlo na fydd eich traethawd byth yn ddigon da, a bod angen i chi ei adolygu dro ar ôl tro. Efallai y byddai’n syniad i chi droi eich sylw at gwblhau rhai tasgau eraill sy’n galw am sylw:

  • ysgrifennu’r crynodeb a’r cyflwyniad;
  • gwirio’r rhestr o gyfeirnodau;
  • rhoi’r wedd derfynol ar yr atodiadau;
  • a gwirio eich tudalen gynnwys.

Bydd gwneud hyn yn caniatáu i chi edrych o’r newydd ar brif gorff eich traethawd, a'i gwblhau a theimlo'n fwy bodlon arno. Cofiwch fod angen i’r traethawd gadarnhau eich gallu i wneud darn o waith ymchwil ac i ysgrifennu amdano. Nid oes disgwyl i chi ateb pob cwestiwn sy'n codi yn y maes.

Mae’n bwysig eich bod yn caniatáu digon o amser i ddarllen a gwirio’r traethawd terfynol am y tro olaf un.

I grynhoi

  • Neilltuwch amser i gynllunio strwythur y traethawd hir.
  • Cynlluniwch strwythur a fydd yn eich galluogi i gyflwyno eich dadl yn effeithiol.
  • Ychwanegwch y manylion, gan ganolbwyntio ar gofnodi popeth heb boeni ar hyn o bryd am nifer y geiriau.
  • Meddyliwch am y gwaith ysgrifennu fel rhan o’r broses ymchwil, nid fel rhywbeth i’w wneud ar ôl gorffen yr ymchwil.
  • Disgwyliwch y bydd gofyn i chi olygu eich traethawd dro ar ôl tro wrth geisio cyrraedd ei ffurf derfynol.
  • Gadewch ddigon o amser i wirio a phrawfddarllen yn drwyadl.

Cyfeirnodau

Barrass R. (1979) Scientists must write. A guide to better writing for scientists, engineers and students. London:Chapman and Hall.

Taylor G. (1989) The Student’s Writing Guide for the Arts and Social Sciences. Cambridge: Cambridge University Press.


Awdur gwreiddiol: Prifysgol Caerlyr

Hafan

Amdanom Ni

Gwasanaethau a Chyfleusterau

Gwasanaethau Digidol

  • Sgiliau Astudio
    • Trefnu Apwyntiad
    • Cymorth Mathemateg ac Ystadegau
    • Grwpiau Astudio
    • Gweithdai
    • Adnoddau Astudio
      • Astudiaeth Ôl-raddedig
      • Canllaw i Astudio yn y Brifysgol
      • Astudio ac arholiadau
        • Medrau adolygu a sefyll arholiadau
        • Straen arholiadau
        • Manteisio’r eithaf ar eich darlithoedd
        • Cymryd nodiadau
        • Trefnu eich amser
        • Osgoi llên-ladrad
        • Projectau grŵp llwyddiannus
      • Ysgrifennu academaidd
        • Eglurhad ar dermau traethodau
        • Cynllunio project ymchwil ar gyfer traethawd hir
        • Osgoi llên-ladrad
        • Cymryd nodiadau
        • Cyfeiriadau a llyfryddiaethau
        • Celfyddydau golygu
        • Beth yw ysgrifennu beirniadol?
        • Ysgrifennu traethawd hir
        • Ysgrifennu traethodau
          • Cyngor gan Ddarlithwyr
        • Ysgrifennu adroddiadau
        • Defnyddio Microsoft Office
        • Adnoddau Astudiaeth Ôl-raddedig
      • Mathemateg ac ystadegau
      • Cyflwyniadau
        • Rhoi cyflwyniad effeithiol
        • Cynllunio cyflwyniad effeithiol
        • Defnyddio cymhorthion gweledol
        • Defnyddio Microsoft PowerPoint
      • Darllen ac ymchwil
        • Beth yw darllen beirniadol?
        • Cymryd nodiadau
        • Gwella eich medrau darllen
        • Cyfeiriadau a llyfryddiaeth
      • Cyfeirnodi
    • Cyfeirio myfyrwyr
    • Cydweithio gydag ysgolion academaidd
    • Amdanom ni
    • Rhowch eich barn i ni
    • A–Y
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor