Ysgrifennu traethodau

Ysgrifennu traethodau sydd dan sylw yn y canllaw astudio yma. Mae’r traethawd yn cael ei ddefnyddio fel techneg asesu mewn amryw o ddisgyblaethau academaidd, fel rhan o’r gwaith cwrs ac mewn arholiadau. Traethodau yw’r pwnc trafod mwyaf cyffredin wrth i fyfyrwyr ymgynghori â’i gilydd.

Canllawiau defnyddiol eraill:

Mae casgliad o restri o gwestiynau ar gael drwy'r wefan datblygiad myfyrwyr. Rhestri yw’r rhain o’r cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun wrth i chi adolygu’ch gwaith ysgrifennu

Traethodau – pam?

I greu traethawd o safon mae angen i chi ddangos eich gallu:

  • i ddeall yr union dasg mae’r teitl yn ei gosod;
  • i adnabod y deunyddiau priodol i’w darllen;
  • i ddeall ac i bwyso a mesur y deunydd hwnnw;
  • i ddewis y deunydd mwyaf perthnasol i gyfeirio ato yn eich traethawd;
  • i gyfuno’n effeithiol y deunydd o’ch gwahanol ffynonellau;
  • i gydnabod pob un o’r ffynonellau’n gywir;
  • i ffurfio dadl effeithiol;
  • ac i ddod i gasgliad cadarn.

Mae’n debyg mai'r galw am ddefnyddio dewis mor eang o sgiliau academaidd yw’r prif reswm dros weld tiwtoriaid yn ffafrio traethodau fel fformat aseiniadau.

Mae’r terfyn geiriau’n ychwanegu at yr her drwy fynnu bod y myfyriwr yn rhoi tystiolaeth o’r holl sgiliau yma heb ysgrifennu mwy na nifer gymharol fach o eiriau. Mae gallu creu darn clir a chryno o waith ysgrifenedig heb ddefnyddio gormod o eiriau’n sgìl bwysig ynddi’i hun. A bydd yn sgìl ddefnyddiol mewn sawl agwedd ar fywyd y tu hwnt i waliau’r brifysgol.

Adborth

Mae adborth da sy’n beirniadu mewn ffordd adeiladol yn gallu bod o help garw wrth i chi geisio gwella'ch sgiliau ysgrifennu traethodau. Mae’n werth rhoi sylw i’r holl awgrymiadau a’r sylwadau rydych chi’n eu cael, a cheisio gweithredu arnyn nhw. Gwnewch restr o’r prif bwyntiau yn eich adborth a chwiliwch am y gwendidau yma wrth ysgrifennu’ch traethawd nesaf. Ceisiwch ddeall pam rydych chi wedi colli marciau, ac ewch ati ar unwaith i wella'ch techneg.

Dyma rai o’r beirniadaethau mwyaf cyffredin o waith myfyrwyr:

  • nid yw’r traethawd yn cadw at y teitl a osodwyd;
  • mae ei strwythur yn wael;
  • mae'n rhy ddisgrifiadol;
  • nid oes digon o ysgrifennu beirniadol ynddo;
  • ac nid yw’r ffynonellau’n addas ar gyfer gwaith academaidd.

Mae’r beirniadaethau yma’n tynnu sylw at dair elfen sylfaenol y dasg o ysgrifennu traethodau da:

  • rhoi sylw manwl i’r teitl;
  • creu strwythur perthnasol a fydd yn eich helpu i ddangos sut mae’ch dadl yn datblygu;
  • a defnyddio technegau ysgrifennu beirniadol gymaint â phosib. Mae lle weithiau i ysgrifennu’n ddisgrifiadol, ond rhaid gofalu peidio â gwneud gormod ohono.

Y tair elfen yma fydd yn gosod strwythur cyffredinol y canllaw astudio ar ysgrifennu traethodau.

Rhoi sylw manwl i’r teitl

Y man cychwyn pwysicaf yw ‘gwrando’ yn astud ar y neges yn nheitl y traethawd.

Mae gofyn i chi ddarllen pob un o’r geiriau yn y teitl, a thynnu gymaint â phosib o wybodaeth allan ohono. Y cam nesaf yw cynllunio sut byddwch chi’n ymateb i bob un o’r elfennau yn y teitl. Mae’r cyfarwyddiadau sydd yn y teitl ar gael am ddim, a hwn sy'n rhoi'r cliw gorau i chi o'r hyn mae disgwyl i chi ei wneud yn eich traethawd.

Dyma gyfieithiad o eiriau un tiwtor (Creme a Lea, 1997, t.41):

‘Pan mae fy myfyrwyr yn fy holi ynglŷn ag ysgrifennu traethodau, rwy’n rhoi tri darn pwysig o gyngor iddyn nhw. Un, atebwch y cwestiwn. Dau, atebwch y cwestiwn. Tri, atebwch y cwestiwn.’

Mae’n bwysig gwneud hyn ar ddechrau’r traethawd. Ond mae’n bwysig yn y gweddill ohono hefyd gan ei bod hi mor hawdd gadael i'ch meddwl grwydro a gwastraffu rhai o'r geiriau o'ch terfyn geiriau drwy ysgrifennu am rywbeth sy’n ddiddorol, ond yn amherthnasol i’r teitl a gafodd ei osod.

Efallai byddai’r canllaw astudio Esbonio termau traethodau o help i chi.

Casglu syniadau

Fel man cychwyn, byddai’n ddefnyddiol i chi gasglu eich holl syniadau yng nghyswllt teitl y traethawd. Efallai hefyd y bydd gwneud hyn yn eich helpu i beidio â rhedeg allan o bethau i'w dweud. Mae’n gallu bod yn ffordd o symud pethau yn eu blaen yn eithaf cyflym.

Mae ceisio penderfynu ar eich pen eich hun sut mae taclo teitl traethawd yn gallu bod yn anodd, a gall achosi straen. Gofynnwch i’ch hun gwestiynau fel: Pa strwythur ddylwn i ei ddefnyddio? Beth yw fy mhrif bwyntiau? Pa ddogfennau ddylwn i eu darllen? Ydw i wedi casglu digon o dystiolaeth? Cyn mynd ati i chwilio am atebion i’r cwestiynau yma, mae rhestru syniadau’n fras ar bapur yn gallu lleihau'r straen yn arw.

Yn y camau cyntaf yma, efallai eich bod yn ansicr pa rai o’ch syniadau y byddwch chi’n awyddus i’w dilyn, a pha rai y byddwch chi’n eu rhoi o’r neilltu. Peidiwch â theimlo, felly, fod rhaid i chi ddod i benderfyniadau cadarn cyn dechrau ysgrifennu. Yn lle hynny, rhestrwch eich syniadau'n ddigon di-drefn, ar dudalen neu ddwy o bapur A4. Dewis arall yw eu cadw mewn ffeil ar eich cyfrifiadur. Ar ôl casglu syniadau fel hyn, byddwch chi’n fwy parod i ddechrau edrych yn feirniadol ar bob un ac i ddewis y dogfennau i ganolbwyntio arnyn nhw er mwyn ysgrifennu nodiadau.

Rhannu syniadau’n ddarnau llai, a’u datblygu wedyn

Dyma’n union beth fyddwch chi’n ei wneud wrth ysgrifennu traethawd: rhannu syniadau’n ddarnau llai, a’u datblygu wedyn. Mae angen i chi:

  • rannu teitl y traethawd er mwyn adnabod ei gydrannau, a meddwl am ffyrdd posib o roi sylw i bob un;
  • defnyddio’r gwahanol gydrannau drwy ddewis y dogfennau i’w darllen er mwyn ysgrifennu nodiadau (cofiwch gofnodi’r cyfeirnodau wrth i chi ddarllen);
  • datblygu’r traethawd drwy ddefnyddio’r deunydd rydych chi wedi’i gasglu;
  • rhoi trefn ar y deunydd;
  • cyflwyno a thrafod y deunydd;
  • a’i ddefnyddio i ffurfio dadl gydlynol.

Drwy gydol y broses, teitl y traethawd yw’r unig beth sydd ddim yn newid. Y teitl yw’r man cychwyn a'r man gorffen, ac mae angen rhoi popeth rhwng y ddau fan yng nghyd-destun y teitl hwnnw.

Darllen yn effeithlon

Bydd y tair proses flaenorol yn mynd yn sail i’ch penderfyniadau ar y dogfennau y byddwch chi’n eu darllen ar gyfer traethawd. Heb ei gynllunio’n iawn, mae perygl i’r cam darllen gymryd llawer iawn o amser. Ond, yn ffodus, gallwch chi wneud y broses yn fwy effeithlon drwy:

  • wneud penderfyniadau doeth, ar sail eich cynllun gwreiddiol, ynglŷn â’r ffynonellau i’w targedu. Dyma’r ffordd i osgoi treulio amser yn darllen dogfennau llai perthnasol ac addas, neu hyd yn oed rhai cwbl amherthnasol;
  • darllen yn bwrpasol gan chwilio am ddeunydd sy’n arbennig o berthnasol, yn hytrach na rhoi'r un sylw i ddeunydd sy’n llai perthnasol;
  • ysgrifennu nodiadau trefnus gan gofnodi’r deunydd mwyaf perthnasol y gallech chi ei ddefnyddio yn eich traethawd (heb anghofio manylion y cyfeirnodau a rhifau tudalennau ar gyfer dyfyniadau uniongyrchol).

Er bod disgwyl i chi fod yn weddol effeithlon, mae’n bwysig eich bod hefyd yn ddigon hyblyg i adnabod syniadau perthnasol a diddorol nad oedd wedi croesi'ch meddwl o'r blaen.

Ysgrifennu fel ffordd o feddwl

Gallwch chi ddefnyddio’r broses ysgrifennu i’ch helpu i esbonio a datblygu’ch syniadau cynnar ynglŷn â’r ffyrdd posib o ymateb i'r teitl a osodwyd:

‘Efallai na fyddwch chi'n gwybod eich barn tan fyddwch chi wedi ei hysgrifennu’ (cyfieithiad o ddyfyniad o Creme a Lea, 1997, t.115).

Fel sy’n digwydd ym myd addysgu, nid ydych chi’n gwybod am y bylchau yn eich gwybodaeth neu’ch dadl tan fyddwch chi’n ceisio cyfleu’r ddadl a’i thystiolaeth i rywun arall. Peidiwch, felly, ag ofni’r broses o ysgrifennu eich syniadau cyn eu datblygu’n llawn, na phoeni am eu hysgrifennu yn y drefn ‘gywir’.

Mae ysgrifennu’n broses weithredol ac adeiladol. Nid mater syml yw o gofnodi’ch syniadau mewn ffordd niwtral. Mae’n syniad, felly, i chi fynd ati i ysgrifennu gan ddisgwyl gorfod gwneud newidiadau. Nid oes rhaid i’r geiriau cyntaf rydych chi’n eu hysgrifennu fod yn y fersiwn derfynol. Nid rhywbeth negyddol yw golygu eich gwaith wrth i chi ddatblygu'ch syniadau – mae’n broses gadarnhaol. Drwy ddileu, ail ysgrifennu ac aildrefnu geiriau, dylai'ch traethawd wella a gwella.

Creu strwythur perthnasol fel sail i’ch dadl

Mae angen strwythur ar unrhyw draethawd. Fe allai’r strwythur fod yn gadarn ac yn amlwg, neu fe allai fod yn gynnil ac yn llawer llai amlwg. Ond, mewn traethawd da, bydd y strwythur yno.

Y ‘ddadl’ dan sylw yn eich traethawd fydd sylfaen y strwythur. Unwaith eto, fe allai’r ddadl fod yn gadarn ac yn amlwg, neu fe allai fod bron iawn yn gudd. Ond mae angen iddi fod yno. Efallai fod y term ‘dadl’ yn fwy perthnasol neu’n llai perthnasol mewn gwahanol feysydd pwnc a gwahanol arddulliau ysgrifennu. Ond hyd yn oed yn y traethodau sy’n ymddangos fel rhai hynod o greadigol, anwyddonol neu bersonol, mae’r ysgrifennwr yn cyflwyno rhyw fath o ddadl.

Y ddadl, a’r ffordd y byddwch chi’n penderfynu ei chyflwyno hi a'r dystiolaeth sy'n sail iddi, fydd yn dylanwadu ar y strwythur y byddwch chi’n ei ddewis ar gyfer eich traethawd.

Nid strwythur y traethawd yw’r nod ei hun, ond y ffordd o gyflawni nod. Y nod yw cyfleu dadl o safon.

Drwy greu strwythur perthnasol, rydych chi’n hwyluso’r broses o gyflwyno dadl effeithiol. Mae amryw o strwythurau generig ar gael a allai’ch helpu i ddechrau meddwl am strwythur eich traethawd. Er enghraifft, strwythur:

  • cronolegol (yn nhrefn amser);
  • thematig (ar sail thema);
  • yn ôl cyd-destun;
  • cymharol (proses o gymharu).

Fe allai’r rhain roi man cychwyn defnyddiol i chi, ond mae’n debyg y byddwch chi’n dewis strwythur mwy cymhleth fel:

  • strwythur cronolegol ar y cyfan, ond ei rannu’n ddarnau llai drwy gymharu yn ôl elfennau’r teitl;
  • strwythur thematig ar y cyfan, ond ei rannu’n is-themâu;
  • strwythur cymharol ar y cyfan, ond ei rannu yn ôl cyd-destun.

Yn ogystal â’r strwythurau cyffredinol yma, mae’n debyg y bydd angen i chi greu mân strwythurau i roi sylw i’r elfennau penodol mae angen i chi ganolbwyntio arnyn nhw. Er enghraifft, tystiolaeth, polisïau, theorïau, arferion, astudiaethau achos, enghreifftiau a thrafodaethau.

Strwythurau hyblyg

Efallai byddwch chi'n teimlo bod y fath strwythurau’n rhy anhyblyg i’ch traethawd chi. Efallai byddwch chi’n awyddus i greu strwythur mwy hyblyg. Efallai, yn yr achosion yma, y byddai ‘patrwm’, ‘argraff’ neu ‘awyrgylch’ yn eiriau mwy addas na strwythur, er eu bod nhw'n eiriau sy'n gweddu'n well i faes ysgrifennu creadigol nac i ysgrifennu traethodau.

Gallech chi feddwl am hyn yn nhermau cyfansoddi symffoni. Yn ystod yr 18fed ganrif, roedd y ddau gyfansoddwr Haydn a Mozart yn tueddu i gyfansoddi symffonïau a oedd yn perthyn yn ddigon agos i’r hyn a oedd yn cael ei galw’n ‘ffurf symffonig’. Roedd y ffurf yma’n gosod patrwm ar gyfer nifer y symudiadau yn y symffoni, ac ar gyfer strwythur cyffredinol y cyfansoddi ym mhob un o’r symudiadau. Gan fod eu gwaith yn boblogaidd hyd heddiw, mae’n amlwg bod y ddau gyfansoddwr wedi llwyddo i gynnwys digon o ddiddordeb ac amrywiaeth yn y strwythur sylfaenol hwnnw

Symudodd y cyfansoddwyr a ddaeth ar eu holau at ffurf symffonig lai caeth. Cadwodd rhai o’r rhain gyswllt llac â’r ffurf, tra bo cyfansoddwyr eraill wedi rhoi’r gorau iddi’n gyfan gwbl a dewis patrymau mwy hyblyg. Ond peth prin iawn fyddai symffoni heb unrhyw fath o strwythur neu batrwm. Mae’n debyg na fyddai ei chwarae na gwrando arni’n rhoi llawer o foddhad i chi. Yn yr un ffordd, mae’n debyg bod rhyw fath o strwythur yn hanfodol i bob traethawd, waeth pa mor chwyldroadol yw’r strwythur.

Byddwch chi’n dewis eich strwythur ar sail cyfuniad o’r pethau sy’n dilyn:
  • gofynion eich adran (darllenwch yn fanwl y cyfarwyddiadau ar gyfer eich traethawd);
  • y posibiliadau mae teitl y traethawd yn eu cynnig;
  • a’ch dewisiadau a’ch sgiliau eich hun.

Proses o ailadrodd nad yw’n gorfod bod yn un linellol

Nid oes rhaid i’r broses o gynllunio ac ysgrifennu traethawd fod yn un linellol, lle y byddech chi’n mynd drwy bob un o’r camau unwaith yn unig. Mae’n gallu bod yn broses o ailadrodd. Hynny yw, proses lle mae’r camau cynharaf yn cael eu hailadrodd fel bod cyfle i adolygu yng ngoleuni gwaith dilynol. Mae proses ailadroddol yn golygu:

  • dadansoddi’r teitl
  • casglu syniadau perthnasol
  • darllen dogfennau perthnasol ac ysgrifennu nodiadau
  • paratoi’r drafft cyntaf
  • dadansoddi’r teitl unwaith eto
  • edrych yn feirniadol ar y drafft cyntaf yng ngoleuni'r gwaith dadansoddi pellach
  • darllen mwy o ddogfennau i lenwi’r bylchau
  • paratoi’r drafft terfynol
  • a golygu’n feirniadol y drafft terfynol
  • cyflwyno'r traethawd terfynol

‘Helpu eich darllenwyr’

Cyfieithiad o ddyfyniad yw teitl yr adran yma (Barass, 1982, pennod 8, tt 80-92). Ar dudalen 80 o’i lyfr (1982, t.80) mae Barass yn gwneud datganiad syml ond dilys. Dyma gyfieithiad o'r datganiad:

‘Drwy hwyluso pethau i’ch darllenwyr, rydych chi’n eich helpu eich hun i gyfleu gwybodaeth a syniadau.’

Mae’r tiwtoriaid sy’n darllen ac yn marcio’ch traethodau’n haeddu cael eu trin yn ystyriol. Byddan nhw’n darllen ac yn marcio nifer fawr iawn o draethodau myfyrwyr. Os bydd eich dadl yn anodd ei dilyn fel bod eich tiwtor yn gorfod ailddarllen paragraff (neu fwy) i geisio deall yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu, byddwch chi’n ei gythruddo ac yn arafu ei waith. A bod yn realistig, fe allai’r tiwtor ddewis peidio â gwneud ymdrech. Eich tasg chi yw cyflwyno dadl mewn ffordd y gall eich cynulleidfa ei dilyn. Nid gwaith eich cynulleidfa yw mynd ati i chwilio am y pwyntiau rydych chi’n ceisio’u gwneud.

Nid yw’ch tiwtoriaid yn disgwyl i’ch traethawd fod yn berffaith, yn chwyldroadol, yn unigryw ac yn arbennig. Ond byddai’r tiwtor yn fodlon iawn ar draethawd sydd wedi’i gynllunio’n dda, dadl sydd wedi’i chyflwyno’n dda a thraethawd sydd wedi’i ysgrifennu’n dda. Nid yw’r tiwtor yn awyddus o gwbl i dynnu’ch traethawd yn dipiau. Byddai’n llawer gwell ganddo fwynhau ei ddarllen, a theimlo’n fodlon ar rediad eich dadl. Dyma gyfieithiad o eiriau un tiwtor:

‘Rwy’n chwilio am bwyslais, am lais sy’n ennyn hyder ynof fi, nid yn fy niflasu – rhywun sy’n gyfarwydd â'r pwnc a fydd yn gallu esbonio pethau mewn ffordd wrthrychol, ddeallus a diddorol.’ Stott (2001, t.37)

Y cyflwyniad

Mae cyflwyniad grymus yn werthfawr dros ben. Gall ysgogi diddordeb eich darllenwyr, a rhoi hyder iddyn nhw yn eich gallu i feddwl yn ofalus am y teitl, ac am y ffordd y byddwch chi’n rhoi sylw iddo. Dyma strwythur cyffredinol sy’n defnyddiol:

  • cychwyn gyda phwynt cyffredinol ynglŷn â’r mater dan sylw;
  • dangos eich bod yn deall y dasg sydd wedi’i gosod;
  • dangos ym mha ffordd y byddwch chi’n rhoi sylw i’r teitl yn strwythur eich traethawd;
  • creu cyswllt â’r pwynt cyntaf.

Efallai y gallwch chi ddefnyddio un paragraff yn unig fel eich cyflwyniad. Ond efallai byddai dau baragraff neu fwy'n well, gan ei gadw'n gytbwys â'r traethawd cyfan. Bydd gofyn i chi addasu ac ymestyn y strwythur sylfaenol yma i gyfateb i’ch disgyblaeth eich hun a’r union dasg dan sylw.

Mae enghraifft yn dilyn o gyflwyniad traethawd. Teitl y traethawd oedd: Archwiliwch a chymharwch natur a datblygiad y cymeriadau trasig Macbeth a Dr Faustus yn eu gwahanol ddramâu.

  • Gwnewch bwynt cyffredinol ar y dechrau
    Mae Dr Faustus a Macbeth yn ddwy ddrama a ysgrifennwyd pan oedd y ddau ddramodydd ar frig eu gyrfaoedd.
  • Dangoswch eich bod yn deall y dasg dan sylw
    Mae elfennau tebyg a gwahanol i’w gweld wrth gymharu natur prif gymeriadau’r ddwy ddrama.
  • Dangoswch sut rydych chi’n bwriadu rhoi sylw i’r teitl
    Yn adran gyntaf y traethawd, rôl yr arwr trasig fydd dan sylw ... Bydd ail adran y traethawd yn archwilio natur ... A bydd yr adran olaf yn cymharu datblygiad y ddau ...
  • Gwnewch gyswllt â’r pwynt cyntaf
    Un man cychwyn defnyddiol wrth archwilio nodweddion trasig y cymeriadau yw diffiniad Aristotle o drasiedi...

Er bod y cyflwyniad yn dod ar ddechrau eich traethawd, efallai byddech chi’n dewis ei ysgrifennu yn agosach at ddiwedd y broses ddrafftio:

‘Dim ond ar ôl cwblhau darn o waith ysgrifenedig y gallwch chi ei gyflwyno i’r darllenwr.’ (Cyfieithiad o ddyfyniad o Creme a Lea, 1997, t.115)

Efallai byddai’n syniad i chi restru nifer o bwyntiau bwled, a mynd yn ôl i ysgrifennu’r cyflwyniad llawn ar ôl drafftio’r traethawd cyfan.

Corff y traethawd

Rhaid i ran ganol y traethawd wireddu’r addewidion sydd yn eich cyflwyniad, a rhaid iddi hefyd ategu ac atgyfnerthu eich casgliadau terfynol. Byddai methu â bodloni’r naill neu’r llall o’r gofynion yma’n cythruddo’ch darllenwr, a bydd yn arwydd o ddiffyg golygu a diffyg gallu i feirniadu’ch gwaith eich hun.

Yn rhan ganol eich traethawd y mae gofyn i’r strwythur wneud ei waith, waeth pa mor amlwg neu gudd yw’r strwythur hwnnw. Mae gofyn i’ch strwythur fod yn un sy’n eich helpu fwyaf i roi sylw i deitl y traethawd.

Mae’n debyg y bydd y rhan ganolog yma’n cynnwys: syniadau; esboniadau; tystiolaeth; cyfeirnodau perthnasol; ac enghreifftiau perthnasol. Ei nodweddion fydd:

  • arddull academaidd addas;
  • dull diddorol o ysgrifennu sy’n ennyn diddordeb y darllenwr;
  • syniadau clir a dull clir o’u cyfleu,
  • deunydd sydd wedi’i drefnu’n synhwyrol ac sy’n ategu’r broses o ddatblygu’r syniadau a’r ddadl.

Y casgliad

Mae casgliad grymus yn dechneg hynod o werthfawr. Y nod yw rhoi’r argraff i’ch darllenwr eich bod wedi cyflawni’r dasg. Dyma strwythur cyffredinol a allai fod yn ddefnyddiol:

  • crynhoi’n gryno iawn y pwyntiau rydych chi wedi’u gwneud yn eich traethawd;
  • cyfeirio'n fwy cyffredinol at y mater;
  • pwyso a mesur y prif ddadleuon;
  • tynnu sylw at yr agweddau pwysicaf.

Gwnewch yn siŵr fod eich casgliad wedi’i seilio ar yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu yng nghorff eich traethawd. Ddylech chi ddim cynnwys unrhyw syniadau newydd yn eich casgliad.

Mae’r enghraifft sy'n dilyn wedi'i seilio ar y teitl yn yr enghraifft flaenorol.

  • Crynhoi’n gryno iawn
    Mae’r cymeriadau Macbeth a Faustus yn debyg iawn i’w gilydd mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, mae’r ddau’n barod iawn i fynd ar hyd llwybr sy’n eu harwain at eu condemnio.
  • Cyfeirio’n fwy cyffredinol at y mater
    Y prif wahaniaethau yw’r ffordd mae’r cymeriadau’n cael eu datblygu mewn dwy ddrama sydd, yn y bôn, yn wahanol iawn i’w gilydd.
  • Pwyso a mesur y prif ddadleuon
    Fel y dangoswyd, mae’r cymeriad Macbeth yn cyrraedd isafbwynt ond mae’n codi ohono ar ddiwedd y ddrama. Mae hyn yn gyson â diffiniad Aristotle o drasiedi. Ond nid yw Faustus yn llwyddo i ddringo o’i isafbwynt. Mae hyn yn gyson ag arddull y ddrama foes: rhaid i'r pechadur Faustus syrthio ar ei fai ar ddiwedd ei oes cyn gall y moesoldeb fod yn effeithiol...
  • Tynnu sylw at yr agweddau pwysicaf
    Yr elfen gadarn hon o foesoldeb yn Dr Faustus sydd, yn y pen draw, yn gwahanu’r ddau brif gymeriad.

Bod yn ysgrifennwr beirniadol

Ar ôl rhoi sylw manwl i’r teitl a chreu strwythur defnyddiol, y drydedd brif elfen yn y broses o ysgrifennu traethodau yw’r gallu i ddefnyddio ‘ysgrifennu beirniadol’ yn hyderus. Mae canllawiau manwl ar y maes yma yn y canllaw ‘Beth yw ysgrifennu’n feirniadol?’ Ond mae’n werth edrych yma ar un o adrannau’r canllaw hwnnw

Prif nodweddion y broses o ysgrifennu’n feirniadol yw:

  • gwrthod yn bendant ac yn hyderus â derbyn casgliadau ysgrifenwyr eraill heb bwyso a mesur y dadleuon a’r dystiolaeth maen nhw’n eu cyflwyno;
  • cyflwyno mewn ffordd gytbwys y rhesymau dros dderbyn casgliadau ysgrifenwyr eraill, neu dros eu trin efallai â gofal mawr;
  • cyflwyno’ch tystiolaeth a’ch dadleuon eich hun mewn ffordd glir sy’n arwain at eich casgliad;
  • a chydnabod terfynau eich tystiolaeth, eich dadleuon a’ch casgliadau eich hun.

Wrth ysgrifennu’n feirniadol, byddwch chi’n edrych ar y dystiolaeth rydych chi’n ei defnyddio, ac yn ychwanegu elfen o archwilio a phwyso a mesur. Mae Stott (cyfieithiad o ran o 2001, t.37) yn awgrymu mai, ‘Proses o ailgyflwyno gwybodaeth yw traethawd. Ond trosglwyddo gwybodaeth yw’r elfen bwysicaf: sef y gallu i drin y deunydd sylfaenol ac amrwd a’i ddefnyddio i greu dadl sicr sy’n argyhoeddi pobl.’.

Un ffordd o ymarfer y dasg o ysgrifennu'n feirniadol yw gwneud yn siŵr nad ydych chi'n gadael unrhyw ddisgrifiad heb esboniad, os yw’r disgrifiad hwnnw'n rhan o'ch tystiolaeth a'ch dadl. Os yw dyfyniad neu ddarn o ddata’n ddigon da i’w gynnwys, yna mae hefyd yn werth esbonio pam rydych chi wedi’i gynnwys. ‘Peidiwch â gadael i'ch darllenwr geisio deall goblygiadau unrhyw osodiad.' (cyfieithiad o ddyfyniad o Barass 1982, t.80).

Techneg ddefnyddiol arall sy’n atgyfnerthu ysgrifennu beirniadol yw’r paragraff. Ceisiwch beidio â chyflwyno mwy nag un syniad mewn paragraff. Yn y paragraff, gallech chi:

  • gyflwyno’r syniad, y darn o dystiolaeth, y dyfyniad neu’r cam yn y ddadl;
  • cyfleu’r syniad, y darn o dystiolaeth, y dyfyniad neu’r cam yn y ddadl;
  • cynnig sylwadau arno – gan roi prawf o’ch gallu i feddwl ac ysgrifennu’n feirniadol.

Patrwm arall fyddai defnyddio paragraff i gyflwyno a disgrifio syniad, darn o dystiolaeth, dyfyniad neu gam yn y ddadl, yna defnyddio’r paragraff dilynol i esbonio beth sy’n ei wneud yn berthnasol.

Golygu

Yn olaf, mae gofyn i chi roi’ch traethawd o’r neilltu am gyfnod er mwyn dod yn ôl ato a’i weld o’r newydd cyn gwneud y gwaith golygu terfynol.

'Mae rhai pobl yn meddwl mai’r eisin ar dop y gacen yw’r gwaith golygu a phrawfddarllen. Nid yw hyn yn gywir. Mae’r gwaith yn rhan gwbl hanfodol o’r broses. Dyma gyfle’r myfyriwr i ddangos bod y ddadl yn un sicr, bod dilyniant iddi a’i bod wedi cael ei chyfleu’n dda. Mae golygu’n anodd ac yn bwysig fel ei gilydd.’ (cyfieithiad o ddyfyniad o Stott, 2001, t.39)

Ydi, mae golygu’n bwysig. Ond nid yw'r gwaith o reidrwydd yn anodd. Rydych chi eisoes wedi gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith anodd yn y gwaith darllen, pwyso a mesur ac ysgrifennu. Ar ben hynny, mae beirniadu eich gwaith ysgrifennu eich hun yn tueddu i fod yn haws nac ysgrifennu'r darn yn y lle cyntaf. Efallai byddai’r canllaw astudio ‘Golygu fel crefft’ a’r daflen ‘Y cwestiynau i’w gofyn wrth olygu’ yn ddefnyddiol.

Gosodiad eich gwaith

Efallai fod lle i chi boeni ynglŷn â’r hyn y gallai’ch tiwtor ei ddysgu am safon eich traethawd o'i ymddangosiad ar y dudalen. Mae nifer o bethau’n cyfleu i’r tiwtor pa fath o draethawd sydd o’i flaen. Yn eu plith mae hyd y brawddegau a'r paragraffau, a ph’un a yw’r cyfeirnodau’n daclus neu beidio, a’r gwahanol adrannau’n gytbwys o ran eu hyd.

Ar y cyfan, cofiwch fod yn ‘gryno ac yn uniongyrchol’. Mae geiriau byrrach yn aml yn well dewis na geiriau hirach, oni bai fod gofyn i chi gynnwys rhyw eirfa benodol fel prawf o’ch sgiliau. Mae brawddegau byr a rhai canolig eu maint yn well dewis bron bob tro na brawddegau hir iawn. Mae paragraffau arbennig o hir yn tueddu i awgrymu nad ydych chi’n sicr iawn ynglŷn â’r pwyntiau rydych chi’n eu gwneud. Wrth gwrs, pwyntiau cyffredinol iawn yw’r rhain ac mae’n debyg y bydd paragraffau hir yn briodol mewn rhai achosion ac mewn rhai meysydd pwnc.

Mae gramadeg a sillafu cywir yn bwysig. Drwy gamsillafu a gwneud gwallau gramadegol, gallwch chi gyfleu diffyg gofal a diffyg syniadau clir. Mae diffyg gofal wrth ddefnyddio comas yn gallu newid ystyr brawddeg. Ac mae gwallau sillafu a gramadeg gwael yn gallu cythruddo rhywun sy’n ei ddarllen a’i farcio.

Manteisiwch ar yr help sydd ar gael

Os ydych chi’n teimlo bod eich sgiliau ieithyddol yn wan, cofiwch fod help ar gael. Mae canolfan unigryw ac arloesol ym Mhrifysgol Bangor sy’n cynnig dewis helaeth o wasanaethau ac arbenigeddau i ateb eich anghenion ieithyddol. Enw’r ganolfan yw Canolfan Bedwyr (www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr).

Drwy Ganolfan Bedwyr, gallwch chi:

  • ddilyn cyrsiau gloywi wythnosol a fydd yn eich helpu i wella’ch sgiliau ysgrifennu;
  • defnyddio meddalwedd gwirio sillafu a gramadeg (Cysgliad, sy’n cynnwys llawer o eiriaduron electronig a thesawrws) a chymhorthion electronig eraill i helpu rhywun i weithio’n ddwyieithog;
  • defnyddio gemau iaith cyfrifiadurol;
  • dysgu sut mae ysgrifennu mewn Cymraeg clir;
  • dysgu am yr holl ddatblygiadau Cymraeg a dwyieithog ym Mhrifysgol Bangor;
  • cofiwch hefyd am y gwasanaeth galw heibio wythnosol lle bydd tiwtor profiadol ar gael i'ch cynorthwyo yn eich dewis o iaith.

Crynodeb o’r prif bwyntiau

Teitl y traethawd yw’r wybodaeth bwysicaf sydd gennych. Y teitl sy’n diffinio union natur y dasg o’ch blaen. Os ydych chi’n ansicr ynglŷn ag unrhyw agwedd ar y dogfennau y dylech chi eu darllen ac am y broses o ysgrifennu'r traethawd, y cam cyntaf bob tro yw troi'n ôl i edrych eto ar y teitl. Mae gwneud hynny’n gallu bod yn syndod o ddefnyddiol. Y teitl yw sail uniongyrchol:

  • y dogfennau y byddwch chi’n dewis eu darllen;
  • y strwythur y byddwch chi’n ei ddewis i’r traethawd;
  • y deunydd y byddwch chi’n ei gynnwys neu’n ei roi o’r neilltu;
  • y ffordd y byddwch chi’n defnyddio’r deunydd;
  • a’r ffordd y byddwch chi’n cyflwyno'r pwnc ac yn dod i gasgliad amdano.

Mae’n hanfodol eich bod wedi creu strwythur perthnasol a defnyddiol sy’n ategu’r ffordd rydych chi’n cyflwyno’ch ymateb i’r teitl.

Dylech chi ddisgwyl mynd drwy broses sy’n golygu ailadrodd camau fel cynllunio, darllen, drafftio, adolygu, cynllunio, darllen, ail-ddrafftio a golygu.

Mae golygu'n rhan hanfodol o’r broses, nid yn rhywbeth gallwch chi ddewis ei wneud neu beidio.

Cyfeirnodau

Barass, R., (1982), Students must write: a guide to better writing in coursework and examinations. London: Methuen.

Creme, P. & Lea, M.R., (1997), Writing at university: a guide for students. Buckingham: Open University Press.

Stott, R., (2001), The essay writing process. Chapter 3, tt36-58. In Making your case: a practical guide to essay writing. Eds. Stott, R., Snaith, A., & Rylance, R., Harlow: Pearson Education Limited.


Awdur gwreiddiol: Prifysgol Caerlyr