Canllawiau defnyddiol eraill:
Ysgrifennu adroddiadau
Ysgrifennwyd y canllaw yma fel cyflwyniad cyffredinol i’r dasg o ysgrifennu adroddiadau. Mae’r canllaw’n disgrifio strwythur nodweddiadol adroddiad. Bydd hefyd yn mynd â chi gam wrth gam drwy’r broses o greu adroddiadau clir sydd wedi’u strwythuro’n dda.
Beth yw adroddiad?
Adroddiad yw darn sy’n cael ei ysgrifennu i bwrpas amlwg ac ar gyfer cynulleidfa neilltuol. Mae gwybodaeth benodol a thystiolaeth yn cael eu cyflwyno, eu dadansoddi a’u cymhwyso i broblem neu fater arbennig. Mae’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn fformat sydd wedi’i strwythuro’n glir, gan ddefnyddio adrannau a phenawdau er mwyn gwneud y wybodaeth yn hawdd ei chael a’i dilyn.
Pan fydd rhywun yn gofyn i chi ysgrifennu adroddiad, byddwch chi fel arfer yn cael briff sy’n cynnig cyfarwyddiadau a chanllawiau. Efallai bydd y briff yn disgrifio pwrpas yr adroddiad ac yn dweud pwy fydd yn ei ddarllen. Bydd hefyd yn disgrifio’r broblem neu’r mater y dylech chi roi sylw iddo yn eich adroddiad, ynghyd ag unrhyw ofynion penodol o ran fformat neu strwythur. Mae’r canllawiau yma’n cynnig cyflwyniad cyffredinol i’r dasg o ysgrifennu adroddiadau. Cofiwch y dylech chi hefyd roi sylw i unrhyw gyfarwyddiadau penodol bydd eich adran yn eu rhoi i chi.
Beth sy’n gwneud adroddiad da?
Dyma ddau o’r rhesymau dros ddefnyddio adroddiadau fel dull asesu ysgrifenedig:
- er mwyn dod i wybod beth rydych wedi’i ddysgu wrth ddarllen, wrth ymchwilo ac wrth ennill profiad;
- mae’n rhoi cyfle i chi ymarfer sgìl pwysig sy’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd yn y gweithle.
Mae adroddiad effeithiol yn cyflwyno a dadansoddi ffeithiau a thystiolaeth sy’n berthnasol i’r broblem neu’r mater penodol dan sylw yn y briff. Dylech chi gydnabod pob ffynhonnell rydych chi’n ei defnyddio yn yr adroddiad, a chreu cyfeirnodau’n unol â’r dull mae’ch adran wedi’i ddewis. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: Osgoi llên-ladrad. Mae’r arddull ysgrifennu mewn adroddiad yn fwy cryno fel arfer na thraethawd, a’r defnydd o iaith yn fwy uniongyrchol a chynnil. Bydd adroddiad sydd wedi’i ysgrifennu’n dda’n dangos eich bod yn gallu:
- deall pwrpas y briff ac ateb y gofynion;
- casglu, dadansoddi a phwyso a mesur y wybodaeth berthnasol;
- gosod gwybodaeth mewn trefn resymegol sy’n hawdd ei dilyn;
- cyflwyno’ch adroddiad mewn dull cyson gan ddilyn y cyfarwyddiadau yn y briff;
- dod i gasgliadau priodol ar sail y dystiolaeth a’r dadansoddiad o’r adroddiad;
- cynnig awgrymiadau ystyriol ac ymarferol yn ôl y gofyn.
Enghreifftiau o dasgau sy’n golygu ysgrifennu adroddiad
Blwyddyn 1 (Cemegwyr)
"Ysgrifennwch adroddiad hyd at ddwy dudalen o hyd. Dylai’r adroddiad gyflwyno’ch dadleuon o blaid ac yn erbyn bywyd sy’n seiliedig ar silicon. Rhowch bwyslais arbennig ar y gwahaniaethau rhwng cemeg carbon a silicon, a’r tebygrwydd rhyngddynt."
Blwyddyn 2 (Cemegwyr)
"Dewiswch bwnc cemegol ac ysgrifennwch adroddiad (pedair tudalen ar y mwyaf, gan gynnwys diagramau) arno."
Blwyddyn 3 (Cemegwyr)
"Dylech chi ysgrifennu adroddiad prosiect ar eich prosiect labordy estynedig ym mlwyddyn 3 (hyd at 40 tudalen ar y mwyaf). Yn yr adroddiad, dylech chi adolygu’r dogfennau sylfaenol perthnasol, a disgrifio’ch dulliau arbrofi, eich canlyniadau, eich trafodaeth a’ch casgliadau terfynol. Bydd yr adroddiad yn cael ei asesu ar sail y canlynol: strwythur, eglurder, safon cynhyrchu, a’ch gallu i ddeall a dadansoddi (mae’r meini prawf llawn ar gael ar Blackboard)."
Strwythur adroddiad
Mae’r adran yma’n cynnig disgrifiad cyffredinol i chi o brif nodweddion adroddiad. Defnyddiwch y disgrifiad yma ar y cyd â’r cyfarwyddiadau neu’r canllawiau a gawsoch chi oddi wrth eich adran.
Tudalen deitl
Dylai’r dudalen deitl ddisgrifio pwrpas yr adroddiad yn gryno ond yn glir (os nad yw teitl y gwaith yn gwneud y pwrpas yn gwbl amlwg). Gallech chi hefyd gynnwys manylion eraill fel eich enw, y dyddiad, ac ar gyfer pwy mae’r adroddiad.
Daeareg yr ardal o amgylch Bryn Bedw, Bro Dirion Dyfan Gruffydd 2 Tachwedd 2004 |
Enghraifft o dudalen deitl
Cylch gorchwyl
O dan y pennawd yma gallech chi esbonio’n gryno pwy fydd yn darllen yr adroddiad (y gynulleidfa), pam ydych chi wedi ysgrifennu’r adroddiad (ei bwrpas), a sut cafodd ei ysgrifennu (y dulliau). Gallai’r esboniad yma fod ar ffurf is-bennawd neu un paragraff byr.
Adroddiad a gyflwynwyd i ateb gofynion Cwrs F800, Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol Bangor. |
Enghraifft o gylch gorchwyl
Crynodeb
Dylai’r crynodeb ddisgrifio cynnwys yr adroddiad yn gryno. Dylech chi gynnwys amcanion yr adroddiad, yr hyn gwnaethoch chi ei ddarganfod, ac unrhyw gamau gweithredu mae angen eu cymryd. Ceisiwch ysgrifennu tua hanner tudalen, gan gynnwys y prif bwyntiau ond osgoi llawer o fanylion a thrafodaeth. Cofiwch mai’r crynodeb yw’r peth cyntaf fydd y darllenydd yn ei ddarllen. Dylai’r crynodeb roi darlun cyffredinol a chlir iddo o gynnwys yr adroddiad.
Archwiliwyd brigiad o greigiau sy’n perthyn i’r Uwch-grŵp Tsharnïaidd (Cyn-Gambriaidd hwyr) yn yr ardal o amgylch Bryn Bedw, Bro Dirion. Nod yr adroddiad hwn yw rhoi manylion o’r stratigraffeg mewn tri safle – Deri Duon, Abaty Mynydd Sant Mihangel a Bryn Meurig yn Nhre-wen. Ym mhob un o’r safleoedd hyn, gwelwyd bod yr Uwch-grŵp Tsharnïaidd yn cynnwys gwaddodion folcaniclastig (tyffau sydd wedi cwympo o’r awyr a rhai sy’n llifo ar ffurf lludw) yn bennaf, gyda haenau o gerrig llaid a cherrig silt rhyngddyn nhw. Mae nodweddion i’w gweld yn y creigiau hyn o ddyddodiad mewn dŵr bas ar lethrau llosgfynydd (er enghraifft weldio a chyfnewid y creigiau llosg). Bydd gofyn gwneud mwy o waith astudio er mwyn deall y broses dyddodi ac i bwyso a mesur trwch y gwahanol unedau o greigiau heddiw. |
Enghraifft o grynodeb
Cynnwys
Dylai’r dudalen gynnwys restru’r gwahanol benodau a/neu’r penawdau, a dylai roi rhifau’r tudalennau. Dylai’ch tudalen gynnwys gael ei gosod mewn ffordd sy’n ei gwneud yn hawdd i’r darllenydd sganio’r penawdau ar y rhestr yn gyflym a dod o hyd i ran arbennig o’r adroddiad. Efallai yr hoffech rifo penawdau ac is-benawdau pob pennod, yn ogystal â rhoi cyfeirnodau tudalennau. Pa bynnag system rifo byddwch yn ei defnyddio, gwnewch yn siŵr ei bod yn glir ac yn gyson ym mhob rhan o’r adroddiad.
Cyflwyniad
Y cyflwyniad sy’n rhoi prif gorff yr adroddiad yn ei gyd-destun. Ynddo, dylech chi esbonio nodau ac amcanion yr adroddiad yn fanwl. Tynnwch sylw at unrhyw broblemau neu bethau oedd yn cyfyngu ar gwmpas eich adroddiad. Disgrifiwch eich dulliau ymchwilio a pharamedrau’r ymchwil, a rhowch unrhyw gefndir angenrheidiol.
Mewn rhai adroddiadau, yn enwedig mewn pynciau gwyddonol, mae penawdau ar wahân yn cael eu defnyddio ar gyfer Dulliau a Chanlyniadau, cyn cyrraedd prif gorff yr adroddiad (Trafodaeth). Mae enghraifft o hynny’n dilyn.
Dulliau
Gallai’r wybodaeth dan y pennawd yma gynnwys pethau fel: rhestr o’r offer y gwnaethoch chi eu defnyddio; esboniadau o’r prosesau gweithredu; gwybodaeth berthnasol am y deunyddiau, gan gynnwys eu ffynonellau a manylion am unrhyw waith paratoi oedd angen ei wneud; unrhyw broblemau a gododd oedd yn golygu eich bod wedi gorfod newid y prosesau gweithredu.
Canlyniadau
Dylai’r adran yma gynnwys crynodeb o ganlyniadau’r ymchwiliad neu’r arbrawf ynghyd ag unrhyw ddiagramau, graffiau neu dablau o ddata angenrheidiol sy’n ategu’ch canlyniadau. Cyflwynwch eich canlyniadau mewn trefn resymegol heb roi sylwadau arnyn nhw. Dylech chi drafod eich canlyniadau ym mhrif gorff yr adroddiad (Trafodaeth).
Trafodaeth
Dylech chi drafod eich deunydd yma, ym mhrif gorff yr adroddiad. Dylech chi ddadansoddi a thrafod y ffeithiau a’r dystiolaeth rydych wedi’u casglu, a chyfeirio’n benodol at y broblem neu’r mater dan sylw. Os yw’r adran Trafodaeth yn hir, byddai’n syniad da i chi ei rhannu’n isadrannau. Dylech chi osod a threfnu’ch pwyntiau mewn ffordd resymegol a hawdd ei dilyn. Defnyddiwch benawdau ac is-benawdau i greu strwythur clir i’ch deunydd. Defnyddiwch bwyntiau bwled i gyflwyno cyfres o bwyntiau mewn rhestr sy’n hawdd ei dilyn. Fel ym mhob rhan o’r adroddiad, enwch bob un o’ch ffynonellau a rhowch y cyfeirnodau cywir. Mae mwy o ganllawiau am hyn yn: Cyfeirnodau a Llyfryddiaethau.
Casgliad
Yn eich casgliad, dylech chi esbonio arwyddocâd cyffredinol yr hyn rydych wedi bod yn ei drafod. Efallai y byddwch yn awyddus i atgoffa’r darllenydd am y pwyntiau pwysicaf dan sylw yn eich adroddiad neu i bwysleisio’r prif faterion neu ddarganfyddiadau. Ond peidiwch â chyflwyno unrhyw ddeunydd newydd yn y casgliad.
Atodiadau
O dan y pennawd yma dylech chi gynnwys yr holl wybodaeth rydych wedi’i defnyddio ond heb ei chyhoeddi. Fe allech chi gynnwys tablau, graffiau, holiaduron, arolygon neu drawsgrifiadau. Cyfeiriwch at yr atodiadau yng nghorff eich adroddiad.
Er mwyn asesu pa mor boblogaidd oedd y newid yma, rhoddwyd holiadur (Atodiad 2) i 60 o’r staff. Mae’r canlyniadau (Atodiad 3) yn awgrymu bod y mwyafrif o’r staff yn croesawu’r newid. |
Enghraifft o sut gallwch ddefnyddio atodiadau
Llyfryddiaeth
Dylai’ch llyfryddiaeth restru’r holl ffynonellau rydych yn cyfeirio atyn nhw yn eich adroddiad, os yw’r ffynonellau wedi cael eu cyhoeddi. Rhestrwch nhw dan enwau’r awduron, yn nhrefn yr wyddor. Mae mwy nag un ffordd o ysgrifennu cyfeirnodau a llyfryddiaethau. Cyfeiriwch at y canllaw astudio Cyfeirnodau a Llyfryddiaethau a llawlyfr eich adran i gael arweiniad. Gallwch roi unrhyw ddeunydd ychwanegol rydych wedi’i ddarllen ond heb gyfeirio ato’n uniongyrchol yn yr adroddiad, dan bennawd ar wahân fel ‘Gwaith darllen cefndirol’. Rhestrwch y deunydd yn nhrefn yr wyddor gan ddilyn yr un patrwm â’ch llyfryddiaeth.
Cydnabod cymorth gan bobl eraill
Os yw’n briodol, gallwch ddiolch i unigolion neu i gyrff penodol am eu parodrwydd i’ch helpu drwy roi gwybodaeth, cyngor a help.
Rhestr o dermau technegol
Mae rhestr o dermau technegol, gyda disgrifiad byr a chlir o bob term, yn ddefnyddiol. Rhestrwch nhw yn nhrefn yr wyddor. Gallwch hefyd esbonio yn yr adran hon yr acronymau, y byrfoddau neu’r unedau safonol y gwnaethoch chi eu defnyddio yn yr adroddiad.
Efallai na fydd gofyn i chi ddefnyddio pob un o’r penawdau sydd wedi’u rhestru yma, ac efallai na fyddwch chi’n eu defnyddio yn yr un drefn. Cyfeiriwch at ganllawiau neu gyfarwyddiadau eich adran.Ysgrifennu’r adroddiad: y camau hanfodol
Rhaid i bob adroddiad fod yn glir, yn gryno ac wedi’i strwythuro’n dda. Cyfrinach y dasg o ysgrifennu adroddiad effeithiol yw neilltuo amser i gynllunio a pharatoi. O baratoi’n ofalus, bydd ysgrifennu’r adroddiad yn llawer haws. Mae disgrifiad yn dilyn o’r camau hanfodol yn y broses o ysgrifennu adroddiad llwyddiannus. Meddyliwch faint o amser y gallai pob un ei gymryd. Rhannwch yr amser sydd gennych hyd at y dyddiad cyflwyno, fel bod amser gennych i ddilyn pob cam. Gwnewch yn siŵr bod amser gennych i brawf-ddarllen a gwirio’r gwaith am y tro olaf un.
Cam un: Deall briff yr adroddiad
Y cam cyntaf yma yw’r un pwysicaf. Mae angen i chi deimlo’n hyderus eich bod yn deall pwrpas yr adroddiad yn ôl y disgrifiad ohono yn y briff neu’r cyfarwyddiadau. Ar gyfer pwy mae’r adroddiad? Pam ydych chi’n ysgrifennu’r adroddiad? Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr holl gyfarwyddiadau neu ofynion, a holwch eich tiwtor os ydych chi’n ansicr.
Cam dau: Casglu a dewis gwybodaeth
Unwaith y byddwch yn gwybod beth yw pwrpas yr adroddiad, mae angen i chi ddechrau casglu’r wybodaeth berthnasol. Efallai y daw’r wybodaeth o amryw o ffynonellau gwahanol. Faint o wybodaeth fydd ei hangen arnoch? Mae hyn yn dibynnu ar ba mor fanwl mae gofyn i’r adroddiad fod. I ddechrau, efallai y byddwch chi’n awyddus i ddarllen dogfennau perthnasol er mwyn dod i ddeall y pwnc neu’r mater yn well. Gallwch fynd ymlaen wedyn i edrych ar bethau fel holiaduron, arolygon ac ati. Wrth ddarllen a chasglu gwybodaeth, rhaid i chi asesu a yw’r wybodaeth yn berthnasol i’ch adroddiad, a dewis ar sail hynny. Cyfeiriwch yn gyson at eich briff i’ch helpu i ddewis y wybodaeth berthnasol.
Cam tri: Trefnu eich deunydd
Ar ôl casglu gwybodaeth, mae angen i chi benderfynu beth i’w gynnwys ac ym mha drefn y dylai gael ei gyflwyno. I ddechrau, rhowch y pwyntiau sy’n perthyn gyda’i gilydd. Efallai y bydd y grwpiau yma o bwyntiau’n ffurfio adrannau neu benodau. Cyfeiriwch yn gyson at y briff, a byddwch yn barod i beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth nad yw’n berthnasol i’r adroddiad. Dewiswch drefn ar gyfer eich deunydd sy’n rhesymegol a hawdd ei dilyn.
Cam pedwar: Dadansoddi eich deunydd
Cyn dechrau ysgrifennu drafft cyntaf eich adroddiad, rhaid i chi feddwl ychydig. Ysgrifennwch nodiadau ar y pwyntiau rydych chi’n bwriadu eu codi gan ddefnyddio’r ffeithiau a’r dystiolaeth rydych wedi’u casglu. Pa gasgliadau sy’n dod i’r amlwg wrth astudio’r deunydd? Beth yw cyfyngiadau a diffygion y dystiolaeth? Oes darnau o dystiolaeth yn gwrth-ddweud ei gilydd? Mater syml iawn fyddai cyflwyno’r wybodaeth rydych wedi’i chasglu, ond mae angen mwy na hynny. Rhaid i chi gysylltu’r wybodaeth â’r broblem neu’r mater dan sylw yn y briff.
Cam pump: Ysgrifennu’r adroddiad
Ar ôl i chi drefnu’ch holl ddeunydd yn adrannau, dan benawdau addas, rydych chi’n barod i ysgrifennu drafft cyntaf eich adroddiad. Efallai y bydd yn haws ysgrifennu’r crynodeb a’r dudalen gynnwys ar y diwedd ar ôl gweld beth rydych wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Defnyddiwch arddull uniongyrchol a manwl wrth ysgrifennu. Peidiwch â defnyddio geiriau diangen, a gwnewch eich pwyntiau’n glir a chryno. Dylech chi ddilyn strwythur amlwg wrth ysgrifennu penodau, adrannau a pharagraffau hyd yn oed. Gallwch addasu’r strwythur sy’n dilyn a’i ddefnyddio wrth lunio penodau, adrannau a pharagraffau hyd yn oed.
- Cyflwynwch brif syniad y bennod, yr adran neu’r paragraff.
- Esboniwch y syniad gan ehangu arno, a rhowch ddiffiniad o unrhyw dermau allweddol.
- Cyflwynwch dystiolaeth berthnasol i ategu’ch pwynt(iau).
- Esboniwch bob darn o dystiolaeth, gan ddangos sut mae’n berthnasol i’ch pwynt(iau).
- Dewch â’r bennod, yr adran neu’r paragraff i ben drwy egluro sut mae’n berthnasol i’r adroddiad cyfan, neu drwy wneud cysylltiad â’r bennod, yr adran neu’r paragraff nesaf.
Cam chwech: Darllen drwy’r adroddiad ac ailddrafftio
Yn ddelfrydol, dylech fod wedi gadael digon o amser i roi’ch adroddiad o’r neilltu cyn adolygu’r drafft cyntaf ohono. Wrth ei adolygu, byddwch yn barod i aildrefnu neu ailysgrifennu rhannau ohono. Ceisiwch ddarllen y drafft o safbwynt y darllenydd. Ydy’r adroddiad yn hawdd ei ddilyn? Oes strwythur iddo sy’n gwneud synnwyr? A yw’r pwyntiau’n cael eu hesbonio’n gryno ond yn glir? Oes tystiolaeth berthnasol yn ategu’r pwyntiau? Mae’n haws ailysgrifennu ac aildrefnu adrannau neu baragraffau os ydych chi’n ysgrifennu’r drafft cyntaf ar brosesydd geiriau. Ond, os ydych chi’n ysgrifennu eich drafft cyntaf â llaw, ysgrifennwch bob adran ar ddarn o bapur ar wahân fel bod ailddrafftio’n haws.
Cam saith: Cyflwyno
Pan fyddwch chi’n fodlon ar gynnwys a strwythur eich ail ddrafft, gallwch roi sylw i’r cyflwyniad. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ysgrifennu teitl pob pennod, adran neu is-bennawd yn glir a chywir. Gofalwch eich bod wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau yn y briff ynglŷn â fformat yr adroddiad a sut mae ei gyflwyno. Gofalwch eich bod wedi rhifo’r penodau, yr adrannau a’r atodiadau’n gyson. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cydnabod yr holl ffynonellau’n gywir a bod cyfeirnodau cywir ar eu cyfer. Bydd angen i chi brawf-ddarllen yr adroddiad i chwilio am wallau sillafu neu wallau gramadegol. Os bydd amser gennych, darllenwch drwy’r adroddiad fwy nag unwaith. Bydd gwallau o ran y cyflwyno a’r mynegiant yn creu argraff wael a gallan nhw wneud yr adroddiad yn anodd ei ddarllen.
Adborth
Bydd unrhyw adborth gan diwtoriaid ar ôl cael y gwaith yn ôl yn ddefnyddiol. Defnyddiwch sylwadau’r tiwtor i greu rhestr wirio o’r pwyntiau allweddol y dylech eu cofio wrth ysgrifennu’r adroddiad nesaf. Penderfynwch pa bwyntiau sydd i gael blaenoriaeth, a gofynnwch am fwy o wybodaeth a chyngor. Siaradwch â’ch tiwtor neu gynghorydd cefnogi astudio mewn sesiwn galw heibio. O ddefnyddio adborth eich tiwtoriaid yn y ffordd yma, dylai eich helpu i ddatblygu a gwella eich sgiliau ysgrifennu.