Un deryn ar y tro

Deng mlynedd ar hugain yn ôl roedd fy mrawd hynaf, a oedd yn ddeg oed ar y pryd, yn ceisio ysgrifennu adroddiad am adar yr oedd wedi cael tri mis i'w ysgrifennu.   Roedd y gwaith i fod mewn drannoeth. Roeddem yng nghaban ein teulu yn Bolinas, ac roedd yn eistedd wrth fwrdd y gegin bron â chrio, ynghanol papur ysgrifennu a phensiliau a llyfrau ar adar heb eu hagor, yn methu symud oherwydd y dasg enfawr oedd yn ei wynebu. Yna eisteddodd fy nhad wrth ei ymyl a rhoi ei fraich am ei ysgwyddau gan ddweud, "Un deryn ar y tro, fy machgen i. Gwna fo un deryn ar y tro." (Lamott, 1995: 18-19)

Mae’n digwydd i bob un ohonom. Weithiau mae'r gwaith rydym angen ei wneud yn ymddangos mor fawr, a thu hwnt i bob rheolaeth, fel bod maint y dasg sy'n ein hwynebu yn gwneud i ni rewi. Mae cymaint i'w wneud ond rydym yn eistedd yno yn gwneud dim.  

Yn ei llyfr, Bird by Bird: Some instructions on writing and life, mae Ann Lamott (1995) yn awgrymu bod rhannu'r dasg i ddarnau y gellir eu rheoli (un deryn ar y tro) yn un ffordd o oresgyn y broblem. Mae torri un nod haniaethol i lawr i nodau pendant cyraeddadwy yn rhoi ymdeimlad o bwrpas ac yn eich gyrru ymlaen. Felly yn lle poeni am ysgrifennu tri thraethawd, neu un traethawd, canolbwyntiwch ar ysgrifennu rhan o'r traethawd: un enghraifft rydych eisiau ei ddefnyddio, neu'r rhagarweiniad, neu hyd yn oed y casgliad.  Yn raddol mae'r rhannau yn adeiladu i greu'r cyfan.