Grwpiau ysgrifennu ymchwil (GYY)
Mae Sgiliau Astudio am ailddechrau cynnal grwpiau ysgrifennu ymchwil yn Chwefror 2016 ac yn croesawu aelodau newydd.
Mae grwpiau ysgrifennu ymchwil yn ffordd ragorol o ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sy’n angenrheidiol i wneud PhD. Mae’r grwpiau yn cyfarfod bob pythefnos i osod ac archwilio targedau, i drafod gwaith a ysgrifennwyd yn ystod a rhwng cyfarfodydd, ac i rannu profiadau a strategaethau. Er bod pob grŵp yn datblygu ei ffordd ei hun o weithio, mae’r grwpiau’n tueddu i lynu wrth gylch o archwilio-ysgrifennu-adborth (gweler y darlun isod).
Mae cyfarfod yn rheolaidd fel grŵp yn gymorth i leddfu’r unigedd sydd weithiau’n dod yn sgil ymchwil annibynnol, ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio syniadau mewn amgylchedd risg isel. Mae’r grwpiau’n rhai amlddisgyblaethol (sy’n caniatáu rhannu syniadau mewn modd cynhyrchiol) a chânt eu cynnal gan arweinwyr o fewn Sgiliau Astudio, ac maent yn ategu’r angen i ysgrifennu a meddwl yn glir ac yn effeithiol.
Mae aelodaeth o’r grwpiau yn seiliedig ar anghenion yr ymchwilwyr ac yn gyffredinol mae’n arwain at aelodau’r grŵp yn cydweithio â myfyrwyr sydd ar yr un cyfnod yn eu prosiectau ymchwil. Nid yw’r grwpiau’n gyfyngedig yn unig i fyfyrwyr sydd wrthi’n ysgrifennu eu prosiect. Os oes gennych ddiddordeb ymuno â grŵp, dilynwch y ddolen isod a dywedwch wrthym am eich prosiect.