Chwefror 2018

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Arloesi gyda phump ar hugain o ffyrdd bychan i wneud pethau yn wahanol.

Lleoliad:
Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Gwener 16 Chwefror 2018, 12:30–14:00

Fel rhan o Ddiwrnod Arloesi Wladol a mis Carnifal Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, mae'r Swyddfa Ymchwil a Menter (REO), UNDEB a Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r Lab Cynaliadwyedd i ddathlu sut y gall Arloesi syml wella perfformiad busnes.

Yn y digwyddiad a gynhelir yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor, bydd pum siaradwr yn tynnu sylw at bum peth y gallwn ni i gyd eu gwneud i wneud newidiadau cynyddol cadarnhaol i'n busnesau.

Hefyd, fel rhan o'r digwyddiad, bydd UNDEB (Undeb y Myfyrwyr) yn cyhoeddi enillydd Gwobr Cronfa Werdd Myfyrwyr, cystadleuaeth agored a lansiwyd ar 31 Ionawr 2018 ar gyfer syniadau a arweinir gan fyfyrwyr, ar sut i wneud Bangor yn fwy gwyrdd.

P'un a ydych yn fusnes, myfyriwr, aelod o staff neu aelod chwilfrydig o'r gymuned, ymunwch â ni am bowlen o gawl, rhol bara, paned da a chwmni cyfeillgar cynnes.

Cofrestrwch yma os gwelwch yn dda ac edrychwn ymlaen at eich cwmni

Mae mwy o fanylion am ddigwyddiadau’r Carnifal ar ein gwefan.