Newyddion Diweddaraf

Llongddrylliadau hanesyddol i gyfrannu at ddyfodol ynni adnewyddadwy morol Cymru

Bydd llongddrylliadau hanesyddol o amgylch arfordir Cymru, fel llongddrylliad y llong danfor Almaenig a suddodd 10 milltir oddi ar Ynys Enlli ar ddiwrnod Nadolig 1917, yn cyfrannu at dwf sector ynni adnewyddadwy morol Cymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwyddonwyr morol o Brifysgol Bangor yn arolygu arfordir Cymru fel rhan o broject SEACAMS2 a gyllidir gan yr ERDF ac a arweinir gan y brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil cydweithredol, yn cynnwys arolygon morol, i gefnogi twf cynaliadwy'r sector ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2017

Deall ein Moroedd

Mae Ysgolion Gwyddorau Eigion, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Prifysgol Bangor, ar y cyd â chwmni partner 'Tidal Lagoon Power' yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i'w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd - sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae'r project newydd a ddatblygir gan SEACAMS, Prifysgol Bangor, ac a gyllidir gan KESS 2, yn bwriadu olrhain pysgod bach y môr i ddeall i ble mae pysgod yn nofio, mewn ffordd a ddefnyddiwyd gyda siarcod mawr yn unig yn y gorffennol. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017

New Training body to support £20BN UK Agri-food industry

Datganiad gan gorff allanol nad yw ar gael yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017

Prifysgol Bangor yn croesawu cyfle i weithio gyda darparwyr hyfforddiant niwclear

Croesawodd Prifysgol Bangor gyhoeddiad diweddaraf Horizon Nuclear Power o bartneriaeth gyda Tecnatom, darparwr gwasanaethau hyfforddiant niwclear byd-eang, wrth iddo feddwl am gynyddu nifer y gweithwyr gweithredol yn y dyfodol ar gyfer ei broject adeilad newydd Wylfa Newydd ar Ynys Môn, gogledd Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017