Newyddion: Mehefin 2015

Prifysgol Bangor yn cynorthwyo llywodraeth Ynys Manaw i ddeall pysgodfeydd sy'n hanfodol i’r economi

Bydd gwaith syn arwain at well dealltwriaeth o bysgodfeydd pwysig oddi ar Ynys Manaw yn parhau wedi i Lywodraeth yr ynys ail-benodi Prifysgol Bangor i ddarparu cyngor gwyddonol arbenigol i Adran Llywodraeth Amgylchedd, Bwyd ac Amaeth Ynys Manaw (DEFA).

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2015

Rhannu gwersi project Celf Dementia

Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ar draws gogledd Cymru yn mynd i ddysgu o brofiadau’r rhai a fydd yn cymryd rhan mewn project mawr ar Ddementia a’r Dychymyg a arweinir gan Brifysgol Bangor, wrth i’r gweithdy cyntaf o’i fath ddigwydd yn y rhanbarth. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2015

Mwy na 300 o fyfyrwyr ôl-raddedig yn gweithio gyda busnesau a mudiadau lleol

Mae mwy na 300 o fyfyrwyr ôl-raddedig wedi cwblhau rhaglen gradd Meistr lwyddiannus, sydd yn cynnwys elfen wedi ei lleoli yn y gweithle, ac yn cwmpasu’r holl bynciau a ddysgir ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r holl raddau ATM: Mynediad i Radd Meistr  hefyd yn gysylltiedig â sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2015

MSc newydd ym Mangor yn cynhyrchu trydan a swyddi ym maes ynni môr adnewyddadwy

Mae Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor wedi datblygu MSc 1 flwyddyn mewn Ynni Môr Adnewyddadwy.

Mae ynni môr adnewyddadwy yn defnyddio grym naturiol y tonau a'r llanw i gynhyrchu trydan.  Mae'n ddiwydiant uwch-dechnoleg gyffrous sy'n tyfu'n gyflym ac sydd â'r potensial o fod yn un o'r diwydiannau uwch-dechnoleg fwyaf y gellir ei hallforio yn economi'r DU. Amcangyfrifir y bydd datblygu morlyn Bae Abertawe'n creu 70,000 o swyddi yn y cyfnod adeiladu'n unig, ac mae yna nifer o fentrau eraill yn y maes yng Nghymru fel parthau arddangos Ystâd y Goron ym Môr Iwerddon, a phroject Deep Green Minesto i'r gorllewin o Ynys Môn, lleoliad Ysgol Gwyddorau'r Eigion.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2015

Rondo Media yn cyflogi myfyriwr yn dilyn lleoliad â Phrifysgol Bangor

Mae Rondo Media, sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn, ar gyrion Caernarfon, wedi cyflogi cyn fyfyriwr o Brifysgol Bangor, Rhys Gwynfor o’r Bala yn dilyn lleoliad â’r cwmni o dan y Rhaglen Mynediad at Radd Meistr (ATM).

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015