Newyddion: Medi 2015

Academyddion Bangor yn gwneud argraff gyda phapurau BMJ

Mae papur y mae academydd o Fangor yn gydawdur iddo wedi cael ei gyhoeddi ar glawr blaen y British Medical Journal dylanwadol, tra cafodd papur arall a gyhoeddwyd gan y BMJ yr un mis, ac a oedd yn ail-werthuso gwaith ymchwil blaenorol, sylw rhyngwladol ar y cyfryngau.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015

Ad industry may gripe about adblockers, but they broke the contract – not us

Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew McStay o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015

Project gan Brifysgol Bangor yn anelu at wella gwasanaethau’r GIG

Mae project newydd, gwerth £300,000, yn ymgais i sicrhau y bydd adborth mwy manwl gan gleifion yn dylanwadu ar benderfyniadau gan y GIG ynglŷn â gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf.

Bydd y project dwy flynedd yn gwella’r modd y mae ymchwilwyr yn defnyddio ymchwil ansoddol bresennol i wasanaethau iechyd, fel y bydd yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio gan y rheiny sy’n cymryd penderfyniadau o fewn y GIG.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015

Creu Canolfan Syrffio o Ragoriaeth yn Eryri

Mae Prifysgol Bangor a Surf Snowdonia wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth a fydd yn paratoi’r ffordd i gydweithio ar amrywiaeth o gyfleoedd a chynlluniau newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2015

Buddsoddiad gwerth dros 3 miliwn mewn unedau ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor

Caiff gwerth dros £3 miliwn ei fuddsoddi mewn ymchwil i ofal iechyd integredig ym Mhrifysgol Bangor dros y tair blynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhodd o gyllid gwerth £2.3 miliwn i ariannu dau grant i'r brifysgol, a bydd y brifysgol ei hun yn buddsoddi arian cyfatebol yn un ohonynt.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015