Newyddion: Tachwedd 2015

Prifysgol Bangor i wobrwyo effaith eithriadol sy’n deillio o weithgareddau ymchwil a menter

Mae deuddeg project o Brifysgol Bangor wedi eu gosod ar y rhestr fer i ennill gwobr yn nhrydedd Noson flynyddol Gwobrau Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor, a noddir gan  Santander Universities.

Mae’r gwobrau pwysig hyn yn cydnabod ac yn dathlu effaith ymchwil, arloesedd a mentergarwch y Brifysgol ar y gymuned a’r economi gyfan. Eleni, mae’r Brifysgol yn cyflwyno categori gwobr newydd, sef, Cyfraniad Eithriadol i Gymru, i gydnabod gweithgareddau sydd wedi cael effaith sylweddol yn genedlaethol yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015

Dyma Shân mewn Cwmni Da!

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael cyfle gwych yn ddiweddar i weithio ar gyfres teledu ar gyfer S4C. Mae Shân Pritchard sydd eisoes wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth KESS i astudio ar gyfer PhD mewn partneriaeth a chwmni cynhyrchu teledu, Cwmni Da. Diolch i’r ysgoloriaeth arbennig  hwn, caiff Shân y cyfle i weithio ar nifer o brosiectau cyffrous, megis ‘Dyma Fi’.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2015