Newyddion: Awst 2017

Wystrys yw eu byd- ac maent esio i chwi eu bwyta

Mae arbenigwyr mewn dyframaethu ym Mhrifysgol Bangor yn gobeithio gwneud newid sylfaenol yn y ffordd mae wystrys yn cael eu hystyried a’u bwyta, yn dilyn Symposiwm rhyngwladol ar Wystrys a gynhelir yn y brifysgol (11-14 Medi). Maent yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn annog cynnydd cyflym, ond cynaliadwy, mewn cynhyrchu wystrys, ac i fwy ohonom eu mwynhau gartref ac mewn barrau wystrys yng Nghymru a mannau eraill.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017

Gwaith gan gemegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gam tuag at ddatblygu technoleg i achub bywydau

Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu canlyniadau project ymchwil a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n dod â diagnosis cyflym a hawdd o'r diciâu (TB) gam yn nes. 

Mae'r diciâu yn un o glefydau mwyaf marwol y byd. Dim ond dwy flynedd yn ôl, heintiwyd 10.4 miliwn o bobl ledled y byd â'r diciâu a chafwyd 1.8 miliwn o farwolaethau cysylltiedig â'r diciâu. Yn 2015, roedd 35% o'r marwolaethau o ganlyniad i HIV oherwydd cyd-heintiad â'r diciâu.

Mae cemegwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn gweithio i ddatblygu citiau diagnosis cyflym a hawdd a all roi canlyniad ar unwaith (ar hyn o bryd anfonir samplau o waed i labordy, sy'n broses lawer rhy hir).

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017

Independent music labels are creating their own streaming services to give artists a fair deal

Dyma erthygl yn Saesneg gan Steffan THomas o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017

Deall ein Moroedd

Mae Ysgolion Gwyddorau Eigion, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Prifysgol Bangor, ar y cyd â chwmni partner 'Tidal Lagoon Power' yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i'w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd - sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae'r project newydd a ddatblygir gan SEACAMS, Prifysgol Bangor, ac a gyllidir gan KESS 2, yn bwriadu olrhain pysgod bach y môr i ddeall i ble mae pysgod yn nofio, mewn ffordd a ddefnyddiwyd gyda siarcod mawr yn unig yn y gorffennol. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017