Llwyddo wrth olchi: Sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu atal ynni rhag mynd i lawr y draen.

Dros y 18 mis diwethaf mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gwario hanner miliwn o bunnoedd yng Nghastell Penrhyn ar brosiectau i greu ynni a dŵr poeth cynaliadwy – ond mae llawer o’r ynni hwn yn cael ei wastraffu – yn syml drwy gael ei olchi i lawr y draen.

I atal hyn mae’r tîm yng Nghastell Penrhyn, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor a Choleg Trinity Dulyn, yn dechrau ar brosiect adfer gwres newydd, cyffrous i wneud defnydd o’r dŵr poeth sydd fel arfer yn cael ei wastraffu.

Bydd y prosiect yn defnyddio technoleg adfer gwres i echdynnu gwres o’r dŵr gwastraff sy’n llifo allan o geginau anferthol yr eiddo ar dymheredd rhwng 40 a 50 °C. Bydd y gwres a echdynnir o’r hylif yn cael ei ddefnyddio i gynhesu’r dŵr oer sy’n dod i mewn i’r gegin.

Os yw’r dull hwn o ddefnyddio technoleg i adfer gwres yn llwyddo yng Nghastell Penrhyn, bydd yn cael ei gyflwyno yn ystadau eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled y DU, gan gefnogi hefyd twf y sector adfer ynni. Gall hyn arbed miliynau o bunnoedd mewn ynni a chostau i’r sefydliad dros y blynyddoedd nesaf.

Fel yr eglura Keith Jones, Uwch Ymgynghorydd Amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol:

“Mae effeithlonrwydd ynni yn cwmpasu llawer mwy na lleihau defnydd. Mae hefyd yn ymwneud ag ailddefnyddio gwastraff, neu’r hyn rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd fel gwastraff.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a minnau yn tybio bod defnyddwyr ynni eraill, o dai preifat i ysbytai yn gwario llawer o arian ar gynhesu dŵr a hynny am nifer o resymau, i gael cawod boeth neu olchi llestri.

Ond beth rydym yna yn ei wneud gyda’r adnodd cynnes hwn? Rydym yn ei olchi i lawr y draen a gwneud yr un broses droeon, cynhesu dŵr oer iawn i ddŵr cynnes. Mae hyn yn wastraffus iawn yn nhermau ynni a nod y prosiect hwn yng Nghastell Penrhyn yw atal y cylch hwn o wastraffu ynni.”

Mae’r system a fydd yn cael ei gosod yng Nghastell Penrhyn yn deillio o gysylltiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â phrosiect Dŵr Uisce, cydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Trinity Dulyn.

Bydd y dŵr a gyflenwir i’r gegin yn cael ei gynhesu yn rhannol drwy adfer y gwres o’r dŵr gwastraff. Mae’r dechneg yn golygu defnyddio dŵr poeth y draeniau, sydd ar ei boethaf yn 50°C, i ragboethi’r dŵr prif lif cyn iddo fynd i mewn i system gynhesu (biomas) bresennol y castell. Diolch i’r broses ragboethi, ni fydd angen cymaint o ynni i gynhesu’r dŵr poeth, gan arbed ynni, arian a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

“Rydym (Prifysgol Bangor) wedi bod yn gweithio’n agos â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar sawl prosiect yn y blynyddoedd diweddar, ac mae eu parodrwydd i gydweithio â ni ar brosiect fel hwn yn dyst i hynny. Gobeithio y bydd ein defnydd o dechnoleg adfer ynni yn cefnogi eu nod fel sefydliad gwyrdd a charbon isel,” meddai Dr Prysor Williams, arweinydd prosiect Dŵr Uisce yn Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol.

Aeth Dr Williams yn ei flaen i ddweud “Gallai hyn arwain at leihad mawr yn yr ynni a ddefnyddir yng Nghastell Penrhyn, ac o ganlyniad lleihau costau ac ôl-troed carbon yr atyniad twristiaeth hynod brysur hwn.”

Mae ymgyrch i fesur llif y dŵr ar y safle eisoes yn mynd rhagddi, diolch i gefnogaeth sawl cwmni dŵr a monitro gwastraff dŵr y DU, gan gynnwys yr arbenigwyr Detectronic sydd wedi cefnogi’r ymdrechion i fesur llif y dŵr a wastraffir yn y Castell.

Dywedodd Phill Tuxford o Detectronic, “Mae’n fraint cael bod yn rhan o brosiect mor arbennig sydd â’r potensial i ddylanwadu ar gwmnïau dŵr ym mhob man. Mae gweld ein hoffer yn cael ei ddefnyddio i gasglu data mewn ffordd wahanol ac at ddibenion gwahanol y tu allan i’n cylch gwaith arferol, lle canolbwyntir ar lygredd a llifogydd yn ddiddorol iawn.”

Mae’r system adfer gwres dŵr gwastraff yn cael ei gweithredu yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy ei gysylltiad â’r prosiect Dŵr Uisce, cydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Trinity Dulyn yn Iwerddon. Mae’n rhan o Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018