Fideos
I gael blas o fywyd myfyrwyr Cymraeg ym Mangor, gwyliwch y fideos canlynol:
Astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor
Cyflwyniad gan rai o staff a chyn fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
Mared Fôn
Mared Fôn Owen, merch a ysbrydolodd y genedl fel arweinydd ar y gyfres boblogaidd FFIT Cymru, sydd yn trafod ei chyfnod ym Mhrifysgol Bangor.
Proffil: Branwen Roberts
Mae Branwen Roberts sy'n astudio Cymraeg ym Mangor, yn wreiddiol o Bontypridd. Mae hi'n byw yn Neuadd John Morris-Jones. Yma mae hi'n sôn am ei bywyd fel myfyrwraig ym Mangor.
Proffil: Liam Evans
Mae Liam Evans sydd yn wreiddiol o Hen Golwyn yn astudio BA Cymraeg a Hanes. Cafodd Liam Interniaeth efo'r Brifsysgol, a buodd yn trefnu y Ffair Swyddi Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Proffil: Nia Hâf
Mae Nia yn wreiddiol o Lanrug ger Caernarfon. Mae Nia yn byw yn Neuadd Morris-Jones ym Mangor ac yn astudio Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.
Proffil: Gwen Alaw Williams
Mae Gwen sy'n wreiddiol o Lanberis, yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n byw yn Neuadd John Morris-Jones.
Dewch i ddarganfod Prifysgol Bangor
Darganfyddwch fwy am ein cyrsiau, adnoddau, llety a'n lleoliad.
Prifysgol Bangor yn ennill gwobr aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA).
Profiadau ein Myfyrwyr
Ein myfyrwyr yn rhannu eu profiadau am y lleoliad, yr addysg a’r bywyd cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor
Pam dewis Bangor?
Mae bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail ym Mangor, ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) sy’n ganolbwynt i’r rhan helaeth o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau hamdden a chymdeithasol.
Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor
Mae lleoliad Prifysgol Bangor yn ddelfrydol ar gyfer bob math o chwaraeon awyr agored. Dyma Seren Evans, sydd wedi cael ysgoloriaeth gan Rygbi Gogledd Cymru i wneud PhD ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod y cyfleusterau a chyfleoedd yma.
Adnoddau Dysgu Prifysgol Bangor
Mae gan Brifysgol Bangor amrywiaeth eang o adnoddau dysgu i fyfyrwyr, gan gynnwys darlithfeydd, ystafelloedd cyfrifiaduron, llyfrgelloedd, labordai, stiwdio recordio a llong ymchwil..
Clybiau a Chymdeithasau
Mae gan Fangor dros 150 o glybiau a chymdeithasau ar gael felly rydych yn siwr o ddod o hyd i rhywbeth sydd at eich dant. Mae aelodaeth i’r holl glybiau a chymdeithasau nawr yn rhad ac am ddim felly does dim rheswm i beidio ymaelodi!
Neuadd John Morris-Jones (JMJ)
Dewch i gael cip olwg ar Neuadd John Morris-Jones, cartref myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor. Am fwy o wybodaeth ewch i www.bangor.ac.uk/llety
Wythnos Groeso
Dyma gip olwg i chi o’r hyn sy’n mynd ymlaen yn ystod yr wythnos gyntaf o’ch bywyd prifysgol.
Graddio
Gwyliwch uchafbwyntiau seremoniau graddio llynedd.