Modiwl CXD-3024:
Y Theatr Gymraeg Fodern

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies

20 Credyd neu 10 Credyd ECTS

Semester 1

Trefnydd: Prof Angharad Price

Amcanion cyffredinol

Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg, Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.

Cynnwys cwrs

Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.

Meini Prawf

da

B- i B+

  1. Dangos gallu i ddeall cefndir a chyd-destun y theatr Gymraeg fodern
  2. Dangos gallu i gloriannu dramâu yn feirniadol
  3. Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
  4. Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
  5. Dangos gafael ar gystrawen a theithi¿r Gymaeg.

ardderchog

A- i A*

  1. Dangos gallu i ddeall cefndir a chyd-destun y theatr Gymraeg fodern
  2. Dangos gallu i gloriannu dramâu yn feirniadol
  3. Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
  4. Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
  5. Dangos gafael ar gystrawen a theithi¿r Gymaeg.

trothwy

D- i D+

  1. Dangos gallu i ddeall cefndir a chyd-destun y theatr Gymraeg fodern
  2. Dangos gallu i gloriannu dramâu yn feirniadol
  3. Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
  4. Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
  5. Dangos gafael ar gystrawen a theithi¿r Gymaeg.

Canlyniad dysgu

  1. Trafod yn ddadansoddol ac mewn dyfnder wahanol gyfraniadau y prif ddramodwyr dan sylw

  2. Deall mewn dyfnder natur gyffredinol a phrif nodweddion y theatr Gymraeg ers dechrau'r ugeinfed ganrif a hyd at y presennol

  3. Trin a thrafod yn hyderus amryw gysyniadau a genres perthnasol, a'u haddasu i drafodaeth ar y theatr Gymraeg yn benodol

  4. Arddangos gwybodaeth ddofn ac eang am gefndir y theatr Gymraeg fodern

  5. Bwrw trawsolwg eang ar yr hyn a drafodir a magu dealltwriaeth dda o leoliad dramau unigol oddi mewn i'r cyd-destun hwnnw

Dulliau asesu

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
Seminar

Seminarau.

10
Private study

Astudio Preifat- amser darllen, paratoi a chymryd asesiadau.

180
Lecture

Darlithoedd.

10

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
  • Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
  • Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
  • Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
  • Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
  • Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
  • Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
  • Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
  • Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
  • Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
  • Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
  • Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
  • Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
  • Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Gorfodol mewn cyrsiau:

Opsiynol mewn cyrsiau: