Modiwl UXC-3074:
Cynhyrchu'r ffilm fer

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of Music and Media

20 Credyd neu 10 Credyd ECTS

Semester 2

Trefnydd: Dr Dyfrig Jones

Amcanion cyffredinol

Amcanion y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r projectau a ddechreuwyd ar UXS 3069 cyn cynhyrchu ffilm fer i fod yn ffilmiau byr wedi eu gwireddu'n llawn ac i osod y broses cynhyrchu o fewn cyd-destun diwydiannol ac academaidd.

Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o 4, dan oruchwyliaeth aelod staff, i wella ymhellach y gwaith a gyflwynwyd fel rhan o'u portffolio grŵp UXS 3069 ac i gwblhau ffilm fer yn seiliedig ar sgript a ddatblygwyd yn y modiwl blaenorol.

Bydd y ffilm hon yn cael ei hategu gan draethawd yn dadansoddi'n feirniadol y broses cynhyrchu a'r deilliannau ynghyd â dyddiadur cynhyrchu yn amlinellu cyfraniad y myfyrwyr unigol i'r gwaith

Cynnwys cwrs

Bydd rhan hyfforddedig y cwrs yn rhoi uwch gyfarwyddiadau i fyfyrwyr am bedair elfen o gynhyrchu ffilm fer

  • Recordio fideo
  • Recordio sain
  • Golygu fideo
  • Golygu sain a dybio

Bydd y sesiynau dan oruchwyliaeth yn cael eu teilwra at anghenion unigol pob grŵp a byddant wedi eu rhestru ar ddechrau'r modiwl, mewn ymgynghoriad â goruchwyliwr unigol pob grŵp. Bydd goruchwylwyr yn rhoi adborth cyson i fyfyrwyr am eu gwaith, ac yn cydweithio gyda hwy i ddynodi meysydd sydd angen eu datblygu, yn rhoi canllawiau am sut y gall pob grŵp, a phob myfyriwr unigol, wella eu gwaith trwy gael arweiniad tiwtor a dysgu dan arweiniad myfyrwyr.

Meini Prawf

trothwy

Trothwy:

  • Gwybodaeth am feysydd neu egwyddorion allweddol yn unig
  • Peth dealltwriaeth o'r prif feysydd
  • Tystiolaeth gyfyngedig iawn o astudio cefndirol
  • Methu canolbwyntio yr ateb ar y cwestiwn
  • Ateb yn cynnwys deunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur
  • Dadleuon unigol yn cael eu cyflwno, ond diffyg undod i'r cyfanwaith
  • Nifer o wallau ffeithiol
  • Dim dehongliad gwreiddiol
  • Disgrifio'r cysylltiadau pwysig rhwng pynciau yn unig
  • Gallu cyfyngedig i ddatrys problemau
  • Rhai gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb

da

Da:

  • Gwybodaeth gadarn
  • Yn deall y rhan fwyaf o'r pwnc, ond nid popeth
  • Tystiolaeth o astudio cefndirol
  • Ateb gyda amcan bendant, wedi ei strwythuro'n da
  • Dadleuon wedi eu cyflwyno yn rhesymegol
  • Nifer fechan iawn o gamgymeriadau ffeithiol
  • Peth dehongliad gwreiddiol
  • Cysylltiadau amlwg rhwng pynciau yn cael eu disgrifio
  • Ateb problemau drwy ddefnyddio dulliau cyfarwydd Cyflwyniad da gyda chyfathrebu cywir

ardderchog

Rhagorol:

  • Gwybodaeth gynhwysfawr
  • Dealltwriaeth fanwl
  • Astudiaeth gefndir helaeth
  • Ateb gyda amcan pendant, wedi ei strwythuro'n dda
  • Dadleuon wedi eu cyflwyno yn rhesymegol
  • Dim gwallau ffeithiol
  • Dehongliad gwreiddiol
  • Cysylltiadau newydd rhwng testunau yn cael eu datblygu
  • Ymagwedd newydd tuag at broblemau
  • Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu cywir iawn

Canlyniad dysgu

  1. Cynhyrchu ffilm fer o hyd priodol o safon uchel.

  2. Egluro a defnyddio’r prif brosesau sydd ynghlwm wrth gyn cynhyrchu ffilm fer.

  3. Dangos sgil technegol uwch mewn un agwedd ar gynhyrchiad grŵp ar gyfer y cyfryngau.

  4. Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm cynhyrchu, yn mynegi'n glir eu cyfraniad personol i waith y tîm

Dulliau asesu

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
Tutorial

Cyfarfod wythnosol rhwng grwp o 4 myfyriwr a'u goruchwyliwr, i drafod y gwaith ymarferol x 11 wythnos

11
Private study 174
Workshop

Gweithdy 3 awr (Wythnosau 1, 2, 6 a 7 yn uniog) lle mae myfyrwyr yn cyflawni tasgau er mwyn datblygu sgiliau cynhyrchu.

15

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Gorfodol mewn cyrsiau:

Opsiynol mewn cyrsiau: