'Dyma'r lle i fi'
“O fewn awr i fi gyrraedd yma ro’n i’n gwybod mai dyma’r lle i fi,” meddai Gethin Morgan o Lanbedr, sydd yn ei drydedd flwyddyn yn astudio’r Gymraeg.
“O ran Cymreictod a bywyd cymdeithasol, does unman gwell na Bangor i gael,” yn ôl Gethin.
Un o brif ddiddordebau Gethin yw magu a dangos merlod mynydd a chobiau Cymreig ac mae wedi troi’r diddordeb hwnnw’n destun ymchwil - mae’n ystyried dylanwad ceffylau ar farddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.
“Mae digon [o gerddi] i gael am geffylau’r Oesoedd Canol, ond does dim llawr yn yr ugeinfed ganrif,” meddai gan ddweud ei fod yn cael modd i fyw yn darllen gwaith Dic Jones, John Roderick Rees a Bois y Cilie.
“Dw i’n edrych fwyaf ar sut y mae’r tractor wedi disodli’r ceffyl,” meddai gan esbonio ei fod ef a’i deulu’n cadw tua phymtheg o ferlod a chobiau Cymreig adran yn eu bridfa, Bridfa Ormond.
Mae’n falch o’r cyfle i “ganolbwyntio ac astudio’n ddyfnach y pethau sydd o wir ddiddordeb i fi,” meddai, a hynny ochr yn ochr ag elfennau mwy cymdeithasol.
“Dw i wedi cael cyfleoedd arbennig gyda’r adran,” meddai, “gan weithio ar ddiwrnodau agored gan helpu â’r trefniadau a rhoi cyflwyniadau i ddarpar fyfyrwyr.”
Ac mae’n gallu dweud yn onest wrth y rheiny ei fod wrth ei fodd ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2018