O UMCB a JMJ i’r BBC – profiad prifysgol yn hyfforddiant perffaith i Liam
Liam EvansO bosib fod gwrandawyr BBC Radio Cymru wedi clywed llais newydd yn adrodd straeon newyddion y gogledd-ddwyrain yn ddiweddar. Mae Liam John Evans, 21 oed ac yn hannu o Hen Golwyn, bellach yn newyddiadurwr gyda’r orsaf genedlaethol, er nad yw eto wedi derbyn ei radd BA mewn Cymraeg a Hanes – digwyddiad a fydd yn siŵr o ennyn llawennydd mawr gan ei deulu a’i gyfeillion fore Mawrth 17 Gorffennaf.
Yn ôl Liam, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Bod Alaw ac Ysgol y Creuddyn, roedd Bangor yn ddewis naturiol iddo. Meddai:
"Roeddwn i’n gwybod mai Bangor oedd y sefydliad oedd gyda’r adrannau gorau ar gyfer y pynciau yr oeddwn i eisiau eu hastudio ac, ar ben hyn, mae’n lle hynod brydferth gyda’r diwylliant Cymraeg gorau yng Nghymru."
Liam yw deiliad Gwobr Goffa Blanche Elwy Hughes eleni, sef gwobr sy’n cael ei dyfarnu i’r myfyriwr gorau ym maes pwnc Hanes Cymru. Yn ogystal â llwyddo gyda’i ymdrechion academaidd, manteisiodd Liam ar y llu o weithgareddau allgyrsiol sydd ar gael yma i fyfyrwyr. Bu’n arwain Côr Merched Aelwyd JMJ am ddwy flynedd, bu’n aelod o sawl tîm chwaraeon a manteisiodd ar gyfnod internïaeth gyda’r Brifysgol – gweithgareddau a gryfhaodd ei sgiliau cyfathrebu ac a gyfrannodd at sicrhau ei swydd bresennol iddo. Meddai Liam:
"Mae’r swydd newydd gyda BBC Radio Cymru yn golygu fy mod yn treulio llawer o amser allan yn yng nghymunedau’r gogledd-ddwyrain yn cwrdd â phobl ac yn gweithio ar straeon ac, heb os, mi wnaeth arwain y côr a gwirfoddoli gyda UMCB roi’r hyder imi gyflwyno ac i siarad yn gyhoeddus. Roedd yr internïaeth hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl gwahanol, datblygu sgiliau cyfathrebu a sicrhau profiad profesiynol gwerthfawr."
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018