Module FXC-2105:
Dulliau Dadansoddol ac Offeryn
Dulliau Dadansoddol ac Offerynnol i rai nad ydynt yn gemegwyr 2023-24
FXC-2105
2023-24
School Of Natural Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Enlli Harper
Overview
Rhagofynion: TGAU Cemeg neu TGAU Gwyddoniaeth Gyffredinol (NI ELLIR ailsefyll modiwlau ymarferol).
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno theori sylfaenol, offeryniaeth, a dadansoddi data o dechnegau offerynnol a dadansoddol amrywiol mewn darlithoedd cysyniad allweddol a fydd yn arwain at sesiynau labordai neu weithdai cysylltiedig. Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddarparu profiad ymarferol o ddefnyddio gwahanol ddulliau dadansoddol.
Rhagofynion: TGAU Cemeg neu TGAU Gwyddoniaeth Gyffredinol (NI ELLIR ailsefyll modiwlau ymarferol).
Ar gyfer y pynciau isod ymdrinnir â'r theori sylfaenol, offeryniaeth, arbrofion ymarferol/gweithdai a dadansoddi data.
Dulliau Syml o Gromatograffeg, Dadansoddi Elfennol, Sbectrosgopeg Isgoch, Sbectrometreg Màs, Adeiledd Magnetig Niwclear, Technegau Cyfunol ar gyfer Adnabod, HPLC, GCMS, Pennu ïonau metel gan ddefnyddio techneg offerynnol, Sbectrosgopeg Gweladwy/UV, Diffreithiant Pelydr-X ac Electrocemeg
Assessment Strategy
-trothwy -Trothwy (40%). Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o gynnwys y cwrs; problemau o natur sylfaenol yn cael eu datrys yn ddigonol at ei gilydd; arbrofion labordy'n cael eu cyflawni’n weddol llwyddiannus fel rheol, er na sylweddolir yn llwyr efallai arwyddocâd a chyfyngiadau'r data ac/neu arsylwadau arbrofol; sgiliau trosglwyddadwy ar lefel sylfaenol.
-da -Da(~60%). Sylfaen wybodaeth yn cynnwys holl agweddau hanfodol y deunydd pwnc a gafodd sylw yn y rhaglen gan ddangos tystiolaeth dda o ymholi tu hwnt i hyn. Dealltwriaeth gysyniadol yn dda. Problemau o natur gyfarwydd ac anghyfarwydd yn cael eu datrys mewn ffordd resymegol; atebion at ei gilydd yn gywir a derbyniol. Gwneir gwaith labordy mewn modd dibynadwy ac effeithlon, gyda dealltwriaeth dda o ddadansoddi data yn amlwg yn y disgrifiadau o'r arbrofion. Mae’r perfformiad yn y sgiliau trosglwyddadwy yn gadarn ac nid yw’n dangos unrhyw ddiffygion arwyddocaol.
-ardderchog -Ardderchog(>70%). Sylfaen wybodaeth yn helaeth ac yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r gwaith a gafodd sylw yn y rhaglen. Dealltwriaeth gysyniadol yn eithriadol. Caiff problemau o natur gyfarwydd ac anghyfarwydd eu datrys yn effeithlon a chywir; caiff dulliau datrys problemau eu haddasu yn unol â natur y rhaglen. Mae’r gwaith labordy'n ardderchog ac yn dangos dadansoddiad a gwerthusiad trylwyr o ganlyniadau arbrofion, gydag awgrymiadau priodol ar gyfer gwella. Mae’r perfformiad yn y sgiliau trosglwyddadwy yn dda iawn ar y cyfan.
Learning Outcomes
- Cynnal arbrofion dadansoddol syml, gan ddefnyddio'r dulliau offerynnol a restrir yn y disgrifiad cwrs, i wahanu ac/neu nodweddu cyfansoddion a deunyddiau.
- Dehongli data dadansoddol a gynhyrchir o’r dulliau offerynnol a restrir yn y disgrifiad cwrs
- Dewis pa ddull neu ddulliau offerynnol a all fod yn fwyaf addas i wahanu ac/neu nodweddu cyfansoddion a deunyddiau sy’n deillio o amrywiaeth o ddisgyblaethau gwyddonol
- Disgrifio egwyddorion sylfaenol pob dull offerynnol a restrir yn y disgrifiad cwrs.
- Ysgrifennu adroddiadau labordy.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Portffolio Ymarferol 1 - Dadansoddiad Elfennol, Sbectrosgopeg Isgoch, Electrocemeg Disgwylir y bydd y portffolio, gan gynnwys cyfrifiadau, yn 12-15 tudalen o hyd.
Weighting
25%
Due date
01/11/2023
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Portffolio Ymarferol 2 - Sbectrometreg Màs, Sbectrosgopeg Cyseiniant Magnetig Niwclear a thechnegau cyfunol ar gyfer adnabod. Disgwylir y bydd y portffolio yn 12-15 tudalen o hyd.
Weighting
25%
Due date
13/12/2023
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Portffolio Ymarferol 3 - Dulliau syml o gromatograffeg, HPLC a GCMS. Disgwylir y bydd y portffolio, gan gynnwys cyfrifiadau, yn 12-15 tudalen o hyd.
Weighting
25%
Due date
28/02/2024
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Portffolio Ymarferol 4 - Sbectrosgopeg UV/Gweladwy, canfod ïonau metel, Diffreithiant Pelydr-X Disgwylir y bydd y portffolio, gan gynnwys cyfrifiadau, yn 12-15 tudalen o hyd.
Weighting
25%
Due date
01/05/2024