Module VPC-1001:
Cyflwyniad i Hen Athroniaeth
Cyflwyniad i Hen Athroniaeth 2023-24
VPC-1001
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Mae’r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad eang i fyfyrwyr i faes Athroniaeth Hynafol. Gan ddechrau gyda'r cyn-Socratiaid, byddwn yn archwilio themâu a nodweddion y math(au) o athroniaeth a ddatblygodd yng nghyfnod cynnar meddwl y Gorllewin. Yna byddwn yn ystyried yr athronydd arwyddocaol hwnnw, Plato. Trwy archwilio ei 'Weriniaeth' yn fanwl, bydd myfyrwyr yn ennill gwybodaeth fanwl o'r testun, yn enwedig o ran syniadau allweddol megis damcaniaeth Ffurfiau, natur cyfiawnder a thair rhan yr enaid. Gan adeiladu ar hynny, byddwn yn ystyried yr athronwyr diweddarach, gan gynnwys Aristoteles, ac ysgolion meddwl eraill, megis yr Epicureaid a'r Stoiciaid. Pan fo'n briodol, byddwn yn ystyried cymhwysiad yr hen athroniaethau hyn at feddwl a chymdeithas gyfoes.
Bydd y modiwl hwn yn dechrau gyda throsolwg o'r hyn y mae Athroniaeth Hynafol yn ei olygu cyn archwilio'r ysgol feddwl a elwir yn Bresocratiaid. Rhoddir ffocws ar feddylwyr fel Pythagoras, Heraclitus a Parmenides. Yn dilyn hynny, rhoddir ystyriaeth fanwl i Plato a'i waith mawr, y Weriniaeth. Gyda hynny, byddwn yn archwilio themâu megis Ffurfiau ac Alegori'r Ogof, a'i syniadau am yr enaid. Yna byddwn yn ystyried cyfraniad Aristotlys i athroniaeth y Gorllewin, cyn craffu ar athroniaeth hynafol ar ôl Aristotlys, gyda phwyslais arbennig ar yr Epicureaid a'r Stoiciaid. Drwy gydol y modiwl, byddwn yn ystyried sut y bu’r meddylwyr hynafol hyn yn ddylanwadol ar y byd modern a sut y gallwn ymgysylltu â thestunau hynafol o’r fath mewn ymateb i faterion modern, megis heriau amgylcheddol.
Assessment Strategy
Trothwy: D- i D+ (0%-49%: 3ydd Dosbarth) Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: • Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. • Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. • Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. • Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
Da: C- i C+ (50%-59%: Dosbarth 2:2) Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Da iawn: B- i B+ (60%-69%: Dosbarth 2:1) Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Ardderchog: A- i A* (70%-100%: Dosbarth 1af) Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: • Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. • Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. • Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
Learning Outcomes
- dangos dealltwriaeth sylfaenol o themâu allweddol y Weriniaeth gan gynnwys damcaniaeth y Ffurfiau, y syniad o gyfiawnder a thair rhan yr enaid.
- dangos gallu i gyfleu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- dangos ymwybyddiaeth o berthnasedd y Weriniaeth i ddadleuon cyfoes mewn athroniaeth, yn enwedig ynghylch theori cyfiawnder.
- dangos ymwybyddiaeth o’r cymhlethdod a’r amwysedd sydd ynghlwm wrth gyflwyno dadleuon athronyddol ar ffurf deialog.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Astudiaeth destunol 2000 gair o Alegori'r Ogof o lyfr 'Gweriniaeth', Plato.
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Bydd myfyrwyr yn llunio traethawd 2000 gair yn ymateb i un cwestiwn o blith detholiad.
Weighting
50%