Mae archwilio’ch opsiynau’n cynnwys:
Mae ein gweithdy cynllunio gyrfa ar-lein yn eich tywys trwy’r tri maes, gan roi awgrymiadau ymarferol i chi i’ch helpu chi ar eich ffordd.
Taflen Cynllunio Gyrfa: Dyma arweiniad i gynllunio gyrfa, gan ymdrin â hunan-asesu, cynhyrchu syniadau gyrfa, adnoddau gwybodaeth, gwneud penderfyniadau a chynllunio gweithredu.
Ffordd wych o ddarganfod gwahanol lwybrau gyrfa a’r hyn a allai fod yn addas i chi yw defnyddio Archwiliwr Gyrfa LinkedIn. Mae LinkedIn yn darganfod llwybrau gyrfa nad ydych chi efallai erioed wedi meddwl neu glywed amdanyn nhw trwy ddefnyddio’r data sydd ganddo i baru eich sgiliau â miloedd o swyddi.
Rydym yn cynnal gweminarau rheolaidd am y pwnc yma – cliciwch ar Digwyddiadau i ddarganfod mwy ac archebu lle.
Career Mag
Edrychwch ar adran ‘Darganfod’ TARGETconnect i weld erthyglau defnyddiol ac awgrymiadau da, a NextStepSupport
Ffordd wych o archwilio ac asesu eich sgiliau proffesiynol yw rhoi cynnig ar brofion ar-lein, holiaduron, asesiadau a gemau a ddefnyddir gan gyflogwyr graddedigion wrth recriwtio.
Fel myfyriwr graddedig ym Mhrifysgol Bangor gallwch fewngofnodi i gyfrif Graduates First unigryw, lle mae gennych fynediad llawn at ystod eang o’r offer hyn, i’ch helpu i archwilio ac asesu:
Mae’r adnoddau hyn nid yn unig yn helpu gyda’ch ymchwil a’ch cynllunio gyrfa, ond byddwch hefyd yn ymgyfarwyddo ag arferion recriwtio graddedigion ac yn gwella’ch perfformiad ar yr un pryd!
Gwyliwch y fideo un munud:
E-bostiwch gyrfaoedd@bangor.ac.uk i ofyn am fewngofnodi.
Mae meddwl am y sgiliau a’r rhinweddau personol sydd gennych a sut mae’r rhain yn berthnasol i wahanol swyddi yn ffordd wych arall o archwilio pa yrfaoedd ac amgylcheddau gwaith y gallwch chi eu mwynhau a rhagori ynddynt.
Offeryn proffilio personoliaeth am ddim yw 16 Personalities a fydd yn taflu goleuni ar y math o bersonoliaeth sydd gennych chi ac ar sut mae hyn effeithio ar eich gwaith a’ch bywyd personol.
Ewch i’n heitem Sgiliau Graddegigion yn y ddewislen i ddarganfod mwy, neu lawrlwythwch ein taflen ‘Adnabod Sgiliau’ i gael trosolwg a rhai awgrymiadau da.
Cliciwch ar y ddelwedd isod i lawrlwytho taflenni My Plus (yn Saesneg):
Offer yw hwn i gynorthwyo rhai sydd wedi mynd yn sownd wrth gynllunio eu gyrfa. Gall hynny ddigwydd am nifer o resymau ac mae Career Unlocker yn eich helpu i adnabod y rhesymau amlwg a sylfaenol pam eich bod yn y sefyllfa hon ac yn eich cynghori ynglŷn â sut i wneud cynnydd pellach.
Offer chwilio am swyddi ar-lein yw’r Prospects Career Planner ac mae’n eich helpu chi weld pa swyddi sy’n addas i chi, yn ôl eich sgiliau, eich diddordebau a’ch cymhelliant.
Wedi’i ddiweddaru Awst 2023